English

Offer ac adnoddau ar gyfer sicrhau eich bod yn gwybod y diweddaraf am dueddiadau digidol datblygol

I sefydliadau treftadaeth bach i ganolig, mae ceisio sicrhau eich bod yn gwybod y diweddaraf am dueddiadau digidol yn gallu bod yn brofiad anodd iawn. Oherwydd cyfyngiadau ar eich amser a’ch cyllideb, tasg anodd yw deall ac ymchwilio i’r mathau o weithgareddau digidol datblygol a allai fod o ddiddordeb neu o fudd i’ch sefydliad. Nod y canllawiau hyn yw eich cyfeirio at offer ac adnoddau y gallwch gael gafael arnynt er mwyn dilyn y diweddaraf am ddatblygiadau newydd mewn technoleg ddigidol.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
A woman in a yellow jacket sitting on a rock with arms raised aloft, admiring a countryside view
Image courtesy of VisitBritain © Becky Stacey

Tools and resources to keep up-to-date with emerging digital trends

1. Cyflwyniad

Bwriad y canllawiau hyn yw cynnig rhestr o sefydliadau, offer ac adnoddau y gallwch gael mynediad atynt i sicrhau eich bod yn gwybod y diweddaraf am dueddiadau digidol newydd a’u heffaith ar y sector treftadaeth a diwylliannol.

Ni fydd angen ichi ddilyn na chofrestru ar bob un a restrir isod. Mae ein harbenigwyr o’r AMA yn awgrymu y dylech ddarllen trwy’r canllawiau hyn a phenderfynu pa offer ac adnoddau a fydd yn gweithio orau i chi a’ch sefydliad. Efallai y bydd yn rhaid ichi roi cynnig ar ambell un ohonynt yn gyntaf er mwyn penderfynu pa rai sy’n fwyaf perthnasol.

 

2. Tueddiadau a’ch strategaeth ddigidol

Mae meithrin ymwybyddiaeth o dueddiadau a gweithgareddau digidol newydd yn ddefnyddiol wrth ichi benderfynu sut y gall technoleg ddigidol helpu eich sefydliad i gefnogi ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Fodd bynnag, mae hi cyn bwysiced ichi ddeall sut i ddewis pa duedd digidol y dylai eich sefydliad ei ystyried fel rhan o’i strategaeth ddigidol.

Nid yw meddu ar wybodaeth am dueddiadau digidol yn golygu bod yn rhaid i’ch sefydliad ddilyn neu ymgymryd â phob tuedd. Os ydych yn deall anghenion eich sefydliad – yn enwedig eich ymwelwyr a’ch cynulleidfaoedd – yna bydd modd ichi weld pa duedd digidol newydd a allai weddu orau i’ch sefydliad.

Fe fydd eich strategaeth ddigidol yn hollbwysig o ran sut y byddwch yn asesu ac yn penderfynu a fydd tuedd digidol newydd yn berthnasol i nodau busnes eich sefydliad. Mapiwch y gweithgarwch digidol yn eich ‘cynfas model busnes digidol’ er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’ch amcanion, a’ch bod yn gwneud yn fawr o’ch amser.

Trwy ddeall nodau busnes eich sefydliad, bydd modd ichi nithio’r tueddiadau. Gallwch lunio eich ‘llwybrau byr’ eich hun o ran penderfynu beth sy’n berthnasol. Ni fydd pob gweithgaredd na thuedd digidol o fudd i’ch sefydliad.

 

3. Google Alerts

Offeryn sydd gyda’r rhwyddaf a’r symlach i’w ddefnyddio yw Google Alerts. Mae’r gwasanaeth hwn yn anfon e-byst at y defnyddiwr pan ddaw o hyd i ganlyniadau newydd a fydd yn cyd-fynd â therm(au) chwilio’r defnyddiwr – canlyniadau megis tudalennau gwe, erthyglau papur newydd, blogiau neu ymchwil wyddonol. Gallwch osod cynifer o hysbysiadau Google Alerts ag y dymunwch trwy ddefnyddio geiriau allweddol fel ‘digidol’, ‘treftadaeth’, ‘tueddiadau digidol’, ‘tueddiadau treftadaeth ddigidol’ ac ati. Gallwch hyd yn oed osod hysbysiad Google Alerts ar sefydliadau treftadaeth eraill y mae gennych ddiddordeb ynddynt, neu sefydliadau sy’n debyg i’ch sefydliad chi, ac yna byddwch yn cael hysbysiadau’n ymwneud â’u newyddion a’u gweithgareddau digidol nhw.

