
How a very small museum is using digital to tell its big story
1. Cyflwyniad
Mae Amgueddfa Richard Jefferies yn amgueddfa fach sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned yn Swindon, wedi’i lleoli yn yr hen ffermdy lle cafodd yr ysgrifennydd natur Fictoraidd Richard Jefferies ei eni. Yn ogystal â’r amgueddfa sydd wedi’i neilltuo i waith a bywyd Richard Jefferies, mae gerddi gwych gyda llwybr natur, ardal bicnic goediog, perllan, lleiniau llysiau, a mil o leoedd i blant redeg o gwmpas a chuddio. Mae’r amgueddfa’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Amgueddfa Richard Jefferies ac mae wedi’i hachredu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
2. Dechrau ar y daith ddigidol
Zahida: Allwch chi ddweud wrthym ni am eich gweithgarwch digidol cyn i chi ymuno â’r Lab Treftadaeth Ddigidol?
Ann-Marie: Roedd gennym bresenoldeb digidol cyfyngedig, a doedd dim strategaeth na dealltwriaeth go iawn o sut i greu un. Roedd cyfathrebu digidol yn teimlo’n dameidiog ac adweithiol. Gwyddem fod angen strategaeth arnon ni, fel y gallen ni symud i ffwrdd o fod yn adweithiol a mabwysiadu dull mwy bwriadus. Fel yr ysgrifennais yn fy nghais i’r Lab, “Amgueddfa fach ydyn ni, gyda hanes mawr i’w ddweud, ac rydyn ni’n awyddus iawn i ddysgu sut i wneud hynny’n ddigidol”.
“Amgueddfa fach ydyn ni, gyda hanes mawr i’w ddweud, ac rydyn ni’n awyddus iawn i ddysgu sut i wneud hynny’n ddigidol”.
Zahida: Sut wnaethoch chi ddechrau’ch taith ddigidol?
Ann-Marie: Roeddem yn cydnabod bod ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn aml yn canolbwyntio ar rannu lluniau neu hysbysebu digwyddiadau, heb sôn llawer am ysgrifau a meddyliau Richard Jefferies, ac felly roedd hi’n teimlo’n eithaf pell o wir genhadaeth yr Ymddiriedolaeth, sef: Creu amgylchedd unigryw o ddarganfod a fydd yn cyfoethogi bywydau pobl ac yn ysbrydoli oedolion a phlant drwy gartref, ysgrifennu a meddyliau Richard Jefferies.
Gan fyfyrio ar ein cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, roedden ni’n gallu gweld bod y cysylltiad â Richard Jefferies yn wan. Roedd llawer o’r cynnwys am ddigwyddiadau i’r teulu, nad oedd ganddyn nhw gysylltiad â Richard Jefferies. Rhywle ar hyd y ffordd roedden ni wedi colli ein ffocws ar Richard Jefferies ar y cyfryngau cymdeithasol.
Zahida: Mae’n swnio fel bod gennych rywfaint o waith i’w wneud a oedd yn ehangach na’r strategaeth ddigidol yn unig?
Ann-Marie: Oedd, ac mewn gwirionedd, gwnaethon ni ddiwygio ein cynllun busnes pum mlynedd yn y pen draw, a gwella’r ffordd rydyn ni’n rhoi Richard Jefferies wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Roedden ni’n cydnabod mai hybu Richard Jefferies yw un o’n prif flaenoriaethau. Heb hynny, fydden ni ddim yn cyflawni ein gweledigaeth fel amgueddfa. Erbyn hyn, rydyn ni wedi dod yn fwy ymwybodol am integreiddio Richard Jefferies ym mhob peth rydyn ni’n ei wneud. Dyma rywbeth y buon ni’n sôn amdano o’r blaen, ond helpodd y strategaeth ddigidol i ni ganolbwyntio ar hyn.
3. Effeithiau strategaeth ddigidol
Zahida: Sut mae hyn wedi effeithio ar eich rhaglennu?
Ann-Marie: Rydyn ni wedi ailwampio ein rhaglen deuluol yn llwyr. Mae’r digwyddiadau i gyd yn gysylltiedig â Richard Jefferies, drwy natur, ecoleg neu fywyd gwyllt. Does dim rhaid i ni wneud y dewis mwyach rhwng postio am Richard Jefferies na’n digwyddiadau â thocynnau, oherwydd eu bod nhw bellach wedi’u cysylltu.
Zahida: Allwch chi ddweud wrthym ni am un neu ddau o’r pethau rydych chi wedi bod yn eu gwneud yn wahanol ers datblygu’ch strategaeth ddigidol?
Ann-Marie: Rydyn ni wedi bod yn profi gwahanol fathau o gynnwys cyfryngau cymdeithasol ynghylch Richard Jefferies a natur, i weld beth sy’n gweithio orau, e.e. cloriau llyfrau neu ddyfyniadau, yn ogystal â hybu’r cysylltiad rhwng Richard Jefferies a’r rhaglen digwyddiadau, yn hytrach nag osgoi sôn amdano. Yn flaenorol, doedd postiadau am Richard Jefferies ddim yn denu llawer o sylw, ond mae hynny i gyd yn newid wrth i ni integreiddio’r neges gyda’n rhaglen weithgareddau. Rydyn ni hefyd wedi segmentu’n cynulleidfaoedd a dechrau siarad â nhw mewn ffordd wahanol.
Sylwais i hefyd fod gan bob un o’n sianeli cymdeithasol ddelweddau gwahanol fel eu logo. Gall newid syml megis defnyddio’r un logo ar draws pob sianel olygu bod pobl yn gallu gweld yn rhwydd mai’r un sefydliad yw e. Mae cysondeb yn bwysig wrth adeiladu presenoldeb ar-lein proffesiynol.
Zahida: Ydy’r strategaeth ddigidol wedi newid sut rydych chi’n gweithio fel tîm?
Ann-Marie: Ydy, yn bendant. Roedd gen i syniad o sut roeddwn i am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ond roedd e wedi’i gadw yn fy mhen. Mae creu cynllun digidol ffurfiol wedi helpu i egluro fy meddyliau, a rhannu fy null gweithredu gydag Ymddiriedolwyr eraill. Mae hyn yn golygu bod pobl eraill yn gallu cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros bostiadau cyfryngau cymdeithasol bellach, gan fod pawb yn deall lle rydyn ni’n mynd.
Diolch i Amgueddfa Richard Jefferies am y ddelwedd©
4. Ymgysylltu digidol
Zahida: Oes unrhyw newid wedi bod mewn ymgysylltu digidol?
Ann-Marie: Un o’r enillion mwyaf yw’r twf mewn dilynwyr. Nid yw e wedi ymwneud yn unig â chael mwy o ddilynwyr, ond yn hytrach, y math cywir o ddilynwyr, sef y rhai sydd am ymgysylltu â ni a’n cynnwys digidol. Mae nifer y bobl sy’n ymddiddori mewn cynnwys am Richard Jefferies wedi cynyddu, wrth i ni ddod yn fwy hyderus am siarad amdano fe a’i waith.
Digwyddodd rhywbeth annisgwyl ym mis Ebrill; achosodd fandaliaid dân yn y gerddi a dinistrio offer chwarae plant. Gwnaethon ni bostio amdano fe ar Facebook, a chynyddodd yr ymgysylltiadau â’n post 1170% a nifer y bobl yr oedd yn hoffi’n tudalen 650%. Cawsom ein llethu gan gynigion o gymorth a rhoddion. Mae wedi gwneud i ni werthfawrogi faint o gefnogaeth leol sydd ar gael i ni.
Ym mis Medi, roedd y postiad Facebook cyffredin yn cyrraedd 900 o bobl, ac ym mis Ebrill mae’r ffigur hwnnw’n 4,700 o bobl. Hyd yn oed ym mis Chwefror, cyn y tân, roedd y nifer wedi codi i 2000 o bobl, felly roedd y strategaeth yn cael effaith. Rydyn ni bellach yn gyrru pobl i’r wefan o Facebook, sy’n rhywbeth nad oedden ni wedi’i wneud o’r blaen. Mae ymgysylltiad ar Instagram a Facebook wedi cynyddu hefyd.
Fydden ni ddim wedi cyrraedd unrhyw le yn agos at lefel yr ymgysylltu rydyn ni’n ei chael nawr cyn dechrau’r rhaglen Lab Treftadaeth Ddigidol.
“Ym mis Medi, roedd y postiad Facebook cyffredin yn cyrraedd 900 o bobl, ac ym mis Ebrill mae’r ffigur hwnnw’n 4,700 o bobl… Rydyn ni bellach yn gyrru pobl i’r wefan o Facebook, sy’n rhywbeth nad oedden ni wedi’i wneud o’r blaen..”
5. Myfyrdodau a’r camau nesaf
Zahida: Beth am y Lab Treftadaeth Ddigidol sydd wedi bod yn fwyaf buddiol i chi?
Ann-Marie: Y cyfuniad o’r hyfforddiant a gweithio gyda mentor sydd wedi ein helpu i gael cymaint allan o’r rhaglen hon. Fyddai’r hyfforddiant ar ei ben ei hun ddim yn ddigon i’n sbarduno ni ymlaen mor gyflym â hyn. Rwyf wir wedi teimlo ‘newid gêr’ yn y ffordd rydyn ni’n gweithredu ac mae ein dull gweithredu wedi dod yn fwy proffesiynol.
Zahida: Beth sy’n nesaf i chi yn eich taith ddigidol?
Ann-Marie: Y cam nesaf yn ein strategaeth ddigidol yw creu cylchlythyr digidol. Mae’n rhywbeth rydyn ni wedi bod yn meddwl amdano ers tipyn, ond dim ond llond llaw ohonon ni sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith, ac mae bob amser wedi teimlo’n rhy feichus. Ond gan fod nifer y bobl sy’n ymgysylltu â ni wedi tyfu, mae wedi gwneud iddo deimlo’n werth chweil. Yn gyntaf, byddwn yn creu templed e-bost a dechrau cynllunio’r cynnwys. Unwaith y bydd hwnnw gyda ni, gallwn ni weithio allan sut rydyn ni’n rhannu’r cyfrifoldeb am y cylchlythyr bob mis.
Zahida: Ac yn olaf, oes rhywbeth arall hoffech chi ei rannu?
Ann-Marie: Roedd y rhoddion a’r ewyllys da a ddaeth i’r amlwg ar ôl y tân yn ein hatgoffa pa mor bwysig ydyn ni i bobl Swindon a pha mor bwysig yw cadw mewn cysylltiad â’r bobl sy’n hidio amdanon ni. Rydyn ni’n rhan annwyl o dreftadaeth y dref, ac os byddwn ni’n ennill calonnau pobl Swindon, byddan nhw’n eirioli drosom a bydd ymwybyddiaeth o waith Richard Jefferies yn tyfu.
Diolch i Amgueddfa Richard Jefferies am y ddelwedd©
Browse related resources by smart tags:
Digital Digital content Digital engagement Digital Heritage Digital strategy

Please attribute as: "How a very small museum is using digital to tell its big story (2022) by Zahida Din supported by The Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0