
How can heritage organisations keep up to date with social media content trends?
Gyda llwyfannau a’r ffordd rydym yn ymgysylltu â nhw’n gyson newid, gall fod yn waith llawn amser cadw o flaen y gad ar dueddiadau’r cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae’n hollbwysig cadw ar flaen y gad yn hyn o beth i sicrhau nad ydych chi a’ch cynnwys ar ei hôl hi.
1. Pam mae hyn yn bwysig?
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o roi hwb i broffil eich sefydliad treftadaeth a rhannu eich cynnwys gyda chynulleidfa ehangach. Ond bydd manteisio’n llwyddiannus ar duedd (neu hyn yn oed greu tuedd) ar y cyfryngau cymdeithasol yn helpu i hoelio sylw eich cynulleidfa hyd yn oed yn gynt. Mae hefyd yn gwneud eich cynnwys yn fwy cyfoes ac felly rhanadwy, gan olygu bod ganddo’r posibilrwydd o dyfu’n organig (h.y., heb orfod talu am hysbysebion).
Enghraifft dda o duedd boblogaidd yn y cyfryngau cymdeithasol yn y sector treftadaeth yw #curatorbattle, tuedd a ddechreuwyd gan Amgueddfa Swydd Efrog, lle byddai amgueddfeydd yn cael gwahoddiad i arddangos eitemau o dan themâu wythnosol gan gynnwys y ‘goddrych mwyaf eofn’. Roedd y duedd hon yn llwyddiant nid yn unig ar draws Twitter, ond sbardunodd hefyd sylw yn y newyddion yn rhyngwladol.
Hashnod poblogaidd arall i’r maes treftadaeth yw #HeritageTreasures. Defnyddiodd Eglwysi Cadeiriol Lloegr hyn i hyrwyddo fideo i arddangos eglwysi cadeiriol a chynyddodd hyn nifer eu rhyngweithiadau’n aruthrol. Yn yr un modd, cymerodd Amgueddfeydd Barnsley ran yn yr hashnod #HeritageTreasures ond gydag elfen wahanol! Yn sgil uno delweddau o Brian Blessed gyda’u paentiadau, denon nhw’n agos at 50 o achosion hoffi ar Twitter, yn hytrach na’r llond llaw roeddent yn arfer eu cael.

Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol yn anwadal, a bod tueddiadau’n symud yn gyflym – mae ymgysylltu â thuedd sydd wedi dyddio’n gallu bod yn waeth i’ch brand na pheidio ag ymgysylltu o gwbl.
Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol yn anwadal, a bod tueddiadau’n symud yn gyflym – mae ymgysylltu â thuedd sydd wedi dyddio’n gallu bod yn waeth i’ch brand na pheidio ag ymgysylltu o gwbl.
2. Mae tueddiadau gwahanol yn gweithio i wahanol lwyfannau
Mae’n bwysig cofio bod tueddiadau gwahanol yn taro tant gyda gwahanol gynulleidfaoedd a llwyfannau, h.y., mae’n bosibl na fydd yr hyn sy’n gweithio i TikTok yn gweithio i Twitter ac i’r gwrthwyneb.
Tra’n ymgysylltu â thueddiadau’r cyfryngau cymdeithasol, ystyriwch eich llwyfannau eich hun ac os a sut y gallai ffurfiau eraill o gynnwys gyd-fynd â nhw. Dylech chi geisio mabwysiadu dull wedi’i deilwra, yn hytrach nag efelychu neu addasu’r un cynnwys ar draws y gwahanol lwyfannau rydych chi’n eu defnyddio.
Ydy hynny’n gwneud synnwyr? O fath? Peidiwch â phoeni – y peth ffodus yw nad yw hyn mor gymhleth nac mor frawychus ag y mae’n swnio.
Yn wir, mae cwta ddeng munud y dydd yn fwy na digon i gasglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi; y cyfan sydd ei angen yw gwybod ble i chwilio. Yn yr erthygl hon, rwy’n amlygu chwe chyrchfan (rithwir) a rhai argymhellion penodol i’ch helpu i gadw ar flaen y gad gyda thueddiadau’r cyfryngau cymdeithasol.
3. Ffrydiau newyddion a phodlediadau
Curadu eich ffrwd newyddion gyda chyfrifon rydych yn eu hoffi ac yn ymddiried ynddynt yw’r ffordd hawsaf a mwyaf poblogaidd o gadw ar flaen y gad gyda thueddiadau’r cyfryngau cymdeithasol.
Gallwch chwilio am hashnodau mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw drwy eu teipio i mewn i’r bar chwilio ar y brig, fel y ddelwedd isod drwy chwilio am yr hashnod #CuratorBattle. Gallwch chi hefyd chwilio i weld beth arall sy’n trendio yn eich gwlad ac yn rhyngwladol drwy glicio ar y botwm ‘Explore’ ar y chwith, o dan logo Twitter. Drwy chwilio am yr hashnod a chymryd rhan, caiff eich trydariadau eu gweld gan bawb sy’n dilyn y duedd/tag hwnnw.

Rhyngwyneb Twitter sydd hawsaf ar gyfer hyn, gan ddefnyddio’ch llinell amser gyffredinol a’r swyddogaeth ‘rhestrau/’lists’. Mae Rhestrau / Lists Twitter yn ffordd o deilwra, trefnu a blaenoriaethu’r trydariadau a welwch yn eich llinell amser. Gallwch chi osod rhestrau Twitter i rai ‘cyhoeddus’ a rhai ‘preifat’. Os nad ydych chi am i bobl weld eich rhestrau, a ddim am i’r cyfrifon arnynt i wybod eich bod wedi’u hychwanegu at restr, sicrhewch eich bod yn dethol ‘preifat’/’private’.
Am fwy o wybodaeth, mae’n werth chwilio am bodlediadau a chyfrifon YouTube. Isod mae argymhellion ar sianeli a chyfrifon o bwys ar y cyfryngau cymdeithasol i’w dilyn ar-lein. Mae eu tudalennau’n llawn gwybodaeth bellach am sut i gadw ar flaen y gad gyda thueddiadau’r cyfryngau cymdeithasol.
Cyfrifon Twitter a argymhellir:
-
- Charity Digital: https://twitter.com/CharityDigiOrg
Cyfrifon YouTube a argymhellir:
-
- Neil Patel: https://www.youtube.com/c/NeilPatel
- Ben Heath: https://www.youtube.com/c/BenHeath
Podlediad a argymhellir:
-
- Digital Marketing Podcast: https://www.targetinternet.com/digital-marketing-podcasts/
Mae’n bwysig peidio ag anghofio am algorithmau. Yn gyffredinol, dim ond tua 20 y cant o’r cyfrifon rydych chi’n eu dilyn y byddant yn eu dangos i chi, ar sail faint rydych chi’n ymgysylltu â nhw. Bydd ymgysylltu â chyfrifon rydych chi’n eu dilyn am wybodaeth ar sail trendio, gan adael sylwadau hoffi neu ymatebion, yn sicrhau nad ydych yn eu colli. Ar Twitter, YouTube ac Instagram, mae’r opsiwn ychwanegol hefyd o osod hysbysiadau ar gyfrifon, fel eich bod yn cael gwybod pryd bynnag byddant yn postio.
4. Newyddlenni e-bost
Un o fantrâu marchnatwyr digidol yw ‘yn y rhestr mae’r arian’. Wrth ystyried cadw ar flaen y gad gyda thueddiadau’r cyfryngau cymdeithasol, bydd gan y rhan fwyaf o ffynonellau gwybodaeth ar-lein restr e-bost y gallwch danysgrifio iddi.
Nid yw marchnata drwy e-bost mor ‘secsi’ â’r cyfryngau cymdeithasol neu farchnata dylanwadwyr, ond mae’n hynod o effeithiol a bydd gan lawer o safleoedd ac arbenigwyr newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol restrau e-bost. I gael newyddion diweddaraf y cyfryngau cymdeithasol yn syth i’ch mewnflwch, ymunwch â rhestrau e-bost ar wefannau sydd o gymorth arbennig i chi.
Rhestrau e-bost a argymhellir:
-
- The Drum: https://www.thedrum.com/
- Social Media Week: https://socialmediaweek.org/
- Cyfrifon ar adrannau ffrydiau RSS (esbonnir hyn isod)
5. Ffrydiau RSS
Ystyr ‘RSS’ yw ‘really simple syndication’ (‘syndiceiddio syml iawn’), ac mae ffrydiau RSS yn eich galluogi i greu gofod sy’n tynnu diweddariadau allweddol i mewn o wefannau o ddiddordeb.
