English

Sut gallaf gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant drwy fy nghynnwys ar-lein? Canllaw cam-wrth-gam i gynwysoldeb

Mae sicrhau bod eich cynnwys yn adlewyrchu nodau'ch sefydliad treftadaeth o ran amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig. Mae'r adnodd hwn yn darparu canllaw cam wrth gam ar greu cynnwys amrywiol a chynhwysol ar draws eich llwyfannau digidol, gan gynnwys eich gwefan. Mae hefyd yn archwilio'r gwahaniaeth rhwng amrywiaeth a chynhwysiant a sut orau i fynd i'r afael â'r materion hyn drwy eich cynnwys digidol.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
A man talking to his colleagues while showing something on a laptop
Photo by Thirdman on Pexels.

How can I support diversity and inclusion through my online content? A step-by-step guide to inclusivity

1. Beth yw amrywiaeth a chynhwysiant, a pham dylai fod yn flaenoriaeth i’ch sefydliad treftadaeth?

O’i waith o archwilio ein hanes torfol i’w waith o ddiogelu ein gofodau cyhoeddus, mae sector treftadaeth bywiog y DU yn bodoli yn y pen draw i ddathlu ein hanesion fel cenedl. Mae’n hollbwysig, felly, ei fod yn adlewyrchu cyfansoddiad amrywiol ein cymdeithas a’i fod yn gwasanaethu pob cymuned.

Mae Adroddiad* Landscapes Review diweddar yn nodi “bod cwta un y cant o ymwelwyr â’r parciau cenedlaethol yn y DU o gefndiroedd PDdLlE” ac yn honni “bod hyn yn wael i sefydliadau sy’n cael eu cyllido gan y genedl i wasanaethu pawb”, gan amlygu angen brys i sefydliadau fel parciau cenedlaethol fuddsoddi mewn strategaethau allgyrraedd er mwyn cynyddu amrywiaeth ethnig ymwelwyr.  

Mae cael amrywiaeth a chynhwysiant yn gywir wedi troi’n un o’r materion mwyaf dybryd yn ein hoes, ond beth yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau derm? Er gwaethaf y ffaith bod dryswch yn ei gylch weithiau, gellir deall mai amrywiaeth yw’r ‘beth’ a chynhwysiant yw’r ‘sut’.

Mae amrywiaeth yn canolbwyntio ar gyfansoddiad eich pobl, fel eich gweithlu, ymwelwyr wyneb yn wyneb a chynulleidfaoedd ar-lein, gan gynnwys eu rhyw, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hethnigrwydd, eu crefydd, eu hanabledd, a nodweddion demograffig eraill. Mae cynhwysiant yn canolbwyntio ar y camau rydych chi’n eu cymryd i goleddu amrywiaeth, a sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus yn eich gofodau.

Mae manteision ymwreiddio amrywiaeth a chynhwysiant yn eich amcanion sefydliadol wedi’u nodi’n glir. Ond mae hefyd yn bwysig sicrhau bod eich cynnwys ar-lein yn adlewyrchu’r ymrwymiadau hyn. Yn ogystal â’r ffaith mai dyma’r peth iawn i’w wneud, mae sicrhau bod eich cynnwys digidol yn adlewyrchu’r boblogaeth berthnasol, a bod pawb yn teimlo’u bod wedi’u cynnwys, ond yn mynd i ymestyn eich cynulleidfa, a chynyddu niferoedd eich ymwelwyr, ar-lein ac oddi ar-lein.

Bydd yr erthygl hon yn eich tywys drwy sut i sicrhau eich bod yn ymgorffori ystyriaethau amrywiaeth a chynhwysiant yn eich cynnwys ar-lein drwy eich deunyddiau gweledol, eich iaith, a’ch cyfleoedd i gydweithredu.

 

2. Ystyriwch eich deunyddiau gweledol – ydych chi’n defnyddio delweddau a fideos amrywiol?

Mae pobl yn cael eu tynnu’n naturiol at leoedd lle maen nhw’n teimlo’u bod wedi’u cynnwys ac sy’n teimlo’n ‘iawn iddyn nhw’, felly gofynnwch i chi’ch hun a yw’r cynulleidfaoedd rydych chi’n ceisio’u denu yn gallu gweld eu hunain yn eich delweddau, a pha gymunedau fydd heb gynrychiolaeth. Gall eich dewisiadau gweledol chwarae rôl enfawr yma.

Mae llawer o lwyfannau bellach yn cynnig asedau gweledol sy’n cynnwys ystod fwy amrywiol o gymunedau i chi eu defnyddio yn eich cynnwys ar-lein. Dyma rai awgrymiadau ynghylch ble i fynd wrth geisio gwella’ch amrywiaeth weledol:

  • nappy.co: sy’n cynnig delweddau stoc am ddim o bobl sydd wedi’u tangynrychioli
  • blackillustrations.com: sy’n cynnig darluniadau am ffi o bobl Ddu ar gyfer eich prosiectau digidol
  • humaaans: sy’n cynnig darluniadau amrywiol at ddibenion masnachol a phersonol
  • Coverr: y mae eu cynnig ‘Celebrating Diversity’ yn cynnig rhywfaint o ffilm stoc amrywiol am ddim
  • Storyblocks: y mae eu casgliad ‘Re:Stock’ yn cynnig ffilm stoc fwy cynrychioliadol

I roi enghraifft, mae Amgueddfa’r Bradford Industrial Museum yn canolbwyntio ar addysg hanesyddol, gydag arddangosfeydd yn cynnwys peiriannau tecstilau, pŵer ager, a pheiriannau argraffu, ond mae eu hamrywiaeth weledol gadarn yn sicrhau eu bod yn adlewyrchu eu hymrwymiad i fod yn gynhwysol i holl gymunedau amrywiol Bradford.

screenshot of Bradford Museum’s website with options to visit pages on ‘what’s on’ and ‘latest news’, one image has a man holding paint brushes
Sgrinlun o’r dolenni ‘What’s On’ a ‘Latest News’ ar wefan amgueddfa Bradford Industrial Museum.

 

Screenshot of a Bradford Industrial Museum’s Instagram page.
Sgrinlun o dudalen Instagram amgueddfa Bradford Industrial Museum gyda gwahanol ddelweddau o’u hymwelwyr a’u casgliadau.

 

3. Ydych chi’n defnyddio iaith gynhwysol?

Rydyn ni i gyd yn gwybod am rym iaith a bod y geiriau rydym yn eu dewis yn gallu cael effaith fawr ar ddarllenwyr. Mae’n bwysig defnyddio iaith gywir a phriodol o amgylch cymunedau arbennig.

Mae llawer o sefydliadau, sy’n cael eu harwain gan grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio ac sy’n eu cefnogi, sydd wedi creu canllawiau iaith ac arddull i gefnogi’r union fater hwn. Mae’r rhain ar gael am ddim, yn cael eu diweddaru’n barhaus, ac yn aml mae’r sefydliadau’n agored i dderbyn ymholiadau, felly os ydych yn ansicr o unrhyw beth, da chi, cysylltwch!

Er enghraifft, mae gan Autistica Ganllaw Cyfathrebu yn y Cyfryngau i’ch helpu i fynd i’r afael â siarad am bobl sy’n byw ag awtistiaeth. Mae gan Crescendo hefyd restr helaeth o awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu copi cynhwysol.

 

4. Ydy’ch cynnwys ar-lein yn hygyrch?

Mae ystyried a yw eich cynnwys ar-lein yn hygyrch yn elfen bwysig o amrywiaeth a chynhwysiant. Gallwch chi ddilyn arfer gorau yn hyn o beth drwy lynu wrth ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (WCAG) i sicrhau bod eich cynnwys ar y we’n hygyrch i bobl anabl.

Pan fydd eich cynulleidfa’n gallu cyrchu eich cynnwys ar-lein yn hawdd, maent yn fwy tebygol o gael eu hannog i gyrchu eich cynigion eraill, ac ymweld â’ch gofodau ffisegol a rhithwir. Drwy ddefnyddio teclynnau a thechnegau fel testun amgen (‘alt text’) yn y delweddau a ddefnyddiwch, geiriad cryno neu gyflwyno testun mewn ffordd hygyrch, rydych yn gwneud cysylltu â’ch cynnwys ar-lein mor hawdd â phosibl ni waeth beth yw gofynion hygyrchedd pobl.

Am arweiniad pellach ar sut gall sefydliadau treftadaeth sicrhau bod eich cynnwys ar-lein yn hygyrch, ewch i’r adnoddau canlynol ar ein Hwb Treftadaeth Ddigidol:

Un sefydliad sydd wedi ymgorffori ystyriaethau hygyrchedd yn dda yw VocalEyes, sy’n cefnogi pobl ddall ac â nam ar eu golwg i gael profiad o gelf a threftadaeth. Mae gosodiadau hygyrchedd helaeth eu gwefan yn caniatáu i ymwelwyr addasu eu dewisiadau mewn llawer o ffyrdd i gyd-fynd â’u hanghenion, fel addasu lliwiau, meintiau ffontiau a gofodau.

 

Screenshot of VocalEyes’ accessibility settings with options to change website colours, font size and more
Sgrinlun o osodiadau hygyrchedd VocalEyes gydag opsiynau i newid lliwiau a maint y ffont ar y wefan, a mwy.

