How the events of the past year gave a museum the opportunity to improve their digital foundations
1. Cyflwyniad
Dros y naw mis diwethaf, mae Chris Unitt wedi bod yn mentora Amgueddfa’r Royal Worcester yn rhan o haen y Lab yn y Lab Treftadaeth Ddigidol.
Chris Unitt: Felly i gychwyn arni, i roi ychydig bach o gefndir i bobl, allwch chi ddweud wrthyn ni, Sophie, ychydig am Amgueddfa’r Royal Worcester ac am eich rôl.
Sophie Heath: Mae Amgueddfa’r Royal Worcester yn gofalu am y casgliad mwyaf o borslen Royal Worcester yn y byd, gydag 8,000 o wrthrychau. Mae gennym archif anhygoel hefyd, a daeth llawer o hynny o ffatri Royal Worcester, gan gynnwys miloedd o gofnodion, llyfrau patrymau, llyfrau archebion, ffotograffau’r ffatri, cofnodion prentisiaid a llawer o arteffactau gwych.
Rydyn ni’n ymddiriedolaeth elusennol annibynnol. Sefydlwyd ni ym 1946 gan Charles Dyson, a oedd, bryd hynny, yn Gyfarwyddwr ar y ffatri a hefyd yn gasglwr porslen Royal Worcester. Rhoddodd ei gasgliad Royal Worcester mewn ymddiriedolaeth ynghyd â chasgliad y ffatri er mwyn rhoi hwb ariannol i’r ffatri ar ôl y rhyfel. Felly yn 2008, pan gaewyd y ffatri, roedd y casgliad hwnnw wedi’i ddiogelu. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyllid cyhoeddus rheolaidd, felly mae incwm ymwelwyr yn bwysig iawn i ni.
Ymunais i â’r amgueddfa ddwy flynedd a hanner yn ôl. Rwy’ wedi gweithio yn y sector amgueddfeydd annibynnol ac yn y sector awdurdodau lleol, ac mae gen i rywfaint o brofiad blaenorol gyda phorslen. Rwy’n credu ei fod yn gasgliad ac yn sefydliad diddorol iawn, ac rydyn ni am wneud llawer gydag ef.
Chris Unitt: Pa fath o weithgareddau oedd ar waith gyda chi yn yr amgueddfa cyn Covid-19?
Sophie: Yn 2018, cawson ni waith adnewyddu drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a roddodd olwg ffres a hyfryd ar bob un o’r arddangosiadau ffisegol. Cawson ni gymorth curadurol a dysgu yn rhan o’r prosiect hwnnw, ond roedd hynny wedi dod i ben.
Penodon ni reolwr datblygu a ddechreuodd tua’r adeg y dechreuodd y cyfnod clo cyntaf. Roedden ni hefyd wedi bod yn dymuno datblygu cynulleidfaoedd yr amgueddfa; roedden ni wedi cael tua 12,000 o ymwelwyr corfforol yn 2019. Felly roedd ymestyn ein cynulleidfa, tyfu ein cynulleidfaoedd a gwneud newidiadau i’n rhaglen yn nod roedden ni’n gweithio tuag ato. Roedd gennym ni gynlluniau, ond wedyn, wrth gwrs, bwriwyd ni gan her anferth y pandemig COVID-19.
2. Ymateb i’r pandemig
Chris Unitt: Beth ddigwyddodd yn syth ar ôl i chi gau? Sut oedd y sefyllfa ar gyfer yr amgueddfa?
Sophie: Mae incwm masnachu’n bwysig iawn i ni ac rydyn ni’n lleoliad tymhorol – mae’r gaeaf yn adeg denau. Mae archebion grŵp yn haen bwysig o’n gweithgarwch. Mae tua 15% o’n hymwelwyr yn dod yn rhan o grŵp wedi’i drefnu. Maen nhw’n clywed trafodaeth ac wedyn yn cael te a choffi gyda llestri Royal Worcester. Cawson ni lawer o archebion ar gyfer 2020 ac yn amlwg, cawsant eu canslo. Rhoeson ni dîm blaen y tŷ ar ffyrlo, ond cadwyd gweddill y tîm bach yn gweithio. Cawson ni gymorth gan unigolion a chawson ni gyllid brys gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a oedd o gymorth mawr i ni. Gwnaeth wahaniaeth mawr i ni fod gennym dîm yn gweithio’n galed iawn yn y cefndir.