Gallwch ddewis pa mor aml yr anfonir hysbysiadau atoch – ‘wrth iddo ddigwydd’; unwaith y dydd ar y mwyaf’; neu ‘unwaith yr wythnos ar y mwyaf’. Hefyd, gallwch ddewis ffynonellau o blith newyddion, blogiau, y we, fideos, llyfrau ac ati, neu gallwch ddewis ‘awtomatig’ o blith yr holl opsiynau hynny. Gallwch hefyd ddewis iaith a rhanbarth daearyddol, er enghraifft gwlad benodol fel y DU neu ‘unrhyw ranbarth’. Hefyd, ceir opsiwn ar gyfer y canlyniadau ‘gorau’ neu’r ‘holl ganlyniadau’. Yna, anfonir yr hysbysiadau yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

 

4. Cylchlythyrau digidol

Beth am gofrestru neu danysgrifio i dderbyn cylchlythyrau e-bost rheolaidd sy’n canolbwyntio ar dechnoleg ddigidol. Mae’r canlynol yn cynnig y diweddaraf am amrywiaeth eang o bynciau digidol a datblygiadau technolegol yn y sector treftadaeth a diwylliannol.

  • Cultural Digital
    Mae’r cylchlythyr hwn gan Chris Unitt, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr One Further, yn crynhoi’r holl ddatblygiadau digidol a thechnolegol y daw Chris ar eu traws yn y meysydd canlynol: y celfyddydau, amgueddfeydd, diwylliant, treftadaeth, y byd creadigol.
  • Cylchlythyr y Rhwydwaith Diwylliant Digidol / Digital Culture Network
    Cylchlythyr rheolaidd gan y Rhwydwaith Diwylliant Digidol / Digital Culture Network sy’n helpu i feithrin sgiliau digidol oddi mewn i sefydliadau’r celfyddydau a sefydliadau diwylliannol.
  • Digital Things
    Cylchlythyr deufisol yw ‘Digital Things’. Mae’n ymdrin â phopeth digidol ar gyfer sector y celfyddydau a’r sector diwylliannol. Caiff ei gynhyrchu gan Alec Ward, Rheolwr Sgiliau Digidol yn Culture24.
  • Digital Works
    Mae’r cylchlythyr hwn gan Substrakt yn ystyried popeth digidol, gan gasglu dirnadaethau a rhannu arferion gorau.
  • Digital Snapshot
    Mae’r cylchlythyr digidol hwn gan The Audience Agency yn cynnig crynodeb cynhwysfawr o newyddion, arloesedd a syniadau diddorol yn y byd digidol, mewn perthynas â’r celfyddydau, diwylliant, amgueddfeydd a threftadaeth. Caiff ei gynhyrchu gan Adam Koszary, Pennaeth Technoleg Ddigidol yn The Audience Agency. Anfonir y cylchlythyr unwaith bob pythefnos.
  • MuseumNext
    Cylchgrawn ar-lein yw MuseumNext. Mae’n ymdrin â’r sector amgueddfeydd trwy gyfrwng newyddion, dadansoddiadau a digwyddiadau. Mae’n cynnwys adran sy’n ymwneud yn benodol â thechnoleg ddigidol.

 

5. Y cyfryngau cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o gadw golwg ar dueddiadau digidol. Ni fydd yn rhaid ichi ymuno â phob platfform cyfryngau cymdeithasol – yn syml, ymgysylltwch â’r sianeli hynny sy’n gweithio i chi a’ch sefydliad.

