
How do we ensure that people are at the heart of the stories we tell?
Mae’r sector treftadaeth mewn lle unigryw i ddefnyddio straeon sy’n canolbwyntio ar bobl. Mae pobl, eu hanes, eu cymunedau, eu hunaniaeth, eu diwylliant a’u hanes llafar i gyd wrth wraidd llawer o sefydliadau treftadaeth. Yn wahanol i ddiwydiannau sy’n seiliedig ar gynhyrchion neu wasanaethau, mae pobl yn ymweld â’ch lleoliad, maen nhw’n dysgu’r straeon sydd wedi digwydd ynddo, ac maen nhw’n eu cynnal ac yn eu rhannu.
Gallwch chi sicrhau bod pobl wrth wraidd y straeon rydych chi’n eu hadrodd… drwy sicrhau bod pwyslais ar y bobl ym mhopeth rydych chi’n ei wneud.
Os ydych chi’n canolbwyntio ar y bobl, ar yr hyn maen nhw am ei wybod, beth bydd yn eu hysbrydoli, eu diddanu, neu beth yw eu dyheadau, yna gallwch chi greu straeon sy’n rhoi iddynt yr hyn maen nhw’n chwilio amdano.
Bydd yr adnodd yma’n cefnogi sefydliadau treftadaeth i ddefnyddio’r pethau y mae ganddyn nhw ddigonedd ohonyn nhw’n barod – straeon go iawn! Mae’r erthygl yma’n amlinellu cynllun y gallwch chi ei roi ar waith drwy ddilyn 7 cam syml sy’n sicrhau eich bod chi’n rhoi pobl wrth wraidd eich straeon
Cam 1: Nodi’ch amcan
Mae nod neu genhadaeth eich sefydliad yn rhoi cyfeiriad i’ch gweithgareddau. Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hyn, fe’ch cynghorir i osod amcanion craidd a fydd yn eich helpu i gyflawni’r nod yma.
Heb amcan clir i anelu ato, nid oes modd i chi wybod a yw’ch straeon yn llwyddiannus. Eich tasg gyntaf yw dewis 1 i 3 amcan ar gyfer eich straeon, fel ysgogi ymweliadau neu godi ymwybyddiaeth.
Cam 2: Diffinio’n glir pwy yw’r bobl
O safbwynt marchnata, byddai hyn yn cael ei ddiffinio fel deall eich cynulleidfa darged. Trwy nodi cynifer â phosibl nodweddion, rhinweddau ac ymddygiadau eich cynulleidfa darged, gallwch chi nodi pwy y dylech chi fod yn teilwra’ch straeon ar eu cyfer. Mae gwefannau fel Audience Finder yn eich helpu i greu proffiliau cynulleidfaoedd targed drwy ystyriaethau penodol. Er enghraifft, mae fferm Tannaghmore Gardens and Animal Farm
yn lleoliad poblogaidd yn y ddinas, ddim yn bell iawn o Felfast. Eu cynulleidfa darged fyddai rhieni â phlant o dan 10 oed, sy’n byw ym Melfast, ac sy’n awyddus i dreulio llawer o amser yn yr awyr agored.
Cam 3: Nodi eu problemau, eu heriau a’r hyn sy’n eu hysgogi
Nid yw hyn yn beth negyddol bob amser; mae llawer o heriau’n gyfleoedd positif! Er enghraifft, pan fydd pobl yn chwilio am rywbeth i’w wneud.
Isod, nodir heriau enghreifftiol i’ch rhoi chi ar ben y daith wrth feddwl am eich heriau’ch hun:
- Yn chwilio am weithgaredd hwyliog i’r teulu
- Â diddordeb mewn bod yn rhan o’r gymuned leol
- Yn chwilio am wybodaeth hanesyddol ac yn hoff o ddysgu
- Yn ceisio dod o hyd i ffrindiau a diddordebau newydd
Cam 4: Nodi pileri eich stori
Y cam nesaf yw troi’ch heriau penodol chi yn bileri i’ch stori unigryw chi, wedi’u haileirio mewn ffordd sy’n cynnig eich sefydliad chi fel yr ateb i bob her.
Dyma sut rydyn ni’n troi’r heriau uchod yn bileri stori:
- Chwilio am weithgaredd hwyliog i’r teulu = Rydyn ni’n weithgaredd hwyliog i’r teulu!
- Â diddordeb mewn bod yn rhan o’r gymuned leol = Dyma sut rydyn ni’n buddsoddi yn ôl yn y gymuned leol a sut rydych chi’n gallu cymryd rhan hefyd!
- Yn chwilio am wybodaeth hanesyddol ac yn hoff o ddysgu = Dewch i ddysgu am hanes ein safle gyda ni!
- Yn ceisio dod o hyd i ffrindiau a diddordebau newydd = Ymunwch â ni i gwrdd â phobl newydd â diddordebau tebyg neu roi cynnig ar brofiadau newydd!
Unwaith rydych chi wedi mynd i’r afael â’r pwyntiau hyn, bydd eich cynulleidfa eisoes wrth wraidd y straeon rydych chi’n eu hadrodd am eich sefydliad.
Cam 5: Adrodd eich straeon
Nawr eich bod chi’n gwybod beth yw’ch straeon chi, mae’n amser eu rhannu. Dyma rai tactegau y gallwch chi eu defnyddio, gydag enghreifftiau:
Gall edrych ar yr hyn mae sefydliadau treftadaeth eraill yn ei bostio ar-lein fod yn ffynhonell ysbrydoliaeth wych – pa flogiau, postiadau cyfryngau cymdeithasol neu fideos ydyn nhw’n eu creu? Edrychwch ar y rhain a’u haddasu at eich dibenion unigryw chi.
Enghreifftiau o Dactegau Straeon
Ystadegau neu niferoedd sy’n gysylltiedig â’r hyn rydych yn ei wneud
Gall hyn fod yn rhywbeth fel “roedd 84% o’n gwirfoddolwyr yn teimlo’n iachach o ganlyniad i wirfoddoli”, neu am faint o ymwelwyr neu fuddiolwyr mae’ch sefydliad wedi’u croesawu’n ddiweddar.

Podlediad
Trefnwch drafodaethau gyda’ch staff ymroddedig, cyfweld ag aelodau brwd o’ch cynulleidfa, neu wahodd gwesteion diddorol. Mae’r rhain i gyd yn bobl sy’n gallu bod wrth wraidd eich straeon!

Straeon cynulleidfaoedd
Rhannwch adegau pan fo aelodau o’ch cynulleidfa wedi ymgysylltu’n rhagweithiol â’ch sefydliad, gan gofnodi eu huchafbwyntiau, eu hisafbwyntiau, eu teithiau, neu unrhyw weithgareddau elusennol roedden nhw’n eu cyflawni yn eich lleoliad.

Sut dechreuodd eich sefydliad a’r stori y tu ôl iddo
Mae hyn yn adrodd eich stori unigryw, yn canolbwyntio’n benodol ar y bobl roedd eich sefydliad yn eu cefnogi ar y dechrau a faint rydych chi wedi tyfu ers hynny.

Diwrnod ym mywyd eich tîm neu’ch staff
Rhowch fewnwelediad i’ch cynulleidfa o’r hyn sydd ei angen i gynnal eich sefydliad a’i redeg. Er enghraifft, diwrnod casglu sbwriel, ymarfer cadwraeth, pobi sgons ar gyfer yr ystafell de neu osod arddangosfa.

Argymhellion
Gofynnwch i’ch cynulleidfa rannu eu profiadau yn eich lleoliad neu gasglu’r rhain all-lein drwy gynnal sgyrsiau pan fyddan nhw’n bresennol. Yna, gallwch chi greu graffeg o’r argymhellion hyn ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio teclynnau fel Canva.

