How do I ensure that the digital content I create is accessible?
1. Pam mae mor bwysig bod â chynnwys hygyrch ar y cyfryngau cymdeithasol?
Gydag ychydig o atebion cyflym a chamau hawdd, gallwch droi cyfryngau cymdeithasol eich sefydliad yn lle llawer mwy hygyrch, cynhwysol a llwyddiannus. Ac os byddwch chi’n hoelio hyn, byddwch chi ar eich ennill am greu cynnwys hygyrch ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r manteision mor amrywiol â’ch cynulleidfa, ac maen nhw’n cynnwys:
Dangos ymrwymiad i arfer gorau
Mae glynu at Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (WCAG) yn un o’r ffyrdd gorau o ddangos eich bod wedi ymrwymo i greu lle sy’n gynhwysol ac amrywiol.
Mae dangos i unigolion eu bod yn gallu cyrchu’ch cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn tynnu sylw at y ffaith y gallan nhw gyrchu popeth arall rydych chi’n ei gynnig hefyd; boed hynny’n lleoedd ffisegol, cynnwys ar-lein neu wasanaethau y telir amdanyn nhw. Yn aml, rydyn ni’n dweud, “ystyr cydymffurfio yw nad ydych chi’n cael eich erlyn; nid yw’n golygu eich bod yn cynnwys”. Os byddwch chi’n cymryd y camau i symud y tu hwnt i gydymffurfio, dyna pryd y byddwch chi’n gweld y manteision go iawn, a chreu diwylliant sy’n wirioneddol gynhwysol. Ond mae’n gam cyntaf gwych!
Creu cynnwys mwy llwyddiannus
Po fwyaf rydych chi’n glynu at WCAG, y mwyaf y budd a gewch chi o’r algorithmau cyfryngau cymdeithasol gwahanol, a fydd yn rhoi hwb i’ch cynnwys ym mhobman!
Yn aml, yr arferion mwyaf hygyrch yw’r rhai sydd fwyaf hwylus i algorithmau, hefyd. Er enghraifft, nid yn unig mae creu trawsgrifiad ysgrifenedig i gyd-fynd â’ch podlediad yn golygu ei gwneud yn bosibl i gynulleidfa gyfan arall gyrchu’ch cynnwys, ond mae hefyd yn golygu ei bod yn hawdd i bobl chwilio amdano, ei ddyfynnu a’i rannu!
Cyrraedd cynulleidfa amrywiol
Yn Diversity and Ability, rydyn ni’n mynd y tu hwnt i hygyrchedd bob tro, i feddwl am gynhwysiant go iawn. I’ch helpu chi i feddwl am pam mae cynhwysiant mor bwysig, ail-luniwch y cwestiwn i ffocysu ar y bobl y gallech chi fod yn eu heithrio ar hyn o bryd, a beth yw cost yr eithrio hwn i chi.
Trwy greu cynnwys cynhwysol, byddwch chi’n cyrraedd cynulleidfaoedd parod, cynhyrfus newydd ac yn ymestyn eich cyrraedd.
2. Sut galla i wneud fy nghyfryngau cymdeithasol yn hygyrch?
Cadwch dri phrif ffocws mewn cof wrth feddwl am sut i wneud eich cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn fwy hygyrch:
Iaith
Ydy’ch ysgrifennu’n hygyrch, yn alluogol ac yn gynhwysol?
Cynrychiolaeth
Pwy ydych chi’n eu cynnwys yn eich cynnwys a’ch delweddau, a sut rydych chi’n eu cynrychioli?
Canfyddiad
Oes modd cyrchu eich cynnwys mewn ffyrdd amrywiol, yn hytrach na dibynnu ar un fformat yn unig?
3. Modelau o anabledd
Mae modelau o anabledd yn esbonio sut rydyn ni’n deall y cysyniad o anablu a’r rhwystrau mae pobl anabl yn eu hwynebu. Mae ein hiaith a’n cyfathrebu wedi esblygu o feio yn negyddol ac yn ddifenwol a symud tuag at ddathlu a gwerthfawrogi pob unigolyn. Bydd y modelau canlynol yn eich helpu i ddeall y ffyrdd gwahanol y gallai pobl drafod anabledd a meddwl amdano, a sut gall y ffordd rydych chi’n defnyddio iaith helpu i chwalu rhwystrau anablu.
