English

Pwy sy'n edrych ar fy nghynnwys? Deall y dulliau o ddadansoddi eich cynulleidfa

Gyda chymaint o gynnwys i'w rannu, mae'n bwysig gwybod pwy rydych chi'n eu cyrraedd pan fyddwch chi'n rhannu eich delweddau, eich fideos a'ch adnoddau ar-lein. Beth sy'n gweithio'n dda i chi, pa gynnwys mae pobl yn ei fwynhau a sut maen nhw'n ymgysylltu ag ef? Byddwn ni'n eich cyflwyno i gyfres o declynnau y gallwch eu defnyddio i olrhain hynny'n union.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
man-in-white-long-sleeves-holding-white-paper-discussing-with-woman
Photo by Yan Krukov on Pexels.

Who’s looking at my content? Understanding your audience using analytics

1. Deall y cynulleidfaoedd rydym yn eu gwasanaethu

Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gweld digideiddio sector treftadaeth y DU yn cyflymu drwy anghenraid. O uwchsgilio gweithwyr a gwirfoddolwyr, i ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd digidol ar raddfa ddigynsail, mae’r newidiadau hyn wedi peri heriau, yn ddiau, i ddiwydiant sydd yn un ‘wyneb yn wyneb’ yn y bôn. Ond mae manteision anferth i’r cyflymu digidol hwn o ran hygyrchedd a chyrraedd, os gallwn ni ddysgu sut i weithio o amgylch cyllidebau marchnata isel gyda dealltwriaeth well o’r cynulleidfaoedd rydym yn eu gwasanaethu.

Wrth gwrs, rydym am gadw ein noddwyr teyrngar, ond pan mae’n dod i gadw sefydliadau treftadaeth i fynd, bydd estyn allan a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd hefyd yn chwarae rhan fawr. Mae dealltwriaeth ddyfnach yn caniatáu ymagwedd at farchnata sydd wedi’i thargedu’n fwy, gan fireinio’r ffordd rydym yn defnyddio’n hadnoddau gwerthfawr.

 

2. Pwy sy’n edrych ar fy nghynnwys?

Felly, pwy rydych chi’n eu cyrraedd pan fyddwch chi’n rhannu eich delweddau, eich fideos a’ch asedau ar-lein? Sut ydych chi’n mesur beth sy’n gweithio’n dda i chi, pa gynnwys mae pobl yn ei fwynhau, a sut maen nhw’n ymgysylltu ag ef? Hyd yn oed os yw’r data o’ch blaen, wrth ddehongli’r data hwnnw mae sefydliadau’n gallu symud i fyny gêr ar gyfer eu cynulleidfa bresennol a dechrau tyfu eu cyrraedd. Rydym yn mynd i gyflwyno cyfres o declynnau y gallwch chi eu defnyddio i wneud union hynny.

Mae teclynnau dadansoddi yn defnyddio algorithmau ac awtomeiddio i ddadansoddi data crai er mwyn llunio casgliadau a rhagfynegi deilliannau tebygol, sy’n gallu helpu sefydliadau treftadaeth i ffocysu eu hymgyrchoedd marchnata, cyrraedd a chadw cwsmeriaid, a dyfeisio ffyrdd mwy arloesol o gadw’n berthnasol a chystadleuol yn sector treftadaeth y DU.

 

3. Deall eich cynulleidfa gan ddefnyddio dulliau dadansoddi

Mae deall gofynion ac anghenion eich cwsmer yn golygu deall data, felly mae proses dadansoddi data syml yn allweddol. Gall sefydliadau ddefnyddio teclynnau dadansoddi i werthuso llwyddiant, olrhain adborth cwsmeriaid, a chael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran tueddiadau. Gall y mewnwelediadau rydych chi’n eu casglu eich helpu i:

  • Dargedu segmentau o’ch cynulleidfa sy’n tanberfformio
  • Nodi’r math o gynnwys mae eich cynulleidfa yn ymgysylltu ag ef ac addasu eich cynnwys yn unol â hynny
  • Cael syniad cliriach o ran pa sianeli marchnata sy’n gweithio orau
  • Sut i wella perfformiad
  • O ble mae’r trosiadau’n dod
  • Pa gynnwys sy’n rhoi’r deilliant gorau i chi ar eich buddsoddiad

 

4. Teclynnau dadansoddi

Google Analytics

Gadewch i ni ddechrau gyda Google Analytics, gwasanaeth gwe sy’n olrhain data i roi mewnwelediadau i lefelau caffael, ymddygiad a throsi ar eich safle.

Mae caffael yn dangos i chi sut y cyrhaeddodd defnyddiwr ar eich safle – p’un a gliciodd drwy’r cyfryngau cymdeithasol, drwy wefan arall neu a chwiliodd amdanoch chi ar beiriant chwilio. Os ydych chi’n defnyddio Google Ads, bydd Google Analytics hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch pa allweddeiriau sy’n denu’r ymateb gorau ac a yw eich hysbysebion yn gweithio i chi.

