
Using podcasts to engage with new audiences
1. Cydweithio
Ranjit: Rwyf wedi cael y llawenydd o fentora Emma o Brosiect Adfer Organ St Mellitus fel rhan o haen y Lab o’r Lab Treftadaeth Ddigidol ac rwyf wrth fy modd yn rhannu sut roedd hi ac Oonagh o Deithiau Tywysedig Islington yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn y pandemig gyda’u ‘Pod-deithiau’ ― teithiau sain o dreftadaeth gerddorol Stroud Green. Emma ac Oonagh, efallai y gallwch chi ddechrau drwy ddweud wrthon ni sut y daethoch chi ati i gydweithredu gyntaf?
Emma: Iawn, felly ein prosiect yw prosiect adfer organ Coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf mewn eglwys yng Ngogledd Llundain o’r enw St Mellitus. Ochr yn ochr â hynny, mae gennym ymchwilwyr archif gwirfoddol sy’n archwilio hanesion y dynion a goffeir gan yr organ.
Roedden ni’n ceisio meddwl am sut gallen ni gyflwyno’r ymchwil mewn ffordd newydd a diddorol. Yn Islington, rydym yn lwcus o fod ag adran gwasanaethau treftadaeth wych yn y Cyngor, a soniodd eu bod wedi cynnal teithiau tywysedig hanesyddol ar gyfer rhai o’u prosiectau eraill, ac felly gwnaethan nhw fy nghyflwyno i Oonagh. Roedd hi’n swnio fel ffordd wych o gyflwyno rhai o straeon y dynion i gynulleidfa ehangach. Cafodd Oonagh a minnau rai cyfarfodydd ynghylch sut y byddai’r prosiect yn gweithio, ond ar ôl i Covid daro, sylweddolon ni y byddai angen i ni fod yn fwy hyblyg gydag ef.
Oonagh: Rwy’n dywysydd lleol i Islington ac yn gyfarwydd iawn â’r dreftadaeth o amgylch Stroud Green, lle mae St Mellitus wedi’i lleoli. Roeddwn i’n gwybod bod gen i ddigon o gynnwys am yr ardal, ond oherwydd y pandemig, roedd angen ffordd newydd o’i chyflwyno arnon ni. Roeddwn i’n awyddus i bwysleisio natur amlddwylliannol yr ardal, gan fy mod yn gwybod ei bod hi’n aml yn anodd uniaethu â’r Rhyfel Byd Cyntaf os ydych o dras nad yw yn cael ei chynrychioli’n aml mewn straeon amdano.
Daeth Emma a minnau o hyd i’r syniad o beidio â ffocysu cymaint ar y Rhyfel Byd Cyntaf i ddechrau, ond yn hytrach ar dreftadaeth gerddorol Stroud Green, fel y gallen ni barhau i ddathlu treftadaeth yr organ. Yn ogystal â bod yn dda ar gyfer cerddoriaeth bop, roedd Stroud Green hefyd yn ardal organau sinema a phianos, ac felly gyda chymaint o gyfoeth o wybodaeth, dechreuwyd ffurfio’r syniad o ‘bod-daith’.
Tudalennau gwe’r ‘pod-deithiau’ ar wefan Prosiect Adfer Organ St Mellitus. Diolch i Brosiect Adfer Organ St Mellitus am y ddelwedd. Llun gan Charlotte Wilson.
Ranjit: Sut dechreuodd y ‘pod-deithiau’ ymffurfio?
Emma: Siaradodd Oonagh a minnau am sut roedd teithiau eraill yn cael eu rhedeg yn y cyfnod clo, fel drwy Instagram neu gyflwyniadau PowerPoint, ond dewison ni’r sylfaen sgiliau a oedd gennym yn barod. Rwy’n dod o gefndir y cyfryngau a’r radio ac roedd gen i offer recordio sain gartref yn barod, tra bod Oonagh yn arweinydd teithiau arbenigol, a byddai hi’n gwybod sut i roi llais i wybodaeth yr ardal.
Roedden ni’n awyddus i recordio y tu allan i gael seiniau’r amgylchedd, yn hytrach na chael ein hynysu mewn ystafell, fel y gallen ni gysylltu â chynulleidfa mewn cyfnod clo a oedd yn gwarchod neu’n dymuno gwneud y gorau o’u hamser cyfyngedig y tu allan. Roedd hi’n ymddangos yn amlwg dod â’r byd y tu allan iddynt.
Oonagh: Yn sicr, roedd yn rhaid i mi addasu’r ffordd rwy’n gweithredu. Fel arfer, byddwn i’n sefyll mewn lle, yn siarad am ychydig funudau ac yn derbyn cwestiynau gan y gynulleidfa. Nawr, byddai angen i’r arosfannau fod yn fyrrach, gan nad oes adborth yn syth gan y gynulleidfa. Yn hytrach na phwyntiau bwled, roedd angen sgript briodol arna i, oherwydd fel arall fydden ni ddim yn gallu ei hamseru.
Emma: Roedd angen i ni fod yn ddadansoddol ynglŷn â beth oedd yn gweithio a beth oedd ddim. Un peth a efelychwyd gennym o deithiau The Guardian, sy’n enghraifft wych o deithiau sain, oedd cyflwyno lleisiau lluosog i ychwanegu mwy o amrywiaeth. Gall clywed un person yn unig yn siarad am 30 munud deimlo’n hir iawn ac felly mae ychwanegu lleisiau wir wedi helpu gyda hynny.
Oonagh: Gan feddwl am y person hwnnw a oedd yn gwarchod gartref ac yn eistedd ar ei sofa, roedd angen i ni gynnwys lleisiau eraill, ac roedd angen y gerddoriaeth arnon ni hefyd i wneud i’r daith gyfan ddod yn fyw. Felly fe wnaethon ni ddefnyddio ein cysylltiadau, ac roedd gan Emma wirfoddolwyr ar ei phrosiect a allai gyfrannu’n uniongyrchol.
2. Offer
Ranjit: Allwch chi ddweud wrthon ni am yr offer a ddefnyddioch chi?
Emma: Roedd gen i Recordydd Cludadwy Zoom H5, sy’n ddarn o offer o ansawdd darlledu. Fodd bynnag, gallwch chi ddysgu gwneu bron unrhyw beth o fideo tiwtorial YouTube, ac felly mae’n berffaith bosibl recordio ar rywbeth fel iPhone. Efallai y bydd rhaid i chi brynu meicroffon ychwanegol, ond gallech chi hefyd ystyried llogi pecynnau offer.
Gyda Covid, doedden ni ddim yn gallu bod yn rhy agos at y cyfwelai, felly fe wnaethon ni fuddsoddi mewn polyn genwair bwm, nad yw’n rhy ddrud, a hefyd cebl hirach fel y gallen ni gadw rhywfaint o bellter wrth recordio.

Recordio ger cerflun Jazzy B yng Ngorsaf Parc Finsbury. Diolch i Brosiect Adfer Organ St Mellitus am y ddelwedd. Llun gan Charlotte Wilson.
Ranjit: Beth ddysgoch chi ar ôl i chi orffen y recordiadau cyntaf?
Emma: Yn gyntaf, roedd yn rhy hir, felly dechreuon ni olygu er mwyn ei gwneud o dan 35 munud, a oedd hefyd yn golygu ail recordio rhannau i wneud i gysylltiadau weithio.
Sylweddolon ni hefyd fod angen atgofion personol arnon ni i ychwanegu deinameg wahanol a dod â’r prosiect yn ôl i’r elfen dreftadaeth. Yn llythrennol, gofynnon ni i bobl roedden ni’n eu hadnabod roedden ni’n meddwl y gallai fod ganddynt atgofion personol. Roedd Susan, y tywysydd arall ar y daith, yn adnabod rhywun o dras Cypraidd Groegaidd, yr oedd ei thad wedi rhedeg caffi yn yr ardal. Fe wnaethon ni gysylltu â Sarah White yn Sefydliad George Padmore, ac roedd ganddi atgofion o’u swyddfeydd yn cael eu defnyddio i baratoi ar gyfer Carnifal Notting Hill, felly roedd hynny’n ffordd wych o gysylltu ein prosiect â digwyddiad arall yn y ddinas. Roedd gan un o’n gwirfoddolwyr archif linach Wyddelig, ac roedd ganddo atgofion o fynd i weld gig y Pogues mewn lleoliad cerddoriaeth a oedd hefyd yn arhosfan ar ein taith.
Clip sain o ‘bod-daith’ newydd sbon yn canolbwyntio ar sut olwg oedd ar yr ardal yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Diolch i Brosiect Adfer Organ St Mellitus am y clip. Clip hyrwyddo ‘pod-deithiau’ #2.
Lawrlwythwch y trawsgrifiad o gapsiynau Saesneg (Ffeil Word 34kb).
Ranjit: Dywedwch ychydig wrthon ni am y wefan a sut roedd hynny o help arbennig i unrhyw un a oedd yn gwarchod.
Emma: Sylweddolon ni y gallai’r ‘pod-daith’ weithio fel y radio a rhaglen ddogfen os gallech chi weld y lleoliadau a rhai o’r cyfweleion ar wefan, hefyd. Defnyddiwyd ffotograffydd gwirfoddol gwych o’r prosiect adfer organau i dynnu lluniau a chawson ni rai delweddau archif hefyd drwy Wasanaethau Treftadaeth Islington. Roedden ni’n ceisio meddwl am y gynulleidfa a fyddai’n defnyddio’r safle a sut y gallen ni sicrhau bod y daith yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl.
3. Heriau
Ranjit: Sut gwnaethoch chi ddelio â mater sŵn allan ar y stryd?
Oonagh:Pan wnaethon ni’r ‘poddaith’ cyntaf, roedd rhaid i ni ailrecordio rhai rhannau, oherwydd nad oedden ni wedi deall faint mae pethau fel cerbydau’n effeithio ar ansawdd y sain. Dysgon ni hefyd nad oes rhaid i chi fynd i bob un lle. Yn hytrach, gallech chi ddod o hyd i le addas yn yr awyr agored sydd â synau priodol o hyd.
Mae gweithio y tu allan yn gallu bod yn broblem, ac mae rhaid i chi ddisgwyl i’ch cyfweleion fod ag ychydig o amynedd a bod yn barod i ailadrodd pethau.
Emma: Ffordd arall y gwnaethon ni ddelio â sain oedd gweithio gyda cherddorion sydd â phrofiad o recordiadau sain, i wneud cymysgedd sain i ni. Defnyddiais i raglen ar-lein am ddim o’r enw Reaper, hefyd.
Ranjit: Sut gwnaethoch chi fynd i’r afael â heriau eraill yr oeddech yn eu hwynebu?
Emma: Un peth a helpodd yn aruthrol yw bod Oonagh a minnau wedi meithrin perthynas dda iawn. Dechreuon ni ar y prosiect fel menter wreiddiol ac roedden ni’n ymwybodol y byddai camgymeriadau a rhwystrau ar y ffordd, ond y gallen ni ddysgu sgiliau newydd ein hunain o’i wneud. Mae’n ymwneud â dod o hyd i bartner y gallwch chi esbonio gwerth y prosiect iddo a rhywun sy’n gallu gweld y byddan nhw’n cael sgiliau newydd o gymryd rhan.
Oonagh: Ie, roedd hynny’n hollbwysig, gan fy mod i’n eithaf ofnus. Doeddwn i erioed wedi gwneud podlediad a does gen i ddim cefndir technegol. Roeddwn i’n gwybod y gallwn i gyflenwi’r cynnwys ond roedd angen y berthynas gadarnhaol honno arna i gydag Emma. Roeddwn i wedi cael profiad o brosiect gwahanol yn cael ei ohirio yn ystod COVID a chollwyd cyfle go iawn i adolygu sut y gellid ei wneud yn wahanol, ond gydag Emma, llwyddon ni i ddeall sut i addasu prosiect.
Roedden ni’n ffodus bod cyllidwyr Emma yn hyblyg hefyd. Ar gyfer sefydliadau fel ein rhai ni, byddwch yn barod i newid eich cynlluniau ac i weithio allan yr hyn a weithiodd a beth na weithiodd.
4. Dosbarthu a marchnata
Ranjit: Allech chi siarad am y cynllun dosbarthu a marchnata?
Emma: Ar ôl gwylio tiwtorialau YouTube a siarad ag eraill am lwyfannau maen nhw’n eu defnyddio, dewison ni Podbean fel ein gwasanaeth lletya. Mae’n syml iawn i’w ddefnyddio, gyda llawer o ganllawiau tiwtorial o fewn eu system. Gofynnon ni i ddylunydd gwe ei ymwreiddio ar ein gwefan a gwnaethon ni hefyd ei roi ar Spotify ac ar Podlediadau Apple, ond yn dal i gyfeirio pobl at y wefan fel y gallen nhw weld y blyrb a’r ffotograffau.
Defnyddion ni ap o’r enw Headliner i gynhyrchu clipiau byrrach a allai gynnwys delweddau, a oedd hefyd yn golygu bod gennym rywbeth i ddechrau ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Anfonon ni ddatganiad i’r wasg at y papur lleol, a wnaeth erthygl newyddion amdano i ni hefyd. Anfonon ni e-bost at yr holl sefydliadau ac unigolion y soniwyd amdanyn nhw yn y ‘pod-daith’, megis Decca Records, Topic Records, Jazzie B a Soul II Soul. Fe wnaethon ni eu trydar hefyd i gysylltu ag unrhyw un y soniwyd amdanyn nhw yn y ‘pod-daith’ a’n helpu i’w hyrwyddo.
Diolch i Brosiect Adfer Organ St Mellitus am y clip sain o’r ‘pod-daith’ cyntaf. Clip hyrwyddo ‘pod-deithiau’ #2.
Lawrlwythwch y trawsgrifiad o gapsiynau Saesneg (Ffeil Word 34kb).
Ranjit: Beth oedd rhai o’r prif lwyddiannau yn gyffredinol ar gyfer y prosiect treftadaeth, ac i’r ddau sefydliad hefyd?
Oonagh: I Deithiau Tywysedig Islington, mae wedi bod yn wych rhoi cynnig ar rai pethau newydd a chael ein gwobrwyo am hynny. Oherwydd y cyfnod clo, symudodd llawer ohonon ni i deithiau PowerPoint rhithwir, ond roedd y ‘pod-deithiau’ yn gyfle i roi gwybodaeth i bobl na fydden nhw fel arall yn gallu mynd am dro, yn enwedig y rhai ag anableddau neu â chyfrifoldebau gofalu. Felly, fel sefydliad, roedden ni’n sicr yn meddwl llawer mwy am gynulleidfaoedd targed a cheisio cyrraedd cynulleidfa fwy amrywiol.
Hefyd, cyrraedd cynulleidfa ehangach yn gyffredinol. Pan fyddwn ni’n gwneud taith gerdded yn y fan a’r lle, mae gennym hyd at 20 o bobl, ond efallai y bydd rhai’n gadael ac efallai na fydd eraill yn cofio popeth. Nawr, mae gennyn ni gofeb barhaol, mae gennym ddelweddau gweledol ar y wefan, yn ogystal â’r recordiadau. Mae’n rhywbeth y bydd pobl yn gallu troi ato am flynyddoedd.
Emma: I ni, mae wedi bod yn ffordd wirioneddol dda o gysylltu’r prosiect â’r gymuned leol ar adeg anodd. Doedden ni ddim yn gallu cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb, na chael pobl leol i mewn i’r eglwys ei hun, felly roedd y ‘pod-daith’ yn ffordd o gyrraedd pobl drwy ddulliau gwahanol.
Fe’i rhoddwyd ar-lein ym mis Chwefror ac [ar 10 Mehefin] rydyn ni wedi cael 146 o lawrlwythiadau. Mae hynny’n fwy nag y bydden ni wedi’i gael, mae’n debyg, pe gallai pobl fod wedi mynd ar y daith go iawn, sy’n wych.
Hefyd, rwy’n credu bod gwaddol y ‘pod-deithiau’ yn well na phe baem wedi gwneud y rhain fel teithiau cerdded byw. Mae gennym y sgriptiau o hyd, felly gallen ni ofyn i Oonagh eu hail-wneud fel taith fyw, hyd yn oed, pan fo hynny’n bosibl. Yn y cyfamser, bydd yn parhau i fodoli ar ein gwefan ac ar wahanol lwyfannau podlediadau.
5. Awgrymiadau a siopau tecawê
Ranjit: Pa gynghorion byddech chi’n eu rhoi i eraill sy’n ddibrofiad yn ddigidol?
Emma: Gwn fod cyllid yn hollbwysig wrth lywio faint y gallwch chi ei wneud, ond ceisiwch weithio o amgylch cyfyngiadau, yn enwedig os oes gennych chi sefydliad neu unigolyn eisoes sydd â gwybodaeth am eich prosiect treftadaeth penodol sy’n barod i wirfoddoli eu hamser.
Hefyd, meddyliwch am eich cynulleidfa drwy bopeth rydych chi’n ei wneud, boed hynny’n benderfyniadau golygyddol neu’ch gwaith marchnata. Cofiwch pam a sut rydych chi’n mynd i wneud rhywbeth a chymhwyso’r agwedd honno drwy bob rhan o’r prosiect.
Oonagh: Yr hyn a ddysgais i oedd “peidiwch â bod ag ofn”! Doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i’n ei wneud ar y dechrau, ond drwy help Emma, dysgais i lawer, ac rydw i wedi cael cofeb barhaol am fy amser yn y cyfnod clo.
Emma: Rwy’n cytuno’n llwyr. Roedden ni’n yn agored iawn gyda’n gilydd am yr hyn a oedd yn gweithio ac nad oedd yn gweithio, ac felly byddwn ni’n cynghori unrhyw un i beidio â bod ag ofni methu.
I wrando ar bodlediadau’r ‘Pod-deithiau’ yn eu cyfanrwydd, ewch i wefan St Mellitus Organ Restoration Project’s website. Yna gwelwch chi ‘pod-daith’ newydd sbon ynghylch sut olwg oedd ar yr ardal yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; y bwriad yw gwrando arno wrth seiclo, neu mae modd cerdded y llwybr hefyd.
Browse related resources by smart tags:
Audience development Digital Digital content Digital engagement Digital Heritage Online audience engagement

Please attribute as: "Using podcasts to engage with new audiences (2022) by Ranjit Kaur Atwal , Emma Beck and Oonagh Gay supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0