Y Model Meddygol
- Yn ffocysu ar ddiagnosis.
- Yn rhoi bai a chyfrifoldeb ar unigolyn, gan awgrymu bod angen iddyn nhw gael eu ‘trwsio’ neu eu ‘gwella’.
- Mae pobl broffesiynol yn gweld namau a chyfyngiadau, yn canolbwyntio ar ddiagnosis, ac yn gweithredu ar sail hynny (ni waeth beth sy’n well gan unigolyn).
Y Model Cymdeithasol
- Yn ffocysu ar rwystrau; mae unigolion yn cael eu hanablu gan y rhwystrau sy’n cael eu gosod gan gymdeithas sydd ond yn croesawu un math o berson.
- Os ydyn ni’n dileu’r rhwystrau, caiff unigolion eu galluogi ac yn cael modd i gymryd rhan yn llawn a ffynnu.
Model Dathliadol Diversity & Ability
- Mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion unigryw gyda’u set sgiliau wych eu hunain.
- Mae newidiadau sy’n cael eu gwneud yn rhagweithiol, yn hytrach nag aros i unigolyn ofyn amdanyn nhw, yn golygu bod pawb yn cael eu croesawu a’u galluogi.
- Mae’n meithrin ymdeimlad o berthyn, sy’n gwneud y byd yn lle gwell a brafiach i bawb!
4. Iaith
Geiriau plaen a chryno
- Siaradwch yn glir ac yn syml
- Anelwch at ‘oed darllen’ o oddeutu 13 oed
- Cadwch y cywair a’r eirfa’n gyson
- Ceisiwch osgoi jargon ac acronymau (neu eu hesbonio’n glir)
Awgrym gwych
Manteisiwch ar declynnau ysgrifennu am ddim fel Grammarly a Hemingway App i sicrhau bod eich iaith yn glir ac yn hygyrch.
Iaith gynhwysol
Defnyddiwch iaith sy’n gynhwysol, yn alluogol, ac sy’n cydymffurfio â’r model cymdeithasol o anabledd. Er enghraifft:
‘Pobl anabl’ yn lle ‘pobl ag anableddau’
‘Pobl sy’n defnyddio cadair olwyn’ yn hytrach na ‘phobl sy’n gaeth i gadair olwyn’
‘Pobl nad ydynt yn anabl’, yn hytrach na ‘phobl sy’n gorfforol abl’
Dilëwch eirfa waharddol (er enghraifft, ‘gwallgof, ‘penwan, ‘mud’, ‘cloff’) a chyfatebiaeth (er enghraifft, ‘syrthio ar glustiau byddar’, ‘dyled barlysol’, ‘y dall yn tywys y dall’)
I gael mwy o arweiniad, darllenwch ganllawiau’r Llywodraeth i iaith gynhwysol
5. Canfyddiad: testun
Cyflwyno testun mewn ffordd hygyrch
- Defnyddiwch #PascalCase neu #camelCase ar gyfer hashnodau. Mae hyn yn golygu defnyddio priflythyren ar ddechrau pob gair mewn hashnod i wneud yn siŵr ei fod yn ddarllenadwy; er enghraifft #CynnwysHygyrch
- Rhowch drefn glir ar eich testun, gan gynnwys digon o fylchau. Pan fydd nifer penodedig o nodau gyda chi (er enghraifft, mewn disgrifiadau ar LinkedIn, Facebook, Instagram a YouTube), sicrhewch fod gennych gymaint o le â phosibl drwy greu paragraffau.
- Defnyddiwch bwyntiau a rhifau bwled i greu cynnwys llinol, lle bydd y fformat yn caniatáu hynny.
- I bwysleisio testun, defnyddiwch deip trwm, ac nid teip italig na thanlinellu.

6. Canfyddiad: sain
Cyflwyno cynnwys sain mewn ffordd hygyrch
- Darparwch drawsgrifiadau ar gyfer cynnwys sain fel podlediadau.
- Ar gyfer fideos byw, sicrhewch fod modd defnyddio capsiynu awtomatig fan lleiaf (yr arfer gorau fyddai cynnwys trawsgrifio byw a chyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain).
- Cadwch sŵn yn y cefndir (gan gynnwys cerddoriaeth) mor isel â phosibl. Dylech osgoi newid lefel y sain yn ddramatig.
Defnyddiwch Otter.ai i gael trawsgrifiadau (cyfyngedig) am ddim a gwasanaeth capsiynau awtomatig YouTube, ond cofiwch gywiro’r darn i sicrhau ei fod yn gywir.

7. Canfyddiad: deunyddiau gweledol
Gwneud eich deunyddiau gweledol yn hygyrch
- Dylech osgoi delweddau o destun lle y bo’n bosibl. Pan fyddwch chi yn eu defnyddio nhw (er enghraifft, ar Instagram), gwnewch yn siŵr bod yr holl destun yn cael ei ysgrifennu yn y capsiwn neu’r disgrifiad.
- Cadwch eich cynnwys mewn trefn glir. Sicrhewch fod cyferbyniad uchel rhwng y lliwiau.
- Defnyddiwch ddisgrifiadau o ddelweddau a thestun amgen (alt text) bob amser.
Defnyddiwch wirwyr cyferbyniad ar-lein fel contrastchecker.com neu webaim.com/resources/contrastchecker.


8. Disgrifiadau o ddelweddau a thestun amgen (alt text)
- Ni ellir gweld testun amgen mewn postiad ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae’n hanfodol ar gyfer sicrhau bod delweddau’n hygyrch i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgriniau. Mae’n fyrrach fel arfer (125 o nodau neu lai), ac mae’n cynnwys manylion hanfodol delwedd.
- Mae disgrifiadau o ddelweddau’n fanylach, a gellir eu gweld yn y capsiynau.
- Defnyddiwch y fformiwla yma ar gyfer trefn eich disgrifiadau o ddelweddau a thestun amgen = gwrthrych, gweithred, a chyd-destun.
I ddisgrifio delweddau:
- Disgrifiwch gynnwys y ddelwedd ond ceisiwch osgoi defnyddio geiriau sy’n ymwneud â gweld (er enghraifft, peidiwch â dweud, “mae coeden yn dod i’r golwg” neu “gallwch chi weld dyn”).
- Disgrifiwch yr olwg sydd ar wynebau pobl.
- Disgrifiwch nodweddion, os ydych chi’n gwybod beth ydyn nhw (er enghraifft, os ydych chi’n gwybod beth yw rhyw a hil rhywun, mae hyn yn wybodaeth bwysig i’w chynnwys, ond gwnewch yn siŵr nad ydych chi byth yn cymryd hyn yn ganiataol).
I weld canllaw llawn am ysgrifennu disgrifiadau o ddelweddau, a sut i’w lanlwytho ar wahanol lwyfannau ar y cyfryngau cymdeithasol, ewch i adnodd rhad ac am ddim Disability & Ability.
9. Beth nesaf?
Dewch yn hen law ar greu disgrifiadau o ddelweddau a thestun amgen, ysgrifennu mewn #camelCase, a defnyddio iaith gynhwysol!
Dilynwch Diversity & Ability ar y cyfryngau cymdeithasol i gael awgrymiadau gwych a’r arweiniad diweddaraf am gyfathrebu cynhwysol. Dysgwch sut i wneud eich gwefan yn hygyrch i sicrhau bod cynhwysiant cyfannol ar draws eich cyfathrebiadau i gyd.
Dilynwch y cyfrif @AltTxtReminder ar Twitter a byddwch chi’n cael Neges Uniongyrchol bob tro rydych chi’n postio llun heb destun amgen!

10. Lawrlwytho’r canllaw
Lawrlwythiad: Sut ydw i’n gwneud fy nghynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn hygyrch gan Diversity and Ability [pdf 5mb]
Browse related resources by smart tags:
Access Accessibility Digital content Social media Website accessibility
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How do I ensure that the digital content I create is accessible? (2022) by Diversity & Ability supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