Twitter

  • Os ydych yn defnyddio Twitter yn barod, gall fod yn adnodd defnyddiol ar gyfer dilyn sefydliadau treftadaeth eraill y mae gennych ddiddordeb ynddynt – rhai sydd wedi’u lleoli yn yr un ardal â’ch sefydliad chi neu rai sy’n mynd i’r afael â gweithgarwch digidol diddorol ac arloesol. Gallwch hefyd ddilyn unigolion, sefydliadau a chyfrifon sy’n canolbwyntio ar dueddiadau digidol.
  • Gallwch greu rhestrau Twitter, gan ychwanegu cyfrifon tueddiadau digidol neu sefydliadau treftadaeth perthnasol. Gallwch gadw golwg ar sut y mae sefydliadau treftadaeth eraill yn defnyddio Twitter, yn ogystal â chadw golwg ar eu gweithgarwch digidol ehangach. Bydd rhestr Twitter yn eich galluogi i weld y gweithgarwch hwn mewn un lle.
  • Hefyd, ystyriwch chwilio trwy ddefnyddio hashnodau. Er enghraifft, yr hashnod ar gyfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw #DigitalSkillsForHeritage. Neu hashnodau eraill fel #DigitalTrends neu #NewInDigital ac ati.

Facebook groups

  • Chwiliwch am grwpiau cymorth perthnasol ar Facebook – grwpiau sy’n ymddiddori mewn technoleg ddigidol neu dueddiadau digidol. Mae grwpiau Facebook â mynediad agored erbyn hyn. Gallwch weld yr holl bostiadau o fewn y grŵp, ond pe baech yn dymuno cymryd rhan yn y grŵp hwnnw – megis postio cwestiwn neu sylwadau – bydd yn rhaid ichi ymuno â’r grŵp.
  • Caiff Grŵp Cymorth Cymunedol Cymdeithas Marchnata’r Celfyddydau (AMA) ar Facebook ei anelu at ymholiadau’n ymwneud â marchnata a datblygu cynulleidfaoedd. Yn aml, mae’n cynnwys postiadau’n ymwneud â marchnata digidol ac mae’n bosibl y bydd y postiadau hyn o fudd i chi. Ceir opsiwn chwilio o fewn grwpiau Facebook sy’n eich galluogi i gynnal chwiliadau’n ymwneud ag ymholiadau digidol penodol. Ymhellach, mae grwpiau cymunedol o’r fath yn dda ar gyfer gofyn cyngor a chyflwyno sylwadau a phrofiad yn ymwneud â meddalwedd neu blatfformau digidol, neu chwilio am ffyrdd newydd o weithio.
Sgrin lun o dudalen Facebook Cymuned Cymdeithas Marchnata’r Celfyddydau Grŵp cymorth lle dangosir pobl yn eistedd mewn ystafell gynadledda
Sgrin lun o dudalen Facebook Cymuned Cymdeithas Marchnata’r Celfyddydau Grŵp cymorth lle dangosir pobl yn eistedd mewn ystafell gynadledda

LinkedIn

  • Yn LinkedIn, gallwch chwilio yn ôl diwydiant a hashnodau. Er enghraifft, os nodwch derm fel ‘#DigitalTrends’ yn y blwch chwilio ar frig y sgrin ar y chwith, a dewis ‘Posts’, cewch weld yr holl bostiadau sy’n cynnwys yr hashnod hwnnw. Gallwch fireinio eich chwiliad ymhellach yn ôl diwydiant, er enghraifft trwy ddewis ‘Museums and Institutions’ i hidlo eich canlyniadau.
  • Mae LinkedIn Groups yn cynnig lle pwrpasol i rannu arbenigedd, ceisio cyngor a meithrin perthnasau. Maent hefyd yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer gwybodaeth ac ysbrydoliaeth ynglŷn â’r tueddiadau diweddaraf. Gallwch chwilio am grwpiau trwy ddefnyddio bar chwilio LinkedIn. Yna, ar dudalen y canlyniadau chwilio, cliciwch ar yr opsiwn hidlo ‘Groups’. Chwiliwch trwy’r grwpiau a chliciwch ar y rhai sydd fwyaf buddiol i chi.
Sgrin lun o dudalen we LinkedIn lle gwelir llun dyn yn eistedd o flaen ei liniadur a’r geiriau “Welcome to your community”.
Sgrin lun o dudalen we LinkedIn lle gwelir llun dyn yn eistedd o flaen ei liniadur a’r geiriau “Welcome to your community”.

Hootsuite

  • Mae Hootsuite, sef offeryn ar gyfer rheoli’r cyfryngau cymdeithasol, yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dueddiadau cymdeithasol lle ystyrir tueddiadau datblygol yn y cyfryngau cymdeithasol: Social Trends 2022.

Instagram

  • Yn 2021, cyflwynodd Instagram ei adroddiad blynyddol ar dueddiadau lle pennir tueddiadau sydd ar ddod ar sail gweithgarwch Instagram: 2022 Instagram Trend Report.

TikTok

 

6. Podlediadau

Mae podlediadau yn ffordd wych o ddysgu am syniadau newydd, tueddiadau’r dyfodol a phethau arloesol eraill, a hynny mewn modd hawdd ei ddeall. Dyma rai awgrymiadau:

  • The Digital Marketing Podcast
    Podlediad wythnosol nad yw’n cynnwys hysbysebion ac sy’n ymhél â marchnata digidol – dyna yw’r ‘Digital Marketing Podcast’. Mae’n cyfuno cyfweliadau ag arbenigwyr byd-eang gyda’r newyddion, yr offer, y strategaethau a’r technegau diweddaraf o’r byd marchnata digidol. Daniel Rowles, Prif Swyddog Gweithredol Target Internet a Ciaran Rogers, hyfforddwr ac arbenigwr mewn marchnata digidol, sy’n cynhyrchu ac yn cyflwyno’r sioe.
  • The Digital Human
    Podlediad ar Radio 4 y BBC, lle mae Aleks Krotoski yn trin a thrafod y byd digidol.
  • For Arts’ Sake
    Mae’r podlediad ‘For Arts’ Sake’ yn rhannu straeon go iawn gweithwyr proffesiynol blaenllaw sy’n gweithio mewn amgueddfeydd ac yn y sector treftadaeth ledled y DU. Er nad yw’r podlediad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar dechnoleg ddigidol, o dro i dro mae’n cynnwys pethau’n ymwneud â’r maes digidol – pethau a allai fod yn ddefnyddiol yng nghyd-destun amgueddfeydd a’r sector treftadaeth.
  • Tea and Toast
    Mae’r podlediad hwn gan Pritesh Parma, a elwir hefyd yn Tea and Toast, yn ymdrin â thechnoleg ddigidol gyda mentrau cymdeithasol, cwmnïau buddiannau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw mewn cof. Mae’r pynciau yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys: marchnata digidol, optimeiddio peiriannau chwilio, y cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys, a brandio ymhlith pethau eraill.

 

7. Digwyddiadau

Mae’r cynadleddau a’r digwyddiadau hyfforddi blynyddol a ganlyn yn cynnig platfform ar gyfer tueddiadau digidol datblygol yn y sector treftadaeth a diwylliannol. Nid yw pob un yn canolbwyntio ar dechnoleg ddigidol, ond mae eu rhaglen yn cynnwys rhai pethau’n ymwneud â’r byd digidol. Gall y digwyddiadau hyn fod yn gostus; ond hyd yn oed os na allwch fforddio eu mynychu, yn aml bydd cynnwys y rhaglen yn cynnig cipolwg ichi ar y tueddiadau digidol a ddaw i’r amlwg yn y sector.

  • Diwrnod Marchnata Digidol yr AMA
    Mae Diwrnod Marchnata Digidol yr AMA yn ddigwyddiad blynyddol, ac mae’n cyflwyno’r syniadau diweddaraf, ynghyd ag astudiaethau achos a thueddiadau y dylid bod yn ymwybodol ohonynt, o ran ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd ar-lein. Fel arfer, cynhelir y digwyddiad hwn yn ystod Tachwedd/Rhagfyr.
  • MuseumNext
    Mae MuseumNext yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau digidol, yn cynnwys Digital Summit a Culture Geek, sef cynhadledd undydd a gynhelir fel arfer yn Llundain.
  • Festival of Marketing
    Caiff y ‘Festival of Marketing’ ei anelu at farchnadwyr er mwyn helpu i ymestyn eu set sgiliau, ynghyd â’u hysbrydoli a’u hysbysu. Er nad yw’r ŵyl yn canolbwyntio ar dechnoleg ddigidol, yn aml caiff elfennau digidol eu cynnwys yn y rhaglen.
  • REMIX Summit
    Mae’r ‘REMIX Summit’ yn dwyn ynghyd ddiwylliant, technoleg ac entrepreneuriaeth i drafod cwestiynau cyffredin, yn cynnwys tueddiadau yn y dyfodol.

 

8. Adnoddau defnyddiol

  • AMAculturehive
    Hwb adnoddau ar-lein rhad ac am ddim ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes diwylliannol yw AMAculturehive. Mae’n dwyn ynghyd holl wybodaeth y sector mewn un lle. Caiff ei redeg gan Gymdeithas Marchnata’r Celfyddydau (AMA), ac mae’n cynnig amrywiaeth eang o adnoddau, yn cynnwys y syniadau diweddaraf am dueddiadau digidol. Mae ei ganllawiau, AMA MicroDigital Guide to top digital tools and apps , yn arbennig o ddefnyddiol. Caiff y canllawiau hyn eu diweddaru’n barhaus, ac maent yn cynnwys manylion am yr apiau a’r offer digidol diweddaraf a gorau sydd ar gael i ategu ymgysylltu a marchnata digidol.
  • Y Rhwydwaith Dysgu Digidol / Digital Learning Network
    Mae’r Rhwydwaith Dysgu Digidol yn rhannu syniadau ac arferion da mewn perthynas â defnyddio technoleg ddigidol i ategu dysgu yn y sector treftadaeth ddiwylliannol. Os oes gennych ddiddordeb yn y modd y gall technoleg ddigidol ategu profiadau addysgol creadigol ac ysbrydoledig, yna gallwch ymuno â’r rhwydwaith.
  • Digital Things
    Cylchlythyr deufisol yw ‘Digital Y Rhwydwaith Diwylliant Digidol / Digital Culture Network
    Mae’r Rhwydwaith Diwylliant Digidol yn cynnig cymorth ymarferol, rhad ac am ddim i sector y celfyddydau a’r sector diwylliannol. Gan weithio ar draws y sectorau hyn, caiff y rhwydwaith ei arwain gan naw o Hyrwyddwyr Technoleg arbenigol.
  • Digital Pathways
    Mae’r hwb adnoddau hwn, a reolir gan Culture24, yn anelu at helpu staff amgueddfeydd i ddeall, rheoli, creu a defnyddio popeth digidol.
  • Y Fenter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth / Digital Skills for Heritage
    Mae’r fenter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – sef menter y mae’r Hwb Treftadaeth Ddigidol yn rhan ohoni – yn cynnig cymorth ymarferol hynod amrywiol er mwyn helpu sefydliadau i fagu hyder er mwyn iddynt allu defnyddio technoleg mewn modd effeithiol a chreadigol.
  • Heritage Digital
    Nod y prosiect ‘Heritage Digital’ yw cynyddu’r cymorth a’r hyfforddiant rhad ac am ddim sydd ar gael i sefydliadau treftadaeth yn y maes sgiliau digidol. Ar y wefan, ceir nifer o adnoddau defnyddiol yn ymwneud â thechnoleg ddigidol. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys yr Heritage Digital Academy, sy’n cynnig sesiynau cymorth busnes digidol lle canolbwyntir ar arloesi, menter a chynllunio sefydliadol.
  • Trend Watching UK
    Cwmni sy’n ymhél â thueddiadau ymhlith defnyddwyr yw Trendwatching.com, ac mae’n cynnig dau ddiweddariad defnyddiol y gallwch gofrestru ar eu cyfer, sef: Innovation of the Day a Make Shift, sef ei Fwletinau Tueddiadau misol lle ymdrinnir â’r tueddiadau diweddaraf mewn un erthygl chwe munud. Tanysgrifiwch i Fwletinau Tueddiadau Rhad ac am Ddim Trend Watching. Nid yw Trend Watching yn ymhél yn benodol â thechnoleg ddigidol.

 

Browse related resources by smart tags:



Digital tools Google Free Tools
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "Tools and resources to keep up-to-date with emerging digital trends (2022) by Arts Marketing Association (AMA) supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 

Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo