
Social Media success stories
Eu caru neu eu casáu, mae gan y cyfryngau cymdeithasol y grym i godi proffiliau sefydliadau treftadaeth yn syfrdanol. Gall un memyn wedi’i amseru’n dda eich ffrwydro i’r goleuni cyfryngol gan arwain at erthyglau yn y wasg a llu o ddilynwyr.
Felly pa sefydliadau sydd wedi gwneud hyn yn dda a beth gallwn eu dysgu ganddynt?
1. Brwydrau Cyfryngau Cymdeithasol
Yn debyg iawn i dynnu plethi gwallt ar yr iard, mae brwydrau cyfryngau cymdeithasol yn ffordd hwyliog o brocio’ch cystadleuwyr a brolio am eich casgliad. Fel cysyniad, maen nhw o amgylch ers amser hir, ond yn y blynyddoedd diwethaf, mae sefydliadau treftadaeth hefyd wedi manteisio ar y cyfle i ddilyn y ffasiwn hefyd.
Ymhell nôl yn 2016, gwelwyd Llyfrgell Shetland a Llyfrgell Orkney yn mynd benben mewn ffrae ffyrnig (ond hwyliog) ar Twitter yn sgil cystadleuaeth rhwng yr ynysoedd a oedd yn bodoli ers canrifoedd. Esgorodd tynnu coes ysgafn ar gêm o geisio rhagori ar ei gilydd, â’u tafodau yn eu bochau, wrth i Lyfrgell Orkney ennill y tic glas gan Twitter (gan ddynodi bod cyfrif diddordeb cyhoeddus yn gyfrif go iawn). Dilynodd y cellwair, ac yn fuan iawn denodd sylw’r wasg. O fewn oriau, roedd y selebs yn ymuno yn yr hwyl, ynghyd â sylw ym mhapurau newydd y Metro a’r Telegraph.
Mae’r defnydd o’r negeseuon afreolus hyn ar Twitter (yn cynnwys gwybodaeth a golygfeydd godidog o’r ynys) yn parhau. Yn 2018, aeth Llyfrgell Orkney’n feirol gyda dros 2,600 o bobl yn hoffi eu hedefyn Twitter yn olrhain eu dryswch ynghylch beth yw Fortnite. Yn fwy diweddar, mae’r tîm wedi bwrw dros 5,600 o hoffiadau i’w postiad ar gyfer eu delweddau Dolig ar thema’r Coblyn ar y Silff – gornest rhwng Dolly (Parton) ar droli yn erbyn Parton ar gefn cart. Mae’n rhyfedd ond yn wir – ac yn enghraifft eithafol o godi’r proffil!
John Peterson, Cynorthwyydd Llyfrgell yn Llyfrgell ac Archifau Orkney, yw’r person â gofal am y cyfrif Twitter. Mae’n nodi: “Dwi ddim wedi cael hyfforddiant proffesiynol yn y cyfryngau cymdeithasol a dwi’n credu’n gryf nad oes angen unrhyw hyfforddiant cyhyd â’ch bod yn gwybod am y pwnc rydych yn ei drafod ac yn awyddus i rannu hynny gyda’ch dilynwyr ar-lein. Mae’n ymwneud yn fwy â meddwl ac ysgrifennu’n greadigol na dim arall ac am ddod o hyd i ffyrdd o greu cynnwys diddorol, doniol neu ddigrif.”
Mae’n ymwneud yn fwy â meddwl ac ysgrifennu’n greadigol na dim arall ac am ddod o hyd i ffyrdd o greu cynnwys diddorol, doniol neu ddigrif.
Chwarae teg iddi, siaradon ni hefyd â Catherine Jeromson, Llyfrgellydd Gwasanaethau Cymorth ar ochr arall y ffens draw yn Llyfrgell Shetland. Nid yw Catherine wedi cael hyfforddiant proffesiynol yn y cyfryngau cymdeithasol ychwaith, ond mae wedi gweld grym y cyfryngau cymdeithasol yn chwipio’r sgwrsio o amgylch ynys Shetland. “Dwi’n hoffi meddwl bod ein llais mawr yn y cyfryngau cymdeithasol yn ein helpu i’n rhoi ar y map! Mae mwy o ddilynwyr gennym ar y cyfryngau cymdeithasol nag sydd yn y boblogaeth gyfan ar Shetland! Mae ein carfan ddilynwyr o amgylch y byd ac mae pobl wedi dod i Shetland ar eu gwyliau ac anelu’n syth am y Llyfrgell oherwydd eu bod yn ein dilyn ni ar Twitter, sy’n wych!”
2. Momentau yn y Cyfryngau Cymdeithasol
Ceisio dyfalu beth yw ‘moment’ yn y cyfryngau cymdeithasol? Wel, meddyliwch am frwydr yn y cyfryngau cymdeithasol fel cân yn y 40 uchaf, a’r ‘foment’ yw’r albwm ar frig y siartiau.
Mae momentau, neu dueddiadau, yn y cyfryngau cymdeithasol, yn mynd a dod, ond gallan nhw gael effaith aruthrol ar eich sefydliad. Meddyliwch yn ôl i’r Her Bwced Iâ, dysgu sut i wneud y ‘Floss’ a chreu memynau o’r Gath Grintachlyd (Grumpy Cat). Mae llawer o sefydliadau treftadaeth wedi manteisio i’r eithaf ar y momentau hyn, gan eu defnyddio fel llwyfan i rannu eu casgliadau, eu gwaith a’u tîm gyda’r byd ehangach.
Yn 2021, denodd Amgueddfa Ashmolean 523 o hoffiadau pan osodon nhw Bernie Sanders (ydych chi’n cofio’r miloedd o femynau o Bernie’n gwisgo’i fenig yn Urddiad yr Arlywydd?) yn y llun o Seated Shepherd with Cows and Sheep in a Meadow. Roedd hwn yn gynnydd mawr i’r ‘hoffiadau’ ar gyfer y tîm, sydd yn aml ond yn denu lefelau ymgysylltiad yn y degau uchel a’r cannoedd isel. Yn 2022, ymgysylltodd nifer aruthrol, 28,000 o bobl, â thrydariad y Mary Rose Museum â pharodi o sylw’r Prif Weinidog Boris Johnson, ‘ddywedodd neb wrtha i na chawn i fynd i barti’. Momentau pwerus yn wir.
Mae’r York Museums Trust yn adnabyddus am ei defnydd arloesol o gynnwys cyfryngau cymdeithasol (gwelodd eu brwydrau curadur yn 2020 6.2 miliwn o bobl yn ymgysylltu â’u cynnwys) ac mae ganddi duedd i gysylltu’n dda â momentau yn y cyfryngau cymdeithasol. Pwy all anghofio effaith Bridgerton Netflix yn ystod cyfnod clo Covid-19 ym mis Ionawr 2021? Wrth i’r byd chwilio am ddihangfa, llenwodd Bridgerton y gwagle ac esgorwyd ar lu o femynau, heriau, dyfyniadau a pharodïau. Defnyddiodd York Museums Trust lwyddiant y gyfres i amlygu rhai o eitemau eu casgliad – gan gyrraedd, unwaith eto, filoedd o bobl gyda chwta 280 o nodau.
Mae gan Catherine Jeromson o Lyfrgell Shetland ambell i awgrym gwych ar gyfer cydio yn y momentau hyn yn y cyfryngau cymdeithasol: “Gwnewch eich postiadau’n gyfoes, ond NID yn ddadleuol – peidiwch â dechrau trafod barn. Gallai hyn fod yn fwy niweidiol. Byddwch yn ddiogel, a’i gadw’n hwyliog.” Gyda hyn mewn golwg, mae Catherine wedi’i chrybwyll yn aml ar y BBC, gan gynnwys denu sylw ar sioe radio Simon Mayo!
Gwnewch eich postiadau’n gyfoes, ond NID yn ddadleuol – peidiwch â dechrau trafod barn. Gallai hyn fod yn fwy niweidiol. Byddwch yn ddiogel, a’i gadw’n hwyliog.
