
Tools to support your online event
Dyma ddetholiad bach o rai o’r teclynnau ar-lein y byddwch am ystyried eu defnyddio o bosibl i gefnogi darparu eich digwyddiad, gan gynnwys ffyrdd o gofrestru’ch mynychwyr a darparu tocynnau ar gyfer eich digwyddiad, llwyfannau ar gyfer cynnal eich digwyddiad, a ffyrdd gwahanol o werthuso’ch digwyddiad drwy arolygon ar-lein. Mae’r enghreifftiau hyn yma i roi mewnwelediad i chi i rai o’r teclynnau a gaiff eu defnyddio’n rheolaidd yn y sector treftadaeth i’ch helpu i archwilio beth sydd ar gael fel man cychwyn, ond ni ddylid eu hystyried yn gymeradwyaeth nac yn argymhellion.
1. Llwyfannau digwyddiadau
Mae amrywiaeth o lwyfannau digwyddiadau ar-lein gwahanol ar y farchnad, ac maen nhw i gyd yn cyd-fynd ag arddulliau a ffurfiau digwyddiadau gwahanol. Dyma rai o’r opsiynau sydd wedi’u defnyddio lawer ar draws y sectorau treftadaeth, y celfyddydau a’r sector diwylliannol. Mae detholiad o wahanol bwyntiau prisio i ateb cyllidebau gwahanol.
Zoom Meetings
Mae hwn yn llwyfan isel ei gost, sy’n gyfarwydd i lawer o bobl, ac mae’n dda ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys cyfranogiad neu drafodaeth gan y gynulleidfa. Mae modd defnyddio Zoom Meetings hefyd i rannu pobl yn grwpiau trafod llai i sgwrsio, er nad oes modd recordio sgyrsiau mewn grwpiau trafod. Mae blwch sgwrsio lle gall pobl deipio cwestiynau a sylwadau, a gall aelodau o’r gynulleidfa ddewis agor eu camerâu a’u meicroffonau i siarad. Gallai Cyfarfodydd Zoom Meetings fod yn dda ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol blynyddol, digwyddiadau rhwydweithio, trafodaethau, gwasanaethau ysgol a chyfarfodydd cymunedol: https://zoom.us/pricing
Zoom Webinars
Mae’r llwyfan yma’n debyg i Zoom Meetings, ond wedi’i gynllunio ar gyfer cyfathrebu mwy un ffordd â chynulleidfa. Ar Weminar Zoom, dim ond y croesawyr a’r siaradwyr sydd i’w gweld ar y sgrin, ac mae’r gynulleidfa yn wylwyr yn hytrach nag yn gyfranogwyr gweithredol. Fodd bynnag, mae opsiwn i gael blwch sgwrsio ar gyfer sgwrs, a blwch holi ac ateb gwahanol, felly mae’n hawdd i groesawr neu siaradwr weld cwestiynau’r gynulleidfa yn hytrach na’u bod wedi’u cymysgu gyda’r sgwrs gyffredinol. Am fod aelodau o’r gynulleidfa’n gyfranogwyr mwy goddefol ar Zoom Webinars, nid yw grwpiau trafod yn opsiwn. Byddai Zoom Webinars yn dda ar gyfer sgyrsiau, cyflwyniadau, sesiynau briffio a chynadleddau gyda sesiynau trac sengl: https://zoom.us/pricing
Hopin
Mae’r llwyfan yma’n ceisio darparu rhywbeth ar-lein sy’n cyfateb i ddigwyddiad neu gynhadledd wyneb yn wyneb drwy ddarparu nifer o wahanol ardaloedd i’ch cynulleidfa ymgysylltu â nhw. Mae ardal Prif Lwyfan ar gyfer sgyrsiau cyfeirnod, ac ardal Sesiynau lle gellir cynnal sawl sesiwn ar yr un pryd, ardal Rwydweithio lle caiff aelodau o’r gynulleidfa’n eu paru ar hap i gael trafodaeth fel unigolion, ac ardal Arddangos (Expo) ar gyfer arddangosfeydd neu adnoddau rhithwir. Gall mynychwyr neidio i mewn (‘hop in’) ac allan o’r ardaloedd hyn mor aml ag yr hoffen nhw a hyd yn oed rhwng sesiynau sy’n rhedeg ar yr un pryd. Mae Hopin yn cynnig dull o deilwra drwy ei holl gynlluniau prisio yn ogystal â modd o integreiddio gydag amrywiaeth eang o declynnau ac apiau. Byddai Hopin yn dda ar gyfer cynadleddau sy’n cynnwys sesiynau sy’n rhedeg yr un pryd a gofod i bartneriaid neu noddwyr arddangos: https://hopin.com/pricing
Airmeet Conference
Mae’r llwyfan yma’n debyg i Hopin am ei fod wedi’i gynllunio i gefnogi digwyddiadau gyda sawl sesiwn ar yr un pryd, ac mae ganddi opsiynau i gefnogi gyda gweithgarwch noddwyr neu arddangoswyr. Mae Airmeet yn cynnig rhwydweithio un i un ochr yn ochr ag ardal Lolfa (Lounge) lle gall pobl ddod at ei gilydd ar fyrddau rhithwir i rwydweithio mewn grwpiau bach. Un nodwedd sydd gan Airmeet nad oes gan Hopin yw bod gan bob sesiwn ardal ‘cefn llwyfan’ i siaradwyr baratoi cyn i’r sesiwn ddechrau. Byddai Airmeet yn dda ar gyfer cynadleddau sy’n cynnwys sesiynau sy’n cydredeg ac ar gyfer digwyddiadau rhwydweithio lle mae angen trafodaethau un i un ac mewn grwpiau. https://www.airmeet.com/hub/pricing/
Webex
Llwyfan ar-lein yn debyg i Gyfarfodydd Zoom (Zoom Meetings) a Gweminar Zoom (Zoom Webinar) yw Webex. Mae gan Webex weithrededd i gynnal digwyddiadau gyda siaradwr sy’n gallu lanlwytho’u cyflwyniadau PwerBwynt i Webex i roi cyflwyniad, a gall y gynulleidfa gymryd rhan drwy nodweddion fel y blwch sgwrsio, holi ac ateb, bwrw pleidlais, a thrwy droi eu meicroffonau a’u camerâu ymlaen i ryngweithio gydag eraill. Mae modd ei ddefnyddio hefyd am sgyrsiau heb gyflwyniadau. Mae ystafelloedd grwpiau ar gael hefyd fel bod y gynulleidfa’n gallu ymrannu’n grwpiau llai i gael trafodaethau. Mae Webex Events yn cynnal gweithrededd y weminar lle gallwch chi gynnal cyflwyniad ond gall cyfranogwyr gyfathrebu gyda’r hyfforddwr drwy’r blwch sgwrsio neu’r weithrededd holi ac ateb yn unig, fel gyda Zoom Webinars. Byddai Webex hefyd yn dda ar gyfer sesiynau hyfforddi, cyfarfodydd, a sgyrsiau: https://www.webex.com/pricing/index.html
2. Cofrestru ar gyfer digwyddiadau
Mae’n bosibl bod gan rai sefydliadau treftadaeth systemau tocynnau yn barod, neu systemau Rheol Perthnasau Cwsmeriaid (CRM) yn eu lle y gallant eu defnyddio i bobl brynu tocyn i ddigwyddiad. Os nad oes gennych system yn ei lle yn barod, mae rhai opsiynau syml yma sydd ar gael i chi fel y gallwch chi gasglu data gan bobl sy’n ymrwymo i ddigwyddiad.
Eventbrite
Gwefan syml ei defnyddio yw Eventbrite sy’n caniatáu i chi greu tudalen digwyddiad gyda’r holl fanylion y byddai angen i fynychwyr eu gwybod, yn ogystal â ffurflen archebu/dull talu yn yr un lle. Gallwch chi hefyd fewnblannu’ch dull talu yn eich gwefan eich hun fel bod eich cynulleidfa’n aros ar eich tudalen yn lle cael eu cyfeirio at dudalen allanol. Mae Eventbrite hefyd yn cynnig amrywiaeth o adroddiadau, gweithrededd farchnata a rhai dulliau dadansoddi syml. Mae gan Eventbrite sawl cynllun gwahanol ar gael ond mae am ddim bob amser os yw eich digwyddiad hefyd am ddim. Os ydych chi’n gwerthu tocynnau y telir amdanyn nhw, gallwch chi naill ai gynnal y ffioedd a’u talu o’ch refeniw tocynnau, neu drosglwyddo’r gost i brynwyr eich tocynnau. Gallwch chi ddysgu mwy am y gwahanol gynlluniau a’r prisiau yn: https://www.eventbrite.co.uk/organizer/pricing/
Google Forms
Os yw eich digwyddiad am ddim neu os nad ydych chi’n bwriadu codi cyn yr adeg ymrwymo, gallai rhywbeth fel Google Forms fod yn opsiwn da i chi ar gyfer casglu data. Mae Google Forms yn coladu eich holl ddata ar daflen Google Sheet fel y gallwch chi ei gyrchu mewn un lle unwaith i bobl ddechrau ymrwymo i’ch digwyddiad. https://www.google.co.uk/forms/about/
Mae rhai llwyfannau digwyddiadau, fel Zoom, Hopin, ac Airmeet, oll yn cynnig opsiynau cofrestru gyda’u cynlluniau prisio, felly os ydych chi’n dewis defnyddio un o’r llwyfannau ar-lein hyn i gynnal eich digwyddiad, mae opsiwn gyda chi hefyd o gasglu data gydag ymrwymiadau i’r digwyddiad yn uniongyrchol drwy’r llwyfan hefyd.
3. Arolygon ar-lein a ffurflenni adborth
Unwaith i chi gynnal digwyddiad ar-lein, mae’n ddefnyddiol casglu adborth gan eich cynulleidfa fel y gallwch chi gasglu beth weithiodd yn dda iddyn nhw a beth gellid ei wella, fel eich bod chi’n gallu meddwl am y pethau hynny ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Dyma rai opsiynau ar gyfer teclynnau ar-lein sy’n gallu eich cefnogi i roi arolygon neu ffurflenni adborth at ei gilydd a chadw’r data hwn i’w ddefnyddio yn y dyfodol.
SurveyMonkey
Gwefan ar-lein yw SurveyMonkey sy’n eich cefnogi i ddylunio arolygon a chasglu data. Mae’n cynnig templedi hawdd eu defnyddio a ffurfiau aml-gwestiwn i’ch galluogi i greu arolygon yn hawdd. Gall SurveyMonkey ddangos eich data mewn siartiau a graffiau at ddibenion dadansoddi syml ac mae’n cynnig llawer o nodweddion gwahanol ar gyfer teilwra a hidlo. Mae SurveyMonkey yn declyn y telir amdano, ac mae ambell gynllun prisio gwahanol ar gael: https://www.surveymonkey.co.uk/pricing/
Google Forms
Yn ogystal â chael eu defnyddio ar gyfer cofrestru am ddigwyddiadau, gellid hefyd defnyddio Google Forms i gasglu adborth yn dilyn digwyddiad. Nid yw’r dulliau dadansoddi a’r ffurfiau cwestiynau sydd ar gael mor soffistigedig â rhywbeth fel SurveyMonkey, ond gallai fod yn ateb cost isel i gasglu mewnwelediad i ddigwyddiadau gan eich cynulleidfaoedd os ydych chi’n megis dechrau ar ddigwyddiadau ar-lein neu os oes gennych arolwg mewn ffurf syml nad oes angen llawer o nodweddion ychwanegol i gefnogi hynny. https://www.google.co.uk/forms/about/
Mae rhai llwyfannau digwyddiadau hefyd yn cynnig eu dulliau dadansoddi a’u hadroddiadau eu hunain, sy’n gallu rhoi syniad i chi o’r hyn a ddenodd eich cynulleidfa fwyaf yn ystod eich digwyddiad, a beth oedd eu barn gyffredinol am y profiad. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol i gasglu data am y digwyddiad yn benodol, ond yn aml nid oes modd eu teilwra ac maen nhw’n tueddu i gael eu cynnwys yn y cynlluniau uchaf eu prisiau yn unig.
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Events Online Online audience engagement Online participation

Please attribute as: "Tools to support your online event (2022) by Danielle Patrick supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0