Chris Unitt: Sut byddech chi’n disgrifio’r dull gweithredu a fabwysiadwyd gennych tuag at weithgarwch digidol yn ystod Covid?
Sophie: Roedd yn ddull gweithredu cymysg. Roedden ni yng nghanol Rhaglen Pencampwyr Datblygu Cynulleidfaoedd Amgueddfeydd Canolbarth Lloegr, a ddenodd gymorth Cyngor Celfyddydau Lloegr. Cawson ni naw mis ar y rhaglen honno, chwe mis o wneud arolygon cynulleidfaoedd a data tocynnau hefyd. Roeddwn i’n teimlo bod angen i ni ddeall ein cynulleidfaoedd yn well ac roedd angen mwy o ddata arnon ni.
Rydyn ni’n gwybod bod ein cynulleidfaoedd corfforol yn hŷn a’u bod yn tueddu i fod yn ymwelwyr tro cyntaf. Rydyn ni’n cael llawer o ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal ond nid ydyn ni’n cael llawer o ymwelwyr lleol, ac mae niferoedd ein hymwelwyr teuluol yn isel iawn. Rhan o’n gweledigaeth yw newid hynny yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.
Cyn Covid-19, roedd ein gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys postiad ar Facebook bob wythnos, trydariad bob wythnos a rhywfaint o weithgarwch aildrydar, ymddangos ar Worcestershire Hour a phostiad bob wythnos ar Instagram gan ein person casgliadau. Roedd gan Fiona, ein rheolwr datblygu, genhadaeth i gynyddu ein gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol yn aruthrol yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Felly aethon ni am y niferoedd i gael ein gweld ac i gyrraedd cynulleidfaoedd lleol. Creon ni ffyrdd o ddatguddio casgliad yr amgueddfa mewn ffordd hwyliog i deuluoedd gartref. Roedd ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol yn rhan fawr o’r hyn y treulion ni ein hymdrechion arno yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Staff yn dathlu ailagor yr amgueddfa. Diolch i Amgueddfa’r Royal Worcester am y ddelwedd. Llun gan Steve Carse ©.
3. Gweithgaredd digidol
Chris Unitt: Pwy arweiniodd y gweithgarwch digidol roeddech yn gweithio arno?
Sophie: Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ddweud mai fel tîm yr aethon ni ati ar hyn. Rwy’n sicrhau bod hyn yn wir mewn llawer o sefydliadau; nid gwaith un person yw diweddariadau cyfryngau cymdeithasol. Peth mawr a drefnodd Fiona yn fuan iawn oedd cymorth intern o Brifysgol Caerwrangon. Mae myfyrwyr galluog wedi bod gyda ni, gyda brwdfrydedd mawr, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i ansawdd a graddau’r cynnwys rydyn ni wedi gallu’i greu.
Mae uwchsgilio’r tîm yn rhywbeth rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio’n ddwys arno. Nid ydyn ni wedi llwyddo eto i gyrraedd tîm blaen y tŷ, yn rhannol am eu bod wedi bod ar ffyrlo neu ar ffyrlo hyblyg. Ond mae’n bendant yn rhan o’m huchelgais bod pawb yn y tîm yn gallu chwarae rhan.
Chris Unitt: Allwch chi roi rhai o uchafbwyntiau’r gweithgarwch digidol a roesoch yn eu lle dros y flwyddyn ddiwethaf?
Sophie: Un o’r pethau y gweithion ni arno gyda chi yn rhan o’r Lab oedd Google AdWords a chael y rheiny wedi’u sefydlu. Pan gawson ni le yn Y Lab, roedd Fiona a finnau’n gweld hynny’n gyfle i lywio’n ffordd drwy Google Ads, a Fiona yw’r person sydd wedi arwain ar hyn. Gyda phrofiad a phersbectif Chris, roedden ni’n gallu symleiddio’r rhannau technegol o sefydlu pethau a chanolbwyntio ar y broses gam wrth gam.
