English

Defnyddio casgliadau digidol i addysgu, hysbysu ac ysgogi

A hithau wedi’i sefydlu dros 25 o flynyddoedd yn ôl, mae Ymddiriedolaeth Locomotifau y Princess Royal Class Locomotive Trust (PRCLT) yn gofalu am rai o asedau diwylliannol mwyaf gwerthfawr dyddiau gogoniant teithio ar y rheilffyrdd stêm fel gweithredwyr Amgueddfa’r West Shed yn Swanwick, Swydd Derby. Mae PRCLT wedi’u mentora gan Oliver Edwards fel rhan o haen y Lab o’r Lab Treftadaeth Ddigidol, ac yn yr astudiaeth achos hon, mae Oliver yn edrych yn ôl ar sut mae’r sefydliad treftadaeth bach hwn wedi gwella ymgysylltu digidol gyda’i gasgliad o wrthrychau bychain.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
Image of a steam train No. 46203.
Image courtesy of Princess Royal Class Locomotive Trust ©

Using digital collections to educate, inform and motivate

Cyflwyniad

Mae Ymddiriedolaeth y  yn gofalu am rai o asedau diwylliannol mwyaf gwerthfawr dyddiau gogoniant teithio ar y rheilffyrdd stêm. Mae ei phedwar locomotif yn cynrychioli anterth datblygiad peiriannau a yrrwyd gan lo, gyda dau ohonynt yn cael eu gweithredu ar drenau cyflym mwyaf mawreddog y 1930au ym Mhrydain, os nad Ewrop. Mae cerbydau’r Ymddiriedolaeth yn drawiadol, hefyd, gan gynnwys un salŵn Brenhinol a ddefnyddiwyd drwy gydol y cyfnod cyfareddol hwn.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cael ei gweithredu gan griw o wirfoddolwyr ymrwymedig a thîm bach ond ymroddedig o staff cyflogedig, ac mae’n arddangos ei gwrthrychau mawr yn rheolaidd ledled y DU. Pan nad ydynt ar waith, mae’r cerbydau hyn yn cael eu harddangos yn Amgueddfa West Shed yr Ymddiriedolaeth yn Swanwick, Swydd Derby, yn adrodd eu stori drwy ystod o ddulliau dehongli ffisegol a chanllawiau ar y safle gyda llu o wybodaeth.

Railway Touring Company steam train No. 6233
Locomotif stêm Rhif 6233, a adeiladwyd tua diwedd yn 1930au. Diolch i Ymddiriedolaeth y Princess Royal Class Locomotive Trust am y ddelwedd ©

Defnyddio gwrthrychau bychain i ddarparu straeon o’n gorffennol i genedlaethau’r dyfodol

Fodd bynnag, anaml y caiff straeon mewn sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth hon eu cyfyngu i’r gwrthrychau mwyaf a mwyaf adnabyddus y mae eu timau’n gofalu amdanynt yn dyner. Dros amser, wrth i’r rhai sy’n cofio gweithrediadau’r dreftadaeth y gofelir amdani farw, sefydlir casgliadau o wrthrychau llai, gan arbed straeon cyffredin o’n gorffennol ar gof a chadw i genedlaethau’r dyfodol.

Yn achos yr Ymddiriedolaeth hon, mae’r gwrthrychau hyn mor amrywiol â’r lampau a dywysodd lwybrau’r trenau’n croesi’r wlad, llawlyfrau i staff ynghylch sut i weithredu’r amrywiaeth o offer ar reilffyrdd yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd a deunydd hyrwyddo o’r cyfnod Art Deco. Mae’r gwrthrychau hyn yn geidwaid straeon hanfodol a all fod yn anodd eu cyfathrebu’n aml, tra bod arteffactau mwy neu fwy enwog yn ganolbwynt sylw. At hynny, gall fod yn anodd i’r cyhoedd ddeall eu harwyddocâd y tu allan i gyd-destun man weithredu, tra bo hyn yn llawer haws i wrthrychau megis locomotifau cyflym sy’n ymddangos yn rheolaidd mewn diwylliant poblogaidd, ffilmiau a dramâu teledu hyd yn oed heddiw. Fodd bynnag, gwyddom mai rôl sefydliadau elusennol yn ein diwydiant yw cyflwyno ein treftadaeth fawr a bach, felly un o’r nodau allweddol a luniodd yr Ymddiriedolaeth yn rhan o’i mentora yn haen y Lab o’r Lab Treftadaeth Ddigidol oedd archwilio opsiynau ar gyfer gwneud hyn.

Yn achos yr Ymddiriedolaeth hon, mae’r gwrthrychau hyn mor amrywiol â’r lampau a dywysodd lwybrau’r trenau’n croesi’r wlad, llawlyfrau i staff ynghylch sut i weithredu’r amrywiaeth o offer ar reilffyrdd yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd a deunydd hyrwyddo o’r cyfnod Art Deco.

O ystyried y materion a ddisgrifiwyd ynghylch sut i gyflwyno gwrthrychau bychain, dechreuon ni drwy drafod sut i gofnodi eu hanesion. Yn hytrach na chreu catalog ysgolheigaidd o wrthrychau a fyddai’n anhygyrch i’r rhan fwyaf o gynulleidfaoedd heb wybodaeth arbenigol iawn am hanes y rheilffyrdd, curadurwyd nifer fach o arteffactau gyda’i gilydd yn gasgliadau thematig. Cafodd y rhain eu cofnodi mewn erthyglau diddorol, twt, sy’n rhoi darlun ehangach o weithrediadau rhai rhannau o’r rheilffordd yn y gorffennol. Mae delweddau o’r archifau ac o amseroedd mwy diweddar wedi’u cynnwys gyda’r testun, i gynyddu dealltwriaeth a helpu’r rhai y mae’n well ganddynt ddefnyddio cymhorthion gweledol ar gyfer dysgu.

Adeiladu Blog newydd

Er mwyn rhannu’r erthyglau hyn gyda chynulleidfaoedd ehangach, roedd angen gwella’r isadeiledd digidol. O ganlyniad i’r amgylchiadau a oedd yn gysylltiedig â’r cyfnod datblygu, doedd dim llawer o gyllid ar gael yn y maes hwn, ac felly roedd angen dulliau creadigol. Gan fod gwefan ganddynt a adeiladwyd beth amser yn ôl, sy’n llai cyfeillgar i ffonau symudol nag sydd ei angen i gael y cyrhaeddiad ehangaf posibl, credwyd mai blog neu is-wefan newydd fyddai’r ateb gorau. Mae’r sgiliau i adeiladu safle fel hyn yn amrywio’n helaeth, ond mwyfwy, mae atebion sy’n caniatáu i rywun sydd â sgiliau digidol sylfaenol ‘lusgo a gollwng’ elfennau yn golygu y gall sefydliadau adeiladu eu blogiau eu hunain gyda chyllidebau isel neu heb unrhyw gyllidebau o gwbl. Gan ddefnyddio system boblogaidd, adeiladodd yr Ymddiriedolaeth yn raddol wefan sy’n ddeniadol, yn hawdd ei golygu ac yn gynaliadwy ar gyfer y tymor canolig. Adolygwyd arfer gorau, blaenllaw drwy gydol y gwaith datblygu ac mewn cyfarfodydd diweddaru, gan adolygu enghreifftiau megis rhai gan amgueddfeydd cenedlaethol a rhai gan sefydliadau bach eraill o fath ymddiriedolaeth.

Mae llawer o’r gwaith ar gyflawni’r wefan ac uwchraddio galluoedd digidol y sefydliad wedi gorwedd ar ysgwyddau un aelod o staff cyflogedig, gyda chymorth nifer fach o wirfoddolwyr ymroddedig. Roedd arweinydd y prosiect hwn yn deall pwysigrwydd ymgysylltu â gwirfoddolwyr a thîm ehangach i sicrhau cynaliadwyedd, ac roedd yn ceisio ennyn diddordeb aelodau’r tîm er mwyn mwynhau curadu ac ysgrifennu erthyglau.

Stop! Look! Listen!

Stop! Look! Listen! — dyma deitl dychmygus a diddorol y man arddangos gwrthrychau bychain ar y wefan newydd, wedi’i ysbrydoli gan fantra cyffredin amgylchedd y rheilffyrdd. Fel man cychwyn, roedd hyn wedi’i boblogi â phum postiad blog ar bynciau megis bod yn rhan o The Railway Family neu Leisure and Pleasure: Enjoying the Railways. Oeddech chi’n gwybod bod gan gerbydau brenhinol botiau siambr, lampau a diagramau trên wedi’u gwneud yn arbennig, neu fod y rhain yn cael eu cadw nid gan gorff gwladol ond gan ymddiriedolaeth elusennol fach?

Gêm fwrdd Coronation Scot. Yn y gêm hon, roedd rhaid i chwaraewyr rasio ymlaen drwy’r holl orsafoedd rhwng Euston a Glasgow, yn yr un modd â gwasanaeth trên teithwyr cyflym ‘Coronation Scot’. Y person cyntaf i gyrraedd Glasgow oedd yr enillydd!

Cyflwynwyd gwasanaeth y ‘Coronation Scot’ gan Reilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a’r Alban ym 1937 i nodi coroni (Coroniad) ei Fawrhydi’r Brenin Siôr VI a’i Mawrhydi’r Frenhines Elisabeth.

Gweithredodd digwyddiadau 2020 a 2021, pan gynhaliwyd y datblygiadau digidol, drwy’r amser fel grym i egluro’r angen i wella ymgysylltiad ar-lein i’r Ymddiriedolaeth. Gydag amgueddfa sydd wedi’i lleoli mewn safle anarferol sydd braidd yn anodd i ystod o gynulleidfaoedd ei gyrraedd, mae twf mewn allbynnau ar-lein yn ehangu dealltwriaeth o waith yr Ymddiriedolaeth yn sylweddol. At hynny, mae lle ar safleoedd ffisegol bob amser yn gyfyngedig a gellir dangos deunydd dehongliadol ar-lein na ellid byth rhoi lle iddo ar sail mor sylweddol neu esblygol ag ar flog neu wefan.

Mae ehangu’r tîm sy’n rhan o’r prosiect wedi bod yn benderfyniad doeth, yn dilyn ymadawiad yr aelod o staff cyflogedig a oedd  yn gysylltiedig â chreu’r wefan. Nawr, mae ystyriaethau ynghylch sut i gyflawni cynaliadwyedd yr allbynnau sydd wedi’u creu wrth symud ymlaen yn allweddol. Mae bob amser yn briodol adolygu mewnbwn yn erbyn deilliannau, er mai ystyriaeth yn y cyfnod hwn fydd newydd-deb cymharol y prosiect a sut y cedwir ei fanteision gwych. Gallwn ddisgwyl i’r blog dyfu ac ehangu, gan adeiladu cylch darllenwyr o unigolion, ymchwilwyr a sefydliadau chwilfrydig. Disgwylir teithiau digidol, mwy o arddangosfeydd o gasgliadau a straeon sy’n dilyn gwirfoddolwyr eu hunain.

Gallwn ddisgwyl i’r blog dyfu ac ehangu, gan adeiladu cylch darllenwyr o unigolion, ymchwilwyr a sefydliadau chwilfrydig. Disgwylir teithiau digidol, mwy o arddangosfeydd o gasgliadau a straeon sy’n dilyn gwirfoddolwyr eu hunain.

Fel erioed, mae mwy o waith i’w wneud. Mae Facebook ac allfeydd cyfryngau cymdeithasol eraill yn cynnig cyfle gwych i rannu straeon, pytiau a ffeithiau hwyliog sy’n sicrhau micro-addysg cynulleidfaoedd a, gobeithio, sefydlu eu diddordeb ar gyfer ymgysylltu mwy ystyrlon yn y dyfodol. Hyd yn oed os na chyflawnir hyn, bydd yr Ymddiriedolaeth wedi darparu gwybodaeth ehangach am ei maes pwnc, gan gyflawni yn erbyn ei nod elusennol.

Gyda mireinio a datblygu parhaus, gall Ymddiriedolaeth y Princess Royal Class Locomotive Trust honni ei bod wedi cymryd camau breision ymlaen yn ei seilwaith a’i gallu digidol, gan osod safonau ar gyfer cyrff eraill.

Diolch i Ymddiriedolaeth y Princess Royal Class Locomotive Trust am y ddelweddau ©


More help here


Video: Working with digitised collections — shaping stories

In this webinar recording Kevin Gosling from the Collections Trust will help you think about how your online collection can help tell your heritage organisation’s story. Kevin provides ideas on how to brainstorm stories that might be told about your collections; provides an understanding of how to test potential ideas with target audiences and how to sharpen up your writing for online readers. This resource will help you identify, test and refine stories from your online collection to help you develop digital content that engages with your digital audiences.

 
Grey filing cabinet with an open index card drawer.

Where do I start with creating a digital archive?

Creating a new digital archive requires a bit of forethought and consideration. In this article, we’ll give you some useful tips to help you get started with the process of creating a digital archive.

 
Screenshot of 25 volunteers taking part in an online get together

How to find digital volunteers to help you carry out your digital activities

As Curator of The Food Museum in Stowmarket, Suffolk, Kate Knowlden manages the museum’s ‘Search for the Stars’ digitisation project, which has had fantastic success working with digital volunteers as the museum tackles the digitisation of its collection. In this resource, Kate shares her experience of recruiting digital volunteers ― what to look for, where to find people, the interviewing and induction process, and the management of volunteers. It includes volunteer testimonials.

 
Published:
Resource type: Case studies


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "Using digital collections to educate, inform and motivate (2022) by Oliver Edwards supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo