
How online events can increase audience engagement and donations
1. Cefndir
Rebecca: Celia, fyddai ots gyda chi roi ychydig o deimlad cyffredinol i ni sut mae pethau wedi bod i chi ers i ni siarad â chi ddiwethaf?
Celia: Wrth gwrs. Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn yn recriwtio Bwrdd Ymddiriedolwyr newydd ar gyfer yr Ymddiriedolaeth, hynny yw, yr Ymddiriedolaeth sy’n gofalu am faterion busnes y Playhouse. Rydyn ni hefyd wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu’r Cyngor i redeg ochr yn ochr â hyn. Rydyn ni’n gobeithio, drwy ddod ag arbenigedd newydd i mewn, y bydd hyn yn ein helpu i ddarparu gwaith codi arian mwy effeithiol ar draws ein gwahanol haenau gwaith.
Fi yw’r unig weithiwr cyflogedig yn y Rose, felly mae fy amser wedi bod dan straen yn y flwyddyn ddiwetha’ yma, ond rydyn ni’n dal wedi cadw ar ben y digwyddiadau ar-lein. Dyna o ble mae’r rhan fwyaf o’n gwaith codi arian wedi dod. Rydyn ni wedi gweld, o gymharu â’r hyn mae’r Rose wedi gallu ei wneud yn y gorffennol, bod casglu rhoddion drwy ddigwyddiadau ar-lein wedi bod yn fuddiol iawn i’n gwaith codi arian.
Rydyn ni wedi gweld bod casglu rhoddion drwy ddigwyddiadau ar-lein wedi bod yn fuddiol iawn i’n gwaith codi arian.
Allan o hyn hefyd, daeth cyfle i ni annog cyfeillion a thanysgrifwyr o’r amrywiol gynulleidfaoedd sydd wedi tiwnio i mewn i’r digwyddiadau ar-lein o’r holl wahanol rannau o’r byd hefyd, nid dim ond yn genedlaethol. Felly, rydyn ni wedi cael cynulleidfaoedd mwy nag y bydden ni wedi’u cael yn ein gofod bach yn Bankside, lle gallwn ni ond darparu seddi i 50 bobl. Mae hynny wedi bod yn broses ddysgu lem i ni, ac rydyn ni’n adeiladu ar y llwyddiant hynny.
2. Tueddiadau rhoddion ar-lein
Rebecca: Gwych, mae hynny’n swnio fel cangen lwyddiannus iawn o’ch gwaith ymgysylltu digidol. Ydych chi wedi gallu olrhain eich rhoddion ar-lein ers dechrau’r pandemig, ac a ydych chi wedi sylwi ar unrhyw dueddiadau yn y cyfnod yma o ddwy flynedd?
Celia: Rydyn ni wastad wedi arddel diwylliant o’r Cyfeillion yn rhoi’n annibynnol, ond hyd yma dydyn ni ddim wedi dod o hyd i ffordd o roi ar-lein y tu hwnt i PayPal, a dyw hynny ddim yn ddeniadol i lawer o bobl. Felly, rydyn ni’n ceisio mynd i’r afael â hyn yn rhan o wefan newydd rydyn ni’n ei datblygu hefyd.
Fodd bynnag, rydyn ni wedi gallu cadw trywydd o’r rhoddion rydyn ni wedi’u casglu ochr yn ochr â’r tocynnau sydd wedi’u prynu i’n digwyddiadau ar-lein. Yr hyn rydyn ni wedi’i ganfod yw os oes gan bobl ddiddordeb mawr yng ngwaith y Rose, a diddordeb arbennig yn y math penodol yma o ddigwyddiad, boed hynny’n archeoleg ddata, neu’r math hynny o beth, mae hyn wedi sbarduno gwahanol lefelau o roddion. Mae rhai pobl sydd o bosibl am roi pum neu ddeg punt, ond rydyn ni hefyd wedi cael pobl sydd wedi rhoi cannoedd o bunnoedd, ac mae hyn yn dweud wrthym mai dyna’r diddordeb sydd ganddyn nhw yn y pwnc penodol sy’n gwneud iddyn nhw eisiau cefnogi.
O hyn hefyd, daeth cyfle i ni annog Cyfeillion a thanysgrifwyr o’r amrywiol gynulleidfaoedd sydd wedi tiwnio i mewn i’r digwyddiadau ar-lein o’r holl wahanol rannau o’r byd hefyd, nid dim ond yn genedlaethol.
3. Canolbwyntio ar ddiddordebau pobl
Rebecca: Rydych chi’n sôn am ehangu eich cynulleidfa i gynnwys cynulleidfaoedd rhyngwladol. Efallai dyma pam hefyd rydych chi’n cael rhai o’r rhoddion mwy rydych chi’n siarad amdanyn nhw – efallai oherwydd bod rhyw elfen o newydd-deb amdanyn nhw o dramor. O ran eich cynlluniau at y dyfodol, oes gennych chi gynlluniau i greu digwyddiadau codi arian ar raddfa fwy, efallai’n benodol hyd yn oed i ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd rhyngwladol?
Celia: Oes, mae cynlluniau gyda ni, ond yn ddiweddar rydyn ni wedi canolbwyntio ar y Bwrdd newydd sy’n dod i mewn, ac mae rhai pethau nad ydyn ni wedi’u cwblhau eto – yn benodol, y gwaith cloddio mae angen i ni ei wneud.
Hoffen ni hefyd gael cyfleuster lle gallai pobl wylio darganfyddiad y cloddio oherwydd ein bod ni’n teimlo y bydd hynny’n denu cynulleidfaoedd newydd. Ond nid drwy ddigwyddiad fyddai hynny. Rydyn ni’n gobeithio gwneud hyn drwy ryw fath o gyfrwng adrodd straeon yn ddigidol, boed yn fideo neu’n borth ar-lein, y gallai darpar roddwyr ymgysylltu ag ef i weld y gwaith rydyn ni’n ei wneud – ac rydyn ni’n gobeithio y byddai hyn yn denu’r rhoddion mawr. Ond mae’n rhaid bod llawer o gyllid yn ei le gyda ni cyn i ni allu gwneud rhywbeth fel hynny.
Rebecca: Mae hynny’n ddiddorol. Mae’n swnio fel petaech chi’n sôn am ddefnyddio gwahanol ddulliau ar-lein i dargedu’r rhoddion llai, rhoddion rheolaidd a’r rhoddion mawr.
Celia: Mae hynny’n iawn, ydy, ac rydyn ni am allu canolbwyntio ar yr hyn mae gan bobl ddiddordeb ynddo. Beth rydyn ni wedi’i weld yw nad yw’n ddigon dweud bod gwir angen yr arian arnon ni. Mae’n anodd iawn denu arian pan nad yw pobl yn gallu gweld i ble mae’n mynd – mae’n hawdd iawn pan fyddwch chi’n adeiladu theatr fel y Sam Wannamaker Playhouse yn y Globe, ond yn llawer mwy anodd codi arian i rywbeth pan na allwch chi weld y cynnyrch terfynol.
Rydyn ni am allu canolbwyntio ar yr hyn mae gan bobl ddiddordeb ynddo. Beth rydyn ni wedi’i weld yw nad yw’n ddigon dweud bod gwir angen yr arian arnon ni.
4. Peidiwch byth â dweud byth
Rebecca: Iawn. Mae’n ddiddorol sut mae’r elfen honno o adrodd stori’n ddigidol yn dod yn wirioneddol bwysig pan na allwch chi ddibynnu ar ofod ffisegol. Ond hefyd mae’n ymddangos fel petaech chi felly’n fwy creadigol yn y ffyrdd hynny oherwydd bod yn rhaid i chi greu cysylltiad gweledol ar gyfer darpar roddwyr mewn ffordd ychydig yn wahanol.
Felly, ydych chi’n bwriadu dychwelyd i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb llai? Neu a ydych chi’n gweld rhyw fath o fodel cymysg o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein yn parhau?
Celia: Dwi’n credu bod y profiad yma wedi dysgu i ni na ddylech chi byth â dweud byth mewn perthynas ag unrhyw beth. Os yw rhywbeth wedi esgor ar lwyddiant i chi, peidiwch â throi’ch cefn arno. Ydyn, rydyn ni’n gobeithio gwneud rhai digwyddiadau cymysg. Ond am y tro, mae’r adeilad uwchben yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd a rhan olaf eu gwaith ailadeiladu fydd ein waliau allanol, felly mae dal cryn dipyn o waith ffisegol go iawn i’w wneud.
Mae gyda ni gynulleidfa na allen ni byth ei hefelychu yn y lle ei hun, ac mae rhai o’r bobl hynny wedi rhoi’n hael.
Rebecca: Gan droi nôl at eich cynlluniau ar gyfer y ganolfan ymwelwyr y sonioch chi amdani, oes ffordd gyda chi i bobl allu rhoi i ymgyrchoedd penodol ar eich gwefan?
