
A guide to raising your profile on social media
1. Rhagarweiniad
Mae’r byd ar-lein yn swnllyd. Mae fideos am gathod, trendiau dawns, memynnau, podlediadau, ryseitiau ar TikTok, gwefan bwrpasol i bobl bostio eu meddyliau ar unrhyw adeg benodol. Gall fod yn anodd torri’ch ffordd drwy’r twrw.
Y newyddion da yw eich bod chi, fel sefydliadau treftadaeth, yn gartref i lwyth o gynnwys cyffrous. Hanfod sefydliadau treftadaeth yw adrodd eu hanes, ac mae gennych chi’r bobl orau i’w adrodd, hefyd.
Bydd yr hyn sy’n cyffroi eich staff a’ch gwirfoddolwyr am weithio yno hefyd yn gwneud pobl eraill yr un mor gyffrous. Ni waeth beth yw’r pwnc rydych wedi’i ddewis ar gyfer eich cynnwys, bydd arbenigedd ac angerdd yn mynd â chi’n eithaf pell.
Fodd bynnag, mae newyddion llai da, hefyd. Nid oes fformiwla sicr i gadarnhau y bydd eich cynnwys yn cael ei weld. Mae llwyddo’n gallu amrywio hyd yn oed o ddydd i ddydd. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn lle mawr – mae’n ymwneud yn llwyr â chreu eich cornel eich hun.
Wrth lwc, mae ffyrdd o droi’r fantol o’ch plaid.
Un ffordd yw cadw llygad ar berfformiad i nodi beth sy’n gweithio’n dda neu beidio.
Ffordd arall yw ymwneud yn rheolaidd â chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol y tu allan i’ch sefydliad chi i ddod yn gyfarwydd â thueddiadau y gallwch chi fanteisio arnynt.
Gallwch chi ddilyn ein canllaw defnyddiol isod, hefyd – gan ddechrau gyda sut i ddod o hyd i’ch cynulleidfa.
2. Dod o hyd i’ch cynulleidfa
Dylech atgyfnerthu’r gynulleidfa sydd gennych yn barod
Mae llawer o wahanol lwyfannau a sianeli lle gallwch gyhoeddi’ch cynnwys. Ond ydy’ch cynulleidfa yno eto?
Er enghraifft, er y gall TikTok ymddangos yn ffasiynol ac yn gyffrous, os nad yw’ch cynulleidfa yno ar hyn o bryd, efallai nad fydd yn lle da i’ch cynnwys gael ei weld. Rydyn ni’n gwybod ei fod wedi gweithio’n dda i sefydliadau fel y Black Country Living Museum, sydd â mwy na 41 miliwn o achosion o wylio, ond mae’n llawer o waith, ac mae’n golygu cyfathrebu â chynulleidfa iau na Twitter, er enghraifft.
Ar y dechrau, byddai’n well i sefydliadau atgyfnerthu’r cynulleidfaoedd sydd ganddynt ar hyn o bryd, yn hytrach na chreu cynulleidfaoedd o’r newydd rywle arall.
Ond cadwch lygad allan am gyfleoedd
Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu na ddylech byth mabwysiadu llwyfannau newydd. Cadwch eich llygad ar agor am gyfleoedd, ond sicrhewch eich bod yn gofyn pa werth sydd i rywbeth cyn rhoi cynnig arno.
Crëwch gymunedau
Ymunwch â grwpiau ar Facebook sy’n ymwneud â’ch sefydliad a’ch maes yn y sector treftadaeth, ac ymuno yn y drafodaeth. Cymerwch ran yn y gymuned, creu enw i’ch hun fel llais dibynadwy a phostio’ch cynnwys mewn lleoedd perthnasol.
Rhoi barn, rhannu, a thanysgrifio
Mae bob amser yn werth gofyn i’ch cynulleidfaoedd roi eu barn am eich cynnwys, ei rannu a thanysgrifio iddo, yn enwedig os mai fideo neu bodlediad yw e. Mae annog eich cefnogwyr i gymryd y cam nesaf hwnnw yn dangos bod eich cynnwys yn gweithio, ac mae’n helpu pobl eraill i ddod o hyd i chi. Hyd yn oed ar-lein, mae argymhellion yn dal i gyfrif am lawer.
3. Dewis sawl fformat
Sicrhewch fod cynnwys yn hawdd ei ddarllen ar wahanol lwyfannau
Pan fyddwch yn postio cynnwys mewn sawl lle, cofiwch fod pobl yn ei ddarllen yn wahanol gan ddibynnu ar y llwyfan. Y peth pwysig yw ei gwneud mor hawdd â phosibl i’ch cynulleidfa gyrchu’ch cynnwys, lle bynnag y maen nhw.
