
How do I write, implement, and monitor a digital content strategy?
Rhagarweiniad
Gall creu cynnwys mae cynulleidfaoedd yn gallu ymafael ag ef ar-lein bellach yn rhan annatod o’r ffordd mae sefydliadau’n gweithredu. Mae digonedd o wahanol fathau o gynnwys y gall sefydliadau fynd ati i’w defnyddio, gan gynnwys erthyglau, podlediadau, fideos, a llawer mwy.
Nid peth dieithr i’r sector treftadaeth yw cynnwys – mae cynnwys yn ymwneud yn gyfan gwbl ag adrodd straeon ac mae gan sefydliadau treftadaeth lawer o straeon wrth law, boed am ailgreu cynefin bywyd gwyllt neu hanes y gymuned leol. Y naill ffordd neu’r llall, cynnwys ar-lein yw’r ffordd gyflymaf o gyrraedd pobl newydd a sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn rydych chi’n ei wneud.
Does dim rhaid i chi fod yn sefydliad mawr i gynhyrchu llawer o gynnwys da, llawn gwybodaeth. Mae Grŵp Cadwraeth Bourne, sydd wedi’i leoli yn Surrey, yn postio erthyglau a diweddariadau newyddion yn rheolaidd ar ei wefan, tra bod Amgueddfa’r Framework Knitters yn Nottingham wedi cynhyrchu ‘drama Luddite’ ryngweithiol ar ei chyfrif YouTube yn ogystal â phostio cynnwys fideo rheolaidd ar ei chyfrif Instagram.
Ond i sefydliadau wneud y mwyaf o’u cynnwys, mae’n rhaid iddyn nhw ddefnyddio strategaeth cynnwys digidol effeithiol. Yn yr erthygl yma, rydyn ni’n dangos i chi sut i wneud hynny.
Beth yw strategaeth cynnwys digidol?
Ar ei symlaf, caiff cynnwys digidol ei ddiffinio fel gwybodaeth a gaiff ei darparu i gynulleidfa drwy wefan neu ddull neu lwyfan electronig arall. Gall creawdwyr cynnwys amrywio o rywun sy’n ysgrifennu postiad blog i unrhyw un sy’n postio fideo ar TikTok. Mae unrhyw beth sy’n rhoi gwybod i’ch cynulleidfa ar-lein beth rydych chi’n ei wneud, o drydariadau i newyddlenni, yn gyfystyr â chynnwys digidol.
Mae strategaeth cynnwys digidol yn ymwneud â gwneud eich cynnwys yn fwy effeithlon, gan sicrhau bod pob darn yn cyd-fynd â nodau trosfwaol eich sefydliad, ni waeth ai cyrraedd cynulleidfaoedd newydd neu ddenu gwirfoddolwyr yw hynny. Mae cynnwys â diben yn llawer mwy defnyddiol i sefydliad na chynnwys er mwyn creu cynnwys.
Cam un: Meddyliwch am eich adnoddau presennol
Y cam cyntaf wrth ddatblygu eich strategaeth cynnwys digidol yw meddwl am yr adnoddau sydd gennych chi ar hyn o bryd.
Pa gynnwys rydych chi’n ei drafod yn barod? Pa gynnwys sy’n perfformio’n dda? Gallwch fesur hyn ym mha bynnag ffordd sy’n gweithio orau i chi, ond gallech chi fod am edrych ar ymgysylltiadau ar y cyfryngau cymdeithasol os ydych chi’n postio cynnwys yna, neu achosion o ddarllen eich cynnwys, os ydych chi’n gallu olrhain y rheiny. Bydd y rhan fwyaf o systemau rheoli cynnwys yn caniatáu i chi olrhain achosion o ddarllen, hefyd.
Pa bynnag fetrigau rydych chi’n dewis eu defnyddio, sicrhewch eich bod yn eu monitro pan fyddwch chi’n postio’ch cynnwys presennol fel y gallwch chi nodi pa ddarnau sy’n gweithio i chi, a pha bynciau. Bydd gwybod beth sy’n gweithio nawr yn eich helpu i ddewis y cynnwys a fydd yn gweithio orau tuag at eich nodau yn y dyfodol.
Meddyliwch, hefyd, am y pynciau mae eich gwirfoddolwyr a’ch staff yn gallu ymdrin â nhw. Mae’n bosibl bod gennych chi dywyswyr teithiau sy’n gallu rhoi hanesion gwrthrychau neu feysydd yn eich amgueddfa. Neu efallai bod rhywun sy’n gallu adnabod gwahanol draciau anifeiliaid neu alwadau adar. Nodwch y meysydd arbenigedd hyn tan rywbryd arall. Gallwch ddefnyddio hyn am ysbrydoliaeth wrth feddwl am ba gynnwys i’w greu.
Cam dau: Meddyliwch am eich cynulleidfa
Y cam nesaf yw meddwl am yr hyn mae eich cynulleidfa am ei glywed gennych. Bydd meddwl i bwy mae eich cynnwys yn cael ei greu yn eich helpu i ddeall beth i’w gynnwys ynddo nesaf.
Nodwch y gwahanol fathau o gynulleidfaoedd sy’n dod atoch chi – ymwelwyr, rhoddwyr, gwirfoddolwyr, a newyddiadurwyr, er enghraifft. Nodwch bob math o gynulleidfa, gan ychwanegu beth rydych chi’n meddwl maen nhw am ei wybod a beth mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddo.
Gallech chi hefyd ddymuno gofyn i’ch cynulleidfaoedd yn uniongyrchol am eu barn am eich cynnwys a’r hyn maen nhw am ei gael wrtho yn y dyfodol. Peidiwch â thangyfrif yr awydd sydd gan bobl i’ch helpu – dim ond gofyn sydd ei angen a does dim byd fel arolwg da i ddangos i chi sut mae eich cynulleidfa yn teimlo go iawn.
Gallech chi ddefnyddio Ffurflen Google sydd am ddim ac yn hawdd ei sefydlu gyda chyfrif Google) neu lwyfan fel SurveyMonkey, sy’n cynnig opsiynau am ddim a rhai y telir amdanyn nhw. Mae’r fersiwn am ddim yn eich cyfyngu i ddeg cwestiwn a 100 o ymatebwyr yn unig, ond gallai hyn fod yn ddigon i rai sefydliadau, gan ddibynnu pa mor drylwyr maen nhw am ystyried eu cynnwys.
Cam tri: Gwnewch eich ymchwil
Ar ôl y ddau gam cyntaf, dylech chi wybod pa fath o gynnwys rydych chi am ei gynhyrchu. Mae cam tri’n ymwneud â sbarduno syniadau.
Edrychwch ar sefydliadau eraill yn y sector i weld pa fath o gynnwys maen nhw’n ei gynhyrchu. Peidiwch â’u copïo ond ceisiwch bwyso a mesur yr hyn sy’n bosibl, ac edrych yn arbennig ar y ffordd maen nhw’n ei gyflwyno a’i hyrwyddo. Gall edrych ar lawer o gapsiynau ar Instagram, er enghraifft, ddangos i chi y ffyrdd poblogaidd o bostio’ch cynnwys eich hun yna.
Edrychwch y tu allan i’r sector am dueddiadau digidol cyffredinol i chi eu dilyn. Gallai fideos fod yn fwy ffasiynol nag erthyglau, er enghraifft, neu gallech chi ddod o hyd i lwyfan sy’n dod i’r amlwg y mae ei chynulleidfa’n alinio â’ch cynulleidfa chi. Gwiriwch dueddiadau digidol yn rheolaidd er mwyn nodi cyfleoedd i’ch cynnwys y gallwch eu hychwanegu at eich strategaeth.
Yn olaf, nodwch y cyfleoedd hyn a meddyliwch ble mae eich llais yn berthnasol. Gofynnwch i chi’ch hun a oes gennych rywbeth gwerthfawr i’w ddweud am bwnc arbennig neu a yw’r gynulleidfa rydych chi am ei chyrraedd ar lwyfan arbennig? Mae strategaeth gynnwys dda’n canolbwyntio ar feysydd penodol a’u gwneud yn dda, yn hytrach na cheisio gwneud y cyfan a gobeithio bod rhywbeth yn hoelio sylw.
Cam pedwar: Diffiniwch eich nodau
Mae cael y mwyaf o’ch cynnwys yn golygu ei wneud gyda diben mewn golwg. Wrth ysgrifennu eich strategaeth gynnwys, dylech chi feddwl yn uniongyrchol am yr hyn rydych chi am ei gyflawni ag ef.
Er enghraifft, mae’n bosibl eich bod chi am gyrraedd pobl iau gyda’ch cynnwys, gan eu hannog i ymweld â’ch safle treftadaeth. Byddai creu cynnwys fideo ar lwyfannau ffôn symudol yn gyntaf, fel Instagram a TikTok, felly, yn ffordd wych o’u cyrraedd; mae ymchwil yn awgrymu bod 99% o bobl 16 i 34 oed yn meddu ar ffôn clyfar yn y DU.
Yn y pen draw, dylai eich nodau ar gyfer eich cynnwys adlewyrchu rhai eich sefydliad. Sicrhewch eich bod yn eu gwneud yn feintioladwy fel y gallwch chi fesur cynnydd a chymell eich tîm tuag at nod sydd wedi’i ddiffinio’n dda. Os mai eich nod yw cynyddu nifer eich dilynwyr ar Twitter, er enghraifft, ceisiwch osod nod ynghylch faint fydd hyn.
Ychwanegwch amserlen ar gyfer eich holl nodau. Mae amserlen yn caniatáu i chi fonitro cynnydd ac mae hefyd yn helpu wrth flaenoriaethu’r camau nesaf.
Rhannwch eich nodau yn rhai byrdymor a rhai hirdymor. Gallai nod byrdymor fod yn rhywbeth syml fel creu cronfa o fideos llawn gwybodaeth. Gallai nod hirdymor fod yn rhywbeth fel dyblu eich tanysgrifwyr ar YouTube dros y 12 mis nesaf. Dylen nhw weithio gyda’i gilydd ond drwy eu rhannu, rydych chi’n gosod disgwyliadau cliriach am yr hyn y gellir ei gyflawni a phryd.
Cam pump: Ysgrifennwch y strategaeth
Nawr yw’r amser i gymryd popeth rydych chi wedi’i ddysgu uchod a’i grisialu’n un strategaeth cynnwys digidol gynhwysfawr.
1. Cymerwch eich nodau a’u crynhoi’n dri amcan craidd rydych chi am ei gyflawni gyda’ch cynnwys.
2. Nesaf, diffiniwch y meysydd rydych chi am eu trafod gyda’ch cynnwys. Gallech chi rannu’r rhain yn bynciau gwahanol, fel addysg, newyddion, a hanes.
3. Nodwch y dechnoleg a’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi i gyflawni eich cynnwys. Gallai hyn gynnwys offer camera, meddalwedd golygu sain, neu hyfforddiant hanes llafar. Gall ychwanegu hyn at eich strategaeth eich helpu pan ddaw i gynllunio’ch camau nesaf.
4. Unwaith i chi drefnu’r uchod, meddyliwch am y costau a’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cyflawni eich cynnwys. Pa mor hir byddwch chi’n ei gymryd i gynhyrchu podlediad? Faint o fideos ydych chi am eu creu cyn cyhoeddi’r cyntaf ac erbyn pryd rydych chi’n disgwyl iddyn nhw fod yn barod?
5. Dewiswch eich union fetrigau. Gallai hyn gynnwys achosion o wylio ar YouTube, argraffiadau ar Twitter, neu nifer y dilynwyr a ddenwyd gennych chi. Mae gwybod beth rydych chi’n ei fesur o gychwyn eich cynllun cynnwys yn golygu y gallwch chi gael cysondeb yn eich data, gan ganiatáu i chi fonitro’ch perfformiad dros amser yn fwy effeithiol.
6. Aseiniwch gyfrifoldebau. Dylech chi wybod pwy sy’n gyfrifol am fesur, gwahanol bynciau, a gwahanol fathau o gynnwys. Mae aseinio cyfrifoldebau ar yr adeg yma’n sicrhau nad oes unrhyw dasg nad oes gan rywun ei lygad arni ac mae’n rhoi gwybodaeth i’ch tîm ynghylch pwy dylen nhw gyfeirio atyn nhw gydag unrhyw gwestiynau.
7. Nodwch eich camau nesaf. Mae’r cam yma o’ch strategaeth gynnwys yn ymwneud â bod yn barod pan ewch chi ati. Nodwch pa gamau mae angen eu cymryd ar unwaith a phennu amserlen i’w cyflawni. Y tro nesaf mae eich tîm yn cyfarfod, aseswch gynnydd ac ychwanegu camau newydd yn unol â hynny.
Cynghorion olaf ar gyfer datblygu cynnwys gwych
Nid dyma’r cam olaf
Y peth pwysicaf i’w gofio am eich strategaeth cynnwys digidol yw nad rhywbeth di-syfl mohoni. Mae’n eithaf posibl nad y pynciau a’r mathau o gynnwys sy’n cyflawni’n dda i chi nawr yw’r rhai fydd yn gweithio’n dda yn y dyfodol.
Mae’n bwysig bod yn hyblyg ac asesu’n barhaus a yw eich cynnwys yn gweithio tuag at eich nodau. Peidiwch â chynhyrfu os nad yw rhywbeth rydych chi’n rhoi cynnig arno’n gweithio – cam dysgu fydd e; rhowch gynnig ar rywbeth arall. Yn syml, cadwch eich nodau craidd mewn golwg drwy’r amser a pheidiwch â cholli’ch ffocws ar yr hyn rydych chi am ei gyflawni.
Does dim rhaid i chi wneud y cyfan
Yn yr un modd, cofiwch nad oes rhaid i chi wneud popeth ym myd y cynnwys iddo fod yn effeithiol. Gall bod â llawer o wahanol fathau o gynnwys eich helpu i gyrraedd mwy o bobl ond dim ond os yw’n parhau i fod yn ddiddorol ac yn cyfleu gwybodaeth. Dechreuwch ar raddfa fach drwy ganolbwyntio ar un math o gynnwys yn unig a gwneud hynny’n dda cyn ychwanegu un arall, yn enwedig os mai adnoddau prin sydd gennych chi.
Chi sy’n bwysig
Yn olaf, meddyliwch am yr hyn y gallwch chi ei wneud, yn hytrach na phoeni am yr hyn na allwch chi ei wneud. Mae’n bosibl nad fideos sy’n gallu denu gwobrau Oscar y byddwch chi’n eu cynhyrchu, ond mae modd cyflawni llawer gyda chamera ffôn clyfar a stori ddengar i’w hadrodd.
Dylai bod yn driw i’ch sefydliad fod wrth ganol eich strategaeth cynnwys digidol bob amser. Mae’n ymwneud â pha gynnwys sy’n gweithio i chi a beth sy’n gweithio i’ch cynulleidfa (fel arfer mae’r ddau beth yn agos iawn at ei gilydd), ac unwaith i chi bennu’r wybodaeth honno, y cam nesaf yw ei chreu.
Lawrlwythwch: templed ar gyfer creu strategaeth cynnwys digidol wych (PDF 198kb).
Browse related resources by smart tags:
Budget Content Digital content Sharing content Small budget Social media Website

Please attribute as: "How do I write, implement, and monitor a digital content strategy? (2022) by Laura Stanley, Charity Digital supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0