
Developing a quick wins approach to your digital strategy
1. Strategaeth ddigidol a fydd yn esgor ar enillion cyflym
Mae yna fanteision lu yn perthyn i gael strategaeth ddigidol effeithiol. Gall fod yn anodd gwybod pa strategaeth sydd fwyaf addas i’ch sefydliad treftadaeth gan fod modd cael gafael ar adnoddau digidol di-rif yn rhwydd, ar-lein ac mewn mannau eraill. Yn yr adnodd hwn, yn hytrach na defnyddio ‘un ateb sy’n addas i bawb’, dangoswn fod trawsnewid digidol yn dibynnu ar broses y mae Pieter Brinkman, Uwch-gyfarwyddwr Marchnata Technegol yn Sitecore*, yn ei disgrifio fel ‘adeiladu-mesur-dysgu’ (Brinkman, 2021).
Mae datblygu strategaeth ddigidol yn broses barhaus. Dylech ymdrechu i bennu a defnyddio cyfleoedd a fydd yn esgor ar werth parhaol yn sefyllfa eich sefydliad. Trwy roi strategaeth enillion cyflym ar waith, bydd modd ichi sicrhau canlyniadau di-oed, meithrin diwylliant gwelliant parhaus a gosod y sylfaen ar gyfer trawsnewid digidol hirdymor. [1]
* Mae Sitecore yn darparu meddalwedd a gwasanaethau ar gyfer marchnata amlsianel a rheoli cynnwys y we.
2. Meysydd marchnata y gallwch ganolbwyntio arnynt
Yma mae ein harbenigwr, Dr Ruth Daly o Brifysgol Leeds, yn esbonio sut y gallwch esgor ar newid yn gyflym.
Ni fydd mabwysiadu dull enillion cyflym o angenrheidrwydd yn fenter faith, gostus na thrwm ar adnoddau. Dyma lwybr delfrydol ar gyfer gweddnewid strategaeth ddigidol sefydliadau treftadaeth bach, oherwydd bydd enillion cyflym yn esgor ar effaith lawn trwy ddefnyddio cyn lleied â phosibl o adnoddau.
Gallwch wneud y canlynol:
- Sicrhau eich bod yn deall perfformiad eich ymgysylltu ar-lein / all-lein yn well
- Gwella’r modd y defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol
- Gwella cynllun ac amlygrwydd eich gwefan
- Gwella cyfathrebu yn gyffredinol
- Hybu eich proffil fel sefydliad treftadaeth a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’ch brand
- Gwella elfennau’n ymwneud ag Optimeiddio eich Peiriant Chwilio
- Gwella eich Strategaethau Marchnata
- Denu cynulleidfa fwy amrywiol
- Sicrhau bod eich sefydliad yn gyfredol.
3. Enillion cyflym yn ymwneud â ‘dadansoddeg’
Mae ‘dadansoddeg’ yn cyfeirio at y broses sydd ynghlwm wrth ddarganfod, deall a chyfathrebu patrymau diddorol yn ymwneud â data a gwybodaeth. Gall fod yn ddull rheoli pwerus, ond nid yw o angenrheidrwydd yn golygu y bydd yn rhaid ymhél â systemau cymhleth neu arbenigedd penodol. Efallai eich bod yn dymuno gwybod pa rannau o’ch gwefan y mae pobl yn clicio arnynt amlaf, beth yw natur y cliciau oddi ar eich gwefan, neu faint o weithiau y caiff dogfen PDF ei lawrlwytho, er enghraifft. Bydd modd i ddau offeryn sydd ar gael yn rhwydd ar-lein eich helpu i fynd i’r afael â Dadansoddeg heb ichi orfod buddsoddi gormod o amser.
1. Google Tag Manager (GTM)
Gallwch ddefnyddio Google Tag Manager i gael gafael ar nodweddion Dadansoddeg uwch. Trwy ddefnyddio GTM, gallwch wneud y canlynol:
- Gosod ategyn olrhain dyfnder sgrolio
- Olrhain amser gwylio fideos YouTube
- Mesur gweithgarwch ar draws parthau gyda nodwedd olrhain drawsbarthol. [2]
2. Offeryn dadansoddeg HotJar
Trwy osod HotJar, cewch ddata crai ynglŷn â sut y mae pobl yn ymddwyn ar eich safle, yr hyn y maent ei angen a sut y maent yn teimlo ynglŷn â’ch cynnwys. Mae HotJar yn disgrifio’i blatfform fel ‘ffordd reddfol a gweledol o ddarganfod, cydgrynhoi a chyfathrebu anghenion defnyddwyr.’ [3] Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wefan HotJar trwy glicio ar y ddolen: Hotjar: Website Heatmaps & Behavior Analytics Tools.
4. Enillion cyflym yn ymwneud â’r wefan
Dyma rai ffyrdd cyflym o wella gwefan eich sefydliad:
- Ewch ati’n rheolaidd i ddiweddaru’r dudalen ‘Amdanom ni’, gan nodi’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n berthnasol i’ch sefydliad fel newyddion, digwyddiadau neu’r hyn sydd ar y gweill. Trefnwch atgoffâd i chi eich hun er mwyn ichi wneud hyn bob ychydig fisoedd.
- Bob tro y byddwch yn cynnal digwyddiad neu’n ymgysylltu â’r gymuned, cynyddwch yr effaith trwy ychwanegu adroddiad.
- Ychwanegwch ffotograffau a phroffiliau ar gyfer eich holl staff. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gyfredol.
- Gwiriwch fod eich gwybodaeth gyswllt yn gywir. Cofiwch gynnwys rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost a ffurflen ymholiad.
- Cynhwyswch dystlythyrau ar eich gwefan.
- Ysgrifennwch eich cynnwys mewn iaith glir a byddwch yn bwrpasol.
Os dilynwch strategaeth enillion cyflym o’r fath, gallwch ddisgwyl gweld canlyniadau’n ddi-oed. Bydd y dull hwn yn gosod y sylfaen ar gyfer trawsnewid digidol hirdymor ac yn meithrin diwylliant gwelliant parhaus yn eich sefydliad treftadaeth.
5. Rhestr wirio enillion cyflym ar gyfer marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol
Gallwch ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o bennu brand eich sefydliad. Ewch ati i gofrestru enw a brand eich sefydliad ar y prif safleoedd cyfryngau cymdeithasol.
1. Rhai o’r prif sianeli cyfryngau cymdeithasol hollbwysig y gallwch greu cyfrifon arnynt
- YouTube
- TikTok
- Snapchat
2. Cynhwyswch declynnau cyfryngau cymdeithasol ar eich gwefan
- Bydd teclynnau o’r fath yn cysylltu ymwelwyr eich gwefan â’ch brand ar draws yr holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol, gan dynnu sylw at eich ymgysylltu a’ch effaith gadarnhaol.
3. Byddwch yn strategol gyda’r hyn a gynhwyswch ar y cyfryngau cymdeithasol
- Gofynnwch i chi eich hun, pwy yw eich cynulleidfaoedd targed?
- Ewch ati i ganfod pwy yw cynulleidfaoedd nodweddiadol pob platfform.
- Rhannwch gynnwys diddorol, craff, difyr ac addysgol a fydd yn berthnasol i’ch cynulleidfaoedd. Efallai y bydd angen ichi ddefnyddio cynnwys gwahanol ar blatfformau gwahanol.
4. Ewch ati i greu digwyddiadau ar-lein rhyngweithiol
Dyma dair enghraifft:
- Gwahoddwch unigolion perthnasol i ‘ysgwyddo cyfrifoldeb’ dros gyfrif Instagram y sefydliad am ddiwrnod.
- Cynhaliwch sesiwn Holi ac Ateb fyw ar Instagram.
- Ewch ati i gynnal cystadlaethau lle bydd yn ofynnol i’ch cynulleidfa ar y cyfryngau cymdeithasol rannu cynnwys gyda’u dilynwyr, gan arwain at ychwaneg o ryngweithio â’ch cyfrif.
6. Adnoddau pellach
3 buddugoliaeth gyflym i wella’ch strategaeth ar-lein.
Sut mae deall gwahanol ddemograffeg cynulleidfaoedd cyfryngau cymdeithasol yn gwella marchnata.
Cyfeiriadau
[1] Brinkman, P. 2021. Adeiladu diwylliant o drawsnewid parhaus. [Ar-lein]. [Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2021].
[2] MarchnataNerd. 2021. [Ar-lein]. [Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2021].
[3] HotJar. 2021. [Ar-lein]. [Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2021].
Browse related resources by smart tags:
Analytics Arts marketing Digital strategy Facebook Social media Twitter Website

Please attribute as: "Developing a quick wins approach to your digital strategy (2022) by Dr Ruth Daly supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0