Sicrhewch fod eich delweddau yn y ffurf gywir ac o’r maint cywir ar gyfer gwahanol lwyfannau i’w gwneud yn haws eu gweld. Crëwch ganllaw gyda’r manylebau gwahanol i’w rannu gyda’ch tîm. Gwnewch gynnwys fideo’n fyrrach ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ac amlygwch y negeseuon pwysig rydych am eu cyfleu mewn capsiynau. Mae Arfordir Penfro’n enghraifft dda o hyn. Golygodd eu tîm yr un fideo o’r cerddor Cerys Matthews yn ymuno â nhw i ddathlu eu 70 mlynedd fel parc cenedlaethol, a’i rannu ar Twitter a Facebook, gan sicrhau y byddai eu buddsoddiad yn creu’r cyrhaeddiad gorau posibl.
Yn y bôn, rhowch eich cynnwys o flaen cynifer o bobl â phosibl, mewn cynifer o ffyrdd â phosibl, ac mae’n debyg y cewch chi fwy o achosion o wylio. Mae cyhoeddi cynnwys amrywiol yn helpu i’w gadw’n ffres.
Crëwch bytiau bach ar gyfer y bobl â llai o amser
Gall gweminarau awr o hyd ac erthyglau nodwedd fod yn dda i archwilio i faterion yn fanwl, ond nid pawb sydd ag amser i’w neilltuo ar eu cyfer.
Mae creu pytiau fideo sydd wedi’u byrhau o’ch cynnwys – gan gynnwys yr holl wybodaeth berthnasol rydych chi am i’ch cynulleidfa ei gwybod – yn ffordd wych o gael mwy o wylwyr a helpu’ch cynulleidfa sy’n brin o amser i ddysgu’r hyn sydd ei angen mewn llawer llai o amser. Mae pawb ar ei ennill.
Crëwch erthygl fel cartref i’ch fideos
Mae creu erthygl o gwmpas eich fideos, a’u mewnblannu, yn ffordd arall o gynyddu nifer yr achosion gwylio. Efallai bydd pobl yn ymwneud â’ch cynnwys ar drafnidaeth gyhoeddus, felly gall darparu ffordd arall o ddarllen eich cynnwys, yn hytrach na gwrando, fod yn ddefnyddiol, hefyd. Peidiwch ag ofni cymysgu’ch cyfryngau!
Meddyliwch am hygyrchedd
Nid yw meddwl am fformatau gwahanol yn ymwneud â chynyddu nifer y bobl sy’n gweld eich cynnwys yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pawb sydd am weld eich cynnwys yn gallu gwneud hynny. Sicrhewch fod eich cynnwys yn hygyrch – mae cynhwysiant yr un mor bwysig â dod o hyd i gynulleidfaoedd newydd.
I sicrhau bod y testun yn ddarllenadwy, cofiwch am faint a lliw y ffont; dylech gynnwys testun amgen (‘alt text’) gyda’ch delweddau i alluogi darllenwyr sgrin i’w disgrifio, a darparu isdeitlau a thrawsgrifiadau ar gyfer eich cynnwys i gyd. Os ewch yn ôl i’r fideo gan Arfordir Penfro ym mhwynt 1 yn yr adran hon, gwelwch fod capsiynau caeëdig ar gael ganddynt drwy YouTube, yn ogystal ag isdeitlau integredig.
Ceir canllawiau defnyddiol ynghylch sut i wneud eich cynnwys yn hygyrch ar wefan yr RNIB, ac mae gwybodaeth fanylach ar gael yng Nghanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We y World Wide Web Consortium.
4. Gwirio’r adegau postio gorau
Rhowch gynnig ar wahanol adegau
Gall y ffordd mae cynnwys yn perfformio amrywio gan ddibynnu ar faint o’r gloch rydych yn ei bostio.
Mae’r adegau hyn yn newid yn rheolaidd, wrth i ymddygiad dynol newid. Roedden ni i gyd ar y rhyngrwyd lawer mwy yn 2020, er enghraifft, ond i raddau llai yn 2022. Mae’n hollbwysig gwirio beth sy’n gweithio i chi.
Ewch at eich data. Mae gan Twitter ystadegau integredig gallwch eu gweld o dan drydariadau unigol, dan ‘View Tweet activity’. I ddechrau, gallwch chi ddefnyddio nifer yr achosion o hoffi a rhannu rydych yn eu cael ar bostiad.
Gwiriwch y postiadau sydd â’r nifer mwyaf o achosion o edrych ac ymgysylltu, ac edrych ar faint o’r gloch cawsant eu postio – oes patrwm? Rhowch gynnig ar bostio ar adegau gwahanol i gadarnhau unrhyw reddfau sydd gennych a defnyddio’r canlyniadau i lywio’ch strategaeth.
Creu cynllun cynnwys
Edrychwch ar y llwyfannau rydych yn eu defnyddio, a chynllunio’r mathau o gynnwys y byddwch yn eu defnyddio a phryd.
Efallai y bydd gennych chi ddydd Iau Fideos neu ddydd Gwener Podlediadau? Mae cadw pethau’n rheolaidd yn creu rhythm sy’n magu cynulleidfa gydag amser, ac yn rhoi gwybod iddynt pryd yn union y dylent droi atoch am gynnwys.