Mae adroddiadau ymddygiad yn dangos i chi sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio unwaith maen nhw ar eich safle. Drwy olrhain eu llwybr o’r cam cyrraedd i’r cam ymadael, byddwch chi’n gallu nodi p’un a ydyn nhw’n dilyn y llwybr a fwriadwyd gennych, neu’n mynd yn sownd yn rhywle ac yn gadael y safle. Wedyn, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i addasu eich strategaeth a’r daith drwy eich gwefan.

Mae trosi yn ymwneud â’r cwestiwn a yw’r defnyddiwr yn cyrraedd y nod a fwriadwyd gennych iddynt – boed hynny’n archebu taith, prynu cynnyrch, neu danysgrifio i newyddlen. Drwy ddangos pa mor hir mae defnyddiwr yn aros ar dudalen cyn symud ymlaen, mae’r adroddiadau hyn yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i – er enghraifft – p’un a yw eich tudalen danysgrifio’n rhy gymhleth, neu a yw eich proses dalu’n rhy hir.

Ar ben mewnwelediadau i’ch gwefan eich hun, mae hefyd nodweddion Google Analytics sy’n caniatáu i chi olrhain cystadleuwyr, eu defnyddio fel meincnod, a chael data am dueddiadau’r diwydiant. Dyma fideo byr gan y Google Analytics Academy i roi cychwyn arni.

Consol Chwilio Google Search Console

Nesaf, edrychwn ni ar Gonsol Chwilio Google Search, sef gwasanaeth am ddim sy’n caniatáu i chi fonitro eich llwyddiant yn Google Search a datrys problemau o ran gweladwyedd eich safle. Bydd defnyddio’r teclyn hwn yn eich helpu i ddyfnhau eich dealltwriaeth o sut mae Search yn gweithio a chynorthwyo gyda’ch strategaeth SEO (optimeiddio peiriannau chwilio), wrth i chi ddarganfod y termau chwilio sy’n gweithio i chi. Gallwch gyrchu Consol Chwilio Google Search o’ch cyfrif Google o dan ‘Google Webmaster tools’.

Proffil Busnes

Tra’n bod ni’n trafod teclynnau Google, mae’n werth sôn am Broffil Busnes/Business Profile. Mae hwn yn declyn hawdd ei ddefnyddio i sefydliadau reoli eu presenoldeb ar-lein ar draws Google, gan gynnwys yn Google Search a Google Maps. Mae hyn yn ymwneud yn gyfan gwbl â sut mae cwsmeriaid yn dod o hyd i chi ac yn deall pwy ydych chi. Mae defnyddio Business Profile yn golygu y gallwch reoli eich presenoldeb ar-lein, arddangos adolygiadau, golygu a gwirio’ch gwybodaeth, a sicrhau eich bod yn anfon neges glir at ddefnyddwyr. Bydd Business Profile hefyd yn darparu dulliau dadansoddi ar achosion o edrych ar y proffil yn Search a Maps.

Dulliau dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol

Gan symud ymlaen o Google, mae casgliad gwerthfawr arall o ddata i’w gael ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae dulliau dadansoddi’r Cyfryngau Cymdeithasol yn treiddio’n ddyfnach i ysbryd y defnyddiwr. Mae monitro sut mae pobl yn ymddwyn ac yn rhyngweithio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ein helpu i ddeall cwsmeriaid ar lefel fwy dynolaidd, gan gynnig y cyfle i sefydliadau hogi eu dulliau o adrodd straeon a chyrraedd defnyddwyr hen a newydd. Yn ogystal â dadansoddi perfformiad postiadau, hysbysebion ac ymgyrchoedd, mae dulliau dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu dadansoddi cynulleidfaoedd yn ôl demograffeg a lleoliad hefyd. Er y bydd cyfrifon busnes ar y rhan fwyaf o lwyfannau cymdeithasol yn gallu adrodd y mewnwelediadau hyn i chi, efallai y gallech chi hefyd ystyried teclyn rheoli’r cyfryngau cymdeithasol fel Hootsuite sy’n gallu atgyfnerthu data ar draws yr holl lwyfannau rydych chi’n eu defnyddio.

 

5. Sut i ddefnyddio’r data hwn

Unwaith i ni gasglu’r wybodaeth, sut ydyn ni’n dechrau ei chynnwys yn ein strategaeth farchnata?

Yn gyntaf, diffiniwch eich cynulleidfa darged – pwy ydyn nhw o ran oedran, rhyw a lleoliad? Wedyn gallwch chi symud ymlaen i greu darlun llawnach – beth yw eu diddordebau? Pa lwyfannau cyfryngau cymdeithasol maen nhw’n eu defnyddio? Beth sy’n dylanwadu arnynt? Faint o’r gloch maen nhw ar-lein fel arfer? Gallech chi benderfynu defnyddio’r mewnwelediadau hyn i greu personâu cwsmeriaid i fesur eich syniadau yn eu herbyn. Unwaith bydd gennych ddarlun cliriach o’ch cynulleidfa, yna gallwch fireinio’ch cynnwys ar sail yr hyn maen nhw’n ei hoffi – gwneud mwy o’r hyn sy’n gweithio, ac ailfeddwl am yr hyn nad yw’n gweithio.

Er enghraifft, efallai eich bod wedi penderfynu eich bod am lansio ymgyrchu ymgysylltu cymunedol ar Instagram er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd iau. Rydych chi wedi gwneud eich ymchwil i’r gynulleidfa darged ac wedi buddsoddi mewn ambell i hysbyseb wedi’i noddi i gynyddu’ch gweladwyedd. Ar ôl sawl wythnos gallwch chi weld, gan ddefnyddio’ch teclynnau dadansoddi, nad yw’r ymgyrch yn cael yr argraff roeddech chi wedi’i dymuno’i chael. Fodd bynnag, rydych chi wedi sylwi bod sefydliad treftadaeth arall yn yr ardal yn meithrin ymagwedd wahanol, gan bartneru gyda busnes lleol bach i roi nwyddau am ddim. Felly, rydych chi’n penderfynu lansio cystadleuaeth ar eich Stori Instagram i roi hwb i’r ymgysylltu. Gyda rhai cannoedd o ddilynwyr newydd, rydych chi yna’n cydweithio gydag artist i gynnal cyfweliad byw ar Instagram Live, gan ychwanegu gwerth ar gyfer eich dilynwyr newydd a’u hannog i gadw eu cysylltiad â’ch sefydliad.

Defnyddiodd amgueddfa’r Beamish Museum yng ngogledd ddwyrain Lloegr y dull poblogaidd o roi nwyddau ar ddim ar Instagram (‘giveaways’) i gyflawni rhywbeth tebyg. Drwy greu cystadleuaeth ‘Garedigrwydd Digymell’ (Random Act of Kindness), a chael ymgyrch hynod boblogaidd #MuseumShopSunday i’w hyrwyddo ar-lein, roeddent yn gallu ymgysylltu â’u cymunedau mewn modd diddorol a diffuant a weithiodd hefyd i dyfu eu cynulleidfa a’u presenoldeb ar-lein. Mae’r dull o roi nwyddau am ddim yn aml yn denu mwy o ymgysylltiad tuag at dudalennau’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae cyfrif Instagram y Beamish Museum wedi tyfu’n raddol i dderbyn cannoedd neu filoedd o achosion o wylio’u fideos a hoffi eu postiadau dros y blynyddoedd diwethaf.

Instagram screenshot of Beamish Museum’s giveaway – two employees from Beamish museum smiling while presenting giveaway prizes
Ciplun Instagram o rodd Amgueddfa Beamish – dau weithiwr o amgueddfa Beamish yn gwenu wrth gyflwyno gwobrau anrheg. Delwedd trwy garedigrwydd Amgueddfa Beamish – Instagram @Beamish_Museum.

 

6. Mesur er mwyn llwyddo

Wrth gwrs, mae creu cynnwys digidol sy’n cael effaith yn cymryd gwaith, ond diolch i’r drefn mae dulliau dadansoddi yma i ysgafnhau’r baich fel nad oes rhaid i chi a’ch tîm hidlo drwy dunelli o ddata crai i ddarganfod mewnwelediadau. Y peth hanfodol yw cadw mesur llwyddiant eich cynnwys gan ddefnyddio’r teclynnau hyn a gadael i’r canlyniadau lywio’ch strategaeth. Drwy ddeall dulliau dadansoddi rydyn ni’n dechrau deall cynulleidfaoedd a symud sector treftadaeth y DU ymlaen tuag at ddyfodol llewyrchus.

 



More help here


Woman using Macbook sitting in a co-working space on a white couch

What tools should I use to measure the success of my digital content?

With so much content to share, it’s important to know who you’re reaching when you share your images, videos and resources online. What’s working well for you, what content are people enjoying and how are they engaging with it? We’ll introduce a suite of tools you can use to track just that.

 
Round raw cheese on wooden board

How analytics can help me understand my target audience

In this introduction to analytics, Trish Thomas looks at the ways in which you can use data from your website and social media channels to help you understand who your audience is so that you can market to them more effectively. Trish looks at analytic tools to help you understand which metrics you can use to help you understand your digital audience.

 
High angle photo of brown wooden spiral staircase

Using analytics to understand reach, engagement and conversion of your online audiences

All digital channels have different metrics and ways of reporting, so the challenge is often to find a consistent way to report your stats across all channels. In this resource, Trish Thomas explains how to use the analytics from both your website and social media channels to understand and report on reach, engagement and conversion rates of online audiences.

 
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "Who’s looking at my content? Understanding your audience using analytics (2022) by UpSkill Digital supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo