How online events had a positive impact on audience engagement and donations for a small heritage organisation
1. Cefndir
David Johnson: Roeddwn yn ffodus iawn i gael gweithio gyda Celia a’r Rose Playhouse fel eu Mentor Sgiliau Digidol yn rhan o haen y Lab o’r Lab Treftadaeth Ddigidol. Rwyf wedi mwynhau gwrando ar stori’r Rose Playhouse a’u taith ddiddorol. Gadawaf i Celia gyflwyno’i hun, ac yna gall ddechrau dweud ychydig wrthym am y Rose Playhouse a’r hyn mae’n ei wneud.
Celia Gilbert: Rwy’n gweithio yn y Rose Playhouse ers bron dwy flynedd a fi yw’r unig berson sy’n cael fy nhalu. Rwy’n gweithio i Ymddiriedolaeth Theatr y Rose ac mae fy swydd wedi tyfu’n sylweddol.
Ers dros 30 mlynedd mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod wrthi’n ceisio achub y Rose Playhouse. Fe’i hadeiladwyd ym 1587 a hon oedd y theatr Duduraidd gyntaf i’w chodi ar Bankside yn Llundain. Llwyfannwyd dramâu Shakespeare a Marlowe yna. Mae’r safle bellach yn heneb restredig. Mae wedi’i gwarchod yn genedlaethol ac mae ar y rhestr adeiladau Treftadaeth mewn Perygl.
Darganfuwyd archeoleg y Rose, a oedd wedi’i chadw’n dda, ym 1989, yn ystod gwaith cloddio archwiliol arferol a gynhaliwyd yn y cyfnod rhwng clirio’r safle ac ailddatblygu bloc o swyddfeydd. Daeth y Rose yn stori newyddion ryngwladol o bwys, a denodd y safle filoedd lawer o ymwelwyr.
Roedd perygl na ellid gwarchod sylfeini’r Rose. Felly dechreuwyd ymgyrch, a gefnogwyd gan bobl o bob cefndir, gan gynnwys actorion o fri gan gynnwys y Fonesig Judi Dench, Dustin Hoffman a’r Fonesig Peggy Ashcroft. O’r ymgyrch hon, daeth y Rose yn heneb restredig, a oedd yn golygu bod yr adeilad newydd sydd wedi’i adeiladu ar ei phen yn eistedd ar drawstiau i ganiatáu mynediad i sylfeini’r Rose.
Rydych chi’n mynd i mewn ar lefel y ddaear ac mae’r theatr islaw. Mae gweddill yr adeilad uwchben ac mae’n cael ei adnewyddu eto ar hyn o bryd, ond rydyn ni wedi gallu adnewyddu’r drwydded fel bod y Rose yn gallu bodoli yna am lawer hirach. Rydyn ni bellach yn codi arian i geisio datguddio gweddill y datgloddio am mai dim ond traean o’r theatr a ddarganfuwyd. Ein nod yw adeiladu canolfan ymwelwyr lle gallwn ddathlu archeoleg a pharhau i ddefnyddio’r lle ar gyfer perfformiadau byw.
Nid ydyn ni wedi gallu defnyddio’r lle ar gyfer perfformiadau, nid yn unig oherwydd Covid, ond oherwydd y gwaith adnewyddu presennol ar yr adeilad uwchben y safle.

Dyluniad pensaer enghreifftiol o ganolfan ymwelwyr / gofod arddangos a pherfformio newydd y Rose Playhouse.
Diolch i Ymddiriedolaeth Theatr y Rose am y ddelwedd. Llun Nick Helm©.
2. Symud digwyddiadau ar-lein
David Johnson: Mae’n eitha’ diddorol nad oedd eich penderfyniad i symud digwyddiadau ar-lein wedi’i seilio’n gyfan gwbl ar Covid, ond bod angen hynny am resymau eraill.
Celia: Rydyn ni’n cynnal trafodaethau yn ogystal â pherfformiadau, a bu’n rhaid i ni ganslo digwyddiad ar Gwrteisi a Bwyta yn Oes Elizabeth. Roedden ni’n meddwl y byddai’n hyfryd pe gallen ni gynnal y math hwn o ddigwyddiad ar-lein. Roedden ni am gyrraedd rhan ehangach o’n cymuned, nid yn unig y rhai sy’n dilyn y theatr ond hefyd haneswyr ac archeolegwyr. Felly roedden ni’n dyfalu, beth gallen ni ei wneud? Roedd y byd yn symud draw i Zoom ac roedden ni’n meddwl tybed fyddai hynny’n rhywbeth y gallen ni ei archwilio. Ffordd o atgoffa pobl ein bod ni dal yma er nad oedden ni ar agor yn ffisegol.
David: Yn sicr. Fel y dywedwch, chi yw’r unig aelod o staff; mae gennych grŵp o wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr i’ch cynorthwyo, ond beth oedd yr heriau ymarferol i chi o ran symud digwyddiadau ar-lein?
Celia: Am mai dim ond fi sydd, roedd angen i mi allu cael pobl eraill i’m helpu. Mae gwirfoddolwyr wedi fy helpu erioed, ond roedd yn teimlo’n hanfodol bod tîm o bobl wrth law. Felly creon ni dîm digwyddiadau, gyda phobl a oedd eisoes yn helpu gyda digwyddiadau ar y safle – digwyddiadau a pherfformiadau diwrnodau agored.
O’r tîm hwnnw daeth syniadau ynghylch pwy y gallen ni eu gwahodd i ddod i siarad. Roedd yn bwysig bod gennym y deunydd cywir a fyddai’n denu diddordeb pobl fel y gallen ni ddatblygu carfan o bobl â diddordeb.
Roedden ni eisoes yn defnyddio Trybooking.com ar gyfer ein digwyddiadau ar y safle, felly roedden ni’n gallu defnyddio’r un asiantaeth docynnau i werthu tocynnau ar gyfer ein digwyddiadau ar-lein. Rydyn ni’n gwerthu tocynnau am £5 a hefyd mae modd cyfrannu rhodd ar y pwynt prynu. Mae rhoddion yn bwysig iawn i ni am ein bod yn llwyr ddibynnol ar gyllid am bopeth a wnawn, gan gynnwys fy nghyflogi i. Roedd hyn i weld yn ffrwd gyllid a oedd yn aros i ddigwydd ac roedd yn fodd i ni ddenu cyllid yn ystod Covid.
Roedd y byd yn symud draw i Zoom ac roedden ni’n meddwl tybed fyddai hynny’n rhywbeth y gallen ni ei archwilio. Ffordd o atgoffa pobl ein bod ni dal yma er nad oedden ni ar agor yn ffisegol.
3. Ymgysylltu â chynulleidfa ddigidol
David: Pan ddechreuon ni siarad, tua blwyddyn yn ôl, roedden ni’n meddwl am ffyrdd o dyfu eich cyfryngau cymdeithasol a thyfu eich cynulleidfaoedd, y tu allan i’r grŵp hynod deyrngar o bobl sydd wedi ymgysylltu â chi.
Celia: Yn sicr, yn wir. Mae gennym garfan deyrngar dros ben. Hefyd, mae gennym eitha’ tipyn o danysgrifwyr sydd wedi ymuno dros y blynyddoedd naill ai oherwydd eu bod wedi ymweld â’r safle neu am eu bod wedi gwylio rhywbeth yna. Ac yn amlwg, mae gennym gylch o Ffrindiau hefyd. Felly dechreuon ni gyda’r elfen honno, ac yna mae rhywfaint o farchnata gair ar led yn digwydd. Yna dechreuodd pobl gael gwahoddiadau rheolaidd ac o hynny roedden ni’n gallu datblygu carfan o ddilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol.
Roedd y gair ar led yn bwysig iawn, ac wedyn daeth yn amlwg y gallen ni ddenu cynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol lawer mwy. Roedden ni’n cael ysgolheigion a mynychwyr y theatr o America, Awstralia a phob cwr o Ewrop, a hyd yn oed ymhellach, yn mynychu ein digwyddiadau ar-lein.
Sylweddolon ni nad cynulleidfa o Lundain yn unig oedd ei hangen arnon ni. Roedden ni’n ymestyn i garfan o ddilynwyr rhyngwladol, felly dechreuon ni dyfu cynulleidfa drwy gyfryngau cymdeithasol.

Rhyngdoriad a ail-luniwyd o olwg y Rose gyntaf, gan William Dudley, gan gynnwys deunydd gan Jon Greenfield a C. Walter Hodges, o’r canllaw, ‘The Rose, Bankside’s first theatre 1587’.
David: Rwy’n credu mai 50 yw’ch uchafswm yn y Rose, ond mae eich gallu i ddenu ar-lein wedi cynyddu’n fawr. Mae dod o hyd i gynulleidfaoedd newydd a thyfu llwyfan ar gyfer digwyddiadau ar-lein wedi bod yn drawsnewidiol iawn.
Celia: Ydy, roedd ein gallu i gynnal y digwyddiadau hyn ar-lein yn bwysig iawn a gallen ni ddenu’r rhai hynny a oedd yn mynychu. Gwelson ni hefyd fod dod o hyd i’r pynciau cywir ar gyfer ein digwyddiadau hefyd yn rhan o dyfu ein cynulleidfa. Er enghraifft, rhoddodd siaradwr drafodaeth i ni am boitswyr ar afon Tafwys o’r enw Mudlarking on the Thames a ddenodd 743 o bobl a brynodd docynnau.
Hefyd, denodd trafodaeth o’r enw The Rose Past, Present and Future ystod gwbl newydd o bobl i ni. Mae gweithio ar-lein wedi ein galluogi i gynyddu ein cynulleidfa’n helaeth. I ddechrau, roedd 40 neu 50 o bobl yn ymuno â ni, ond erbyn hyn mae cyfartaledd o 100 ac weithiau mwy.
4. Rhoddion ar-lein
David: Mae gen i ddiddordeb wybod hefyd sut gwreiddioch chi’r cais am roddion?
Celia: Yn ogystal â gwerthu tocynnau ar gyfer ein digwyddiadau ar-lein, roedden ni’n meddwl byddwn ni hefyd yn gofyn i bobl roi arian, ac weithiau byddwn ni’n cael hyd at £200 am ddigwyddiad a fynychwyd gan 90 i 100 o bobl. Mae’r digwyddiadau ar-lein wedi tyfu ein rhoddion yn ogystal â’n cynulleidfaoedd. Ni allwn fod wedi cyflawni’r lefel hon o incwm gyda refeniw’r tocynnau yn unig am y pris y gallwn ei godi. Nid oedden ni am brisio’n hunain allan o’r farchnad, am na allwch chi gynnal y digwyddiadau ar-lein yma fel theatr. Mae’n ddeinameg wahanol.
Mae’r digwyddiadau ar-lein wedi tyfu ein rhoddion yn ogystal â’n cynulleidfaoedd.
David: A beth am ofyn i bobl am roddion yn ystod y digwyddiad yn ogystal ag wrth werthu tocynnau?
Celia: Ar ddechrau pob digwyddiad ar-lein tra’n bod ni’n gadael pobl i mewn i Zoom rydyn ni’n rhannu sleidiau – sy’n ddefnyddiol i’r bobl hynny sy’n cael trafferthion sain i allu darllen rhywbeth. Rydyn ni’n defnyddio’r sleidiau hyn i wahodd pobl i danysgrifio i’n digwyddiadau sydd yn ei dro, gobeithio, yn eu darbwyllo i ddod yn Ffrindiau i’r Rose.
Os yw’r siaradwr yn rhoi caniatâd, rydyn ni’n recordio’r digwyddiadau ar-lein – dim ond ar gyfer y bobl a brynodd docyn ond nad oedd wedi gallu mynychu’r digwyddiad byw mae’r recordiadau hyn, neu os yw pobl yn cyflwyno rhodd rydyn ni’n hapus i’w gadael iddyn nhw weld recordiadau hefyd.
David: Beth fyddwch chi’n symud yn ei flaen ar ôl ailagor? Beth fydd yn aros, beth na fydd yn aros? Beth rydych chi wedi’i ddysgu?
Celia: Rydyn ni’n gobeithio, erbyn mis Medi 2021, y byddwn ni’n gallu ailagor safle’r Rose a dechrau cynnal digwyddiadau ar y safle eto. Digwyddiadau byw yw ein bara menyn. Does dim byd tebyg i’r profiadau a gewch o fod yn y gofod ei hun. Rydyn ni’n gobeithio cynnal rhai digwyddiadau ar-lein i’w rhedeg ochr yn ochr â’r digwyddiadau ar y safle, wedi’u hanelu’n arbennig at y rhai hynny nad ydynt yn gallu cyrraedd yma’n ddaearyddol. Byddwn ni’n rhannu’r gwaith a wnawn wrth symud ymlaen hefyd. Felly bydd hynny’n ein rhoi ni ar y map ychydig yn fwy.
David: Bydd, ac mae hynny’n gwbl berthnasol o ran codi arian yn y dyfodol hefyd, rwy’n meddwl. Mae gennych gynulleidfaoedd a rhoddwyr yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop – sut byddwch chi’n parhau’r naratif a’r ymgysylltiad hwnnw â’r Rose? Am eu bod nhw erbyn hyn wedi’u hymgysylltu ac yn ymddiddori yn yr hyn a wnewch chi hefyd?
Celia: Yn wir, ac mae hynny wedi agor maes cwbl newydd i ni, mewn ffordd. Gallwn ni ddechrau meddwl y tu allan i’r bocs o ran yr hyn a wnawn ni yn y dyfodol.
5. Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
David: Mae hynny’n wych. Beth yw eich cynlluniau at y dyfodol, felly?
Celia: Wel, rydyn ni’n ddibynnol iawn ar godi arian. Yn 2013, roedden ni’n rhan o Raglen ‘Rose Reveal’ Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – cynlluniau i greu ffasâd a chanolfan ymwelwyr ar hyd Stryd y Parc yn ein lleoliad. Rydyn ni hefyd yn gobeithio datguddio gweddill safle’r Rose. Felly mae’n ymwneud â denu cyllid i wneud hynny.
Gobeithio y bydd ffordd y gallwn ffrydio archeoleg y safle sy’n weddill yn y Rose ar-lein fel bod pobl yn gallu gweld beth sy’n digwydd – ond mae hynny’n bell ar y gorwel eto.
Mae codi arian yn bwysig ond ni allwn ni wneud y cyfan ar-lein. Yn amlwg, mae’n rhaid i ni edrych ar ffynonellau cyllid eraill, ac mae hynny’n parhau.
David: Y peth rwy’ wedi’i gofio o’n hamser yn gweithio gyda’n gilydd yw bod themâu’r pethau y gallai pobl fod â diddordeb ynddyn nhw wedi ymestyn. Fel y dywedoch, mae cynulleidfa ar gyfer hanes, cynulleidfa ar gyfer treftadaeth, cynulleidfa ar gyfer perfformio, cynulleidfa ar gyfer archeoleg, ac mae hyd yn oed cynulleidfa ar gyfer poitswyr.
Celia: Roedd yn ddarganfyddiad difyr dros ben. Mae gennych ddisgwyliad am ddilynwyr Shakespeare, Marlowe a’r theatr, ond o hynny, rydyn ni bellach wedi archwilio bywyd Oes Elizabeth, cariadon Shakespeare a phapur tŷ bach!
Mae addysg yn haen bwysig o’n gwaith felly wrth symud ymlaen, mae dod o hyd i ystod eang o themâu i ddenu ystod eang o ddiddordebau ac oedrannau’n allweddol.
Browse related resources by smart tags:
Digital Digital content Digital engagement Digital Heritage Fundraising Fundraising events Heritage Online fundraising
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How online events had a positive impact on audience engagement and donations for a small heritage organisation (2022) by David Johnson and Celia Gilbert supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0