Chris: I unrhyw un sydd heb ddod ar draws cynllun grantiau Google Ads – mae Google yn rhoi hyd at $10,000 y mis mewn gwariant hysbysebu i sefydliadau nid er elw sy’n gymwys y gallwch ei ddefnyddio. Mae rhai cyfyngiadau o ran yr hyn y gallwch chi wneud â hynny. Os ydych chi’n sefydliad sy’n gysylltiedig â chyngor, prifysgol neu goleg, yna mae’n bosibl na fyddwch chi’n gymwys, ond bydd y rhan fwyaf o sefydliadau neu elusennau treftadaeth yn gymwys. Ac mae’n wych.
Mae Google Ads yn hysbysebion sy’n ymddangos pan fydd pobl yn chwilio am bethau yn Google. Os nad ydych yn ymddangos yn naturiol ar frig canlyniadau chwilio, mae hyn yn ffordd o gyrraedd hynny’n eithaf hawdd. Nid ydyn nhw gyda’r pethau hawsaf i’w rheoli. Ond fel dywedodd Sophie, nid yw’n cymryd gormod i roi’r elfennau sylfaenol yn eu lle er mwyn gweld rhyw fudd. Mae’n un o’r gweithgareddau digidol hynny a fydd o fudd i chi o ran eich amlygrwydd yn lleol.
Sophie: Rydyn ni wedi bod ar daith ddysgu anferth o ran chwiliadau Google a phwysigrwydd hynny i’n gwefan. Rydyn ni wedi dysgu ein bod yn ymddangos yn weddol uchel ar chwiliadau Google ar gyfer termau craidd fel Royal Worcester, amgueddfeydd a chasgliadau. Ond nid dyna’r achos ar gyfer diwrnodau allan yn lleol neu bethau i’w gwneud gyda’r plant neu weithgareddau i’r teulu.
Mae perfformiad ein siop ar-lein hefyd yn rhywbeth yr hoffen ni ei wella. Rydyn ni wedi cyflwyno talebau rhodd, sef y syniad bod pobl yn prynu gweithgaredd y gallant edrych ymlaen at ei wneud yn y dyfodol. Diwrnodau cofiadwy allan gyda theulu a ffrindiau, te prynhawn a llwybrau cerdded i’r teulu.
A chydweithredu. Rydyn ni newydd agor arddangosfa mewn partneriaeth â chymdeithas artistiaid botaneg leol. Y weledigaeth i hynny yw ymestyn ein cynulleidfaoedd – cyrraedd pobl sy’n ymddiddori mewn garddio a natur.
Chris: Beth rydych chi’n ei wneud mewn perthynas â’ch gwefan?
Sophie: Sylweddolon ni nad oedd ein gwefan yn gweithio i ni. Roedd gennym rai cwestiynau: beth yw’r dulliau dadansoddi y dylen ni fod yn edrych arnyn nhw? Beth rydyn ni am i’r wefan ei wneud droston ni? Sut gallwn ni wella’n cyrraedd o ran y gynulleidfa? Sut gallwn wneud y mwyaf o’n hincwm? Sut gallwn ni gynhyrchu rhoddion? Ydy’r wefan yn gweithio i ni?
Roedden ni’n llwyddiannus gyda’n cais i’r Gronfa Adfer Diwylliannol, sydd wedi rhoi cyllideb resymol i ni ailddatblygu’r wefan. Dwi erioed wedi comisiynu gwefan felly mae eich cymorth chi (Chris) yn rhan o’r Lab wedi ein helpu i lywio’r proses a chael y rhannau technegol yn gywir.
Pâr yn ymchwilio tebot a oedd yn perthyn i’r Llyngesydd Arglwydd Nelson gyda chymorth tywysydd sain.
Diolch i Amgueddfa’r Royal Worcester am y ddelwedd. Llun gan Steve Carse©.
4. Uchelgeisiau digidol parhaus ac yn y dyfodol
Chris: Beth fydd rôl digidol yn yr amgueddfa wrth i bethau symud yn eu blaen, yn eich tyb chi?
Sophie: Rwy’n credu bod gwreiddio digidol ar draws y sefydliad yn bwysig iawn. Nid yw’n endid ar wahân mwyach. Mae angen i ni wneud digidol yn dda er mwyn ymgysylltu â phob un o’n cynulleidfaoedd, boed y rheiny’n deuluoedd lleol, neu’n gasglwyr arbenigol, yn America.
Pan wnes i gais i’r Lab, roeddwn i am allu llywio strategaeth ddigidol ar gyfer y sefydliad oherwydd nad oeddwn i’n teimlo, fel arweinydd y sefydliad, fod hyn yn rhywbeth roedd gen i’r gallu i’w wneud.
Helpodd sesiwn y Lab Treftadaeth Ddigidol ar greu eich gwefan eich hun lawer iawn i mi ddarllen y cymwysiadau gan ddatblygwyr y we ar gyfer ail-greu ein gwefan. Mae hyfforddiant ymarferol ar gyfryngau cymdeithasol hefyd wedi ein helpu gyda’n strategaeth cyfryngau cymdeithasol. Rwy’n credu, felly, bod gwell cymhwysedd digidol ymysg pawb yn y sefydliad yn bwysig iawn.
Mae darparu darlithoedd ar-lein, sy’n eich galluogi i gyrraedd cynulleidfa lawer ehangach nag sy’n bosibl yn lleol, yn mynd i barhau i fod yn rhan o’n rhaglen. Mae tocynnau ar-lein, y bu’n rhaid i ni eu cyflwyno yn sgil cyfyngiadau Covid-19, yma i aros.
Yr her barhaus yw cynhyrchu cynnwys a dod o hyd i’r capasiti i wneud hynny. Er enghraifft, mae cynnwys fideo yn haen allweddol o waith y byddwn yn parhau i geisio uwchsgilio’r tîm er mwyn gallu ei wneud. Rwy’ bron â dygymod â’r ffaith bod angen prynu rhai pethau clyfar sy’n eich galluogi i sicrhau gwell sain gyda ffôn.
Chris: Oes unrhyw beth rydych wedi’i bod yn ei chwennych o ran gweithgarwch digidol nad ydych chi wedi cael cyfle i’w wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
Sophie: Rwy’n gwybod bod llawer o sefydliadau wedi symud eu gweithdai ymgysylltu creadigol ar-lein yn llwyddiannus. Ar y cyfan, maent wedi llwyddo i wneud hyn oherwydd bod ganddynt raglen gadarn yn barod, sef rhywbeth rydyn ni’n ei datblygu drwy gyllid y prosiect.
Mae’n amlwg bod bod â rhaglen ar-lein lle gall pobl wneud pethau hwyliog a chreadigol yn gysurus yn eu cartrefi’n rhywbeth sy’n apelio at bobl. Rydyn ni newydd gyflwyno profiad ‘paentio’ch crochenwaith eich hun’ yn yr amgueddfa sydd ar gael i bobl o’u pen a’u pastwn eu hunain. Mae hwnnw’n nod hirdymor sydd newydd ei wireddu gennym. Cafodd ei oedi oherwydd Covid-19. Byddai’n braf gallu ymestyn hwnnw ar-lein.
Rydyn ni hefyd yn ymbalfalu gyda’r cwestiwn o ddigideiddio casgliadau a grym adrodd straeon drwy gasgliadau; gwneud hynny’n rhan o’n cynnwys digidol. Rhannu’r holl straeon anhygoel o’n casgliad a’n harchif. Prentisiaid drwg Royal Worcester a ddaeth â llygod i’r ffatri yn eu pocedi a chael dirwy. Neu’r gwyddau a ddefnyddion nhw i warchod yr aur a ddefnyddiwyd ar y serameg. Mae gennym y llyfr archebu ers pan ddaeth y Llyngesydd Arglwydd Nelson i ymweld â’r ffatri ar ôl ei fuddugoliaeth fawr.
Mae gennym yr holl straeon anhygoel yma rydyn ni’n siarad amdanyn nhw’n angerddol wyneb yn wyneb, ond nid ydym yn dal hynny ar-lein. Bydd datblygu’r wefan newydd yn rhan o gyflawni hynny.
Browse related resources by smart tags:
Digital Digital content Digital engagement Digital Heritage Digital strategy Digital tools Google Ad Grants Online audience engagement Website
Please attribute as: "How the events of the past year gave a museum the opportunity to improve their digital foundations (2022) by Chris Unitt and Sophie Heath supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0