
What tools should I use to measure the success of my digital content?
1. Pam mae’n bwysig olrhain eich cynnwys ar-lein ar ôl ei bostioDylech fesur llwyddiant eich ymdrechion a throsolio’r mewnwelediadau i’ch helpu i:
- Dargedu segmentau o’ch cynulleidfa sy’n tanberfformio
- Gwybod pa fath o gynnwys mae eich cynulleidfa yn ei fwynhau
- Deall pa rai o’ch sianeli marchnata sy’n gweithio orau, a sut i wella’ch perfformiad
- Deall o ble mae eich traffig, eich cliciadau neu eich dulliau treiddio’n dod
- Olrhain ac addasu eich cynigion ar hysybsebion Search i wella’ch perfformiad
2. Teclynnau i olrhain llwyddiant/methiannau amrywiol ddarnau o gynnwys
Google Analytics
- Perfformiad hysbysebion Search
- Traffig ac ymddygiad ar y wefan
- Deall ymgysylltiad a chamau gweithredu a gymerwyd
- Cymharu â chymheiriaid yn y diwydiant
Consol Chwilio Google Search
- Ffocws ar ymdrechion SEO (optimeiddio peiriannau chwilio)
- Sut mae eich gwefan yn perfformio yn Search
- Chwilio am ddatrysiadau i anawsterau ar eich gwefan
- Darganfod pa dermau chwilio sy’n gweithio i chi
Proffil Busnes Google
- Ceisiadau o ran cyfeiriadau neu gyswllt
- Cliciadau ar y wefan
- Niferoedd cynulleidfaoedd
- Sut mae pobl yn dod o hyd i’ch Proffil Busnes Google (Search a Mapiau)
Mewnwelediadau’r cyfryngau cymdeithasol
Mae gan bob llwyfan ar y cyfryngau cymdeithasol, fel Twitter, Facebook, Instagram, a LinkedIn, ei theclynnau mewnwelediad ei hun. Er eu bod nhw i gyd yn edrych yn wahanol, maen nhw i gyd yn ymdrin â’r canlynol:
- Perfformiad Cynnwys
- Perfformiad Hysbysebion
- Mewnwelediadau cynulleidfaoedd
- Demograffeg
- Rhanbarthau
- Diddordebau
Nawr bod gennych chi ddata i fesur llwyddiant y cynnwys rydych chi wedi’i bostio, gallwch chi ddefnyddio’r mewnwelediadau hyn i ddeall sut i gynllunio’n well ar gyfer cynnwys yn y dyfodol:
Diffinio eich cynulleidfa
- Pwy ydyn nhw? – oedran, rhyw, lleoliad.
- Beth sy’n eu cymell?
- Pwy/beth sy’n dylanwadu arnyn nhw?
- Pryd maen nhw ar-lein fel arfer?
- Pa gyfryngau cymdeithasol maen nhw’n eu defnyddio?
Creu eich strategaeth ar sail mewnwelediadau
- Pryd dylech chi bostio?
- Pa mor aml dylwn i bostio?
- Ar ba lwyfannau cyfryngau cymdeithasol dylwn i bostio?
- Pa alwadau i weithredu sy’n gweithio orau?
Mireinio’ch cynnwys ar sail yr hyn mae eich cynulleidfa yn ei hoffi
- Cyhoeddiadau – digwyddiadau newydd
- Pethau heb fod yn hyrwyddol – mewnwelediadau tu ôl i’r llenni
- Pethau’n gysylltiedig â’r cynnyrch neu’r brand – Cynnyrch newydd yn eich siop ar-lein
- Cynnwys mynych – digwyddiadau neu werthiannau tymhorol
Gweithredol – cynigion swyddi
• Ymatebion – ymgysylltu â chwsmer neu ddylanwadwr
• Yn rhoi gwybodaeth — blogiau neu erthyglau
Lawrlwythwch Sut ydw i’n mesur llwyddiant fy nghynnwys digidol? ffeithlun -[pdf 489KB]

Please attribute as: "What tools should I use to measure the success of my digital content? (2022) by UpSkill Digital supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0