Celia: Dyna’r hyn rydyn ni yn y broses o’i wella a’i newid, oherwydd nad yw’r cyfleuster yma ar gael ar ein gwefan ar hyn o bryd, ond dyna fydd y nod – sef os yw pobl am roi mwy i’r archeoleg, byddan nhw’n gallu gwneud hynny, ac os oes mwy o ddiddordeb gyda nhw mewn theatr neu addysg, yna gallan nhw roi i’r pethau hynny. Dyna’r uchelgais.
5. Mwy o ddysgu = mwy o ryngweithio
Rebecca: Wrth gwrs. Yn olaf, o ran haen addysg eich gwaith y sonioch chi amdani: ydy hynny’n rhan o’ch strategaeth codi arian hefyd?
Celia: Ydy. Rhan o’r syniad tu ôl i recriwtio Bwrdd newydd oedd dod â phobl i mewn sydd â gwybodaeth a hanes am yr holl feysydd gwahanol yma rydyn ni’n gysylltiedig â nhw, ac roedd un o’n Hymddiriedolwyr sydd newydd ymuno â’r Bwrdd yn Gyfarwyddwr Addysg yn y Globe, ac mae ganddo lawer o gysylltiadau rhyngwladol – fel sy’n wir ar gyfer aelodau eraill o’r Ymddiriedolaeth, felly rydyn ni’n teimlo mai dyma’r ffordd gryfaf i ni allu archwilio’r trywydd arbennig yna a’n rhoi ni’n fwy ar y map.
Mae addysg yn bwysig oherwydd bod Shakespeare wastad ar y cwricwlwm, felly mae ein hanes yn bwysig i ni’n lleol ac yn genedlaethol. Ac rydyn ni am annog ysgolion drama ac ysgolion lleol i ymddiddori hefyd. Nid yw’n rhywbeth rydyn ni wedi gallu ei archwilio lawer yn y gorffennol, heblaw am drwy ymweliadau a theithiau wyneb yn wyneb, ac rydyn ni’n gobeithio bydd y rhain yn dychwelyd.
Rebecca: Ac a ydych chi’n credu bydd elfen gref o’ch rhaglen addysg yn symud ymlaen a fydd yn cynnwys ymgysylltu digidol hefyd, fel bod hynny’n caniatáu i chi gyrraedd cynulleidfaoedd cenedlaethol?
Celia: Ydw. Dwi’n credu ein bod ni’n bwriadu gwneud rhywbeth fel y gallwn ni helpu pobl i gyflawni mwy o ddysgu a mwy o ryngweithio gyda hanes; fel bod pobl yn gallu uniaethu a dysgu mwy am y Rose mewn ffordd wahanol i ddarllen llyfr. Dwi ddim yn sarhau darllen llyfr – ond weithiau mae’n helpu i dargedu ffocws rhywun mewn ffordd wahanol.
Rebecca: Yn sicr, ac mae’n swnio fel petai’r elfen ddigidol wedi bod yn ffordd ddelfrydol i mewn i chi a’ch cynulleidfaoedd:
Celia: Ydy, mae’n rhyfedd oherwydd nad y pandemig yn unig a’n gwthiodd i ddatblygu ein hymgysylltiad ar-lein; y ffaith nad oedden ni’n gallu defnyddio’r adeilad oedd y peth. Felly, mewn ffordd, taro ar draws y ffordd yma o gyfathrebu wnaethon ni, ac wedyn sylweddoli bod ffordd hir o’n blaenau. Dwi ddim yn credu bod neb yn y byd wedi disgwyl y posibiliadau a allai esblygu o sefyllfa o’r fath. Mae wedi agor drysau ac wedi agor llygaid i ffyrdd gwahanol ymlaen, o ran codi arian ac o ran gweithrediadau.
Mae gyda ni ddilynwyr teyrngar iawn, ond y syniad yw, drwy ddigwyddiadau sydd wedi’u ffocysu ychydig yn wahanol, gallen ni ddenu mwy o ddiddordeb gan bobl eraill.
Dydych chi byth yn mynd i allu cynnal pawb ar gyfer popeth, ond rydyn ni wedi dysgu ei bod yn bwysig i ni gynnig rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau oherwydd y bydd hynny’n cynhyrchu mwy o arian.
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Digital fundraising Donations Engagement Fundraising

Please attribute as: "How online events can increase audience engagement and donations (2022) by Rebecca Ward supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0