
Using Virtual Reality to tell your fundraising stories
1. Cefndir
Mae Prifysgol Leeds, sy’n bartneriaid i Arts Fundraising & Philanthropy, yn rheoli eu Canolfan Technolegau Trochol, gan weithio gyda mwy nag 80 o ymchwilwyr o ystod o bynciau prifysgol sy’n canolbwyntio ar bum maes blaenoriaeth, sef iechyd, trafnidiaeth, addysg, cynhyrchiant, a diwylliant. Mae’r Ganolfan yn cael ei chydlynu drwy chwe arweinydd academaidd ac mae ganddi fardd a dau artist preswyl. Mewn partneriaeth â’r Sefydliad Diwylliannol, mae’r Ganolfan yn gweithio ar amrywiaeth o raglenni, gan gynnwys defnyddio technolegau trochol i roi mynediad i bobl at adnoddau diwylliannol a threftadaeth y genedl, llawer nad ydynt ar agor i’r cyhoedd eto. Yn ogystal, nhw yw’r rhaglen ymchwil aml-bartner, amlddisgyblaethol flaenllaw sy’n ymchwilio i sut y gall technoleg drochol lywio’r ffyrdd y mae aelodau’r cyhoedd yn ymgysylltu â safleoedd coffa gwersylloedd crynhoi’r Natsïaid, gan adrodd gwahanol fathau o straeon pwerus.
2. Defnyddio Realiti Rhithwir (VR) i gryfhau’n straeon
Mae effaith technoleg drochol ar y celfyddydau’n tyfu’n gyflym. Mewn erthygl i The Guardian, mae Sarah Ellis, sy’n Gyfarwyddwr Ymgysylltu Digidol yn y Royal Shakespeare Company, yn siarad am dechnoleg ddigidol yn newid ein gweithlu, ein perthnasoedd, ein mapiau, ein heconomïau a’n blaenoriaethau. Mae Sarah yn dweud y gall artistiaid droi hyn ar ei ben fel bod y dechnoleg ei hun yn dod yn newid – digidol yw sgwrs fyw’r dydd, a’r celfyddydau yw’r crwsibl lle rydym yn dod ynghyd i siapio, esblygu a gwneud synnwyr o’r hyn sydd o’n blaenau. Mewn sector lle rydyn ni’n prysur ddatblygu sut rydyn ni’n gweithio gyda datblygiadau digidol, beth mae hyn yn ei olygu o ran denu cyllid i gefnogi ein hachosion?
Rydyn ni wedi gweld y sector elusennau prif ffrwd yn troi at ddefnyddio pob math o dechnoleg i hybu rhoi dyngarol drwy alluogi rhoddwyr i uniaethu â derbynwyr ar lefel drwy brofiad. Er enghraifft, dyluniodd Alzheimer’s Research UK ap Realiti Rhithwir (VR) mewn partneriaeth â’r arbenigwyr realiti rhithwir, VISYON, i alluogi pobl i brofi bywyd drwy lens rhywun â dementia. Yn yr un modd, creodd y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol VR mewn canolfan siopa yn Bromley, gan ganiatáu i roddwyr posibl deimlo persbectif plentyn awtistig a phrofiad penysgafn gorlwyth synhwyraidd.
Mae VR a thechnoleg drochol yn ein galluogi i gryfhau ein galluoedd adrodd straeon, gan roi ffyrdd newydd i ni o gyfleu cymhlethdod ein gwaith mewn ffordd fwy symlaidd. Roedd Nicola Euston, sy’n Bennaeth Amgueddfeydd ac Orielau ym Mhrifysgol Lerpwl ac yn un o gyn-gymrodorion Arts Fundraising & Philosphy, yn rhan o Dîm Datblygiad Symudol Prifysgol Lerpwl, a ddatblygodd ap realiti chwyddedig i gefnogi ymwelwyr â’r amgueddfa i ddysgu mwy am eu harddangosfeydd. Mae ysgogi pobl angerddol i ymgysylltu ymhellach â gwaith sefydliad yn gyfle allweddol i ymgorffori negeseuon codi arian, hefyd.
3. Cydweithio
Gall cydweithio a gweithio mewn partneriaeth fod yn allweddol i ddatblygu profiadau trochol lle mae cyllidebau’n dynnach. Mae gweithio gydag artistiaid digidol a rhannu’r risg drwy weithgarwch codi arian ar y cyd i gefnogi gwaith digidol yn gyfle go iawn. Ar lefel fwy sylfaenol, gellid cryfhau ymgyrchoedd codi arian symlaidd gyda Geohidlydd Snapchat – hidlydd pwrpasol sy’n seiliedig ar leoliad daearyddol defnyddiwr ffôn clyfar. Maen nhw’n weddol rad, ac maent yn cynnig rhywbeth hwyliog i gynulleidfaoedd ymgysylltu ag ef. Mewn byd codi arian sy’n dod yn fwyfwy cystadleuol, mae technoleg drochol yn ein galluogi i ailddyfeisio sut rydyn ni’n trafod ein gwaith ac yn cadw diddordeb ein rhoddwyr. Y wefr o weithio yn y sector celfyddydol a diwylliannol yw bod pobl greadigol hynod ddychmygus yn ein hamgylchynu bob dydd, a’r her i dimau codi arian yw dod â’r creadigrwydd yma i’r cyfarfod cynllunio codi arian nesaf.
Does dim angen i’r byd digidol fod ar gyfer adrannau marchnata neu raglennu yn unig, ac mae’r gwobrau yno i’r rhai sy’n barod i roi peth amser, adnoddau, a datblygiad iddo.
David Johnson, Cyfarwyddwr Strategaeth a Rhaglenni, Cause4
Cyhoeddwyd hyn yn wreiddiol ar wefan Arts Fundraising & Philanthropy (Hydref 2019). Cafodd ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau, datblygiadau, ac ymchwil mwy diweddar.
Browse related resources by smart tags:
Digital fundraising Fundraising Immersive Storytelling Virtual reality VR

Please attribute as: "Using Virtual Reality to tell your fundraising stories (2022) by David Johnson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0