Os gallwch deilwra popeth i gyd-fynd â’r adegau pan fyddant ar gael a’u disgwyliadau, rydych yn siŵr o lwyddo.
Os oes gennych gynnwys a noddir, ystyriwch y rheol 411
Os oes noddwyr gennych, neu gynnwys lle rydych chi’n gwerthu rhywbeth ar eich rhan eich hunan, un peth efallai eich bod am ei ystyried wrth ddatblygu rhythm eich cynnwys yw’r rheol “411”. Mae hyn yn golygu postio pedwar darn o gynnwys addysgol am bob darn unigol o gynnwys a noddir (mae’r rheol yn cael ei hesbonio’n fanylach yma mewn perthynas â Twitter).
Mae cadw at y rheol “411” yn sicrhau y bydd eich cynnwys yn dod yn adnabyddus am fod o werth i’ch cynulleidfa, nid am yr amcanion marchnata yr hoffech eu hybu.
5. Bod yn benodol ac yn greadigol gyda’ch cynnwys
Rhoi’r cynnwys cywir i’r cynulleidfaoedd cywir
Wrth ddweud ‘penodol’, rydym yn golygu mewn perthynas â’r gynulleidfa, yn ogystal â’r pwnc. Ni ddylai sefydliadau ofni bod eu pwnc yn rhy arbenigol – nid oes y fath beth ar y Rhyngrwyd yn 2022. (Gawn ni’ch atgoffa chi o adfywiad shantis môr yn ddiweddar, er enghraifft?).
Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd y cynulleidfaoedd cywir gyda’r pynciau hynny. Mae cynnwys am yrfaoedd a phynciau sy’n gysylltiedig â phroffesiynau yn wych i LinkedIn, er enghraifft, ond yn anffodus, mae llawer llai o werthfawrogiad o luniau o gi’r swyddfa yno.
Ond maen nhw’n fwy tebygol o wneud yn dda ar Instagram – ar yr amod bod y lluniau o ansawdd uchel!
Defnyddiwch hashnodau priodol
Bydd defnyddio llawer o hashnodau yn ddiwahân yn esgor ar ganlyniadau amheus. Dilynwch y rhai sy’n bwysig i chi ac sy’n ymwneud â’ch sefydliad, gan gynnwys hashnodau am eich ardal leol. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i ddefnyddwyr eraill sy’n trafod yr un pynciau â chi – dilynwch nhw, fel eu cynnwys, ac adeiladu cymuned.
Gwiriwch yr hashnodau mae eraill yn eich sector yn eu defnyddio, fel #treftadaeth neu #hanesyddol. Er enghraifft, mae prosiect Dinas Forol Hull yn defnyddio #WhatIsItWednesday i greu chwilfrydedd o amgylch eitemau yn ei gasgliad, ac ychwanegodd #HullMaritime fel y gallai pobl ddod o hyd i fwy o’i gynnwys yn hawdd.
Os ydych chi’n rhedeg ymgyrch, fel Takeover Day Kids in Museums, dylech roi hashnod penodol ar ddiwedd pob hashnod sy’n ymwneud ag ef. Defnyddiodd Kids in Museums #TakeoverDay yn unig, gan ddod â phostiadau gan sawl amgueddfa a fu’n cymryd rhan yn y dydd at ei gilydd mewn un ffrwd sengl, ar ôl i rywun glicio ar yr hashnod.
Mae defnyddio hashnod nid yn unig yn eich helpu i ddod i’r brig (‘trendio’), ond gall pobl ddefnyddio’r hashnod i ddarganfod cynnwys am eich sefydliad a dod o hyd iddo’n nes ymlaen. Cofiwch: weithiau, nid yr hashnodau mwyaf poblogaidd yw’r rhai sy’n rhoi’r canlyniadau gorau. Mae llawer mwy o bobl yn eu defnyddio, a gallant wthio’ch cynnwys chi i lawr y rhestr yn gyflymach.
Cadwch at eich brand
Sicrhewch fod y cynnwys yn addas ar gyfer eich sefydliad, hefyd. Mae gan sefydliadau treftadaeth gynifer o straeon diddorol i’w hadrodd – felly peidiwch â gwanychu eich cynnwys anhygoel gyda rhywbeth sy’n anaddas yn llygaid eich cefnogwyr.
Nid yw hynny i ddweud na allwch feddwl yn greadigol a bod yn ddigymell. Fodd bynnag, dylech gadw naws eich cynnwys yn gyson, a gofynnwch i chi’ch hun bob amser beth rydych chi’n ceisio ei gyflawni. Dylai cynnwys bob amser fod â gwerth.
6. Dolenni defnyddiol
- Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We y World Wide Web Consortium
- Y Rheol 4-1-1
- Beth yw Shantis y Môr?
Browse related resources by smart tags:
Content Content creation Digital content Facebook Social media Social media strategy Twitter

Please attribute as: "A guide to raising your profile on social media (2022) by Laura Stanley, Charity Digital supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0