
How a social return on investment analysis can help you to establish the case for improving digital access
1. Cyflwyniad
Fel arfer, mae trawsnewid digidol yn golygu mynd ati mewn modd arloesol i ddefnyddio technoleg newydd neu bresennol i wella neu greu proses, cynnyrch neu brofiad. Yn y byd busnes, cynyddu’r elw yw prif ddiben y cynnydd hwn mewn ymgysylltu a mynediad digidol. Fodd bynnag, yn achos sefydliadau nid-er-elw, mae’n llawer mwy tebygol o ymwneud â lleihau costau, amrywiaethu ffrydiau incwm neu ehangu cyfranogiad. Felly, ni fydd y manteision a’r adenillion yn uniongyrchol gysylltiedig ag incwm; o’r herwydd, mae’n bwysicach asesu’r gwerth cymdeithasol ehangach wrth geisio cefnogaeth gan ymddiriedolwyr neu randdeiliaid eraill.
Er mwyn cynyddu mynediad digidol, bydd angen buddsoddi amser ac adnoddau er mwyn esgor ar y manteision sydd ynghlwm wrth gyrraedd cynulleidfa fwy a chyfranogiad ehangach. Ond sut y gallwch sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth yn eich sefydliad treftadaeth? A sut y gallwch ganfod a fydd hi’n werth buddsoddi yn y maes?
Yn ôl gwaith ymchwil gan Ganolfan Ymchwil Systemau Gwybodaeth (CISR) MIT a Vanson Bourne, ar gyfartaledd mae sefydliadau yn disgwyl gweld 17% o adenillion o fuddsoddi yn sgil eu hymdrechion i drawsnewid elfennau digidol. Darganfu’r gwaith ymchwil y byddai’r sefydliadau hyn, fel arfer, yn gweld lleihad o 10% yn eu costau a chynnydd o 11% yn eu cynhyrchiant.
Er bod lleihau costau yn gymhelliant pwysig ar gyfer trawsnewid digidol, yn aml gwelir y gwelliannau mwyaf mewn perthynas ag ymgysylltu â chynulleidfaoedd. Yn 2017, darganfu Adolygiad Busnes Harvard mai ‘gwell gwasanaethau i gwsmeriaid a gwell profiad i gwsmeriaid’, ynghyd â ‘gwell dealltwriaeth o anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid’, oedd yr adenillion mwyaf arwyddocaol.
Mae’r gallu i adnabod y manteision a’r adenillion posibl hyn yn ffordd bwysig o sefydlu bod mynediad digidol yn faes blaenoriaeth i’ch sefydliad treftadaeth. Ond rhaid i unrhyw fanteision posibl gael eu gwreiddio yn eich cyd-destun penodol chi, ac o’r herwydd rhaid i chi a’ch tîm bennu beth yn union fydd y manteision hynny i chi.
Er bod y manteision yn glir ar sail y gwaith ymchwil, nid dadlau’r achos dros wella mynediad digidol gerbron eich cyfarwyddwr neu eich ymddiriedolwyr yw’r unig nod. Rhaid i’ch staff a’ch gwirfoddolwyr fod yn gefnogol, a rhaid i’r manteision ehangach fod yn berthnasol i’ch cyd-destun penodol chi. Gallwch asesu a chyfathrebu’r manteision cymdeithasol ehangach hyn (neu’r adenillion cymdeithasol) trwy roi dull adenillion cymdeithasol o fuddsoddi ar waith.
2. Adenillion cymdeithasol o fuddsoddi (SROI) mewn perthynas â newid digidol
Yn y canllawiau hyn, mae ein harbenigwr Dr Patrick Glen o Brifysgol Leeds, yn archwilio adenillion cymdeithasol o fuddsoddi fel dull defnyddiol o bennu’r manteision a’r effeithiau ehangach sy’n perthyn i drawsnewid digidol. Mae adenillion cymdeithasol o fuddsoddi yn mesur newid trwy gyfrwng dull sydd wedi’i wreiddio yn y bobl a’r sefydliadau dan sylw.
Er mwyn cadarnhau’r achos dros fuddsoddi mewn gwella mynediad digidol, dechreuwch gyda’ch cymhelliant. Gellir defnyddio dull adenillion cymdeithasol o fuddsoddi i’ch helpu i archwilio hyn yn fanylach. Beth ydych chi’n dymuno’i gyflawni gyda’r trawsnewid digidol hwn?
Yn gyntaf, rhaid ichi gyfleu hyn mewn un amcan ac esbonio pam y mae hyn yn bwysig i chi. Efallai bod eich cynulleidfa angen rhagor o gymorth i ymgysylltu â’r offer digidol gwell a ddarparwch? Efallai bod eich gwirfoddolwyr angen cael mynediad at adnoddau ar-lein yn fwy effeithiol?
Pwyntiau i’w hystyried:
1. Sut beth fyddai llwyddiant i’ch sefydliad chi
2. Pa fetrigau a allai eich helpu i fesur cynnydd.
Mae nifer o elusennau a sefydliadau nid-er-elw yn mynd ati i ddadansoddi adenillion o fuddsoddi er mwyn mesur effeithiau ehangach eu gwaith. Efallai y byddant yn cyfleu’r canlyniadau ar ffurf ‘cymhareb adenillion cymdeithasol o fuddsoddi’, sef y gwerth cymdeithasol y bydd sefydliad yn ei gynhyrchu am bob £1 o arian neu fuddsoddiad.
Mae adenillion cymdeithasol o fuddsoddi yn mesur effeithlonrwydd sefydliadau o ran cyflawni eu hamcanion cymdeithasol trwy rannu gwerth cymdeithasol ar ffurf ariannol (allbwn) gyda’r buddsoddiadau a wnaed (mewnbwn).
Dyfyniad gan: Neilsen et al, 2020, Wiley Online Library
3. Cyfrifo eich adenillion cymdeithasol o fuddsoddi
Yn gyffredinol, ceir dau fath o adenillion cymdeithasol o fuddsoddi. Adenillion trwy werthuso, a gynhelir yn ôl-weithredol ac a ddefnyddir i archwilio canlyniadau sydd wedi digwydd yn barod; ac adenillion rhagolygol sy’n anelu at amcangyfrif y gwerth cymdeithasol a gaiff ei greu.
Pa ddull bynnag a ddefnyddiwch, fel arfer mae yna chwe cham yn perthyn i’r broses adenillion cymdeithasol o fuddsoddi:
1. Cwmpasu a phennu rhanddeiliaid
Pennwch yr hyn y bydd y gwaith dadansoddi adenillion cymdeithasol o fuddsoddi yn ymdrin ag ef, a phwy a fydd yn rhan ohono. O ran mynediad digidol, efallai y gallwch ganolbwyntio ar y canlynol:
- ymdrechion i wella mynediad at wybodaeth a gynigir gennych ar-lein
- buddsoddi yn y gwaith o ailgynllunio’r wefan
- y modd y trefnir hyrwyddwyr treftadaeth ddigidol gwirfoddol
- cynlluniau i ddarparu mynediad yn y gymuned at gyfrifiaduron er mwyn gwella galluoedd digidol grwpiau ‘anodd eu cyrraedd’
Ni waeth be fo’ch canolbwynt, mae’n bwysig ichi ystyried yr hyn y ceisiwch ei gyflawni, a chyda phwy.
2. Mapio’r canlyniadau
Trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, bydd modd ichi ddod i ddeall yr effeithiau, gan ddisgrifio’r berthynas rhwng mewnbynnau, allbynnau a chanlyniadau. Pa effeithiau uniongyrchol y gobeithiwch eu gweld yn sgil eich mentrau? A oes yna effeithiau a manteision ehangach a allai ddeillio o’r rhain yn y tymor hwy?
3. Pennu gwerth y canlyniadau
Mae’r cam hwn yn golygu casglu data er mwyn ceisio gweld a yw’r canlyniadau wedi digwydd, a beth yw eu gwerth. Ceir cyngor ynglŷn â sut i bennu gwerth canlyniadau yn yr adran isod.
4. Pennu’r effeithiau
Ar ôl casglu tystiolaeth am ganlyniadau a phennu eu gwerth ariannol, dylech benderfynu beth yw eich prif effeithiau. Pa lwyddiannau gwirioneddol sydd wedi deillio o waith eich sefydliad?
5. Cyfrifo adenillion cymdeithasol o fuddsoddi
Yna, rhaid ichi adio’r holl fanteision a thynnu unrhyw gostau o ganlyniad i’r buddsoddiad cychwynnol.
6. Adrodd ac ymwreiddio
Mae’r cam olaf yn golygu rhannu’r canfyddiadau gyda’ch rhanddeiliaid ac ymwreiddio unrhyw ganlyniadau da.
Drwy gydol y broses, dilynwch yr egwyddorion allweddol sy’n perthyn i adenillion cymdeithasol o fuddsoddi, sef:
- Cynnwys eich rhanddeiliaid
- Deall yr hyn sy’n newid
- Mawrbrisio’r pethau pwysig
- Cynnwys y pethau hanfodol yn unig
- Peidio â hawlio gormod
- Bod yn dryloyw
- Dilysu’r canlyniad
Pennu gwerth y canlyniadau
Nid yw’r adenillion ariannol sy’n deillio o gynyddu mynediad digidol wastad yn hawdd eu mesur, ac o’r herwydd tasg anodd yw pennu gwerth eich ymdrechion yn hyn o beth. Oherwydd hyn, mae adenillion cymdeithasol o fuddsoddi yn ddull gwerthfawr, ond bydd angen ichi ystyried pa elfennau dirprwyol y gellir eu defnyddio ar gyfer y gwaith a wnewch.
Mae yna bedwar dull allweddol o wneud hyn:
1. Dewis a bennir a phrisiad dibynnol – gyda’r dull hwn, byddwch yn gofyn i fuddiolwyr perthnasol sut y caiff un canlyniad ei brisio mewn perthynas â rhywbeth arall, e.e. faint o arian y byddech chi’n ei dalu er mwyn cael, neu osgoi, rhywbeth?
2. Dewis a ddatgelir – ar gyfer y dull hwn, rhaid ichi ofyn i bobl feddwl am wasanaeth neu ddigwyddiad cyfwerth, ac yna gallwch gasglu gwerth o’r gymhariaeth hon, e.e. pa mor werthfawr i chi yw mynediad haws at y we? Os ydych chi erbyn hyn yn gwybod am ddigwyddiadau’r sefydliad hwn, ac yn gallu eu mynychu, a ydynt yn fwy ynteu’n llai difyr a gwerth chweil na gweithgaredd amgen y telir amdano?
3. Costau teithio/gwerth amser – mae’r dull hwn yn archwilio faint o amser y mae pobl yn fodlon ei fuddsoddi, neu pa mor bell y maent yn fodlon teithio, er mwyn cael mynediad at wasanaeth neu brofiad tebyg. Gallwch gasglu gwerth o gostau teithio neu brisiad pobl o’u hamser eu hunain.
4. Prisio hedonig – gyda’r dull hwn, bydd angen ichi hollti’r gwasanaeth neu’r arlwy yn gydrannau, gan fynd ati wedyn i bennu gwerth ar bob rhan.
Cyfrifo cymhareb adenillion cymdeithasol o fuddsoddi
Ar ôl pennu gwerth yr holl ganlyniadau posibl a’u hadio gyda’i gilydd, dylid rhannu’r ffigur hwn gyda gwerth y mewnbynnau a’r buddsoddiadau er mwyn cael cymhareb adenillion cymdeithasol o fuddsoddi.
Cymhareb SROI = Gwerth presennol / Gwerth y mewnbynnau
Os ydych chi’n cyflwyno achos dros gefnogi eich mentrau gerbron cyllidwr, gall rhagamcanu’r adenillion cymdeithasol posibl o fuddsoddi fod yn ffordd werthfawr o ymwreiddio ymdrechion mynediad digidol yn eu heffeithiau diriaethol ehangach ar gymunedau.
4. Cynllunio trawsnewid digidol
Mae gan Rwydwaith SROI ganllaw defnyddiol i weithio drwyddo i helpu i ddeall yr enillion cymdeithasol a gwerth ehangach yr effeithiau y mae eich sefydliad yn ceisio eu creu. Lawrlwythwch ‘Y Canllaw i Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad’ (PDF file, 3.60MB).
Dyma rai cwestiynau allweddol y dylech eu gofyn wrth gynllunio trawsnewid digidol:
1. Ar ba randdeiliaid y bydd ein hymdrechion trawsnewid digidol yn effeithio fwyaf?
Ystyriwch sut rydych yn ariannu’r gwaith, a phwy fydd y buddiolwyr.
2. Beth fydd canlyniadau allweddol y trawsnewid digidol hwn i’ch sefydliad?
Meddyliwch am yr hyn y gallech ei wneud yn wahanol. Pwy fydd yn elwa ar hyn, a sut?
3. Pa ddangosyddion y gallech chi eu defnyddio?
Sut y byddech chi’n mesur a wireddwyd y manteision, ai peidio? A oes modd eu gweld a’u meintoli?
4. Pa elfennau dirprwyol y gallech chi eu defnyddio?
A oes modd ichi bennu gwerth y manteision trwy ddefnyddio rhyw fesur dirprwyol?
Mae’r tabl canlynol wedi deillio o’r ‘Guide to Social Return on Investment’. Mae’n nodi rhai rhanddeiliaid posibl, ynghyd â ffyrdd o bennu gwerth eu hymgysylltiad â’ch sefydliad:
Rhanddeiliad | Canlyniadau | Dangosyddion | Elfennau dirprwyol posibl |
Unigolyn a chanddo broblem iechyd meddwl ac sy’n teimlo’n ynysig | Iechyd meddwl gwell |
|
|
Y gymuned leol | Gwell mynediad at wasanaethau lleol |
|
|
Unigolyn a chanddo broblem iechyd corfforol | Iechyd corfforol gwell |
|
|
Un sy’n rhoi gofal | Llesiant gwell |
|
|
Pobl ifanc | Lleihad yn y defnydd a wneir o gyffuriau |
|
|
Trwy archwilio sut y mae eraill wedi defnyddio technegau adenillion cymdeithasol o fuddsoddi, yn yr adran Rhagor o Adnoddau isod, bydd modd ichi benderfynu a yw’r dull yn iawn i chi. Siaradwch ag eraill ynglŷn â sut yr aethant ati i roi hyn ar waith yn ymarferol. Efallai y bydd modd i fudiadau elusennol lleol gynnig gwybodaeth werthfawr ichi yn hyn o beth, a byddant yn rhannu’r un rhanddeiliaid a’r un buddiolwyr â’ch sefydliad chi.
Rhagor o adnoddau
Efallai y bydd y ffynonellau gwybodaeth hyn yn ddefnyddiol wrth ichi fynd ati i ddadansoddi adenillion cymdeithasol o fuddsoddi:
- Download ‘The social return on investment analysis’ by Clyde Muirshiel Park (PDF file, 884kb)
- Erthygl gan yr Ysgol ar gyfer Entrepreneuriaid Cymdeithasol (Mawrth 2021): What is the social value of heritage – and how do we measure this?
- Canllawiau gan y Gronfa Dreftadaeth ynglŷn â sut i werthuso eich prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol

Please attribute as: "How a social return on investment analysis can help you to establish the case for improving digital access (2022) by Dr Patrick Glen supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0