
How will a digital content strategy benefit my organisation?
1. Rhagymadrodd
Mae strategaeth cynnwys digidol yn hanfodol i unrhyw sefydliad treftadaeth. P’un a ydych yn ysgrifennu postiadau blog ynghylch heriau cynnal gerddi botaneg neu’n ffilmio fideos cyfarwyddiadol am reoli coetiroedd, mae angen i’r holl gynnwys gael ei gynllunio, ei baratoi a’i gymeradwyo. Mae strategaethau cynnwys yn helpu sefydliadau treftadaeth i feddwl am nodau, sut gallant gyrraedd eu cynulleidfaoedd targed, y ffyrdd gorau o gael cefnogaeth staff a gwirfoddolwyr, sut i greu tôn gyson i’r llais, a llawer mwy.
Yn gyntaf, mae’n bwysig diffinio’r strategaeth cynnwys digidol. Yn syml, mae’r term ‘cynnwys’ yn cyfeirio at unrhyw fath o adrodd straeon sy’n cyd-fynd, waeth pa mor denau, â chenhadaeth eich sefydliad. Mae postiad difyr ar Facebook am sut i blethu basged yn enghraifft o gynnwys. Mae fideo am deithiau’r ‘Flying Scotsman’ yn enghraifft arall. Mae adroddiad am fudo i Lundain hefyd yn gynnwys. Mae cynnwys yn dod mewn gwahanol ffurfiau, mewn gwahanol feintiau, ar wahanol lwyfannau, gan ddefnyddio gwahanol fathau o gyfryngau.
Yn syml, mae strategaeth cynnwys digidol yn disgrifio’r canllawiau, y rheolau a’r prosesau sy’n pennu cyhoeddi cynnwys. Gall strategaeth cynnwys digidol gefnogi sefydliadau o unrhyw faint, p’un a yw hynny’n golygu taflen ddwy dudalen i’ch atgoffa pryd a beth i’w bostio, neu ddogfen gynhwysfawr gyda thudalennau teitl, cynnwys, mynegai, a beth bynnag arall.
Gall strategaethau fod yn syml a chlir eu canolbwynt, efallai yn eich helpu i wneud y gorau o’r amser a dreulir ar gyfryngau cymdeithasol, neu’n pennu’r ffordd orau o ddefnyddio e-byst. Waeth beth yw eu maint a’u strwythur, mae strategaethau cynnwys digidol yna i roi cyfeiriad a chefnogaeth. Ac mae manteision strategaeth cynnwys digidol effeithiol yn enfawr. Isod rydym yn trafod pum budd craidd i sefydliadau treftadaeth ac yn cynnig cyngor ynghylch sut i elwa i’r eithaf o’r manteision hynny.
2. Mae strategaethau cynnwys digidol yn rhoi cyfeiriad i chi
Mae strategaeth cynnwys digidol yn rhoi cyfeiriad i’ch cynnwys. Mae sefydliadau, yn enwedig rhai llai, yn dibynnu ar syniadau a barn o amgylch cynnwys, yn aml gan un aelod o dîm, ond nid ydynt yn datblygu syniadau o’r fath ymhellach. Mae strategaeth cynnwys digidol yn eich galluogi i ddiriaethu syniadau.
Mae diriaethu syniadau’n golygu gosod nodau. Fodd bynnag, cyn i chi osod nodau, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cymryd anghenion eich cynulleidfa i ystyriaeth. Mae angen i chi gynhyrchu cynnwys sy’n ddefnyddiol, yn gefnogol, yn ddiddorol, ac efallai’n ddifyr, hyd yn oed, i’ch cynulleidfa.
Er mwyn pennu anghenion a dymuniadau’r gynulleidfa, dechreuwch drwy ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennych eisoes – ac mae’n debyg eich bod yn gwybod mwy am eich cynulleidfa nag yr ydych yn ei feddwl. Mae sefydliadau treftadaeth yn gallu edrych ar ddata o gofrestriadau cymorth rhodd, data aelodaeth, data gan unrhyw un sydd wedi mynychu gweithdai, darlithoedd, teithiau cadwraeth, darlithoedd, neu unrhyw ryngweithiadau cymdeithasol eraill.
Gallwch ddefnyddio pob darn o wybodaeth i gael dealltwriaeth well o’r cynnwys sy’n taro deuddeg gyda’ch cynulleidfa – a’r hyn rydych chi’n ei golli, efallai. Felly, er enghraifft, gallech edrych i weld pa rai o’ch erthyglau neu’ch blogiau sydd wedi cael ymateb da, neu a yw delweddau ar gyfryngau cymdeithasol wedi bod yn fwy llwyddiannus na phostiadau ysgrifenedig.
Efallai yr hoffech fynd ymhellach a chyfuno’r data rhifiadol sydd gennych – y gallwn ei alw’n ‘ddata meintiol’ – gyda rhai safbwyntiau ynghylch ansawdd ac adborth cyffredinol – y gallwn eu galw’n ‘ddata ansoddol’. Gall data ansoddol eich helpu i lenwi bylchau.
Felly, er enghraifft, gallech wneud arolwg o farn eich cynulleidfa – drwy e-bost neu gyfryngau cymdeithasol – a gofyn cwestiynau iddynt am y cynnwys rydych yn ei gynnwys ar hyn o bryd. A gofyn beth maen nhw am ei weld. Os mai gwarchodfa natur ydych, er enghraifft, efallai y byddech am ofyn a fyddai’n well gan y gynulleidfa weld fideos o wardeiniaid yn siarad, neu erthyglau sy’n rhoi crynodeb o deithiau cerdded a sgyrsiau yn y dyfodol? Neu efallai bod y gynulleidfa am gael podlediad sy’n trafod planhigion ac anifeiliaid gwarchodfeydd natur? Pwy a ŵyr? Gofynnwch er mwyn cael gwybod.
Felly gadewch i’ch cynulleidfa lywio’ch cynnwys. Ac, unwaith ichi bennu anghenion a dymuniadau’ch cynulleidfa, lluniwch eich nodau a chreu eich strategaeth. Cofiwch ddilyn y camau syml hyn:
- Cynnwys yr holl bobl sydd eu hangen, gan y bydd hynny’n gwella cefnogaeth a thryloywder
- Pentyrrwch syniadau a’u crisialu’n raddol, a datblygu nodau allweddol ar gyfer eich cynnwys
- Defnyddio egwyddorion CAMPUS atgyfnerthu a diffinio eich nodau
- Ysgrifennwch yr holl amcanion, dulliau a chyfrifoldebau i lawrRhannwch, adolygwch a diwygiwch yn y dyfodol
- Rhannwch, adolygwch a diwygiwch yn y dyfodol
3. Defnyddio strategaeth cynnwys digidol i sicrhau cefnogaeth
Mae strategaeth cynnwys digidol yn caniatáu i sefydliadau treftadaeth ddyrannu rolau a chyfrifoldebau. Mae’r egwyddorion CAMPUS uchod yn golygu y dylai’ch nodau fod yn Benodol, yn Fesuradwy, yn Gyraeddadwy, yn Berthnasol ac yn Amserol – a bydd hynny ar ei ben ei hun yn gwella’r gefnogaeth a geir gan eich tîm yn sylweddol.
Mae nodau CAMPUS yn rhoi syniad o’r hyn a ddisgwylir gan bob aelod o’r tîm ac erbyn pryd. Dylai’r strategaeth gynnwys nodi’r ‘sut’ – fel y gall pob aelod o’r tîm ddilyn yr union lwybr, heb unrhyw fylchau mewn gwybodaeth a heb unrhyw deimlad o fod wedi’u heithrio.
Ac mae’r elfen fesuradwy o’r nodau CAMPUS yn golygu eich bod yn gallu meincnodi yn erbyn targedau wrth i chi symud ymlaen. Felly, p’un a ydych yn gwneud hyn ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm, mae’n well bod â nodau CAMPUS. Mae aelodau tîm sy’n gwybod yr hyn a ddisgwylir, ynghyd â gwybodaeth o’r adnoddau a’r amserau, yn llawer mwy tebygol o gefnogi’ch cynnwys digidol. Mae hynny’n golygu eu bod yn debygol o fod â mwy o gymhelliant a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy. Yn fyr, mae strategaethau cynnwys digidol yn gwella morâl gweithwyr yn aruthrol.
4. Creu tryloywder drwy strategaeth cynnwys digidol
Gyda’r wybodaeth helaeth wedi’i darparu i bawb sy’n ymwneud â nhw, mae strategaethau cynnwys digidol yn galluogi sefydliadau treftadaeth i gynyddu tryloywder. Mae pawb yn gwybod beth sy’n cael ei wneud, gyda pha declynnau, a pha rôl maent yn ei chwarae yn y broses honno.
Mae tryloywder yn arwain at lwyth o fanteision dilynol. Yn ôl astudiaethau, roedd gweithwyr yn nodi mai tryloywder sefydliadau yw’r prif factor sy’n pennu hapusrwydd yn y gweithle. Ac, fel y dengys adroddiad ar y sector treftadaeth, mae angen tryloywder ar gyfer llywodraethu ac atebolrwydd cadarn. Ac wrth gwrs, mae tryloywder yn gwella creadigrwydd a chynhyrchiant yn gyffredinol.
Ac yn olaf, mae tryloywder yn gwella’r broses o wneud penderfyniadau, oherwydd bod ymwybyddiaeth eang o wybodaeth, yn arbennig y gyllideb ac amserlenni, yn hanfodol i wneud penderfyniadau sefydliadol effeithiol.
5. Teclyn i sicrhau cysondeb
Gall strategaeth cynnwys digidol greu ymdeimlad o gysondeb ac atgyfnerthu. Un ffordd o greu’r cysondeb hwnnw yw drwy frandio a thôn llais. Dylid sefydlu tôn llais yn y strategaeth cynnwys digidol. Dylai’r tôn llais adlewyrchu brandio, cenhadaeth a gwerthoedd eich sefydliad treftadaeth.
Er enghraifft, os mai sefydliad ffurfiol ydych chi, mabwysiadwch dôn ffurfiol. Felly i sefydliadau sy’n delio ag ymdrechion cadwraeth megis diogelu rhywogaethau rhag difodiant, yna mae’n debygol mai tôn ffurfiol yw’r opsiwn gorau. Os ydych yn fwy chwareus, neu os oes gennych yr opsiwn i ymarfer chwarëusrwydd, ymgorfforwch hynny yn eich tôn llais. Y naill ffordd neu’r llall, cofiwch aros yn barchus bob amser.
Gallai sefydliadau mwy sefydlu arddull tŷ. Dylai hynny nid yn unig osod tôn eich llais, ond hefyd rhannu rheolau gramadeg ac atalnodi y dylai pawb yn eich sefydliad eu dilyn ar gyfryngau cymdeithasol, mewn blogiau, ac mewn rhestrau digwyddiadau. Edrychwch ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er enghraifft, a nodwch y cysondeb ar draws eu gwefan; mae tôn y llais yn aros yr un fath drwy holl gynnwys eu gwefan, sydd bob amser yn cyd-fynd â’u brandio a’u cenhadaeth.
Mae dogfennau arddull tŷ – a elwir hefyd yn ganllawiau arddull – yn effeithiol o ran gwneud popeth yn gyson ar draws eich sefydliad. Mae cysondeb yn allweddol o ran cynnwys, yn enwedig i gynulleidfa sy’n dychwelyd, sy’n dod yn ôl i’ch safleoedd, eich cyfathrebiadau, a’ch cyfryngau cymdeithasol gan ddisgwyl cysondeb.
6. Gwella ymgysylltiad
Mae strategaethau cynnwys digidol yn darparu manteision amrywiol i sefydliadau treftadaeth. Mae’n caniatáu iddynt ddod o hyd i gyfeiriad, sefydlu nodau, sicrhau cefnogaeth, cynyddu tryloywder, gwella cynhyrchiant, a llawer mwy. Dylai hynny i gyd arwain at allbynnau gwell a chanlyniadau gwell ar gyfer cynnwys eich sefydliad.
Yn ei hanfod, dylai wella ymgysylltiad. Mae’r strategaeth yn eich helpu i gyhoeddi’r cynnwys cywir, ar y cyfrwng cywir, ar yr adeg gywir. Bydd yn sicrhau bod cynnwys yn gweddu i’ch cynulleidfa darged, ei fod yn aros yn berthnasol, a’i fod yn cael ei rannu drwy’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol cywir a sianeli cyfathrebu eraill.
Mae’n hanfodol bod sefydliadau treftadaeth yn olrhain cynnwys ac yn mesur dulliau dadansoddi. Ac, yn bwysicaf oll, dylai sefydliadau newid y strategaeth cynnwys digidol yn dibynnu ar eu canlyniadau. I gael rhagor o wybodaeth am ddata, dulliau dadansoddi, cynnwys, strategaeth a chymaint mwy, edrychwch ar wefan Heritage Digital.
Browse related resources by smart tags:
Content Content creation Digital Digital content Digital marketing Digital project management Digital strategy Social media

Please attribute as: "How will a digital content strategy benefit my organisation? (2022) by Ioan Marc Jones, Charity Digital supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0