
Integrating strategies: how to ensure your strategic approaches to digital content and digital marketing underpin your digital strategy
1. Diffinio eich strategaeth ddigidol
Mae strategaeth yn helpu i gysylltu cenhadaeth a nodau eich sefydliad â’r gwaith a wnewch o ddydd i ddydd. Mae strategaeth yn rhyw fath o ‘fap trywydd’ ar gyfer sut y byddwch yn cyrraedd eich nodau. Bydd gwahanol strategaethau yn arwain meysydd gwaith gwahanol. Er y gallant gysylltu â’i gilydd mewn gwahanol ffyrdd, trwy sicrhau bod gennych syniad clir ynglŷn â dulliau eich sefydliad o ymdrin â thechnoleg, cynnwys a marchnata digidol, bydd modd sicrhau y rhoddir dull cydgysylltiedig ar waith.
Yn gyntaf, mae’n bwysig ichi ddeall sut y mae eich strategaeth ddigidol, eich strategaeth cynnwys digidol a’ch strategaeth marchnata digidol yn ymwneud â’i gilydd.
Cynllun cyffredinol sy’n llywio’r modd y bydd eich sefydliad yn ei gyfanrwydd yn ymhél â thechnoleg ddigidol i ategu eich cenhadaeth a’ch nodau – dyna yw strategaeth ddigidol. Bydd eich strategaeth ddigidol yn eang ei ffocws ac efallai y bydd yn cyfeirio at amryfal feysydd yn ymwneud â gwaith eich sefydliad.
Mae strategaeth cynnwys digidol yn canolbwyntio ar y modd y mae’r delweddau, y fideos, y podlediadau, y blogiau ac ati a gaiff eu defnyddio a’u creu gan eich sefydliad yn helpu i gyflawni eich nodau. Efallai y bydd strategaeth o’r fath yn cynnwys dulliau o ddehongli casgliadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu fathau o gynnwys ‘y tu ôl i’r llenni’ a gaiff eu creu a’u rhannu gyda’r cyhoedd.
Yn olaf, mae strategaeth marchnata digidol yn arwain y defnydd a wneir o ddulliau ac offer digidol er mwyn cyflawni eich amcanion marchnata. Efallai eich bod yn dymuno cyrraedd cynulleidfaoedd iau. Os felly, bydd eich strategaeth marchnata digidol yn amlinellu cynllun ar gyfer pa ddulliau ymgysylltu a phlatfformau digidol a fydd yn eich helpu i gyflawni’r nod hwn, er enghraifft trwy greu fideos TikTok.
2. Datblygu strategaeth cynnwys digidol
Trwy gael strategaeth effeithiol ar gyfer cynnwys digidol, bydd modd i’ch sefydliad treftadaeth greu a lledaenu cynnwys ymhlith cynulleidfa eang ac amrywiol. Y fantais yn hyn o beth yw y bydd modd ichi feithrin ymwybyddiaeth a chanfyddiad o’r brand, sicrhau brand dibynadwy, ac esgor ar bosibiliadau a phartneriaethau newydd.
Mae enghreifftiau da o strategaethau o’r fath yn y sector treftadaeth yn cynnwys sefydliadau sy’n llwyddo i droi asedau yn rhywbeth a all fod o fudd i’r sefydliad ei hun ac i’w gynulleidfa, a hynny yn y byd digidol.
Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau sy’n defnyddio’r tueddiadau diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol, fel ffrydio byw – sydd, yn ôl data gan y cwmni monitro apiau AppAnnie, yn ysgogi twf mewn ymgysylltu ar gyfer apiau cymdeithasol. Gan fod y pandemig Covid 19 wedi cyflymu’r broses o droi at dechnoleg ddigidol, yn awr gall sefydliadau treftadaeth adeiladu ar y buddsoddiadau a’r datblygiadau cychwynnol a wnaed ganddynt er mwyn ymateb i’r gostyngiad mewn cyswllt wyneb yn wyneb. Yn awr, gallant droi eu golygon at ddenu cynulleidfa fyd-eang, ennyn diddordeb a chyflwyno cynnwys cyffrous a diddorol trwy sicrhau eu bod yn dilyn y datblygiadau diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn awr, mae sefydliadau treftadaeth yn defnyddio apiau fel Instagram, TikTok a Snapchat i gyrraedd sector demograffig na fyddent wedi llwyddo i’w gyrraedd o’r blaen wrth ddefnyddio dulliau mwy traddodiadol o ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
3. Sut y mae eraill wedi defnyddio’r strategethau hyn
Amgueddfa Bywyd yr Ardal Ddu: Gorllewin Canolbarth Lloegr, Y Deyrnas Unedig
Mae Amgueddfa Bywyd yr Ardal Ddu yn enghraifft dda o sefydliad treftadaeth sydd wedi llwyddo i drosglwyddo profiad ymgollol ‘yn y cnawd’ i’r byd digidol, gan ddefnyddio straeon ynglŷn ag un o’r tirluniau diwydiannol cyntaf yn y DU. Llwyddodd yr amgueddfa i fachu ar gyfle i ymgysylltu â’i chynulleidfa bresennol yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol trwy gyflwyno cynnwys mewn ffyrdd creadigol ac arloesol. Lleolir yr amgueddfa yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ac mae’n creu fideos byr sy’n ddifyr ac yn addysgol eu natur. Dyma enghreifftiau:
- Making chain #learnontiktok
- Notice anything strange about the house?#learnontiktok #museummoment #history
O fewn dim o dro, llwyddodd yr amgueddfa i ddenu cynulleidfa ryngwladol. Ers mis Tachwedd 2021, mae wedi llwyddo i ddenu 1.3m o ddilynwyr.

Academi Frenhinol y Celfyddydau: Llundain, Y Deyrnas Unedig
Mae Academi Frenhinol y Celfyddydau yn enghraifft dda arall o strategaeth cynnwys digidol a luniwyd gan sefydliad sy’n perthyn i’r sector treftadaeth. Er nad yw’r Academi wedi gwneud defnydd llawn o TikTok eto, aeth ati i drydar tasg greadigol bob diwrnod yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol, ac ar hyn o bryd mae’n gwahodd ei ddilynwyr i gymryd rhan yn #RAFridayDoodle bob wythnos. Hefyd, mae gan y sefydliad gyfrif Instagram lle mae’n rhannu cynnwys yn sôn am arddangosfeydd a digwyddiadau, ochr yn ochr â delweddau o’i gasgliadau. Mae’r Academi wedi llwyddo i ddenu dilynwyr amrywiol trwy deilwra’r cynnwys ar gyfer pob platfform ar y cyfryngau cymdeithasol. Ers mis Tachwedd 2021, mae’r Academi wedi llwyddo i ddenu 456,000 o ddilynwyr ar Twitter a 562,000 o ddilynwyr ar Instagram.

Amgueddfa Bywyd Gwledig Lloegr
Llwyddodd Amgueddfa Bywyd Gwledig Lloegr i greu cryn argraff ar y sector amgueddfeydd / treftadaeth (a thu hwnt) trwy ddefnyddio Twitter mewn modd clyfar i rannu ei chasgliadau ac i annog rhagor o bobl i ymgysylltu. Yn 2018, rhannodd yr Amgueddfa ddelwedd o blith ei chasgliad, sef maharen corniog Exmoor – cafodd y ddelwedd hon ei hoffi 18,000 o weithiau a’i haildrydar 60,000 o weithiau.

Y flwyddyn ganlynol, penderfynodd yr Amgueddfa drydar lluniau o hwyaid a oedd yn rhan o’i chasgliad. Dechreuodd dagio sefydliadau treftadaeth ac amgueddfeydd eraill, gan ofyn iddynt rannu eu ‘hwyaid gorau’. Mewn ymateb i hyn, dechreuodd amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol o bob cwr o’r byd drydar lluniau o gasgliadau’n ymwneud â hwyaid, yn cynnwys Amgueddfa Prydain, Gerddi Kew ac Amgueddfa Getty.
Ceir rhywfaint mwy o fanylion am y stori hon mewn erthygl gan yr Art Newspaper, dyddiedig 10 Ionawr 2019. Dyma enghraifft o strategaeth cynnwys digidol syml y gallai sefydliadau llai ei defnyddio i ysgogi ymgysylltu ehangach.
Pwyntiau i’w cofio
- Bydd strategaeth ddigidol dda yn helpu eich sefydliad treftadaeth i greu a lledaenu cynnwys ymhlith cynulleidfa fawr ac amrywiol.
- Byddai’n syniad da ceisio dilyn y datblygiadau diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol a’r ffyrdd y gallech ddefnyddio technolegau hen a newydd, er enghraifft platfformau ffrydio byw, Realiti Estynedig a Realiti Rhithwir.
- Mae strategaeth cynnwys o’r iawn ryw yn ddifyr ac yn addysgol.
4. Datblygu dull o adrodd straeon digidol
Sut y gallwch ddechrau datblygu eich strategaeth cynnwys digidol eich hun? Bydd modd i’r adnoddau isod gan Europeana eich rhoi ar ben ffordd. Mae’r modd y mae Europeana yn defnyddio dulliau adrodd straeon digidol er mwyn ymgysylltu mwy â’r gynulleidfa ymhlith yr amryfal enghreifftiau rhagorol o strategaethau cynnwys digidol yn y sector treftadaeth. Nod Europeana yw grymuso’r “sector treftadaeth yn ei weddnewidiad digidol.”
Aeth tasglu Europeana ati i greu arweiniad 7 cam ar gyfer adrodd straeon digidol gyda threftadaeth ddiwylliannol (fideo 3 munud). Gellir ei gymhwyso at wahanol fathau o gynnwys.
Myfyriwch ar genhadaeth a nodau eich sefydliad. Sut y gallech ddefnyddio dull adrodd straeon digidol i’ch helpu i gyrraedd eich nodau? Efallai y bydd yr enghreifftiau isod yn cynnig rhai syniadau ichi ynglŷn ag adrodd straeon digidol.
Ambell enghraifft
- Mae A Picture of Change for a World in Constant Motion yn flog testun/delweddau maith (‘darllen manwl’) gan Jason Farago o’r New York Times. Mae’n canolbwyntio ar brint blociau pren Katsushika Hokusai, sef ‘Ejiri yn Nhalaith Suruga’. Mae’r gynulleidfa o’r farn fod y straeon yn ddifyr ac yn ysbrydoledig iawn. Mae’r arddull a’r iaith yn anffurfiol, yn bersonol ac yn atgofus (amlsynhwyraidd). Cyflwynir delweddau gyda thechneg agos sy’n ennyn tosturi tuag at y cymeriadau, gan wneud i aelodau’r gynulleidfa deimlo fel pe baent yn teithio trwy amser a gofod gyda’r awdur.
- Adnodd digidol gan y Metropolitan Museum of Art yn Efrog Newydd yw #MetKids. Mae’n cynnwys map rhyngweithiol a strategaeth darganfod straeon digidol a luniwyd ar gyfer/gyda/gan blant 7-12 oed. Mae’r ymgysylltu emosiynol sy’n deillio o #MetKids yn seiliedig ar greu cysylltiadau gyda’r gorffennol, cynnwys y gynulleidfa mewn modd gweithredol, meithrin ymdeimlad o ryfeddod, a’r wefr o gael mynd yn agos at wrthrych er mwyn darganfod y straeon cudd sy’n llechu y tu ôl iddo.
- Profiad Twitter ‘dewiswch-eich-antur-eich-hun’ yw ‘You are Flora Seville’ gan Amgueddfa Egham lle dilynir cymeriad ffuglennol o’r enw Flora Seville, a ddarlunnir yng nghasgliadau’r amgueddfa. Mae stori Flora Seville wedi’i saernïo’n dda; trwy gyfrwng y casgliadau a arddangosir gan yr amgueddfa, mae’r darllenwyr yn teimlo fel pe baent yn cael eu trochi yn y cyd-destun hanesyddol y bu Flora yn byw trwyddo; cânt eu llusgo i fywyd personol (ffuglennol) Flora trwy gyfrwng yr arddull anffurfiol, bersonol a’r gallu i ddewis yr hyn a wna Flora nesaf. Ceir elfen o syndod ynghyd â’r posibilrwydd o ddewis sut i barhau â’r stori.
Rhagor o adnoddau
- Treftadaeth Ddigidol UNESCO – Arweiniad manwl sy’n chwalu’r cysyniadau sydd ynghlwm wrth dreftadaeth ddigidol a chadwedigaeth ddigidol.
- Asimetric – Arweiniad cynhwysfawr ar strategaethau a fframweithiau ymgysylltu digidol, a chyflwynir enghreifftiau sy’n deillio o’r sector treftadaeth.
- Metropolitan Museum of Art – Gwefan sy’n targedu cynulleidfaoedd iau. Ceir map rhyngweithiol, animeiddiedig o’r amgueddfa ynghyd â pheiriant amser ar gyfer archwilio casgliadau a chynnwys fideos.
- Europeana – Arweiniad ar adrodd straeon digidol gyda threftadaeth ddiwylliannol.
- Digital Storytelling Festival – Gwybodaeth am ŵyl adrodd straeon digidol Europeana.
- Jing Culture & Commerce – Arweiniad ar sut y gall sefydliad treftadaeth ddatblygu deunyddiau ar gyfer adrodd straeon digidol.
Browse related resources by smart tags:
Digital content Digital engagement Digital marketing Digital strategy Instagram Social media TikTok Twitter

Please attribute as: "Integrating strategies: how to ensure your strategic approaches to digital content and digital marketing underpin your digital strategy (2022) by Dr Ruth Daly supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0