How to run excellent online events to engage my visitors
1. Manteision digwyddiadau ar-lein
Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae digwyddiadau ar-lein wedi bod yn hanfodol i sefydliadau gadw mewn cysylltiad â’u cynulleidfaoedd. Yn ystod y pandemig, bu’n rhaid i lawer o sefydliadau symud yn gyflym i ddigwyddiadau ar-lein i barhau’n berthnasol i’w cymunedau, eu cynulleidfaoedd a’u hymwelwyr. Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb yn dychwelyd yn raddol, ac eto mae llawer o sefydliadau’n dewis cadw rhai o’u digwyddiadau ar-lein, diolch i lu o fanteision mae’r digwyddiadau hyn yn gallu eu darparu, yn arbennig ar gyfer sefydliadau treftadaeth.
Mae llawer o sefydliadau treftadaeth yn rhai mewn lleoliadau neu ar safleoedd, sy’n gallu peri heriau i bobl a fyddai’n ymgysylltu â’ch sefydliad mewn ffordd arall. Gall yr heriau hyn gynnwys pethau fel daearyddiaeth, symudedd, a mynediad, ochr yn ochr ag effeithiau ariannol teithio i leoliad os nad yw rhywun yn lleol i ardal eich sefydliad.
Er y gallai’r rhwystrau hyn fod yn cyfyngu ar nifer y bobl y gallwch chi eu cyrraedd ac ymgysylltu â nhw wyneb yn wyneb, gall digwyddiadau ar-lein ddarparu ateb i rai o’r heriau hyn a’ch helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach. P’un a ydych chi wedi bod yn darparu digwyddiadau ar-lein dros y blynyddoedd diwethaf, neu heb gynnal eich digwyddiad cyntaf eto, mae’n sicr yn werth deall sut i ddarparu digwyddiadau ar-lein sy’n llwyddo i ddenu eich ymwelwyr.
2. Deall anghenion eich cynulleidfa
Y cam cyntaf i ddarparu digwyddiad llwyddiannus yw deall pwy yw eich cynulleidfa neu pwy a allai fod. Mae’n bwysig cadw golwg ar y gynulleidfa rydych chi’n cynllunio’r digwyddiad ar ei chyfer o ddechrau’r broses a gwreiddio hyn wrth galon eich holl waith cynllunio i sicrhau bod eich digwyddiad yn berthnasol iddyn nhw ac yn darparu’r hyn sydd ei angen arnyn nhw. Er enghraifft, bydd digwyddiad yn edrych yn eithaf gwahanol os yw ar gyfer aelodau’r cyhoedd sydd yn megis dechrau dod i adnabod eich sefydliad treftadaeth o gymharu â chyfarfod cyffredinol blynyddol ar gyfer aelodau neu randdeiliaid. Bydd deall pwy hoffech chi eu targedu ar gyfer eich digwyddiad yn helpu i’ch tywys drwy’r broses gynllunio ac yn eich cefnogi i wneud penderfyniadau a fydd yn arwain at ymgysylltiad dyfnach gan eich ymwelwyr neu’ch cynulleidfa.
Unwaith mae’r gynulleidfa mewn golwg gennych chi, gallwch chi ddechrau creu eich digwyddiad. Mae ystod o bethau gwahanol i’w hystyried yn y cam yma:
Ffurf y digwyddiad
Fydd y digwyddiad yn gynhadledd diwrnod cyfan? Fydd e’n araith ysbrydolgar sy’n para awr? Fydd e’n daith dywysedig neu’n sesiwn holi ac ateb ryngweithiol? Meddyliwch am yr hyn fyddai gan eich cynulleidfa y diddordeb mwyaf mewn ymgysylltu ag ef ac am ba mor hir maen nhw’n debygol o ymrwymo i hyn. Os mai ffocws eich digwyddiad yw cyflwyno cymunedau newydd i’ch sefydliad treftadaeth, yna mae digwyddiad byrrach yn fwy tebygol o apelio at gynulleidfaoedd, tra bod cynulleidfaoedd presennol yn debygol o ymrwymo mwy o amser i fynychu’ch digwyddiad.
Amseriadau
Mae penderfynu pryd rydych chi am gynnal eich digwyddiad yn allweddol i sicrhau ei fod mor hygyrch â phosibl i’ch cynulleidfa darged. Ystyriwch pa heriau y gallai eich cynulleidfa fod yn eu hwynebu o ran mynychu digwyddiad yn ystod yr wythnos neu ar y penwythnos, yn ystod y dydd neu gyda’r nos. Er enghraifft, os mai ar deuluoedd gyda phlant ifanc mae’ch ffocws, yna gallech chi fod am ystyried osgoi digwyddiadau sy’n mynd ymlaen yn hwyrach yn y nos neu sy’n para’n rhy hir. Dylech chi hefyd ystyried dyddiadau pwysig fel gwyliau crefyddol neu ddyddiadau hanner tymor a allai effeithio ar argaeledd tebygol eich cynulleidfa darged i fynychu eich digwyddiad.
Llwyfan
Sut byddwch chi’n llwyfannu’ch digwyddiad ar-lein? Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o wahanol lwyfannau digwyddiadau wedi ymddangos sy’n gallu cynorthwyo gyda denu cynulleidfaoedd ar-lein mewn ffyrdd gwahanol. Bydd y math o lwyfan byddwch chi’n ei ddefnyddio’n dibynnu ar y math o ddigwyddiad a ffurf sydd ar waith gennych. Ystyriwch a ydych chi am i’r digwyddiad gael ei ddarlledu i gynulleidfa heb gyfathrebu dwy ffordd, neu a ydych chi am annog sgwrs rhwng y mynychwyr. Meddyliwch a fyddai’n well gan eich cynulleidfa weld rhywbeth yn fwy goddefol neu fod yn gyfranogydd gweithredol yn y digwyddiad. Unwaith rydych chi wedi ystyried sut hoffech chi ymgysylltu â’ch cynulleidfa yn ystod y digwyddiad, yna gallwch chi ddewis llwyfan a fydd yn cyflawni orau yr hyn sydd gennych chi mewn golwg. [Am fwy o wybodaeth am lwyfannau sydd ar gael a’u manteision, gweler yr adnodd ‘Teclynnau i gynorthwyo’ch digwyddiad ar-lein’.]
Mynediad
Gall digwyddiadau ar-lein fod yn atebion effeithiol i rai rhwystrau i fynediad, ond mae dal pethau ychwanegol y gallwch chi eu gwneud neu eu hystyried i sicrhau bod eich digwyddiad ar-lein mor hygyrch â phosibl. Ystyriwch a allwch chi gynnig isdeitlau neu gapsiynau ar gyfer eich digwyddiad, neu os gallwch chi gyflogi cyfieithydd iaith arwyddion fel lefel sylfaenol o gymorth os oes cyllid ar gael gennych chi. Byddwch yn glir bob amser pa gymorth hygyrchedd sydd ar gael ar gyfer eich digwyddiad a holwch bobl adeg archebu a oes ganddyn nhw unrhyw ofynion hygyrchedd fel y gallwch chi roi pethau yn eu lle i’w cefnogi i fynychu.
Fel man cychwyn defnyddiol wrth drafod hygyrchedd, mae wastad yn well holi eich cynulleidfa beth sydd ei angen arnyn nhw a sut gallwch eu cefnogi yn y ffordd orau, am fod anghenion pawb yn unigryw. Mae hefyd yn bwysig ystyried diogelu yma os bydd eich digwyddiad ar gyfer cyfranogwyr a grwpiau agored i niwed. Am fwy o wybodaeth am y pwnc yma, ewch i’r adnodd penodol Sut i wneud eich digwyddiadau a’ch gweithgareddau ar-lein mor ddiogel, hygyrch a chynhwysol â phosibl.
Prisio a chyllidebu
Mae llawer o ffyrdd gwahanol o lunio cynllun prisio ar gyfer eich digwyddiad. Mae’n ddefnyddiol ar y cam hwn i ystyried diben eich digwyddiad, eich cynulleidfa darged a’ch cyllideb. Os yw eich digwyddiad neu’ch sefydliad yn cael ei gyllido, mae’n bosibl na fydd angen i chi gynhyrchu incwm drwy werthu tocynnau, sy’n rhoi mwy o hyblygrwydd i chi gyda’ch prisio, a bydd yn gwneud eich digwyddiad yn fwy hygyrch i fwy o bobl. Os oes angen i’ch digwyddiad dalu am ei gostau ei hun neu gyfrannu at amser staff a threuliau gweithredu, yna bydd creu cyllideb a strwythur prisio’n hanfodol i ddeall ymarferoldeb eich digwyddiad i sicrhau bod eich prisio a’ch targedau’n gallu talu am gostau pethau fel ffioedd siaradwyr a chostau llwyfannu digwyddiadau.
Pan fyddwch chi’n meddwl am eich cynulleidfa darged ar gyfer y digwyddiad, ystyriwch a oes unrhyw rwystrau y gallai prisio clyfar helpu i’w dileu. Mae costau ar gyfer digwyddiadau ar-lein yn tueddu i fod yn is am fod llai o gostau caled yn gysylltiedig â lleoliadau neu arlwyo, ac mae natur ar-lein y digwyddiad yn rhoi’r posibilrwydd i chi werthu mwy o docynnau am fod llai o ffactorau cyfyngol o ran capasiti’r digwyddiad.
Y broses archebu
Rhan allweddol o sefydlu eich digwyddiad yw rheoli’r gyfradd ymateb neu werthiant tocynnau. Mae’n bosibl bod gennych chi system rheoli perthnasau cwsmeriaid (CRM), swyddfa docynnau, neu gronfa ddata yn barod sy’n gallu rheoli’r tocynnau drostoch chi. Os nad oes un gennych chi, mae teclynnau gwahanol ar-lein sy’n gallu eich helpu i wneud hyn. Mae rhai o’r opsiynau hyn yn cael eu trafod yn yr adnodd ‘Teclynnau i gefnogi’ch digwyddiad ar-lein’. Am y gallai eich digwyddiad ar-lein gyrraedd pobl nad ydych chi wedi ymgysylltu â nhw o’r blaen, mae’n ddefnyddiol ystyried pa wybodaeth y byddai o gymorth ei chasglu ganddyn nhw i’ch helpu i greu perthynas gyda nhw yn y dyfodol. Gyda rhai teclynnau cofrestru ar-lein, fel EventBrite, gallwch chi ychwanegu cwestiynau ychwanegol neu sbardunau casglu gwybodaeth i’ch proses archebu, felly mae’n bosibl y byddwch chi am roi’r opsiwn i’ch mynychwyr danysgrifio i’ch newyddlen, neu ddewis clywed mwy am eich digwyddiadau yn y dyfodol.
Ystyriwch hefyd pa wybodaeth y byddai’n ddefnyddiol ei chasglu amdanyn nhw fel cynulleidfa: o ble maen nhw’n dod? Ble cawson nhw wybod am eich digwyddiad? Ydyn nhw wedi ymweld â’ch safle treftadaeth o’r blaen? Ystyriwch sut gallai eich digwyddiad gynorthwyo gyda thyfu ac ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd yn yr hirdymor, a gofynnwch gwestiynau a fydd yn eich helpu i wneud hynny.
3. Rhaglennu a marchnata
Gan ddibynnu pa fath o ddigwyddiad rydych chi’n ei gynnal, gallai fod o fudd i chi gynnwys siaradwyr allanol yn rhan o’ch rhaglen. Gall rhaglennu siaradwyr gynorthwyo’ch digwyddiad mewn nifer o ffyrdd: gallai gwahodd siaradwyr a fydd yn apelio at eich cynulleidfa darged eich helpu i gyrraedd mwy o bobl; gall ddarparu amrywiaeth i helpu i greu digwyddiad mwy deinamig ac atyniadol; gall ddod ag arbenigedd i’ch digwyddiad nad oes gennych chi o bosibl yn eich tîm eich hun – mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n dibynnu’n drwm ar wirfoddolwyr. Mae’n ddefnyddiol ystyried eich cynulleidfa darged eto: beth mae ganddyn nhw ddiddordeb clywed amdano? Er enghraifft, os ydyn nhw’n gyfarwydd â’ch sefydliad treftadaeth yn barod, yna gallai sgwrs ddyfnach am bensaernïaeth yr adeilad, neu ddwfndreiddiad i wrthrych o’r casgliad gan guradur gefnogi’r grŵp yma i ymgysylltu â rhan o’ch gwaith nad ydyn nhw’n gwybod amdano eisoes. Os yw eich cynulleidfa yn gymharol newydd i’ch sefydliad, yna gallai fod yn fwy apelgar cynnig rhagarweiniad ehangach i bwnc gan rywun y byddai ganddyn nhw ddiddordeb gwrando ganddyn nhw, er enghraifft, rhywun lleol sy’n adnabyddus sy’n gysylltiedig â’ch sefydliad.
I gadw ffocws eich digwyddiad gymaint ar y gynulleidfa â phosibl, rhowch fanylion penodol am bwy rydych chi’n eu targedu i fynychu eich digwyddiad pan fyddwch chi’n briffio’ch siaradwyr, er mwyn sicrhau bod y cynnwys maen nhw’n ei ddarparu’n ateb anghenion eich cynulleidfa.
Pan fydd holl fanylion eich digwyddiad yn barod i’w hyrwyddo, gallwch chi ddechrau marchnata’ch digwyddiad. Gan feddwl unwaith eto am eich cynulleidfa darged, ystyriwch y ffyrdd gorau o gyrraedd y bobl hynny o bosibl. Os yw’r gynulleidfa darged ar gyfer eich digwyddiad ar-lein yr un peth â’ch cynulleidfa wyneb yn wyneb gyffredin, pobl sy’n aelodau gyda chi, neu bobl y mae gyda chi berthynas gyda nhw’n barod, yna mae defnyddio’ch newyddlenni, eich gwefannau a’ch tudalennau’ch hun ar y cyfryngau cymdeithasol yn lleoedd da i ddechrau.
Os ydych chi’n dymuno cyrraedd cynulleidfaoedd newydd drwy eich digwyddiad, mae’n ddefnyddiol ystyried sut gallech chi gyrraedd y bobl hynny, ac a oes unrhyw sefydliadau neu grwpiau eraill a allai helpu i hyrwyddo’ch digwyddiad ymysg eu cysylltiadau eu hunain. Er enghraifft, os ydych chi’n dymuno cyflwyno pobl ifanc i’ch sefydliad treftadaeth, gallwch chi gysylltu ag ysgolion neu grwpiau rhieni lleol i hysbysebu eich digwyddiad. Oes unrhyw grwpiau cymunedol neu elusennau lleol sy’n gweithio gyda’ch cynulleidfaoedd targed y gallech chi bartneru gyda nhw? Mae grwpiau lleol yn bwynt cychwyn da, am fod ganddyn nhw ymwybyddiaeth o’ch sefydliad yn barod o bosibl. Fodd bynnag, mantais wych i ddigwyddiadau ar-lein yw nad yw lleoliad yn peri rhwystr, felly ewch amdani o ran sut i gyrraedd cynulleidfaoedd posibl, a pheidiwch â chyfyngu eich carfan o fynychwyr posibl i bobl sy’n lleol i chi – oni bai mai dyna’ch cynulleidfa darged, wrth gwrs. Rhan allweddol o farchnata yw sicrhau eich bod hefyd yn cyfathrebu’n dda gyda’ch cynulleidfa, felly meddyliwch am yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrth eich cynulleidfa bosibl am y digwyddiad, a sicrhewch fod unrhyw gopi marchnata’n hygyrch ac yn berthnasol i’r bobl rydych chi’n ceisio’u cyrraedd.
4. Cynnal digwyddiad ar-lein ag adnoddau cyfyngedig
Unwaith i chi gynllunio a hyrwyddo’ch digwyddiad, ac mae pobl yn ymrwymo iddo, mae’n bryd dechrau meddwl am y gwaith o gynnal eich digwyddiad go iawn. Mae’n bosibl nad oes gan y mwyafrif o sefydliadau treftadaeth bach i ganolig eu maint dîm mawr na llawer o adnoddau i gefnogi yn hyn o beth, ond y newyddion da yw eich bod yn gallu cynnal digwyddiad ar-lein sy’n llwyddiannus ac yn edrych yn broffesiynol gydag adnoddau weddol brin, cyhyd â’ch bod yn ei gynllunio’n dda. Bydd dilyn rhestr wirio’n helpu i sicrhau eich bod wedi paratoi cymaint ag y gallwch chi ar gyfer eich digwyddiad ar-lein, a gwneud cynnal y digwyddiad yn broses lawer llyfnach i bawb sy’n gysylltiedig:
Cynllunio
Meddyliwch sut bydd y digwyddiad a’i holl gydrannau gwahanol yn rhedeg – a fydd croesawr neu gadeirydd, neu rywun a fydd yn cyflwyno’ch siaradwyr? Sawl rhan wahanol sy’n creu’r digwyddiad yn ei gyfanrwydd? Cynlluniwch yr amseriadau ar gyfer y digwyddiad a gwirio gyda phawb sy’n gysylltiedig eu bod yn realistig ac yn ateb disgwyliadau’r amserau rydych yn eu hysbysebu ar gyfer eich digwyddiad. Yn aml, gall nodi’r drefn fanwl ar gyfer y digwyddiad godi cwestiynau neu bethau y mae angen meddwl amdanyn nhw, felly mae’n broses ddefnyddiol i fynd drwyddi yn ogystal ag yn ddogfen gynorthwyol i’w chadw gyda chi ar y dydd i gadw at amser.
Profi
Ymgyfarwyddwch â llwyfan eich digwyddiad, hyd yn oed os ydych chi wedi’i ddefnyddio o’r blaen. Mae’n eithriadol o ddefnyddiol ymarfer gyda’r llwyfan ar-lein rydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer y digwyddiad, fel nad oes unrhyw syrpreisys ar y dydd ac i sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â’r cynnal yn gyfforddus ac yn hyderus yn defnyddio’r llwyfan ar-lein. Mae hefyd yn gyfle da i wirio bod fideo a sain pawb yn edrych ac yn swnio cystal ag sy’n bosibl. Mae rhai awgrymiadau a thriciau yn yr adnodd ‘Cael y gorau o’ch fideo a’ch sain‘ os hoffech chi rywfaint o arweiniad ar hyn.
Ymarfer
Cynhaliwch sesiwn ymarfer i redeg drwy bethau gyda’ch siaradwyr. Mae hwn yn gyfle da i wirio bod y cynnwys maen nhw wedi’i baratoi yn cyd-fynd â’ch disgwyliadau a’i fod yn ateb anghenion y gynulleidfa a’ch addewidion marchnata.
Technoleg
Meddyliwch am yr holl elfennau technegol y bydd angen iddyn nhw ddigwydd yn ystod eich digwyddiad a phenodwch rywun i’w rheoli. Gallech benodi un person drwy gydol y digwyddiad i reoli’r holl dechnoleg, neu gellid rhannu hyn ar draws sawl un. Mae’n ddefnyddiol cael gwybod pwy yn eich tîm staff neu wirfoddolwyr sy’n teimlo’n fwyaf hyderus yn gwneud y math yma o beth fel eich bod yn gallu manteisio ar gryfderau pobl. Gan ddibynnu pa lwyfan digwyddiadau rydych chi’n ei ddefnyddio, gall elfennau technegol gynnwys pethau fel: dechrau’r digwyddiad, caniatáu mynediad i westeion o ystafell aros, rhannu sleidiau cyflwyniadau, delweddau, neu fideos, rheoli pa siaradwyr sy’n weladwy yn ystod gwahanol rannau o’r digwyddiad, monitro unrhyw negeseuon yn y gofod sgwrsio, symud pobl i ystafelloedd trafod, rhannu cwestiynau ac atebion ar bolau, recordio’r digwyddiad a dod â’r digwyddiad i ben. Yr allwedd i deimlo’n gyfforddus gyda’r elfennau hyn yw ymarfer gyda nhw gymaint o weithiau ag y gallwch chi. Po amlaf yr ymarfer, y mwyaf hyderus byddwch chi, felly sicrhewch eich bod yn neilltuo amser i redeg drwy’r elfennau hyn sawl gwaith gydag aelodau eraill o’ch tîm cyn eich digwyddiad fel eich bod yn teimlo’n barod. Mae hyn yn beth hawdd iawn i’w wneud gyda thîm bach ac adnoddau prin, a dim ond ychydig iawn o amser sydd wedi ei neilltuo ar ei gyfer.
Ar ddiwrnod eich digwyddiad, tynnwch unrhyw siaradwyr, croesawyr a staff cymorth technegol a fydd yn gweithio ar gynnal y digwyddiad at ei gilydd o leiaf 30 munud cyn i’ch digwyddiad ddechrau, neu’n hirach yn dibynnu faint o bobl sy’n gysylltiedig yn y cynnal gyda chi. Bydd hyn yn rhoi cyfle arall i chi wirio bod fideo a sain pawb yn gweithio’n dda, bod gan bawb bopeth sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer y digwyddiad, ac mae’n caniatáu amser i redeg drwy unrhyw gwestiynau terfynol sydd gan unrhyw un. Mae hefyd yn ddefnyddiol tynnu eich siaradwyr a’ch cyflwynwyr at ei gilydd yng ngofod eich digwyddiad ar-lein fel eu bod yn cael cyfle i gynhesu a theimlo’n barod ar gyfer y digwyddiad, yn hytrach na chyrraedd ar y funud olaf a theimlo’n frysiog neu’n amharod o bosibl.
5. Gwerthuso’ch digwyddiad
Unwaith i’ch digwyddiad gael ei gynnal, mae’n bwysig casglu adborth am brofiad eich cynulleidfa. Bydd hyn yn eich helpu i feddwl am eich gweithgarwch a’ch digwyddiadau yn y dyfodol mewn perthynas â’r gynulleidfa arbennig honno, a’ch cynnig digwyddiadau ar-lein yn ei gyfanrwydd. Ar y pwynt yma, mae’n ddefnyddiol mynd nôl i ddechrau’r broses cynllunio’ch digwyddiad: beth roeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Pwy roeddech chi am eu cyrraedd? Pa brofiad roeddech chi am ei roi i’ch cynulleidfa? Beth roeddech chi am i’ch cynulleidfa ei feddwl a’i deimlo am eich sefydliad treftadaeth?
Gallwch chi ddefnyddio’r sbardunau hyn fel man cychwyn i greu cwestiynau ar gyfer eich ffurflen werthuso. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall os gwnaeth eich digwyddiad gyflawni’r hyn roeddech yn ceisio’i gyflawni. Ar gyfer ffurflenni gwerthuso ar-lein, mae’n ddefnyddiol cadw’r arolygon yn gryno er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn rhannu eu hadborth gyda chi, am fod arolygon hirfaith yn troi pobl i ffwrdd a chreu rhwystr rhag cael y mewnwelediad hwnnw. I gyflawni hyn, meddyliwch beth sy’n hanfodol i chi ei wybod, a pha wybodaeth a fydd wir yn eich helpu i gynyddu ymgysylltiad gyda’ch cynulleidfaoedd yn y dyfodol. Os yw rhywbeth yn teimlo fel petai’n werth ei wybod, ond rydych chi’n annhebygol o gymryd unrhyw gamau gweithredu ar sail yr adborth, yna tynnwch hwnnw allan fel mai dim ond cwestiynau hanfodol rydych chi’n eu gofyn. Am fwy ar bwnc gwerthuso ar-lein, edrychwch ar yr adnodd Sut i gael adborth ymwelwyr ar-lein i wella’r hyn rydych chi’n ei wneud’.
Unwaith i chi dderbyn adborth ar gyfer eich digwyddiad, neilltuwch amser i’w adolygu’n iawn. Ystyriwch a wnaeth y digwyddiad helpu i ymgysylltu â’r bobl roeddech chi’n gobeithio y byddai’n ymgysylltu â nhw, ac a gawson nhw brofiad cadarnhaol. Gallwch chi ddefnyddio’r mewnwelediad yma i adeiladu ar eich cynlluniau ar gyfer digwyddiadau ar-lein yn y dyfodol i gefnogi gydag ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd a chyrraedd rhai newydd.
6. Cynllunio ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn y dyfodol
Yn y dirwedd ddigidol newydd yn dilyn y pandemig, gall digwyddiadau ar-lein chwarae rhan werthfawr yn eich strategaeth ymgysylltu â chynulleidfaoedd, ochr yn ochr â digwyddiadau wyneb yn wyneb, felly mae’n ddefnyddiol ystyried beth yw eich nodau yma ar gyfer y cynnig ar-lein o’i gymharu â’r cynnig wyneb yn wyneb a sut gallan nhw weithio i gefnogi ei gilydd.
Gallwch chi hefyd ystyried pa elfennau o ddysgu ar-lein y gallwch chi eu defnyddio i gefnogi eich profiadau a’ch digwyddiadau wyneb yn wyneb. O ymestyn cynulleidfaoedd, cynyddu hygyrchedd ac ymgysylltu â chymunedau newydd, mae llawer o ffyrdd y gallwch chi a’ch sefydliad treftadaeth gyfuno’ch ymgysylltiad wyneb yn wyneb gyda chynigion digidol. I feddwl mwy am y dull gweithredu cyfunol yma, gallwch chi wylio recordiad Y Lab Treftadaeth Ddigidol ‘Defnyddio dulliau digidol i gefnogi’ch cynnig dysgu wyneb yn wyneb ar ôl ailagor’.
Browse related resources by smart tags:
Audience development Digital engagement Events Online Online audience engagement Online participation
Please attribute as: "How to run excellent online events to engage my visitors (2022) by Danielle Patrick supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0