
What do I need to do before I share personal data online?
Canllaw cam wrth gam
Mae cydymffurfiaeth Diogelu Data yn gyfrifoldeb i bawb ac yn beth hollbwysig wrth rannu cynnwys ar-lein. O gasglu data personol yn rhan o brosiect hanes llafar i rannu enwau cyfranogwyr mewn prosiect cymunedol — mae’r cyfan yn dod o dan gyfraith Diogelu Data y DU.
Bydd y canllaw 10 cam yma yn esbonio’r hyn mae angen i chi ei wybod cyn i chi rannu data personol ar-lein er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i gydymffurfio’n gyfreithiol.
Canllaw deg cam i’r hyn mae angen i chi ei wybod cyn rhannu data personol ar-lein
Cam 1: Adnabod eich data
Cam 2: Meddu ar reswm da
Cam 3: Cadw cwmpas arno
Cam 4: Ei gadw’n berthnasol
Cam 5: Sicrhau ei fod yn gywir
Cam 6: Ei ddileu ar ôl iddo gael ei ddefnyddio
Cam 7: Ei gadw’n ddiogel
Cam 8: Bod yn atebol
Cam 9: Dweud wrth bobl beth rydych chi’n ei wneud
Cam 10: Gadael i bobl gael gwybod mwy
Cam 1
Cam 1: Adnabod eich data
A oes modd adnabod unigolyn o’r data rydych chi’n ei rannu?
Cam 2
Cam 2: Meddu ar reswm da
Ydy’r sail gyfreithiol gywir gyda chi?
Os ydych chi’n defnyddio cydsyniad, dylech sicrhau ei fod yn ddilys.
Cam 3
Cam 3: Cadw cwmpas arno
Dim ond at eich diben penodedig y dylech ei ddefnyddio.
Cam 4
Cam 4: Ei gadw’n berthnasol
Dim ond y data sy’n berthnasol y dylech ei ddefnyddio – peidiwch â gor-rannu.
Cam 5
Cam 5: Sicrhau ei fod yn gywir
Gwiriwch eilwaith beth rydych chi’n ei bostio a byddwch yn barod i gywiro gwallau’n gyflym.
Cam 6
Cam 6: Ei ddileu ar ôl iddo gael ei ddefnyddio
Sicrhewch fod polisi yn ei le i adolygu a dileu hen ddata a rannwyd ar-lein.
Cam 7
Cam 7: Ei gadw’n ddiogel
Sicrhewch fod eich gwefan, eich llwyfan ar-lein a / neu fynediad i’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.
Cam 8
Cam 8: Bod yn atebol
Sicrhewch eich bod wedi dogfennu eich polisïau, eich gweithdrefnau a’ch dull gweithredu.
Cam 9
Cam 9: Dweud wrth bobl beth rydych chi’n ei wneud
Sicrhewch fod eich rhybudd preifatrwydd yn glir am yr hyn rydych chi’n ei wneud gyda’ch data.
Cam 10
Cam 10: Gadael i bobl gael gwybod mwy
Sicrhewch fod pobl yn gwybod am eu hawliau ym maes diogelu data a sut i’w rhoi ar waith.
Browse related resources by smart tags:
Data Data protection Digital content Personal data Sharing content

Please attribute as: "What do I need to do before I share personal data online? (2022) by Dr Kit Good, Naomi Korn Associates supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0