Mae’n dacteg draddodiadol ond effeithiol, ac mae’n eich helpu i gael hyd i’ch diweddariadau amrywiol mewn un cam chwim, yn hytrach na gorfod chwilio drwy bob un i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r diweddariadau eich hun.
Bydd angen darllenydd RSS arnoch chi os yw’r dull hwn o ddiddordeb, ac mae modd gwneud hyn drwy’r camau syml yma:
- Crëwch restr o wefannau sydd o gymorth ac y gellir ymddiried ynddynt ar gyfer cadw ar flaen y gad gyda thueddiada
- Dewiswch ddarllenydd RSS sy’n caniatáu i chi gyrchu’r ffrwd RSS o’r gwefannau hyn, fel Feedly www.feedly.com, a chrëwch gyfrif.
- Defnyddiwch swyddogaeth chwilio’r darllenydd RSS a theipio gwefannau o’ch rhestr i mewn, neu bynciau perthnasol
- Dewiswch y rhai yr hoffech eu dilyn
- Parhewch i ddefnyddio’ch darllenydd RSS, naill ai o’ch ffôn neu’ch pen desg, i gadw ar flaen y gad.
Gwefannau a argymhellir:
- Techcrunch: https://techcrunch.com/social
- Social Media Examiner: https://www.socialmediaexaminer.com/
- WERSM: https://wersm.com/
- Social Media Today: https://www.socialmediatoday.com/
6. Sgwrs
Weithiau, y ffordd orau o gadw ar flaen y gadw gyda thueddiadau’r cyfryngau cymdeithasol yw drwy siarad â phobl debyg i chi.
Os oes gennych gysylltiadau fel hyn eisoes, gallech chi awgrymu creu sgwrs grŵp, boed hynny ar Facebook, Instagram, Twitter, neu WhatsApp. Os ydych chi’n llai sicr pwy i’w holi neu bwy i gynnig hyn iddynt, mae ystod o ofodau ar-lein eraill ar gael fel Clubhouse neu Twitter Spaces, neu am fforwm mwy traddodiadol ei natur, Reddit.
Grwpiau a argymhellir:
- The Social Media Geekout: https://www.facebook.com/groups/socialgeekout
- Grŵp WhatsApp Battenhall: https://battenhall.com/blog/launching-the-battenhall-whatsapp/
7. O lygad y ffynnon
Mae gan lawer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu cyfrifon, eu bwletinau a’u ffrydiau eu hunain i gadw defnyddwyr ar flaen y gad gyda’u datblygiadau eu hunain, gan gynnwys:
- Facebook: https://about.fb.com/news/
- Instagram: https://business.instagram.com/blog/?
- Pinterest: https://newsroom.pinterest.com/en
- Snapchat: https://newsroom.snap.com/
- TikTok: https://newsroom.tiktok.com/
- Twitter: https://blog.twitter.com/
- YouTube: https://blog.youtube/
8. Safleoedd agregwyr
Fel Ffrydiau RSS, mae safleoedd agregwyr yn casglu ac yn tynnu eitemau cynnwys cysylltiedig at ei gilydd i chi. Maen nhw’n ffordd hylaw iawn o dynnu popeth at ei gilydd mewn un lle, ac weithiau maen nhw’n gallu dweud wrthych pam mae erthyglau neu ddarnau o gynnwys wedi bod yn boblogaidd, ar sail faint o bobl sydd wedi rhyngweithio â nhw.
Safleoedd agregwyr a argymhellir:
- Buzzsumo: www.Buzzsumo.com
- Curator: https://curator.io/
- Exploding Topics: www.explodingtopics.com
A dyna chi. Chwe chyrchfan allweddol i’ch taith drwy dueddiadau’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’n bwysig nodi nad oes rhaid i chi ddefnyddio’r holl ddulliau hyn. Yn wir, mae hyd yn oed un yn ffordd ragorol o ddechrau arni a gallai fod yn fwy na digon. Yr hyn sy’n bwysig yw archwilio p’un sy’n gweithio orau i chi.
Wedyn unwaith i chi neilltuo deng munud bob dydd i bori drwy’r cynnwys hwnnw, byddwch chi’n gweld eich bod yn hen law ar dueddiadau diweddaraf y cyfryngau cymdeithasol cyn pen dim.
Browse related resources by smart tags:
Content creation Digital content Facebook Instagram Social media Social media strategy Social trends Trends Twitter

Please attribute as: "How can heritage organisations keep up to date with social media content trends? (2022) by Andrew Davis supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0