
Digital audience engagement during a heritage project … and a pandemic
1. Cyflwyniad
Pan darodd y cyfnod clo yn gyntaf, roedden ni ar fin dechrau cam ymgysylltu â’r cyhoedd ym Mhrosiect y Clasordai Dwyreiniol (ECP), gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn Eglwys Gadeiriol Henffordd. Dechreuon ni yn 2020 gyda digwyddiad cyfarfod cyflym i rannu ymchwil a pharti te prynhawn, a oedd yn fodd i gyn-drigolion y Clasordai aduno, ac yna cafodd ein cynlluniau i gynnal darlithoedd, diwrnodau agored a gweithgareddau eu canslo fwy neu lai dros nos.
Fel sefydliad, nid oedd ymgysylltu â’r cyhoedd wedi bod yn rhan arbennig o sylweddol yn ein gweithgarwch craidd cyn y pandemig. Roedden ni wedi dechrau cynyddu ein presenoldeb ar-lein drwy gyfryngau cymdeithasol a denu mwy o draffig i’n gwefan yn dilyn ailfrandio yn 2018. Ond er bod awydd i gynyddu ein presenoldeb ar-lein, roedd y cynnydd yn araf a heb ffocws. Roedd effaith Covid-19 yn golygu bod yn rhaid i ni ymateb yn gyflym i addasu i’r sefyllfa gyfnewidiol a dal i fodloni nodau ein cyllidwyr o amgylch ymgysylltu, heb allu cyfarfod â’r cyhoedd na rhyngweithio â nhw. Buom yn ffodus bod ein Swyddog Gweithgareddau Prosiect, Sarah Hollingdale, wedi ymateb yn chwim a datblygu rhaglen o weithgareddau y gallem eu cyflwyno ar-lein.
Mae’n bwysig pwysleisio nad oedd unrhyw rai o’r deunyddiau a gynhyrchwyd gennym yn arbennig o uchel-ael nac yn gymhleth yn dechnegol, gan ein bod wedi’n cyfyngu gan amser a sgiliau staff, ond roedd pwrpas iddynt a helpon nhw ni i gynnal momentwm ac egni yn ystod cam anodd o’r prosiect. Ar ôl ein pryder cychwynnol o weithredu ffocws digidol ar gymaint o fyr rybudd, gwelsom fod rhai buddiannau annisgwyl nad oeddem wedi’u rhagweld.
2. Gwell cyfleoedd ar gyfer Gwirfoddoli ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc
Un o nodau mawr y prosiect oedd ymgysylltu â gwirfoddolwyr iau (yn ddelfrydol yn yr ystod oedran (16-25), yr oeddem wedi bwriadu ei wneud yn wreiddiol drwy sefydlu Bwrdd Ieuenctid a chynnal ‘Hacathon’ i fyfyrwyr Chweched Dosbarth. Nid oedd yn ymarferol cynnal y naill na’r llall o’r prosiectau hyn wyneb yn wyneb, felly yn hytrach, cynigion ni Leoliadau Profiad Gwaith Rhithwir. Roedd y rhain yn fwy llwyddiannus nag y gallem fod wedi disgwyl – mewn gwirionedd, rydyn ni’n dal i dderbyn ceisiadau gan ysgolion a cholegau i ddysgu mwy, fisoedd ar ôl hysbysebu.
Hysbysebon ni bedair rôl wahanol – Sain-Olygu, Cyhoeddi, Trefnu Digwyddiadau a Hanes Llafar — fel lleoliadau o wythnos yr un ar gyfer myfyrwyr 16+ oed. Roedd llawer o’r ymgeiswyr wedi poeni am eu cyfleoedd yn y dyfodol am fod lleoliadau a chyfleoedd gwirfoddoli wedi syrthio o ganlyniad i’r pandemig. Ddechrau’r wythnos, byddent yn cael eu croesawu i’r prosiect dros Zoom ac yn cyfarfod ag aelodau perthnasol o’r staff cyn i’w tasg ar gyfer yr wythnos gael ei chyflwyno. Drwy gydol yr wythnos, byddai’r myfyriwr yn cysylltu’n ddyddiol â Sarah i roi diweddariad ar ei gynnydd cyn cael sgwrs dros baned ar Zoom ar brynhawn dydd Gwener.
Roedd yr elfen rithwir yn gwneud y lleoliad yn fwy hygyrch i fyfyrwyr. Byddai rhai wedi cael trafferth teithio i Henffordd bob dydd ar gyfer lleoliad ffisegol ac roedd gan rai ymrwymiadau eraill, a allai fod wedi golygu na fyddent yn gallu bod mewn amgylchedd swyddfa rhwng 9am a 5pm bob dydd gydol yr wythnos. Mewn blwyddyn lle mae pobl ifanc wedi gorfod wynebu cymaint o helbul yn y byd addysg, fel tîm mae wedi bod yn wobrwyol dros ben gallu cynnig lleoliad lle mae cymaint o reolaeth yn nwylo’r unigolyn.
Mwynheais lefel y cysylltiad oherwydd er fy mod yn gwybod y gallwn ofyn bob amser am gymorth a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd a oedd wedi’u trefnu; roeddwn i hefyd yn hoffi’r annibyniaeth o orfod cyrraedd y prif amcan ar fy mhen fy hun.
Adborth gan Amelia, Profiad Gwaith Rhithwir 2020
3. Datblygu ein cynnwys gwaddol
Rhan arall o Brosiect y Clasordai Dwyreiniol oedd codi proffil y Clasordai a rhannu hanes cudd yr ardal drwy gyfres o ddarlithoedd a thrafodaethau a arweiniwyd gan Sarah. Roedden ni’n ffodus o allu darparu sawl un o’r rhain i grwpiau hanes ac eglwysig lleol cyn i’r cyfnod clo gael ei osod, ond roedd yn rhaid canslo llawer a oedd wedi’u trefnu. Fel opsiwn amgen digidol, ffilmion ni Sarah yn traethu ei darlithoedd a’u rhyddhau ar ein sianel YouTube.
Roedden ni wedi archwilio’r posibilrwydd o recordio’r darlithoedd ar fideo ar ddechrau’r prosiect ond wedi penderfynu dyrannu’r cyllid i fannau eraill am nad oedden ni’n sicr pa ymateb a fyddai ac nid oedd gennym y sgiliau’n fewnol i hwyluso hyn. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, roedden ni wedi dechrau ffilmio a golygu Gwasanaethau’r Sul i’w rhannu ar ein gwefan fel y gallem drosglwyddo’r sgiliau newydd hynny i’r prosiect. Pan oedd y cyfyngiadau’n caniatáu, roedden ni hefyd yn gallu ffilmio’r darlithoedd mewn rhannau o’r adeilad nad oeddent yn hygyrch i’r cyhoedd, gan ganiatáu i ni greu cyd-destun mwy cyfoethog.
Er y bu’n rhaid treulio mwy o amser staff yn recordio a chynhyrchu’r darlithoedd fideo, roedd hyn yn cydbwyso’r amser y byddai fel arfer yn cael ei dreulio’n marchnata a hyrwyddo’r darlithoedd petaent yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb. Rhoddodd hyblygrwydd i ni hefyd i ryddhau cynnwys ar adeg a oedd yn gyfleus i ni – rydym wedi cadw rhai o’r fideos yn ôl i’w rhyddhau yn rhan o’n hymgysylltu gwaddol.
Ffilmio ar gyfer darlith rithwir yn Eglwys Gadeiriol Henffordd. Diolch i Eglwys Gadeiriol Henffordd am y ddelwedd.©
4. Ymestyn ein rhaglen ddigwyddiadau
Un o’r digwyddiadau allweddol rydyn i’n cymryd rhan ynddynt bob blwyddyn yw Diwrnodau Agored Treftadaeth, ac am fod cyfyngiadau wedi’u codi yn ystod yr haf, roedden ni’n gallu cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb. Roedden ni wedi bod yn ofalus iawn wrth gynllunio’r diwrnod er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel rhag Covid drwy gyflwyno capasiti bach iawn ar deithiau, mynnu archebu ymlaen llaw a chynnal nifer is o ddigwyddiadau yn ystod y dydd i leihau’r niferoedd o ymwelwyr fyddai yna yr un pryd.
Er bod y cyfyngiadau’n llacio, roedden ni’n ymwybodol iawn nad oedd llawer o bobl yn dal i deimlo’n gyffyrddus yn cymysgu’n gyhoeddus ac yn teimlo’n llawer mwy cartrefol yn parhau i gysgodi gartref. Mae hygyrchedd wedi bod yn nodwedd amlwg wrth gyflwyno Prosiect y Clasordai Dwyreiniol ac roedden ni am sicrhau nad oedd ein digwyddiadau’n gadael pobl yn teimlo’u bod yn cael eu hynysu am nad oedden nhw’n gallu gadael eu cartrefi. Gyda hyn mewn golwg, trefnon ni hefyd i bob un o’n digwyddiadau gael ei baru gan weithgaredd ar-lein i unigolion allu ymuno o gartref. Unwaith eto, roedd y cynnwys yn syml – cynhyrchon ni daith fideo o’r clasordai, lawrlwythiadau ar ffurf pdf ar gyfer ein teithiau creadigol a rhannon ni gynnwys drwy storïau Instagram.
Roedden ni’n hynod o ddiolchgar ein bod wedi cynllunio’r cynnwys digidol hwn yn rhan o’n diwrnod oherwydd, 48 awr cyn y digwyddiad, newidiodd arweiniad y llywodraeth am grwpiau’n dod ynghyd. Cawson ni rai mynychwyr yn canslo, am eu bod yn teimlo’n llai hyderus am fynychu digwyddiad ac roedden ni’n gallu eu gwahodd i ymuno â ni’n ddigidol yn lle.
5. Casgliad
Un o’r pethau mwyaf gwerthfawr a ddysgon ni wrth gyflwyno’n prosiect treftadaeth yn ystod pandemig oedd gwerth gwreiddio dull gweithredu digidol yn rhan o’n rhaglen ymgysylltu. I ddechrau, roedden ni ychydig yn ofnus o’r ‘digidol’ ac yn poeni am y gwaith ychwanegol y byddai’n ei greu i dîm bach iawn, ond o gael ein gorfodi i gyflwyno’r digidol i’r prosiect, roedd yr elfennau cadarnhaol yn rhagori o bell ffordd ar yr elfennau negyddol. Yn ogystal â gallu cyrraedd gwahanol gynulleidfaoedd, roedden ni hefyd yn gallu cryfhau perthnasau a oedd eisoes yn bodoli gyda phartneriaid, gan gynnwys ein cyllidwyr, a helpu i gadw’r prosiect yn llygad y cyhoedd.
Y peth allweddol oedd deall ein cyfyngiadau fel tîm a sicrhau nad oedden ni’n gorglymu’n hunain. Nid oedd angen i’r atebion digidol fod yn anodd, yn uwch-dechnolegol nac yn ddrud – y cyfan oedd bod angen i ni feddwl o safbwynt gwahanol i gynhyrchu cynnwys. Mae’r profiad o greu ffyrdd newydd o gysylltu’n ddigidol yn ystod y prosiect wedi bod yn gyfle hynod werthfawr i ni ddatblygu ein sgiliau a meddwl am weithio mewn ffyrdd newydd. Roedden ni hefyd wrth ein bodd gyda’r ffordd y galluogodd haen ddigidol ein rhaglen i ni agor y prosiect mewn ffordd fwy hygyrch a rhannu ein profiadau gydag unigolion na allent ymweld â ni wyneb yn wyneb.
Gyda Phrosiect y Clasordai Dwyreiniol bellach wedi’i gwblhau, rydyn ni’n cymryd y gwersi a ddysgwyd ac yn ystyried sut gallwn ni eu rhoi ar waith i fywyd ehangach yr eglwys gadeiriol. Mae’r posibiliadau ar gyfer datblygiadau digidol wrth i ni symud ymlaen yn anferth a dyna pam rydyn ni’n ddiolchgar iawn am le yn haen Y Lab o’r Lab Treftadaeth Ddigidol. Gan weithio gyda Katie Moffatt, ein Mentor Sgiliau Digidol penodedig, rydyn ni bellach yn archwilio’n gritigol ein blaenoriaethau digidol a ble rydyn ni am neilltuo’n hamser yn 2021 gyda’r bwriad o greu strategaeth ddigidol i’w rhannu ar draws y sefydliad.
Cefnogir Prosiect Clasordai Dwyreiniol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Gyda chymorth gan Ymddiriedolaeth Elusennol HB Allen, Sefydliad Jordan, Noel & Nienke Manns, Ymddiriedolaeth Allchurches, Ymddiriedolaeth Tanner, Ymddiriedolaeth Elusennol Howard Bulmer, Ymddiriedolaeth Elusennol Alfreda May Phillips, Ymddiriedolaeth Wastadol Eglwys Gadeiriol Henffordd a chyfeillion yr Ymddiriedolaeth o Austin, Texas.
Browse related resources by smart tags:
Audience development Digital Digital content Digital engagement Digital Heritage Online audience engagement Volunteers Work experience Young people YouTube

Please attribute as: "Digital audience engagement during a heritage project … and a pandemic (2022) by Abby Jones supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0