
What is digital marketing, where do we start and how can it benefit us?
1. Beth yw marchnata digidol?
Cawn ni ddechrau gyda marchnata fel term yn fwy cyffredinol. Diffiniad y Sefydliad Marchnata Siartredig yw: “Y broses reoli sy’n gyfrifol am nodi, rhagweld a bodloni gofynion cwsmeriaid yn broffidiol.” Efallai nad y darn ‘proffidiol’ yw’r ffocws ar gyfer pob sefydliad treftadaeth. Fodd bynnag, yn sicr, ar ddeall a bodloni gofynion cwsmeriaid (h.y. cynulleidfaoedd) y dylai’r pwyslais fod. Proses cyfnewid yw marchnata: mae sefydliad yn ceisio cynnig rhywbeth i’w gynulleidfaoedd sydd o werth iddyn nhw (er enghraifft, diwrnod allan, profiad dysgu neu wybodaeth), yn gyfnewid am arian, amser a/neu sylw eu cynulleidfaoedd, sydd o werth i’r sefydliad. Nid yw’n ymwneud â gwerthu yn unig, ond ag adeiladu cysylltiadau a chydberthnasau â chynulleidfaoedd sy’n fuddiol i’r ddwy ochr.
Marchnata digidol yw marchnata sy’n defnyddio gwasanaethau digidol neu ddyfeisiau electronig. Er bod ‘marchnata digidol’ yn cael ei ddefnyddio’n gyfnewidiol â ‘marchnata ar-lein’ (neu e-farchnata neu farchnata ar y rhyngrwyd), yn dechnegol, mae’r olaf yn is-set o farchnata digidol, y mae angen y rhyngrwyd ar ei gyfer yn benodol (er enghraifft, y cyfryngau cymdeithasol, gwefannau, e-newyddion a pheiriannau chwilio). Mae marchnata digidol yn derm cynhwysfawr sydd hefyd yn cynnwys sianeli digidol eraill nad oes rhaid iddyn nhw ddibynnu ar y rhyngrwyd, fel marchnata negeseuon testun symudol a byrddau poster digidol.
Nid yw’n ymwneud â gwerthu yn unig, ond ag adeiladu cysylltiadau a chydberthnasau â chynulleidfaoedd sy’n fuddiol i’r ddwy ochr.
2. Sut mae marchnata digidol yn cyd-fynd â’ch marchnata cyffredinol?
Er bod marchnata digidol yn faes ynddo’i hun, dylai gael ei ymgorffori ym marchnata cyffredinol eich sefydliad, yn hytrach na chael ei ystyried yn rhywbeth ar wahân ac annibynnol. Dylai’ch gweithgareddau marchnata digidol gefnogi amcanion cyffredinol eich sefydliad o ran marchnata a datblygu cynulleidfaoedd. Maen nhw’n rhan o’ch pecyn cymorth marchnata, ac efallai eu bod yn fwy perthnasol i rai grwpiau cynulleidfa nag eraill. Gallwch hefyd ddefnyddio sianeli marchnata ‘traddodiadol’ neu all-lein fel taflenni a sylw yn y cyfryngau a gynhyrchir gan Gysylltiadau Cyhoeddus os yw’n berthnasol.
Mae rhai sefydliadau wedi symud i ddull marchnata digidol yn unig, neu ddigidol yn gyntaf, o ganlyniad i gyllidebau sy’n lleihau, pryderon amgylcheddol a newidiadau yn newisiadau ac ymddygiadau eu cynulleidfaoedd sydd wedi’u cyflymu gan y pandemig Covid-19. Fodd bynnag, efallai nad yw hyn yn iawn i bob sefydliad, er enghraifft, os ydych am gyrraedd cynulleidfaoedd sydd wedi’u heithrio’n ddigidol. Fodd bynnag, gall fod adegau pan fyddwch chi’n rhedeg ymgyrch benodol sy’n cynnwys sianeli marchnata digidol yn unig. Gellir cymysgu a chyfuno sianeli marchnata a gallant fod yn wahanol o sefydliad i sefydliad.
3. Ble rydych chi’n dechrau?
Mae’n ddigon posib eich bod chi eisoes yn gwneud marchnata digidol mewn rhyw ffordd – er enghraifft, mae gwefan a thudalen Facebook gyda’ch sefydliad – ond efallai eich bod am fod yn fwy strategol o ran eich dull gweithredu neu sicrhau nad ydych chi’n colli cyfle da.
Gall cymryd cam yn ôl a gwneud archwiliad fod yn ymarfer defnyddiol:
- Dechreuwch gan nodi rhestr o’r sianeli digidol rydych chi’n eu defnyddio ar hyn o bryd, y rhesymau pam a faint o amser a faint o’r gyllideb (os yw’n berthnasol) a ddefnyddir ar bob un.
- Casglwch unrhyw ddata ac ymchwil berthnasol i helpu i werthuso pa mor llwyddiannus maen nhw, er enghraifft, gwerthiannau tocynnau ar-lein, dulliau dadansoddi cyfryngau cymdeithasol a gwefannau, rhoddion ar-lein.
- Gwerthuswch y data hwn – beth mae’n ei ddweud wrthych chi? Beth sy’n gweithio? Beth sydd ddim yn gweithio? Beth sy’n creu’r effaith fwyaf lle mae’n cyfrif fwyaf?
- Ymgymerwch â mwy o ymchwil os oes angen ac mae amser yn caniatáu: beth nad ydych chi’n ei wybod neu’n ei ddeall y mae angen i chi ei ddarganfod? Ydych chi am brofi unrhyw ragdybiaethau rydych chi wedi’u gwneud?
- Efallai eich bod chi hefyd am edrych ar yr hyn mae eich cystadleuwyr yn ei wneud yn ddigidol, enghreifftiau o arfer da yn y sectorau treftadaeth a chelfyddydol am ysbrydoliaeth, a data sydd ar gael yn gyhoeddus ynghylch digidol a chynulleidfaoedd i ategu’ch data, megis canfyddiadau arolwg gan The Audience Agency o Gynulleidfaoedd Digidol. Mae CultureHive yr AMA a Rhwydwaith Diwylliant Digidol Cyngor Celfyddydau Lloegr yn llawn adnoddau gwych ac am ddim.
- Crynhowch y mewnwelediadau allweddol a goblygiadau eich canfyddiadau, er enghraifft mewn dadansoddiad SWOT clasurol gyda chryfderau a gwendidau eich sefydliad, a’i gyfleoedd a’i fygythiadau allanol sy’n berthnasol i farchnata digidol.
4. Bod â chynllun
Gall y jargon a’r acronymau sy’n gysylltiedig â marchnata digidol fod yn frawychus, ond cadwch bethau’n syml. Mae bod â chynllun, hyd yn oed os yw’n un dudalen o bwyntiau bwled, yn werth chweil. Mae egwyddorion marchnata digidol yn adlewyrchu marchnata yn fwy cyffredinol: bydd cenhadaeth a gweledigaeth, cynllun busnes a nodau eich sefydliad, a’i werthoedd craidd, yn rhoi arweiniad strategol i chi ar yr hyn y mae angen i chi ei gyflawni.
Nodwch eich cynulleidfaoedd targed allweddol a’u segmentu – eu rhannu’n grwpiau sy’n debyg mewn rhyw ffordd (boed hynny yn ôl eu hymddygiad, eu hanghenion, eu cymhellion, eu rhwystrau, eu demograffeg, eu gwerthoedd). Ar gyfer pob segment, ystyriwch pa sianeli (digidol neu fel arall) sy’n ffyrdd priodol o’u cyrraedd.
Yn ddelfrydol, byddwch yn datblygu un neu fwy o nodau ac amcanion i ffocysu’ch gweithgareddau. Byddwch yn glir ynghylch pwy fydd yn gyfrifol am ymgymryd â nhw a faint bydd y gweithgareddau’n ei gostio (os unrhyw beth). Os byddwch chi’n nodi bylchau mewn sgiliau, hyder a/neu ddiddordeb yn eich sefydliad, allwch chi ddod o hyd i wirfoddolwyr marchnata digidol i ymuno â chi a’ch cefnogi?
5. Nodau ac amcanion marchnata digidol
Meddyliwch am yr hyn rydych chi am ei gyflawni drwy eich marchnata digidol. Mae nod yn ganlyniad dymunol rydych chi am ei gyflawni; mae fel arfer yn eang a thros dymor canolig neu hirdymor, a dylai gefnogi eich nodau a’ch cenhadaeth sefydliadol. Dyma enghreifftiau:
- Cynyddu amlygrwydd eich sefydliad neu’r ymwybyddiaeth ohono ar-lein
- Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a/neu ymgysylltu â nhw
- Cynyddu ymwelwyr allfrig
- Cynyddu nifer yr aelodaethau a werthir ar-lein
- Cynyddu nifer y bobl sy’n adnewyddu eu haelodaeth
- Creu incwm o ddigwyddiadau ar-lein
- Cynyddu rhoddion ar-lein
- Datblygu’ch safle eFasnach
- Cynyddu ymgysylltiad â’ch archif ar-lein
- Cynyddu cyrhaeddiad eich sianeli digidol.
Ar gyfer pob nod, mae’n ddefnyddiol nodi un neu fwy o amcanion CAMPUS, sy’n rhoi targed i chi weithio tuag ato; amcanion Cyrraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol ac Uchelgeisiol Synhwyrol yw’r rhain. Ar gyfer y nod “Cynyddu cyrraedd eich sianeli digidol”, gallai eich amcanion CAMPUS fod fel a ganlyn:
- Cofrestru 250 o danysgrifwyr teulu newydd i’ch e-newyddlen yn ystod 2022.
- Cynyddu nifer eich dilynwyr ar Facebook neu eich cyrhaeddiad 15% rhwng 1 Ionawr 2022 ac 1 Ionawr 2023.
- Cynyddu defnyddwyr newydd i’ch gwefan 20% yn ystod 2022.
Bydd yr amcanion hyn yn helpu i ffocysu eich gweithgarwch a llywio’ch gwerthuso.
6. Dulliau marchnata digidol i’w hystyried
Isod, mae rhestr o ddulliau marchnata digidol cyffredin gallwch eu hystyried (mae rhywfaint o orgyffwrdd); unwaith rydych chi’n glir ynghylch pwy rydych chi am eu cyrraedd ac ymgysylltu â hwy, a’r hyn rydych chi am ei gyflawni:
- Marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol: marchnata organig a marchnata y telir amdano ar sianeli’r cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Instagram, TikTok, Twitter.
- Marchnata dros e-bost: anfon cynnwys wedi’i frandio yn uniongyrchol at eich cynulleidfaoedd (sydd wedi cofrestru ar gyfer hyn) drwy e-bost.
- Rheoli Perthnasau Cwsmeriaid (CRM): proses sy’n helpu’ch sefydliad i reoli a symleiddio ei ryngweithio â chynulleidfaoedd a darpar gynulleidfaoedd.
- Marchnata cynnwys: creu a dosbarthu cynnwys perthnasol a dengar (megis fideos, blogiau, memynnau, awgrymiadau a chanllawiau, ffeithluniau) sydd o werth i’ch cynulleidfaoedd targed, er mwyn eu denu a’u cadw.
- Cysylltiadau Cyhoeddus digidol neu ar-lein: mae hyn yn ceisio cynyddu presenoldeb ac awdurdod sefydliad ar-lein, er enghraifft, drwy greu sylw yn y cyfryngau ar-lein, cyfweliadau ar bodlediadau, denu adolygiadau da.
- Optimeiddio peiriannau chwilio (SEO): y broses ddi-dâl o wella gwelededd a lleoliad eich gwefan mewn chwiliadau organig, er mwyn cynyddu ansawdd a maint y traffig i’ch gwefan.
- Talu Fesul Clic (PPC): hysbysebu ar-lein, lle rydych chi ond yn talu am hysbyseb pan fydd defnyddiwr yn clicio arno, megis Google AdWords.
- Marchnata cysylltiedig: dull sy’n seiliedig ar berfformiad lle rydych yn talu comisiwn i drydydd parti (fel dylanwadwr) sy’n hyrwyddo eich sefydliad, os yw’n arwain at werthiant.
- Cynnwys noddedig: mae eich sefydliad yn talu trydydd parti (fel sefydliad twristiaeth) i greu a hyrwyddo cynnwys ar-lein sy’n trafod eich sefydliad a’i gynnyrch neu wasanaethau.
- Marchnata drwy ddylanwadwr: math o farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae sefydliad yn cydweithio â dylanwadwr ar-lein i dderbyn rhyw fath o gymeradwyaeth (am dâl fel arfer) neu sôn am gynnyrch gan y dylanwadwr. Mae’r dylanwadwr yn rhywun sydd â hygrededd a dilyniant cymdeithasol pwrpasol, yn aml arbenigwyr mewn maes, o enwogion o fri i ficro-ddylanwadwyr fel rhiant lleol sy’n flogio ar YouTube, pobydd cartref di-glwten ar Instagram neu hanesydd celf ganoloesol ar TikTok.
- Marchnata symudol: cyrraedd eich cynulleidfaoedd drwy eu ffôn clyfar neu eu llechen, er enghraifft drwy negeseuon testun, ap, e-bost, gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol.
7. Penderfynu pa ddulliau marchnata digidol i’w defnyddio
- Nodwch eich cynulleidfaoedd targed a pha sianeli a dulliau sydd orau ganddynt. Os nad ydych chi’n gwybod, gallwch ofyn iddynt, gwirio gyda chydweithwyr eraill yn y sector neu ddefnyddio ymchwil am boblogrwydd a thueddiadau sianeli marchnata digidol, megis yr adroddiad Digital 2022 in the United Kingdom gan Hootsuite ac We are Social, ac adroddiad Ofcom, Adults’ Media Use and Attitudes 2022.
- Ystyriwch a ydych chi am gael enillion cyflym llai, neu effaith barhaus fwy hirdymor. Er enghraifft, gall hysbysebu da ar y cyfryngau cymdeithasol arwain at ganlyniadau da yn y tymor byr ond cyn gynted ag y bydd y gwariant yn dod i ben, mae’r canlyniadau’n tueddu i ddod i ben.
- Sicrhewch fod gennych yr offer i werthuso’r hyn rydych chi’n ei wneud, a defnyddio hyn i fwydo i mewn i’r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol.
- Canolbwyntiwch ar wneud ychydig o bethau’n dda yn hytrach na gorlwytho’ch hun.
- Peidiwch â dilyn y ffasiwn neu’r tueddiad diweddaraf heb wirio’n gyntaf a yw’n addas i chi a’ch cynulleidfaoedd.
- Dewiswch ddulliau sy’n gweithio o fewn cyllideb, amser a’r sgiliau a’r hyder sydd ar gael yn eich sefydliad.
- Byddwch yn glir am yr hyn rydych chi am ei gyflawni gyda phob grŵp cynulleidfa darged. Gall Fframwaith ‘RACE’ fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwneud hyn.
Cam y fframwaith RACE | Cyrraedd | Gweithredu | Trosi | Ymgysylltu |
Eich nodau | Cynyddu ymwybyddiaeth a chynulleidfaoedd ar-lein | Sbarduno rhyngweithio, tanysgrifwyr, darpar gwsmeriaid | Cyflawni trosiadau | Annog ymwelwyr i ddychwelyd a gwneud atgyfeiriadau |
Cam y gynulleidfa | Archwilio | Gwneud penderfyniadau | Prynu / rhoddi / mynychu | Eiriolaeth |
Mesuriadau allweddol enghreifftiol | Cyrraedd sianeli ac ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol
Ymwelwyr â’r wefan |
Nifer / twf yn nifer y tanysgrifwyr drwy e-bost
Ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol (faint sy’n rhannu, hoffi, faint o sylwadau) Ymholiadau am logi’r lleoliad |
Gwerthiannau / rhoddion ar-lein
Ymweliadau sy’n cael eu hysgogi gan farchnata digidol |
Adolygiadau
Gweithrediadau mynych (rhoddion, ymweliadau) Cyfraddau adnewyddu aelodaeth |
Ystyriwch gylch oes y cwsmer enghreifftiol neu daith cynulleidfa yn y tabl uchod, yn seiliedig ar fframwaith RACE. Fel arfer, hoffech chi i aelod o’r gynulleidfa darged symud o’r chwith i’r dde dros amser wrth iddynt ddod yn ymwybodol o’ch sefydliad am y tro cyntaf, ymgysylltu ag ef, ymgymryd ag ymweliad neu gamau eraill, ac yna’n ddelfrydol dod yn aelod rheolaidd neu fynych o’r gynulleidfa ac yn eiriolwr.
Wrth benderfynu pa ddulliau a sianeli marchnata digidol i’w defnyddio, ystyriwch ym mha gam y mae pob segment o’ch cynulleidfa darged, gan y bydd hyn yn effeithio ar eich dewisiadau. Os na fydd rhywun yn gwybod bod eich sefydliad yn bodoli, rydych chi am ei gwneud yn bosib iddyn nhw ddod o hyd i chi ar adeg ac mewn lle pan fyddant yn agored i’ch marchnata, oherwydd mae angen yr hyn rydych yn ei gynnig arnynt. Er enghraifft, mae cwpl yn cynllunio seibiant bach ym Mryste fis nesaf, lle mae eich lleoliad wedi’i leoli. Ar-lein, efallai y byddant yn:
- yn chwilio ar Google Maps “safle treftadaeth Bryste”
- edrych ar beth sydd ymlaen ar dudalennau visitbristol.co.uk ar gyfer y dyddiadau pan fyddan nhw’n ymweld
- mynd i tripadvisor.co.uk ac edrych ar y rhestr o “bethau i’w gwneud” ar gyfer Bryste
- defnyddio peiriant chwilio i chwilio am “ddiwrnodau allan ym Mryste”.
Cymharwch hyn gyda theulu lleol sy’n chwilio am weithgareddau gwyliau’r haf i gadw’r plant yn brysur, sydd eisoes wedi ymweld â chi yn y gorffennol. Ar-lein, efallai y byddant yn:
- mynd i’ch gwefan
- darllen eich e-newyddion i deuluoedd y maent wedi cofrestru ar ei gyfer
- edrych ar y rhestr o ddigwyddiadau ar eich tudalen Facebook
- edrych ar dayoutwiththekids.co.uk.
Felly, mae gwahanol sianeli’n debygol o fod yn briodol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd ar wahanol gamau o’u taith cynulleidfa. Gallwch hefyd deilwra eich negeseuon i ystyried yr hyn rydych chi’n ei wybod am eich cynulleidfaoedd targed – eu cymhellion, eu rhwystrau rhag ymgysylltu, ble maen nhw yn y broses o wneud penderfyniadau ac yn y blaen.
8. Manteision marchnata digidol
Y prif reswm dros ymgymryd ag unrhyw farchnata digidol yw oherwydd eich bod wedi nodi ei fod yn ffordd o gyrraedd eich cynulleidfaoedd targed. Isod mae rhai manteision ychwanegol:
- Mae llawer o farchnata digidol yn rhad ac am ddim neu’n isel ei gost.
- Gallwch gyrraedd (neu fod â’r potensial i gyrraedd) nifer fawr o bobl.
- Mae potensial enfawr i rannu cymdeithasol ac ar lafar gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl.
- Gallwch greu a chyflwyno cynnwys yn uniongyrchol i’ch cynulleidfaoedd (i’w mewnflwch e-bost, ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol y maent eisoes arnynt, drwy greu hysbysebion ar gyfer termau chwilio y maent yn eu defnyddio).
- Gallwch bersonoli a theilwra’ch cyfathrebiadau i gynulleidfaoedd penodol – er enghraifft, anfon e-gylchlythyr at eich cynulleidfaoedd teuluol yn unig, a chreu hysbyseb ar Facebook ar gyfer pobl sy’n byw mewn dinas benodol. Mae hyn yn debygol o fod yn fwy perthnasol a chost-effeithiol na’r dull “brefu a chrefu” o ddefnyddio hysbysebion ar y teledu a byrddau poster.
- Mae llawer o declynnau y gallwch eu defnyddio i wneud eich cynnwys yn fwy hygyrch. Gweler y Canllaw Marchnata Hygyrch and Sut i wella hygyrchedd a defnyddioldeb gwefan eich sefydliad.
- Gallwch ymgymryd â phrofi A/B lle byddwch yn rhannu’ch cynulleidfa mewn dau grŵp (neu fwy), a bydd pob un yn cael fersiwn gwahanol o’ch deunydd cyfathrebu, i gymharu’r llwyddiant. Er enghraifft, dosberthir yr un e-gylchlythyr ond gyda phenawd pwnc gwahanol (i nodi pa un sydd â’r gyfradd agor uchaf) neu ddwy hysbyseb Facebook â delwedd wahanol ar y naill a’r llall sy’n hyrwyddo’r un digwyddiad i gymharu p’un sy’n cynhyrchu’r mwyaf o gamau gweithredu.
- Mae marchnata digidol yn hyblyg ac yn ebrwydd, felly gallwch ddechrau ar unwaith a diwygio ymgyrchoedd mewn munudau ar ôl cael adborth.
- Mae gennych fynediad at lawer o ddata a dulliau dadansoddi am ddim a fydd yn eich helpu i olrhain a mesur yr hyn rydych chi’n ei wneud a mireinio pethau at y dyfodol.
- Mae marchnata digidol yn eich galluogi i gadw mewn cysylltiad â chynulleidfaoedd ac ymwelwyr presennol yn hawdd.
9. Heriau gyda marchnata digidol
Fodd bynnag, mae rhai anfanteision hefyd i fod yn ymwybodol ohonynt:
- Mae cystadleuaeth am amser, sylw ac arian eich cynulleidfaoedd yn enfawr ar lwyfannau marchnata digidol, a byddwch yn cystadlu yn erbyn sefydliadau ac unigolion sydd â chyllidebau enfawr a thimau marchnata yn gefn iddynt.
- Er nad oes rhaid iddo gostio llawer o arian parod, yn gyffredinol bydd angen buddsoddi amser ac ymdrech ar farchnata digidol, yn aml yn gyson dros amser.
- Mae’r dirwedd farchnata ddigidol yn esblygu’n gyson a gall fod yn llethol cadw ar ben datblygiadau, megis newidiadau i algorithmau cyfryngau cymdeithasol neu ddeddfwriaeth preifatrwydd, neu ymddangosiad llwyfannau cyfryngau cymdeithasol newydd.
- Mae rhychwant sylw pobl yn fyr ar-lein, felly mae angen i chi sefyll allan a dal eu diddordeb yn gyflym.
- Gall beirniadaeth gan y cyhoedd a chynulleidfaoedd fod yn weladwy iawn ar-lein, er enghraifft cwynion am y diffyg ymateb i ymholiad gwasanaeth cwsmeriaid neu adolygiad negyddol o ymweliad neu arddangosfa.
- Mae deddfwriaeth diogelwch a diogelu data i gydymffurfio â hi, megis trin data cynulleidfaoedd a bod â diogelwch gwefannau, a all fynnu setiau sgiliau ychwanegol.
10. Awgrymiadau gwych ar gyfer marchnata digidol
- Ceisiwch adnabod a deall eich cynulleidfaoedd.
- Byddwch yn glir ynghylch yr hyn rydych chi am ei gyflawni – beth sy’n mynd i wneud gwahaniaeth ar gyfer y nodau sydd bwysicaf? Canolbwyntiwch ar ganlyniadau allweddol.
- Peidiwch â gorlwytho’ch hun a cheisio gwneud popeth ar yr un pryd. Defnyddiwch lai o sianeli a gweithgarwch a’u gwneud nhw’n dda.
- Blaenoriaethwch ar sail eich nodau, eich cynulleidfaoedd, eich gwaith gwerthuso a dadansoddi, yn ogystal ag ystyriaethau ymarferol megis eich cyllidebau, yr amser a’r wybodaeth sydd ar gael.
- Neilltuwch amser rheolaidd iddo – nid yw’n rhywbeth y gellir ei wneud unwaith ac yna ei ddiystyru.
- Personoleiddiwch a theilwra cynnwys i’w wneud yn fwy perthnasol i wahanol gynulleidfaoedd os gallwch chi.
- Peidiwch ag ofni arbrofi a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
- Byddwch yn hyblyg, cadwch ddysgu ac arhoswch yn chwilfrydig – mae pethau’n newid drwy’r amser, felly bydd angen i’r hyn a wnewch chi esblygu dros amser.
- Cysylltwch â chydweithwyr o sefydliadau treftadaeth eraill a rhannu awgrymiadau a gwersi a ddysgwyd.
- Defnyddiwch ddulliau dadansoddi i werthuso pethau a’u gwella at y dyfodol.
- Gwnewch yr hyn sy’n iawn i’ch sefydliad, nid oherwydd mai dyna’r ffordd y mae wedi’i wneud erioed neu dyna’r ffordd mae pawb arall yn ei wneud.
- Darllenwch weddill y canllawiau yn y gyfres hon i gael mwy o fanylion ac ysbrydoliaeth!
Browse related resources by smart tags:
Audience development Digital engagement Digital marketing Marketing mix Marketing strategy Online audience engagement

Please attribute as: "What is digital marketing, where do we start and how can it benefit us? (2022) by Christina Lister supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0