
What are the digital basics I need for content development in my organisation?
1. Rhagymadrodd
Mae cynnwys ar gael mewn ffurfiau amrywiol, ar lwyfannau amrywiol, ac mewn arddulliau amrywiol. Gallech fod am ffilmio fideo sy’n dogfennu pensaernïaeth adeilad rhestredig arbennig. Neu efallai eich bod am ysgrifennu postiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn esbonio ailymddangosiad rhywogaeth benodol o bili-pala. Neu efallai eich bod am lunio adroddiad hir i’w gynnwys ar eich gwefan, ynghyd â delweddau, yn archwilio hanes diwydiannol dociau penodol.
Mae pob un o’r uchod yn gyfystyr â chynnwys. Yn syml, dweud stori gyda diben yw cynnwys. Ac mae cynnwys bobman, ym mhob cyfeiriad o’n cwmpas. Ond, mae problem serch hynny. Er bod cynnwys bobman, mae llawer ohono nad yw’n dda iawn. Mae gormod o gynnwys yn ychwanegu at y sŵn, yn ailadrodd yr hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud, ac nid yw’n dibynnu ar unrhyw ymchwil na chynllunio.
Y gyfrinach i gynnwys gwych yw cynllunio, paratoi, a defnyddio’r teclynnau digidol cywir. Felly, heb fwydro pellach, rydyn ni am gamu drwy rai o’r sylfeini digidol sy’n gallu gwella’r gwaith o ddatblygu cynnwys yn aruthrol ar gyfer eich sefydliad treftadaeth.
2. Gwefan sy’n ddeniadol ac sy’n ateb y galw
Peth syml yw creu gwefan syml lle gallwch rannu newyddion, rhoi diweddariadau am eich prosiectau diweddaraf, ychwanegu dolenni at ddigwyddiadau, ymwreiddio delweddau, ac integreiddio i’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae gan sawl sefydliad treftadaeth wefannau gwych sy’n darparu’r wybodaeth gywir mewn ffyrdd glân a syml. Edrychwch ar symlrwydd y Georgian Group, er enghraifft, neu ddyluniad Historic Houses, sy’n canolbwyntio ar ddelweddau.
Mae digon o opsiynau am ddim ac isel eu cost sy’n caniatáu i sefydliadau treftadaeth lunio gwefannau effeithiol. Gallai sefydliadau ddefnyddio un o’r systemau rheoli cynnwys symlach, fel WordPress, sy’n caniatáu i sefydliadau greu gwefannau deniadol drwy dempledi a dyluniadau y gellir eu teilwra. Edrychwch ar wefan Bourne Conservation i weld enghraifft syml o WordPress ar waith.
Fel arall, gallai sefydliadau treftadaeth fod am ystyried meddalwedd mwy chwim fel opsiwn gwasanaeth, fel Wix a Squarespace. Mae’r llwyfannau hyn ychydig yn wahanol i’r system rheoli cynnwys safonol, gyda’r ffocws ar greu gwefannau, ond maen nhw’n gallu eich helpu i greu gwefannau syml a hardd. Mae gan y gwefannau lawer o dempledi soffistigedig y gellir eu teilwra, sy’n gwneud y broses o frandio a gweithredu’n syml.
Gallai sefydliadau ystyried system rheoli cynnwys wedi’i theilwra, sy’n cefnogi anghenion mwy penodol, fel gwell hygyrchedd, rhyngweithgarwch, ac ati. Mae opsiwn wedi’i deilwra’n tueddu i ganiatáu ar gyfer personoli, hunanreoli, ac optimeiddio. Yr anfantais yw y bydd system rheoli cynnwys wedi’i theilwra fwy na thebyg yn costio mwy ac yn dod ag elfennau cymhleth diangen i sefydliadau bach.
Dylai eich dewis o system rheoli cynnwys ddibynnu bob amser ar eich anghenion fel sefydliad. Felly, gwnewch eich ymchwil, cofiwch bwyso a mesur eich adnoddau presennol, pwysolwch y posibiliadau, mynnwch wybod beth yw anghenion eich defnyddwyr, yna dewiswch yr opsiwn gorau o ran system rheoli cynnwys ar gyfer eich sefydliad treftadaeth.
3. Calendr cynnwys effeithiol
Unwaith mae gwefan ar waith gennych, bydd angen i chi greu cynnwys. Y peth cyntaf i’w ystyried yw’r math o gynnwys byddwch chi am ei greu. Meddyliwch beth hoffai eich cynulleidfa ei weld, beth fyddai fwyaf diddorol, a dewiswch beth i’w gynnwys.
Mae calendr cynnwys yn caniatáu i chi amserlennu pob postiad, erthygl, fideo a phostiad arall, a bydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth hanfodol arall. Dylai calendrau cynnwys gael eu teilwra i’ch sefydliad, ond yn nodweddiadol dylent gynnwys teitl, awdur, cyfrwng, dyddiad cyhoeddi, ac ati.
Ymhlith rhai o’r manteision o gynllunio cynnwys mae’r canlynol:
- Y gallu i gyhoeddi cynnwys mwy pynciol
- Gwell cynllunio i helpu i reoli eich llwyth gwaith
- Gwell mewnwelediadau drwy olrhain a dadansoddi data
- Mwy o elw ar y buddsoddiad drwy dargedu’r gwariant.
Gall sefydliadau treftadaeth olrhain y cynnwys maen nhw’n mynd i’w gyhoeddi, yn ogystal ag olrhain metrigau cynnwys maen nhw eisoes wedi’i gyhoeddi. Y ffordd hawsaf o gynllunio ac olrhain yw drwy ddatblygu calendr cynnwys.
Gallai calendrau cynnwys gynnwys hanfodion marchnata, defnyddwyr targed, allweddeiriau perthnasol at ddibenion optimeiddio peiriannau chwilio, elfennau cyfryngau cymdeithasol, ac ati.
Mae’n bwysig nodi y bydd calendrau cynnwys effeithiol yn cynnwys adran sy’n trafod dulliau dadansoddi data, gan ganiatáu i sefydliadau olrhain llwyddiant pob cynnwys. Gallan nhw ddefnyddio’r metrigau hynny wedyn i ddiffinio cynnwys yn y dyfodol, gan ddatblygu cryfderau ymhellach a chywiro gwendidau.
Gellir llunio calendrau cynnwys mewn amrywiol ffyrdd. Er enghraifft, gallech ddefnyddio taenlenni traddodiadol gan ddefnyddio Microsoft Excel neu Google Sheets.
Gallai’r daenlen ddefnyddio colofnau ar gyfer y meini prawf uchod, gyda rhesi ar gyfer pob darn o gynnwys, wedyn tabiau i wahanu’r wythnosau, y misoedd neu’r blynyddoedd, gan ddibynnu faint o gynnwys rydych yn bwriadu ei gyhoeddi.
Mae apiau hefyd y gallech eu defnyddio sydd wedi’u dylunio’n benodol i reoli cynnwys, sy’n meddu ar galendr a’r elfennau rheoli prosiect angenrheidiol. Ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd mae CoSchedule, Contently, a Loomly.
4. Cynnwys myfyrgar a chywir
Y rhan o greu cynnwys go iawn efallai yw’r rhan anoddaf. Sicrhewch fod gennych y cyfryngau cywir a’r cynnwys cywir, gan anelu bob amser at gynnwys addysgol, llawn gwybodaeth a dengar, sy’n alinio gyda’ch gwerthoedd. Mae hefyd o gymorth meddwl am yr hyn yr hoffai eich cynulleidfa ei weld, a chyhoeddi cynnwys gyda nhw mewn golwg. A chofiwch sicrhau bod popeth yn edrych ac yn swnio’n wych!
Mae digon o declynnau sy’n gallu helpu gyda chreu cynnwys, ni waeth beth fo’ch cyfrwng. Mae Grammarly a Hemingway yn ddau ap am ddim sydd â’r nod o symleiddio a thwtio’ch ysgrifennu. Gall Audioboom letya podlediadau sydd wedi’u golygu ar Logic Pro X, Adobe Audition, neu unrhyw feddalwedd golygu podlediadau arall. Gellir cynnal gweminarau ar Zoom a’u cyhoeddi ar YouTube heb ormod o olygu.
Mae modd gwella pob cynnwys drwy ddefnyddio delweddau’n effeithiol. Ymhlith y goreuon o’r llyfrgelloedd delweddau am ddim mae Unsplash, Pixabay, a Gratisography. Ar gyfer opsiynau sy’n codi tâl, gallai sefydliadau treftadaeth fynd am Shutterstock. A gall sefydliadau ddefnyddio Canva i newid maint, gwella, neu fywiogi eich delweddau, gan wneud y delweddau hyd yn oed yn fwy deniadol.
Yn olaf, gallai sefydliadau fod am ymarfer optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) wrth ysgrifennu darnau. Gall SEO fod yn gymhleth, ond mae rheolau sylfaenol y gallwch eu dilyn, fel sicrhau bod modd darllen cynnwys, defnyddio hyperddolenni cyffredin o wefannau dibynadwy, a sicrhau eich bod yn defnyddio teitlau â ffocws ar allweddeiriau.
I bobl nad oes ganddynt lawer o brofiad o SEO, mae sawl teclyn digidol sy’n gallu helpu, fel Google Search Console, SEMRush, a Moz Pro. Mae llawer o adnoddau am ddim hefyd ar y wefan hon!
5. Marchnata ar ôl cyhoeddi
Yn olaf, dylai sefydliadau treftadaeth ddefnyddio sylfeini digidol i wella amlygrwydd cynnwys ar ôl ei gyhoeddi. Dau declyn allweddol yw’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol a’r defnydd o farchnata drwy e-bost.
Y gyfrinach gyda’r cyfryngau cymdeithasol yw cyhoeddi’r cynnwys cywir ar y llwyfan cywir. Gallai fideos fod yn fwy llwyddiannus ar TikTok, Snapchat, a YouTube, er enghraifft. Gallai cynnwys ysgrifenedig fod yn fwy llwyddiannus ar Twitter a LinkedIn. Gallai cynnwys ar sail delweddau wneud yn dda ar Instagram, lle gallai cynnwys sain weithio ar Facebook, LinkedIn, neu Twitter.
Peidiwch â cheisio defnyddio pob llwyfan. Dylai sefydliadau treftadaeth feistroli rhai llwyfannau, yn hytrach na lledaenu adnoddau ar draws yr holl lwyfannau, heb feistroli’r un ohonyn nhw. Cofiwch wneud eich ymchwil, am fod gan bob llwyfan reolau sydd wedi’u nodi a rhai heb eu nodi sy’n gallu gwella cyrhaeddiad eich cynnwys.
Marchnata drwy e-bost yw’r weithred o anfon e-byst at ddefnyddwyr gyda diben penodol, boed hynny i godi ymwybyddiaeth, codi arian, neu hyrwyddo digwyddiad. Dyma’r ffurf fwyaf poblogaidd a llwyddiannus o farchnata, efallai, a dylai sefydliadau o bob math a maint ei defnyddio.
Mae digon o feddalwedd marchnata drwy e-bost y gall sefydliadau treftadaeth ei ddefnyddio i wella’u marchnata. Ystyriwch Mailchimp, DotDigital, a GetResponseGetResponse. Mae llawer o opsiynau eraill, felly mesurwch eich adnoddau a dewis yr un sy’n gweddu orau i’ch anghenion.
Browse related resources by smart tags:
Content Content creation Digital content Digital tools Email marketing SEO Social media strategy Website

Please attribute as: "What are the digital basics I need for content development in my organisation? (2022) by Ioan Marc Jones, Charity Digital supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0