3. Ymestyn y Gorwelion
Mae rhai sefydliadau wedi ymestyn eu gorwelion y tu hwnt i Twitter, Instagram a Facebook, gan gamu ymhellach na’u mannau cyfforddus i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Nôl yn 2009, roedd llawer ohonon ni’n treulio oriau di-ri’n gwylio Slow TV. Ar ôl degawd o rannu pob rhan o’n bywydau ar Facebook a Twitter, cawson ni ein tynnu i gyflymder arafach drwy wylio’r daith drên araf dros saith awr o Bergen i Oslo.
Cysyniad syml oedd e, gyda chamera wedi’i osod ar flaen y trên, gan gipio dychymyg miliynau. Erbyn 2015, roedd y BBC wedi dilyn i fyny gyda ffilm o daith i lawr Camlas Kennet ac Avon, wedi’i dilyn gan All Aboard! The Country Bus. Tiwniodd dros 800,000 o bobl i mewn i wylio rhaglen ddwy awr yn olrhain teithiau bws drwy ddyffrynnoedd Swydd Efrog.
Ymestynnodd Slow TV i’r cyfryngau cymdeithasol, gyda miliynau o bobl yn mwynhau gwylio’r fideos ‘araf’ ar YouTube a TikTok. Yn fwyaf diweddar, ym mis Ionawr 2022, gwelwyd Zen School of Motoring yn camu o fod yn boblogaidd ar YouTube i lwyfan ar BBC Three – wrth i bobl diwnio i mewn yn hapus eu byd i wylio rhywun yn gyrru o amgylch strydoedd Llundain. Mae sefydliadau treftadaeth wedi dilyn yr un patrwm, gan rannu fideos o baentiadau a rhew yn toddi i lanhau gwrthrychau amgueddfa, ac mae llawer o bobl wrth eu bodd yn gwylio sefydliadau treftadaeth yn mynd drwy eu camau’n araf.
Pan lansiodd TikTok yn 2017, roedd yn dir chwarae i bobl o dan 30 oed a oedd yn rhannu fideos byr o’u triciau, eu pranciau a’u symudiadau dawnsio. Ond eto, yn 2021, defnyddiodd y Black Country Living Museum y llwyfan fel ffordd o ymgysylltu â’i dilynwyr yn ystod cyfnodau clo hallt Covid-19. O fewn chwe mis, roedd ganddynt 570,000 o ddilynwyr a chafodd ei rhestru ar Siart TikTok y DU. Roedd dilynwyr wrth eu bodd yn cael cyngor gan y Tadcu o’r 1920au a gwyliwyd eu fideo o rolau menywod ym Mhrydain yn yr 1940au (i gerddoriaeth Ariana Grande, Positions) dros 855,500 o weithiau!
Mae rhai sefydliadau hyd yn oed wedi cael eu hysbrydoli i greu eu llwyfannau digidol eu hunain. Mae CCTDigital yn wasanaeth ffrydio newydd a grëwyd gan y Churches Conservation Trust, lle gall aelodau gyrchu ffilmiau, rhestrau chwarae, darlithoedd a chynnwys arall am eglwysi.
Felly sut i wneud y mwyaf o’ch cyfryngau cymdeithasol? Mae John o Lyfrgell Orkney yn ei grisialu’n dwt: “Defnyddiwch hiwmor – mae chwerthin yn mynd yn bell. Does dim rhaid iddo fod yn ofnadwy o ddoniol ond cadwch bethau’n ysgafn, byddwch yn siaradus, ac yn wirion weithiau. Chwarddwch. Mae pobl bob amser yn falch o weld rhywbeth doniol ar eu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol’. Os nad yw hynny’n gweithio, mae Catherine o Lyfrgell Shetland yn dweud, ‘mae cathod, cŵn a phethau ciwt yn denu pobl at bostiadau – ffordd dda o’u tynnu i mewn, wedyn defnyddiwch nhw i hyrwyddo’r gwasanaeth.”
Browse related resources by smart tags:
Arts marketing Digital content Facebook Instagram Social Social media Social trends Twitter

Please attribute as: "Social Media success stories (2022) by Sarah Shaw supported by The Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0