Getting the best of your video and sound
Mae’n bwysig bod eich cynulleidfa yn gallu’ch gweld a’ch clywed chi neu eich siaradwyr yn glir yn ystod digwyddiad er mwyn cadw eu hymgysylltiad a helpu gwneud i’ch digwyddiad edrych mor broffesiynol â phosibl. Isod, mae rhestr wirio fyr o awgrymiadau a chymorthion i helpu’ch cefnogi i gael y gorau o’ch sain a’ch fideo yn ystod eich digwyddiadau ar-lein. Does dim angen unrhyw offer na gwybodaeth arbenigol arnoch chi i roi’r rhain ar waith; maen nhw i gyd yn ffyrdd chwim a syml o ennill tir yn helpu gwneud i ansawdd eich fideo a’ch sain swnio cystal ag sy’n bosibl.
1. Awgrymiadau fideo
- Rhowch eich camera ar lefel y llygaid
Gan amlaf, bydd pobl yn defnyddio gwe-gamera fel ategyn, neu we-gamera sydd wedi’i integreiddio mewn gliniadur pan fyddan nhw’n cyflwyno yn ystod digwyddiadau ar-lein. Gall cael lleoliad eich camera’n gywir gael effaith fawr yn hyn o beth. Codwch lefel sgrin eich cyfrifiadur / gwe-gamera i lefel eich llygaid, fel eich bod yn edrych yn syth i mewn i we-gamera fel ei bod yn teimlo fel petaech chi’n siarad yn naturiol â’ch cynulleidfa. Os yw’r gwe-gamera’n rhy uchel neu’n rhy isel, ni fydd y persbectif yn edrych yn naturiol. Os oes gennych chi liniadur, gallwch ei roi ar ben pentwr o lyfrau neu focs fel ateb hawdd i’w osod ar yr uchder iawn ar gyfer lefel eich llygaid. - Rhowch eich hun yn y canol
Pan fydd eich camera’n weithredol, lleolwch eich hun fel eich bod yn ymddangos yng nghanol eich camera’n union yn hytrach nag ar un ochr. Bydd hyn yn sicrhau mai chi yw prif ffocws y fideo ac yn sicrhau bod eich cynulleidfa’n gallu eich gweld yn glir. - Rhowch eich golau ar brawf
Mae sicrhau bod eich golau’n iawn yn allweddol i sicrhau fideo o ansawdd da. Y ffordd o orau o roi eich golau ar brawf yw drwy droi eich camera ymlaen ac edrych beth mae’r golau yn eich ystafell yn ei wneud i chi ar y camera. Er enghraifft, gallai bod nesaf i ffenestr achosi cysgod ar un ochr eich wyneb; gallai eich rhoi o flaen ffenestr roi cysgodlun i chi. Golau artiffisial sydd orau yn aml ar gyfer fideo oherwydd bod mwy o reolaeth drosto, felly mae’n bosibl y byddwch chi am gau eich bleindiau neu’ch llenni a throi’r goleuadau ymlaen yn eu lle, er mwyn sicrhau golau mwy gwastad sy’n llai cyfeiriol. Mae’n ddefnyddiol rhoi’ch golau ar brawf ar yr un adeg o’r dydd ag y byddwch chi’n cynnal eich digwyddiad hefyd, am fod golau’n gallu amrywio ar wahanol adegau o’r dydd. Os oes cylch golau gennych chi, neu lamp y gellir ei hystumio, gall rhoi honno tu ôl i’ch camera a’i phwyntio tuag atoch helpu i sicrhau bod golau da dros eich wyneb ar y fideo hefyd. - Cadwch eich cefndir yn niwtral
Meddyliwch beth gellir ei weld yn eich cefndir pan fyddwch chi ar y fideo. Er nad oes gennych chi lawer o reolaeth o bosibl dros yr hyn sydd y tu ôl chi yn eich fideo, bydd gwneud beth gallwch chi i wneud eich cefndir mor niwtral â phosibl yn helpu eich cynulleidfa i gadw eu ffocws yn ystod y digwyddiad. Os oes wal tu ôl i chi, ceisiwch fod o leiaf ddwy droedfedd i ffwrdd wrthi os gallwch chi. - Cynlluniwch beth i’w wisgo
Gwisgwch rywbeth sy’n cyferbynnu â’ch cefndir er mwyn gwneud i chi sefyll allan. Er enghraifft, os oes wal wen tu ôl i chi, dewiswch liw sy’n cyferbynnu, fel du neu las. Os byddwch chi’n gwisgo rhywbeth rhy olau, fyddwch chi ddim yn sefyll allan o’ch cefndir. Awgrym arall yw ceisio osgoi dillad sy’n rhy batrymog neu streipog am y gall hynny beri anffurfiau pan fyddwch chi’n symud ar y camera. Bloc o liw sy’n gweithio orau.
2. Awgrymiadau sain
- Meicroffon
Yn y rhan fwyaf o gyfrifiaduron a gliniaduron mae meicroffon yn rhan o’r ddyfais, ac yn aml mae gan we-gamerâu sy’n plygio i mewn feicroffonau mewnol hefyd, felly ddylai ddim bod angen unrhyw offer ychwanegol arnoch chi ar gyfer y sain i’ch digwyddiad ar-lein. Fodd bynnag, os oes gennych bâr o glustffonau gyda meicroffon, byddai defnyddio hwnnw’n wych am fod ansawdd y sain yn debygol o fod yn llawer gwell os yw’n nes at eich ceg. - Clustffonau
Hyd yn oed os ydych chi’n defnyddio’r meicroffon mewnol yn eich cyfrifiadur, byddai’n ddefnyddiol defnyddio pâr o glustffonau yn ystod eich digwyddiad ar-lein. Mae defnyddio clustffonau’n golygu na fydd sain pobl eraill yn siarad yn ystod y digwyddiad yn cael ei chodi drwy eich meicroffon a bydd o ddefnydd wrth osgoi unrhyw atsain arall.
Browse related resources by smart tags:
Events Online Online audience engagement Online participation Video
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "Getting the best of your video and sound (2022) by Danielle Patrick supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






