How do I budget for content creation and sharing?
Gall creu cynnwys fod yn gostus, p’un a ydych chi’n ei gynhyrchu’n fewnol neu’n defnyddio partneriaid allanol. Yn yr erthygl yma, rydyn ni’n rhannu cyngor ar sut gallwch chi gyllidebu’n effeithiol ac yn cynnig rhai cynghorion arbed arian sy’n gallu helpu ar hyd y ffordd.
Er bod hyn yn gostus, gall esgor ar fanteision aruthrol. O godi eich proffil, i ddenu cefnogwyr ac aelodau newydd. Drwy gyllidebu ar gyfer eich gwaith yn creu a rhannu cynnwys, rydych chi’n buddsoddi yn nyfodol eich sefydliad.
1. Sut i gyllidebu ar gyfer creu a rhannu cynnwys
P’un ai’r amser mae wedi’i gymryd i rywun gynhyrchu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol, neu gost creu fideo i’w rannu ar eich gwefan, mae creu a rhannu cynnwys yn costio arian.
Er mwyn cyllidebu ar gyfer cynnwys, yn gyntaf mae angen i chi nodi faint bydd pob math o gynnwys yn ei gostio i chi ei ddatblygu a’i rannu, ac ystyried sut bydd hyn yn cyfrannu at eich nodau ehangach. Er enghraifft, gallai gostio mwy i chi greu fideo, ond mae ganddo’r potensial i gyrraedd llawer mwy o bobl nag erthygl.
Rydyn ni’n argymell aseinio cost fras i bob math o gynnwys – gan roi ystyriaeth iddi os ydych chi’n tynnu ar weithwyr llawrydd neu’n ei gynhyrchu’n fewnol a chan ganiatáu ar gyfer unrhyw gostau cudd – a dechrau dyrannu’ch cyllideb yn unol â hynny. Byddwn ni’n esbonio mwy am yr hyn y gallai fod angen i chi wario arian arno isod.
Yn y cyfamser, dyma bum darn o gyngor ar gyllidebu ar gyfer cynnwys:
- Gwariwch arian ar y strategaethau sy’n gweithio orau i chi a chofiwch fod y rhain yn debygol o newid dros amser, felly monitrwch berfformiad bob amser (e.e. nifer y dilynwyr rydych chi’n eu denu o’u cymharu â faint o arian a wariwyd).
- Unwaith i’ch cyllideb gael ei dyrannu, crëwch daenlen gyda dadansoddiad o’r costau cyfan o bob darn o gynnwys a sicrhewch fod y cyfanswm yn mantoli fel nad ydych chi’n gorwario ar y swm sydd gennych.
- Holwch arbenigwyr ar Excel am ychydig o help ychwanegol. Gallwch ddod o hyd i dempledi am ddim ar-lein ar gyfer cyllidebu naill ai mewn Excelneu Google Sheets, neu feddalwedd gyfatebol, a’u diweddaru naill ai fesul un neu drwy ddefnyddio fformiwlâu i wneud hynny. Gallwch ddod o hyd i daflen hylaw am fformiwlâu yma, tra bod fideos syml iawn ar gael ar y cyfrif Instagram CheatSheets sy’n gallu helpu.
- Cynlluniwch ymlaen llaw. Drwy gadw nodyn o’ch digwyddiadau neu ddiwrnodau arbennig sydd ar y gorwel, gallwch chi gyllidebu ar eu cyfer a chreu cronfa o gynnwys ar eu cyfer ymlaen llaw. Gallai hyn olygu hefyd y gallwch chi daenu eich costau, os bydd angen.
- Crëwch galendr cynnwyssy’n olrhain gwariant ar bob darn o gynnwys gan ddefnyddio taenlen. Cynhwyswch fanylion fel teitl, ffurf y cynnwys (erthygl, fideo, ac ati), awdur, cyfrif geiriau, dyddiad cyhoeddi, p’un a yw wedi’i gyhoeddi, p’un a oes brîff wedi’i anfon at awduron allanol os bydd angen, ac yn bwysig, y gost. Crëwch daflen newydd ar gyfer pob mis fel y gallwch chi olrhain gwariant misol a chynllunio heb gael eich llethu.
2. Yr hyn y gallai fod angen i chi wario arian arno
Rydyn ni wedi llunio rhestr o bethau y gallech chi fod am eu hychwanegu at eich cyllideb ar gyfer creu a rhannu. Does dim angen i ddim o hyn gostio ffortiwn, ond gall y costau gronni os nad ydych chi’n ofalus:
Technoleg
Camerâu da, tripod i’w sefydlogi, golau cylch i gael y golau’n iawn wrth ffilmio; gall y rhain oll fod yn fuddsoddiadau rhagorol i’ch sefydliadau.
Gyda chamerâu ffonau clyfar yn fwy soffistigedig nag erioed o’r blaen, mae’n bosibl nad oes angen yr uchod arnoch chi, ond os ydych chi’n creu fideos neu’n tynnu lluniau prydferth o’ch prosiect cadwraeth yn rheolaidd, gallai fod yn werth ystyried buddsoddi mewn technoleg uwch.
Fersiynau o apiau golygu y telir amdanyn nhw
Mae llawer o fersiynau am ddim o apiau golygu sy’n gallu helpu eich sefydliad gyda chynnwys, o apiau golygu sain fel Audacity i apiau dylunio fel Snappa neu Canva. Gallwch lwytho a defnyddio’r rhain am ddim, ond mae iddyn nhw eu cyfyngiadau. Mae’r fersiwn am ddim o Snappa, er enghraifft, ond yn caniatáu pum lawrlwythiad y mis, ac mae’r weithreded yn fwy cyfyngedig.
Ar gyfer pob ap am ddim rydych chi’n ei ddefnyddio, mae bron bob amser fersiwn y telir amdano sy’n gallu helpu i wella’ch cynnwys. Gall fod yn ap hollol wahanol (mae Audacity bob amser am ddim) neu’r un ap (mae gan Canva a Snappa fersiynau premiwm).
P’un a ydych chi’n golygu – fideo, llun, neu bodlediad – mae angen i chi feddwl am eich anghenion. Cyfrifwch a fydd y nodweddion ychwanegol o fudd i chi neu os gallwch wneud y tro gyda’r fersiwn am ddim.
Er enghraifft, er bod Audacity am ddim, gall fod yn llai llyfn i’w ddefnyddio nag apiau eraill. Mae’n bosibl y gallai fod yn werth talu am well gwasanaeth er mwyn cael yr amser y byddwch chi’n ei arbed. Yn yr un modd, os oes angen mwy na phum delwedd y mis arnoch chi, gallai fod yn well talu am Snappa na dibynnu ar y fersiwn am ddim – a byddwch chi’n gallu gwneud mwy ag ef, hefyd.
Gweithwyr llawrydd
Gan ddibynnu ar eich cyllideb a’ch capasiti mewnol, gallech chi fod am gysylltu â chreawdwyr allanol i helpu i gynhyrchu eich cynnwys. Gallai fod angen erthygl blog arnoch chi gan arbenigwr, neu gyflwynydd i’ch podlediad, neu logo sgleiniog newydd i’ch prosiect diweddaraf o bosibl.
Mae hyn yn golygu chwilio am weithwyr llawrydd a’u talu am eu gwasanaethau. Mae creu cynnwys yn cymryd amser ac ymdrech, felly cyfrifwch ffi briodol, a’i chytuno gyda’ch gweithiwr llawrydd.
Y cam cyntaf yw cyfrifo beth mae eraill yn ei dalu i’w gweithwyr llawrydd – mynnwch wybod beth yw’r gystadleuaeth. Mae gan Journo Resources restr o gyfraddau a delir gan sefydliadau amrywiol sy’n gallu eich helpu i bennu’r ffi gywir.
Ar gyfer cysylltu â gweithwyr llawrydd, rhowch gynnig ar safleoedd fel Work for Impact neu People per Hour, sy’n cysylltu â gweithwyr llawrydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys y sector treftadaeth a’r amgylchedd.
Hysbysebu
Gan ddibynnu beth yw eich nod a faint o bobl yr hoffech eu cyrraedd gyda’ch cynnwys, gallai fod yn werth ystyried talu am hysbysebu ar-lein. Gellir gwneud hyn ar gyllideb ond gofalwch — monitrwch yr hyn rydych chi’n ei gael am yr arian rydych chi’n ei wario.
Ffordd dda o wneud hyn yw rhannu faint rydych chi wedi’i wario â nifer y cliciadau rydych chi wedi’u cael ar erthygl, er enghraifft, neu sawl tro y gwyliwyd fideo. Gallwch chi wneud hyn gan ddefnyddio cyfrifianellau ar-lein fel Cyfrifiannell yr Online Advertising Guide’s Cost Per Click (CPC).
Cyfrifwch faint rydych chi wedi’i wario fesul clic, a chyfartaleddau Google fel y gallwch chi gymharu’r canlyniadau. Er enghraifft, mae’r erthygl yma’n dweud wrthon ni mai’r cyfartaledd a werir fesul clic ar hysbysebu ar Facebook yw 78c. Drwy wybod hyn, gallwch chi wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ydych chi am barhau i wario arian ar y sianel yna yn y dyfodol.
3. Arbed arian ar greu cynnwys
Nawr bod gennych chi’ch cyllideb, y cwestiwn yw: sut i’w gwario’n effeithiol? Mae rhai ffyrdd o greu cynnwys heb orwario, fel y gallwch chi sicrhau bod unrhyw arian rydych chi yn ei wario’n cael ei ffocysu ar feysydd lle mae ei angen fwyaf.
1. Gofyn i wirfoddolwyr
Nid oes rhaid i wirfoddoli bob amser olygu gwneud rhywbeth yn gorfforol — yn arbennig mewn adeg yn dilyn COVID-19, lle nad yw rhai gwirfoddolwyr o reidrwydd yn gyfforddus yn gwneud pethau wyneb yn wyneb. Meddyliwch am ffyrdd gwahanol y gallan nhw helpu — mae ysgrifennu erthygl ar gyfer eich gwefan yr un mor ddilys â chynnal taith.
Gallwch chi apelio am wirfoddolwyr newydd i greu cynnwys drwy bostio cyfleoedd ar safleoedd fel Reach Out Volunteering, Volunteer Scotland, neu Team London Volunteering.
Nodwch hefyd y ffaith eich bod yn chwilio am wirfoddolwyr yn glir ar eich gwefan fel bod pobl yn gwybod hynny pan fyddan nhw’n cael gwybod am eich cefndir. Edrychwch ar yr enghraifft yma o amgueddfa’r London Canal Museum — mae gwirfoddoli wedi’i gynnwys yn eu panel chwilio gwe-lywio ar frig eu safle.
2. Gwneud defnydd o gynnwys sy’n cael ei greu gan ddefnyddwyr
Nid oes rhaid i’r cynnwys gael ei greu gennych chi. Mae’n eithaf posibl y bydd gan ymwelwyr neu gefnogwyr eu lluniau eu hunain y gallan nhw eu rhannu — y cyfan sydd ei angen yw i chi eu hailbostio a’u cydnabod yn unol â hynny. Mae mantais ychwanegol i hyn, sef ei fod yn debyg i argymhelliad, hefyd, gan ddangos i bobl pam mae eraill yn dewis ymgysylltu â chi.
Enghraifft dda o hyn yw Cyfrif Twitter Nottingham Heritage Railway <https://twitter.com/TNHRailway>. Maen nhw’n ail-drydar delweddau gan ymwelwyr a phobl sy’n frwdfrydig am drenau, gan lenwi eu ffrwd â chynnwys heb i hyn gostio’r un ddimai goch iddyn nhw.
Gallwch chi hefyd annog pobl i bostio amdanoch chi drwy roi caniatâd iddyn nhw wneud hynny mewn arwyddion o amgylch arddangosfeydd ac atyniadau neu mewn digwyddiadau, felly gofynnwch i bobl dagio’ch cyfrif, ac ymgysylltu’n rheolaidd â phobl sy’n gwneud hyn. Po fwyaf y bobl sy’n gweld bod eu cynnwys yn debygol o gael ei ailbostio, y mwyaf y byddan nhw’n cymryd rhan.
Cofiwch: nid oes rhaid i’ch cynnwys fod yn arbennig o gaboledig i gael effaith. Yn wir, i’r gwrthwyneb — mae pobl yn aml yn ymateb yn well i gynnwys sy’n gynnwys go iawn, yn hytrach na’i fod yn rhywbeth ffansi nad yw’n adlewyrchu pwy ydych chi.
Cymerwch, er enghraifft, y ffaith bod y Museum of English Rural Life, yn 2018, wedi tyfu ei chynulleidfa drwy bostio enghraifft o’i phortreadau da byw ar Twitter gyda chapsiwn doniol.
Mae gan yr amgueddfa dros 159,000 o ddilynwyr erbyn hyn, ac fel yr ysgrifennodd Adam Koszary, cyn-Reolwr Rhaglen ac Arweinydd Digidol yr amgueddfa: “Nid yw ysgrifennu mewn ffordd gyfeillgar a digrif yn dinistrio’r amgueddfa, ac yn y bôn mae’n un o’r ffyrdd i ni gyrraedd ein nod yn y pen draw: cynnwys pawb yn ein treftadaeth.”
Gallwch chi ddarllen mwy am y ffordd mae sefydliadau treftadaeth yn gallu datblygu personoliaeth ar-lein yn y blog yma: Ddylai fod gan amgueddfeydd bersonoliaeth?
3. Defnyddio apiau am ddim
Nid oes angen i bob cynnwys fod yn gaboledig, ond nid oes angen iddo gael ei gynhyrchu’n gyflym ychwaith. Os ydych chi wedi blaengynllunio’n effeithiol, mae gennych chi amser i’w berffeithio.
Mae gan safleoedd sy’n cynhyrchu delweddau, fel Canva neu Snappa opsiynau sylfaenol am ddim, yn ogystal â fersiynau mwy premiwm eu natur, y telir amdanyn nhw. Gallwch chi ddod o hyd i ddelweddau a thempledi stoc i greu cynnwys at eich holl anghenion, boed yn wahoddiad i ddigwyddiad neu’n grynoddelwedd ar gyfer eich erthygl ddiweddaraf.
Fel y sonnir uchod, fodd bynnag, mae cyfyngiadau yn aml i’r fersiynau am ddim o’r apiau yma — ar y templedi neu’r delweddau y gallwch chi eu defnyddio, er enghraifft – neu o ran faint o lawrlwythiadau y gallwch chi eu gwneud bob mis.
Wedi dweud hynny, dyma ambell i opsiwn “bob amser am ddim” sy’n gallu helpu:
Unsplash – Gwefan yw Unsplash sy’n llawn delweddau am ddim y gall sefydliadau eu defnyddio at ba ddiben bynnag.
Creative Commons – Sefydliad nid er elw yw Creative Commons sy’n darparu hawliau i ddelweddau a sain y gall defnyddwyr eu hailbostio a’u hailddyfeisio yn ôl yr angen. Ond sicrhewch eich bod yn rhoi cydnabyddiaeth briodol am unrhyw gyfryngau rydych chi’n eu defnyddio.
4. Hysbysebu yn y cyfryngau cymdeithasol
Os oes gennych chi rywfaint o gyllideb ar ôl ar ôl creu cynnwys, nid yw ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol bob amser mor ddrud ag y byddech chi’n meddwl. Mae canllaw bras i gostau hysbysebu yn y cyfryngau cymdeithasol yn yr erthygl yma: Faint mae hysbysebu yn y cyfryngau cymdeithasol yn ei gostio?
Mae Instagram, er enghraifft, yn caniatáu i’w gyfrifon busnes a chreawdwr roi hwb i bostiadau unigol am gyfnod penodedig o amser, gyda defnyddwyr yn gallu pennu’r arian yr hoffen nhw ei neilltuo iddo – cyn lleied ag ychydig bunnoedd yn unig.
Gallwch chi osod eich nod (mwy o ymweliadau â’ch proffil, mwy o ymweliadau â’r wefan, neu fwy o negeseuon) a’ch cyllideb, a bydd yr ap yn dweud wrthych chi faint o bobl y gallwch chi ddisgwyl eu cyrraedd gyda’r swm hwnnw.
Mae gan Facebook opsiynau tebyg. Ond cadwch mewn cof bob amser amcan eich cynnwys wrth ddefnyddio tactegau hysbysebu. Mae’n bosibl na fydd hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol bob amser yn gweithio tuag at eich nod.
Y rheswm pam rydyn ni’n cyllidebu yw i’n gwneud yn fwy effeithlon gyda’n harian. Hyd yn oed os mai swm bach rydych chi’n ei wario, sicrhewch ei fod yn cael ei nodi yn eich cyllideb a monitro llwyddiant pob ymgyrch fel y gallwch chi fod yn siŵr nad ydych chi’n gwario arian yn ddiangen.
Browse related resources by smart tags:
Budget Content Content creation Digital content Sharing content Social media Website
Please attribute as: "How do I budget for content creation and sharing? (2022) by Laura Stanley, Charity Digital supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0