Cynnwys a grëir gan ddefnyddwyr
Gofynnwch i’r gynulleidfa rannu eu lluniau a’u fideos; drwy wneud hyn, rydych chi’n curadu eu straeon, i bob pwrpas, ac yn caniatáu iddyn nhw adrodd eich stori drosoch chi. Mae’r capsiwn a’r postiad isod yn enghraifft dda o hyn.
Mae dilynwyr cyfrif Instagram swyddogol English Heritage yn gallu cymryd rhan mewn cystadlaethau ar-lein drwy rannu eu hoff lun o safle English Heritage gyda’r hashnod #adventurequest.
Sgrinlun o bostiad ar Instagram gan ymwelydd â Chastell Pendennis yng Nghernyw.
Straeon am y bobl sydd wedi cael budd o’ch gwasanaeth / ymgysylltu ag ef
Oes gennych chi unrhyw ymwelwyr rheolaidd sydd wedi cael budd o’r hyn rydych chi’n ei wneud? Os felly, rhannwch eu stori. Does dim rhaid i’r rhain fod ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig; gallech chi greu tudalen ar eich gwefan i gasglu straeon a chynnwys gan eich cynulleidfa.

Rhoi staff / addysgwyr o flaen y camera
Mae’ch tîm llawn arbenigwyr, felly gofynnwch iddyn nhw fynd o flaen y camera i rannu eu diddordebau. Os yw’r hyn rydych chi’n ei wneud yn cynnwys addysgu neu dywys pobl, mae’n gyflym ac yn effeithiol cofnodi rhywfaint o hyn ar waith a’i rannu ar-lein.
Mae Francis Bourgeois yn rhywun sy’n creu cynnwys fideo diddorol. Diolch i’w gyffro brwd am drenau, mae wedi cronni llu o gefnogwyr ac wedi rhannu angerdd dwfn â llawer!

Cam 6: Nodi’r llwyfannau y byddwch chi’n adrodd y straeon arnyn nhw
Mae llawer o sefydliadau’n ei chael hi’n anodd dewis pa lwyfanau i bostio arnyn nhw. Os nad yw’r profiad, yr amser na’r adnoddau gennych chi i greu cynnwys unigryw ar draws sawl llwyfan, peidiwch â phoeni – mae bob amser yn werth dechrau gyda’r hyn rydych chi’n teimlo’n gyfforddus ag ef.
Mae’n well creu’r un postiadau o ansawdd uchel ar 1 i 3 llwyfan a symud ymlaen yn ddiweddarach i bostio ar draws llwyfannau lluosog unwaith bod gennych chi’r capasiti a’r gallu.
Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw’r ffaith bod sefydliadau tebyg yn postio ar lwyfan benodol yn golygu bod rhaid i chi ddefnyddio’r un llwyfan!
Wedi dweud hynny, gellid dweud bod y gwahaniaethau rhwng y prif sianeli cyfryngau cymdeithasol yn dod o dan y categorïau bras canlynol:
- TikTok/snapchat = Hwyliog, addysg
- Instagram = Delweddau cryf ac addysg
- Facebook = Profiad personol
- Twitter = Barn
- LinkedIn = Cysylltu â phartneriaid, rhanddeiliaid
Cam 7: Gwrando ar y bobl
Ystyr hyn yw gwrando’n weithredol ar eich cynulleidfa a sut maen nhw’n teimlo am y straeon rydych chi’n eu hadrodd. Cymerwch yr amser i weld beth mae’ch cynulleidfa’n ei ddweud amdanoch chi ar-lein, neu ba bostiadau sydd â’r nifer fwyaf neu leiaf o bobl yn ymgysylltu â nhw ac ystyried pam. Ystyriwch rannu ffurflenni adborth wrth bwyntiau cyswllt i’ch helpu i gasglu’r wybodaeth ddefnyddiol yma a pharhau i ymgorffori adborth mewn straeon yn y dyfodol er mwyn tyfu.
Pwy a ŵyr – efallai y byddwch chi’n dod o hyd i heriau newydd sy’n dod yn gyfleoedd am straeon sy’n canolbwyntio ar bobl ac sydd hyd yn oed yn well!
Browse related resources by smart tags:
Audience Community Community engagement Content Digital content Social media Storytelling

Please attribute as: "How do we ensure that people are at the heart of the stories we tell? (2022) by James Berg, Picaroons supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0