 

5. Cyfleoedd i ddathlu amrywiaeth a chynhwysiant a chydweithio traws-sector

Mae gwaith pwysig yn cael ei wneud ym maes amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector treftadaeth, ac mae llawer o sefydliadau’n cael eu rhedeg gan bobl sy’n meddu ar brofiad byw o hyn yn darparu i gymunedau sydd wedi teimlo’u bod wedi’u hepgor o’r gofod yma’n flaenorol. Yn aml, y peth gorau i’w wneud yw amlygu lleisiau eraill, yn hytrach na cheisio siarad ar eu rhan.

Mae cyfeirio at ddigwyddiadau sefydliadau eraill a hyrwyddo cydweithredu traws-sector yn ffyrdd gwych i chi weithio gydag eraill sydd hefyd yn ymrwymedig i ddathlu amrywiaeth, a’u cefnogi. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ddiwrnodau digolledu (‘tentpole days’) neu ddigwyddiadau fel Mis Hanes Pobl Dduon, Mis Hanes Pobl De Asia neu Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Anabledd. Byddwch chi nid yn unig yn cefnogi achos gwych, ond mae hyn hefyd yn caniatáu i chi ddangos i’ch cynulleidfaoedd sut mae eich sefydliad yn cefnogi gwahanol linynnau o gydraddoldeb a chymunedau drwy greu a rhannu cynnwys unigryw ar-lein.

Er enghraifft, nododd Amgueddfa Hanes y Bobl, (y People’s History Museum), ben-blwydd Deddf Troseddau Rhyw 1967 yn 50 oed, sef dechrau’r broses o ddad-droseddoli cyfunrhywioldeb yng Nghymru a Lloegr, gyda’r arddangosfa arobryn Never Going Underground. Roedd eu harddangosfa’n boblogaidd iawn ar-lein, gyda llawer yn rhannu eu profiad o ymweld gan ddefnyddio’r hashnod #NeverGoingUnderground. Mae hyn ochr yn ochr â’r amgueddfa’n rhannu ei delweddau ei hun i ddangos cefnogaeth i gymuned LHDTC+ Manceinion yn ystod Mis Pride.

 

Screenshot of Instagram images that were posted with the hashtag #NeverGoingUnderground, displaying people’s photos taken visiting the exhibition.
Sgrinlun o ddelweddau ar Instagram a gafodd eu postio gyda’r hashnod #NeverGoingUnderground, yn dangos ffotograffau pobl a dynnwyd wrth ymweld â’r arddangosfa.

Mae trin a thrafod y berthynas sydd gan y sector treftadaeth â’r gwahanol linynnau o gydraddoldeb yn gallu golygu cael sgyrsiau anodd, ond mae’n werth ymrwymo i’r rhain er mwyn dangos gwir ymrwymiad i ddyfodol mwy cynhwysol. Yn ôl Anna Eavis, Cyfarwyddwr Curadurol yn English Heritage, “rydym yn gwybod bod rhai agweddau ar stori Loegr wedi’u hadrodd lawer yn llawnach nag eraill. Mae codi’r clawr ar hanes cymunedau ar y cyrion yn ein galluogi i roi darlun llawnach o’r gorffennol rydym yn ei rannu – a’r gallu i’w ddeall yn well.”

Er bod integreiddio amrywiaeth a chynhwysiant yn eich presenoldeb ar-lein yn gallu teimlo’n heriol i ddechrau, mae defnyddio’r llu o declynnau a chymorth am ddim sydd ar gael yn gallu eich helpu ar eich taith, gan eich galluogi i ddangos eich ymrwymiad i ddathlu a gwerthfawrogi gwahaniaeth, a bod yn sefydliad croesawgar a dengar i bob cymuned.

*Julian Glover (2019) Landscapes Review

 



More help here


Woman in wheelchair browsing smartphone in cafe and making notes

How do I ensure that the digital content I create is accessible?

Creating accessible digital content helps you share the work of your heritage organisation with more people. This resource by Diversity & Ability look at both the ethical and legal requirements of ensuring your digital content is accessible. It provides a step-by-step guide from alt text to accessible hashtags and everything in between.

 
Woman in a wheelchair with her laptop, waving hello to someone on a video call with her

What do I need to know about creating an accessible website?

Creating accessible websites helps you share the work of your heritage organisation with more people. This resource by Diversity & Ability helps you understand how best to embed accessibility into your website so a larger audience can connect with and support your organisation.

 
A man in a white suit with hands raised out suspended high in the air from a wire

Accessible Marketing Guide

A comprehensive guide to making your marketing activity and communications accessible to the widest number of people. This version was updated in 2020 by Grace McDonagh, Marketing Officer, Artsadmin in partnership with AMAculturehive, with support from the UnlimitedArtsadmin and Shape Arts teams. The guide is also available as a PDF, large print, audio and Easy Read formats.

 
Published: 2022


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "How can I support diversity and inclusion through my online content? A step-by-step guide to inclusivity (2022) by Fahmida Miah supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo