
How your organisation can engage with underrepresented groups
1. Pam y mae angen ichi ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol?
Mae cynulleidfaoedd heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau ‘agored i niwed’ yn disgrifio rhannau o’r gymuned yr ystyrir yn aml ei bod hi’n anodd eu cynnwys yn y sector treftadaeth. Yn hanesyddol, ni chawsant eu cynrychioli’n ddigonol mewn cyfranogi diwylliannol ac maent yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at wasanaethau traddodiadol.
Mae’r modd y dehonglir diwylliant a threftadaeth yn tueddu i bwysleisio naratifau hanesyddol amlwg penodol. Yn aml, mae’r naratifau hyn yn camgynrychioli neu’n allgáu cyfraniadau a phrofiadau bywyd grwpiau ar y cyrion, gan greu rhagor o rwystrau o ran cyfranogi. Mae’r Association of Critical Heritage Studies yn tynnu sylw at y modd y mae:
Cenedlaetholdeb, imperialaeth, trefedigaethedd, elitaeth ddiwylliannol, gorchestiaeth y Gorllewin, allgáu cymdeithasol sy’n seiliedig ar ddosbarth ac ethnigrwydd, a’r modd yr eilunaddolir gwybodaeth arbenigol, wedi dylanwadu’n gryf ar y ffordd y caiff treftadaeth ei defnyddio, ei diffinio a’i rheoli.
Dyfyniad gan: The Association of Critical Heritage Studies
Hefyd, mae’n bwysig ymestyn y drafodaeth ynglŷn â grwpiau ar y cyrion er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried pobl a gaiff eu hallgáu oherwydd oedran, rhywedd, rhywioldeb, daearyddiaeth, amodau economaidd-gymdeithasol, anabledd a/neu ffydd. Mae hi’r un mor bwysig ystyried sut y mae’r nodweddion gwahanol hyn yn gorgyffwrdd ac yn croestorri mewn unigolion a chymunedau.
Er mwyn ehangu cyfranogiad ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau ‘agored i niwed’, beth am ystyried ychydig o opsiynau.
Yn gyntaf, mae’n bwysig i sefydliadau treftadaeth wrando ar alwadau i ailadeiladu’r sector o’r gwaelod i fyny, ynghyd ag ymateb i’r galwadau hyn. Gallwch wneud hyn trwy fyfyrio ar y mathau o straeon a adroddir gan y grwpiau hyn ac ystyried sut y gallai’r straeon yma barhau i allgáu lleisiau ar y cyrion.
Mae gan sefydliadau treftadaeth gyfrifoldeb i symud y tu hwnt i ffyrdd traddodiadol o feddwl am dreftadaeth trwy wahodd cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol a chymunedau a gamgynrychiolir i gyd-greu a rheoli treftadaeth. Trwy gymryd rhan mewn cyfranogiad digidol, trwy roi arferion cymdeithasol-gynhwysol ar waith a thrwy groesawu barn ac arbenigedd gwahanol gymunedau, gall sefydliadau treftadaeth ymgorffori’r lleisiau hyn mewn model newydd ar gyfer y sector.
Gwerth lleisiau gwahanol
Trwy ddefnyddio cyfranogiad digidol i ymgysylltu â chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol a chymunedau ‘agored i niwed’, bydd modd i sefydliadau treftadaeth wneud y canlynol:
- Creu ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant cymdeithasol
- Grymuso unigolion a chymunedau
- Adeiladu treftadaeth ddiwylliannol gyda chymunedau
- Meithrin ymdeimlad o reolaeth ymhlith cymunedau
- Ennyn cefnogaeth cymunedau a rhanddeiliaid ar gyfer mentrau newydd
- Esgor ar syniadau ar gyfer prosiectau newydd o du cymunedau na chânt eu cynnwys yn draddodiadol
- Gwella enw da’r sefydliad treftadaeth.
Sylwer: Mae’r term ‘anodd eu cyrraedd’ yn ddadleuol, oherwydd mae’n rhoi’r cyfrifoldeb ar ddefnyddwyr y gwasanaethau. I gael rhagor o fanylion, gweler yr erthygl ‘“Nid ydym mor anodd eu cyrraedd” – sy’n cynnwys cymunedau ‘nad ydynt yn cael eu clywed yn aml’ mewn ymchwil’.
2. Sut i wella mynediad ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
Mae ein harbenigwr, Dr Ruth Daly o Brifysgol Leeds, yn esbonio sut y gallwch ddechrau meithrin perthynas â chymunedau ar y cyrion trwy ddefnyddio technoleg ddigidol.
Gallwch ddefnyddio technolegau newydd mewn ffyrdd syml iawn er mwyn gwella mynediad at dreftadaeth, gwella’r modd y cynrychiolir grwpiau ar y cyrion a gwahodd y cynulleidfaoedd hyn i’ch sefydliad.
Annog cyfranogiad digidol
Mae technoleg ddigidol yn eich galluogi i gyrraedd gwahanol gymunedau ledled y byd, a gweithio gyda nhw. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cydweithio â sefydliadau cymunedol trwy fideogynadledda, gan fynd ati i sefydlu gweithgor er mwyn dechrau ymdrin â’r dasg o ddychwelyd arteffactau i’w mamwlad. Yn yr un modd, efallai y byddwch yn gweithio o bell gydag aelodau cymunedau ar y cyrion i ddatblygu cyfres o weithdai neu sgyrsiau ar-lein.
Trwy gymryd rhan mewn cyfranogiad digidol, bydd modd i’ch sefydliad treftadaeth weithio mewn partneriaeth â mudiadau cymunedol a chymunedau i greu ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant cymdeithasol. Cofiwch y gall mynediad at dechnoleg amrywio, felly mae’n bwysig ichi dreulio peth amser yn ymchwilio i’r offer a’r platfformau digidol gorau er mwyn ichi allu cyrraedd y cymunedau y dymunwch ymgysylltu a gweithio gyda nhw.
Efallai y bydd yr adnodd a grëwyd i ateb y cwestiwn hwn o fudd yn hyn o beth: ‘Pa feini prawf y dylem eu defnyddio wrth benderfynu pa sianeli a phlatfformau sy’n iawn i ni?’.
Sicrhau bod eich ymarfer yn gymdeithasol-gynhwysol
Dylid gwahodd cymunedau i gyfrannu at y dasg o greu cynnwys mewn partneriaeth â sefydliadau treftadaeth. Trwy weithio ar y cyd, bydd modd i sefydliadau treftadaeth gyfrannu at gynhwysiant cymdeithasol cynaliadwy. Trwy groesawu barn a sylwadau cymunedau ynglŷn â’u treftadaeth, gallwch fynd ati i adeiladu treftadaeth ddiwylliannol gyda chymunedau a gaiff eu hallgáu yn fynych o naratifau diwylliannol prif ffrwd.
Yr elfen allweddol yn hyn o beth yw ymwreiddio cydberthnasau dwyochrog hirdymor yn eich ffyrdd o weithio. Yn hytrach na gwahodd aelodau cymunedau i gyfrannu at un digwyddiad neu un arddangosfa, meddyliwch sut y gallwch greu rôl barhaol ac ystyrlon yn eich sefydliad. Efallai y bydd hyn yn digwydd ar ffurf grŵp cynghori a fydd yn cyfarfod yn rheolaidd â’ch ymddiriedolwyr, gan greu interniaethau a all feithrin sgiliau ac arwain at waith yn y sector; neu efallai y bydd yn golygu creu adran mewn oriel a gaiff ei churadu’n rheolaidd gan aelodau’r gymuned.
Sefydlu ymddiriedaeth
Gall sefydliadau treftadaeth ddefnyddio cyfranogiad digidol ac arferion cymdeithasol-gynhwysol i hysbysu cynulleidfaoedd heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau ‘agored i niwed’, yn ogystal ag i ymgynghori â nhw, gwrando arnynt ac ymateb iddynt. Gellir meithrin perthynas ac ymddiriedaeth trwy rannu adnoddau, pŵer a chyfrifoldeb o fewn rhwydwaith o randdeiliaid – rhywbeth a fydd, yn ei dro, yn meithrin ymdeimlad o reolaeth ymhlith y cymunedau.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn trefnu cyfres o sgyrsiau agored ar-lein gyda grwpiau ar y cyrion er mwyn cychwyn deialog ynglŷn â ffyrdd o gydweithio. Efallai y byddwch yn sicrhau bod eich archifau a’ch casgliadau ar gael yn ddigidol i gymunedau fel cam cyntaf yn y dasg o rannu adnoddau. Neu efallai y byddwch yn cynnwys blog neu bodlediad cymunedol ar eich gwefan.
Isod mae rhai dolenni i erthyglau pellach er gwybodaeth:
- Hanes cryno yr Association of Critical Heritage Studies
- Erthygl gan Good Governance yn sôn am ymgysylltu â chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol
- Adroddiad gan y Good Things Foundation yn sôn am eu rhaglen i ymestyn cyfranogiad digidol
- Hanes Sweetpatootee, cynhyrchwyr rhaglenni dogfen yn ymwneud â dehongli treftadaeth
3. Astudiaeth achos – Amgueddfa Caerdydd

Mewn partneriaeth â gwasanaethau Byw’n Annibynnol Cyngor Caerdydd, yn ystod 2020 rhoddodd Amgueddfa Caerdydd sesiynau ‘hel atgofion’ ar-lein misol ar waith fel ffordd o gynnig mynediad tra bu’r amgueddfa ar gau yn ystod y pandemig Covid-19.
Aeth y sesiynau hyn ati i ddefnyddio gwrthrychau a hanesion personol o blith y casgliadau i annog sgyrsiau a rhannu atgofion. Ymgorfforwyd cymysgedd o ddelweddau, straeon, cwestiynau a gweithgareddau yn y sesiynau ar-lein – megis cwisiau hanes byr – er mwyn i bobl allu ymgysylltu â’r pynciau mewn gwahanol ffyrdd. Bu hyn yn arbennig o werthfawr wrth annog yr arfer o rannu atgofion rhwng pobl â dementia a’u gofalwyr.
Medd Lesley, un sy’n cymryd rhan yn rheolaidd yn y sesiynau ‘hel atgofion’ ar-lein:
Mae dangos gwrthrychau o’r gorffennol yn ein helpu i rannu atgofion… mae fel effaith pelen eira.
Mae swyddog dysgu ac allgymorth yr amgueddfa yn hyrwyddwr dementia. Mae’r amgueddfa yn sicrhau bod y staff a’r gwirfoddolwyr i gyd yn cymryd rhan mewn sesiwn ‘cyfaill dementia’ cyn cefnogi’r gweithgareddau, ac fel rhan o’r gwaith parhaus tuag at ddod yn sefydliad sy’n ystyriol o ddementia. Mae Amgueddfa Caerdydd a thîm y Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn annog pawb sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau i fod yn gyfaill dementia. Caiff pawb eu hannog i barhau i godi ymwybyddiaeth o bobl sy’n byw gyda dementia er mwyn cefnogi’r gwaith cymunedol a wneir gan Gymdeithas Alzheimer yn y maes dementia.
Medd Jordan Taylor-Bosanko, Swyddog Dysgu ac Allgymorth Amgueddfa Caerdydd:
Mae’r sesiynau ar waith bellach ers pymtheg mis a chânt eu cynnal dros Microsoft Teams. Mae cyfranogwyr newydd yn ymuno â ni bob mis, yn ogystal â’r mynychwyr rheolaidd.
Er mwyn annog pobl i hel atgofion ar ôl i’r sesiwn ddod i ben, fe wnaeth Helen Harris, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer tîm cyfleoedd dydd y cyngor, rannu adborth gan ŵr a gwraig y bu’n eu cynorthwyo i fynychu’r sesiynau ‘hel atgofion’ ar-lein:
Mae Denis a’i wraig Jean wedi ymuno â ni ddwywaith, ac maen nhw’n mwynhau’r sesiynau yn fawr. Mae Jean yn byw gyda dementia. Ar ôl ymuno â’ch sesiwn, mae gan y ddau rywbeth i siarad amdano ac mae Jean yn rhyngweithio mwy.
Ymhellach, cafodd aelodau tîm y Gwasanaethau Byw’n Annibynnol hyfforddiant ‘Hyrwyddwyr Digidol’ (gan Gymunedau Digidol Cymru) er mwyn iddynt allu rhoi’r cymorth a’r dyfeisiau digidol angenrheidiol i’r cyfranogwyr a’u helpu i fynychu’r sesiynau ar-lein.
Mae Jordan yn nodi pa mor bwysig yw’r gwaith o ran cefnogi llesiant pobl a lleihau teimladau ynysig:
Doedd rhai o’r bobl a fynychodd y sesiynau ddim wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau digidol o’r blaen ac roedd pethau eraill yn eu rhwystro rhag mynychu digwyddiadau, oherwydd pryderon iechyd neu gyfrifoldebau gofalu amser llawn.
Mae ein partneriaeth gyda’r tîm Gwasanaethau Byw’n Annibynnol wedi bod yn gwbl ganolog i hwyluso’r sesiynau hyn.
Llwyddodd y ddau wasanaeth i weithio’n dda gyda’i gilydd, gan ddefnyddio’r sgiliau a’r adnoddau a oedd ar gael i gefnogi anghenion y cyfranogwyr – pobl na fyddent, fel arall, wedi gallu cael mynediad at y gweithgareddau hyn. Hefyd, cynigiodd gyfle inni ddatblygu cynnwys y sesiynau hyn ar gyfer eu cyflwyno’n ddigidol ac yn y cnawd.
4. Defnyddio elfennau digidol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd heb gynrychiolaeth ddigonol a chynulleidfaoedd ‘agored i niwed’
Wrth weithio gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, mae hi’n amhosibl cael ‘un ateb sy’n addas i bawb’. Yn yr adran hon, nodir rhai pwyntiau y gallwch fyfyrio arnynt ynghyd â rhai camau ymarferol y gallwch eu cymryd er mwyn dechrau gweithio gyda chymunedau ar y cyrion.
Cyn ichi estyn llaw i gymunedau, mae’n bwysig ichi wneud rhywfaint o waith paratoi yn eich sefydliad yn gyntaf.
Cynllunio eich ymgysylltu
- Defnyddiwch ddata demograffig neu ddata ymwelwyr er mwyn helpu i ganfod presenoldeb grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn lleol – sef grwpiau y gallwch ganolbwyntio eich strategaethau ymgysylltu arnynt.
- Rhowch anghenion ac amgylchiadau unigol y cymunedau wrth galon a chraidd eich rhyngweithio.
- Pennwch ddulliau a strategaethau ymgysylltu priodol.
- Datblygwch ddulliau digidol priodol ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned.
- Ewch ati i gyd-greu gyda chymunedau wrth gynllunio a chynnal yr ymgysylltu.
- Datblygwch a defnyddiwch rwydweithiau cyswllt.
Ymgysylltu â grwpiau targed
- Cofiwch gydnabod a pharchu amrywiaeth eang o draddodiadau diwylliannol.
- Ymgysylltwch â chynrychiolaeth eang.
- Ewch ati i ganfod a gwahodd pobl briodol i gynnal cyfweliadau, arolygon a grwpiau ffocws gyda chymunedau.
- Darparwch ar gyfer anghenion y cymunedau rydych yn awyddus i ymgysylltu â nhw trwy ei gwneud hi mor bleserus a rhwydd â phosibl i’r bobl hynny gymryd rhan.
- Defnyddiwch raffigwaith amrywiol ac addas mewn deunyddiau hyrwyddo.
- Gwnewch yn siŵr fod y cynnwys digidol yn hygyrch.
- Addaswch yr wybodaeth er mwyn diwallu anghenion unigolion.
- Gwnewch y cynnwys yn hygyrch:
- Ystyriwch sut y bydd defnyddwyr rhaglenni darllen sgrin a defnyddwyr dyfeisiau eraill yn cael mynediad at eich cynnwys.
- Cynhwyswch destun er mwyn disgrifio unrhyw ddelweddau a ddefnyddir.
- Gwnewch yn siŵr fod y cynnwys ar gael mewn gwahanol ieithoedd.
- Ystyriwch sut y bydd defnyddwyr rhaglenni darllen sgrin a defnyddwyr dyfeisiau eraill yn cael mynediad at eich cynnwys.
- Cynhwyswch destun er mwyn disgrifio unrhyw ddelweddau a ddefnyddir.
- Gwnewch yn siŵr fod y cynnwys ar gael mewn gwahanol ieithoedd.
- Defnyddiwch dermau priodol wrth gyfeirio at y grŵp ‘anodd ei gyrraedd’ yn y boblogaeth.
Rhagor o ganllawiau er mwyn helpu i sicrhau y bydd y cyfryngau digidol yn gynhwysol ac yn hygyrch:
Prifysgol Leeds – Gwneud eich gwybodaeth ddigidol ac argraffedig yn hygyrch
Llywodraeth y DU – Deall gofynion hygyrchedd cyrff sector cyhoeddus
Browse related resources by smart tags:
Access Audience focused Community Inclusion Under-representation

Please attribute as: "How your organisation can engage with underrepresented groups (2022) by Dr Ruth Daly supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0