Using the digital business model canvas to prioritise what to change
1. Cyflwyniad
Ar ôl ichi archwilio’r manteision posibl sy’n perthyn i roi technoleg a dulliau digidol ar waith yn eich sefydliad, efallai y byddwch yn teimlo bod angen ichi newid eich ffyrdd presennol o weithio er mwyn ichi allu ymgysylltu’n fwy effeithiol â’r mathau hyn o gyfleoedd. Mae diweddaru eich model busnes yn ffordd dda o gychwyn y broses hon, ac mae hefyd yn ffordd dda o sicrhau ymrwymiad eich staff a’ch gwirfoddolwyr.
Yn ddi-os, y Cynfas Modelau Busnes a ddatblygwyd gan Alex Osterwalder ac Yves Pigneur yn 2010 yw’r dull mwyaf cyffredin a ddefnyddir ar gyfer modelu busnes, ac mae yna lawer o adnoddau ar gael i’ch helpu i ddychmygu eich sefydliad yn defnyddio’r dull hwn:
- CultureHive – ‘Introducing the Business Model Canvas’
- NESTA – ‘Business Model Canvas’
- Y Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer y Celfyddydau Perfformio Cyfoes – ‘An Introduction to Business Models’
Byddwn yn archwilio’r Cynfas Modelau Busnes yn fanylach yn y sesiwn nesaf, gan gynnig arweiniad ichi ynglŷn â sut i gymhwyso hyn oll at eich sefydliad.
2. Defnyddio’r cynfas digidol
Ffordd o weld eich sefydliad ar ffurf cyfres o flociau adeiladu yw’r ‘cynfas’. Mae ochr dde’r cynfas yn canolbwyntio ar y modd y gallwch gynhyrchu arian a refeniw, tra mae’r ochr chwith yn canolbwyntio ar y costau o ran eich gweithgareddau beunyddiol. Mae’r canol yn cynrychioli’r gwerth rydych yn ei greu – yn y bôn, dyma eich ‘datganiad gwerth’.
Mae’r adnodd hwn yn addasiad o’r cynfas gwreiddiol ac fe’i gelwir yn ‘gynfas digidol’. Gan ddefnyddio’r un egwyddorion, diben y cynfas digidol yw helpu i ysgogi’r un syniadau cyfannol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar arlwy digidol eich sefydliad treftadaeth.
Argymhellir eich bod yn llenwi’r cynfas digidol fel tîm, a’ch bod yn cynnwys eich staff, eich gwirfoddolwyr a’ch ymddiriedolwyr yn y dasg. Gall fod yn help mawr o ran cadarnhau eich sefyllfa, a bydd yn cefnogi eich gwaith tuag at lunio strategaeth neu newid eich model busnes er mwyn ymgorffori arlwy digidol penodol.
Sut i ddefnyddio’r cynfas digidol
1. Cynnwys digidol – Yr hyn sydd wrth galon y cynfas yw eich ‘cynnwys digidol’. Os ydych yn awyddus i newid eich model busnes a bod yn arloesol o ran yr hyn a gynigir gennych, yna mae eich cynnwys wrth galon hyn oll. Mae cynnwys digidol yn golygu unrhyw gyfrwng a gaiff ei greu’n ddigidol neu y gellir ei ddigideiddio – megis cynnwys fideos, delweddau digidol, ffotograffau, cynnwys ysgrifenedig, dehongliadau, neu ddata 3D fel adluniadau, modelau ac arteffactau wedi’u sganio. Mae’r arfer o ddatblygu asedau newydd ac elwa i’r eithaf ar werth asedau presennol wrth galon a chraidd eich arlwy digidol.
2. Profiad y defnyddwyr – Yn yr adran hon, rhaid ichi feddwl am y modd y gall eich ymwelwyr a’ch cynulleidfa ryngweithio gyda chi’n ddigidol. A gaiff hyn ei wneud yn bennaf trwy gyfrwng dull ‘hunanwasanaeth’ lle caiff yr wybodaeth neu’r cynnwys eu gweld neu eu lawrlwytho heb ryngweithio â’r staff? Ynteu a gynigir gwasanaeth ar-lein mwy personol lle gellir rhyngweithio â’r staff trwy gyfrwng e-byst, sgyrsiau, neu hyd yn oed ddigwyddiadau ar-lein a gynhelir trwy ddefnyddio cyfleusterau fideo-gynadledda fel Microsoft Teams neu Zoom?
3. Gwefannau a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol – Mae’r adran hon yn cyfeirio at y sianeli digidol a ddefnyddiwch i ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd. Mae’n debygol eich bod yn defnyddio amryfal sianeli i gyrraedd eich cynulleidfaoedd – neu o leiaf, dylech ystyried gwneud hyn. Meddyliwch am y modd y defnyddiwch sianeli digidol ar gyfer pob un o’r camau ymgysylltu canlynol:
-
- Ymwybyddiaeth: Y modd y mae cynulleidfaoedd yn dysgu am eich sefydliad a’r hyn a wnewch.
- Gwerthuso: Y modd y mae cynulleidfaoedd yn ffurfio barn ynglŷn â’ch sefydliad ac yn dod i benderfyniad ynglŷn â’r hyn a gynigir gennych.
- Ymgysylltu: Sut y mae cynulleidfaoedd yn prynu tocynnau, yn ymweld â’ch sefydliad neu’n ymgysylltu â’ch sefydliad a’r hyn a gynigir gennych
- Profiad: Pryd a sut y mae cynulleidfaoedd yn cael profiad o’ch sefydliad a’r hyn a gynigir gennych.
- Elfennau dilynol: Ategu’r arfer o ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar ôl yr ymweliad neu’r digwyddiad, a datblygu perthynas barhaus.
4. Cynulleidfaoedd a dargedir – Pwy yw’r prif grwpiau o ran cynulleidfaoedd a faint a wyddoch am eu dewisiadau ynghylch ymgysylltu â chi ar-lein neu ddefnyddio cynnwys digidol?
5. Ffynonellau refeniw – Mae’r holl elfennau ar ochr dde’r cynfas yn cyfuno i gynhyrchu refeniw a rhoi gwerth ariannol i gynnwys digidol, pa un a fydd hynny trwy dderbyn cyllid neu trwy werthu neu danysgrifio’r cynnwys.
6. Creu a lledaenu gweithgareddau – Mae’r blociau ar ochr chwith y cynfas yn cyfeirio at feysydd costau. Mae’r adran hon yn ymwneud â’r amrywiaeth o weithgareddau y gallech fod angen mynd i’r afael â nhw i greu a lledaenu cynnwys digidol trwy gyfrwng eich sianeli digidol – er enghraifft ysgrifennu cynnwys, ffotograffiaeth, sganio, postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, gwaith datblygu a chynnal ar y we, a marchnata a chyfathrebu. Pwy o fewn eich tîm sy’n gyfrifol am hyn a faint o amser y bydd ei angen?
7. Technoleg a sgiliau presennol – Mae’r adran hon yn cyfeirio at y cyfarpar a’r caledwedd a ddefnyddiwch ar hyn o bryd yn eich sefydliad, yn ogystal â lefel sgiliau digidol eich staff. Beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd ac a yw hyn yn cyd-fynd â’ch dyheadau ar gyfer datblygu a defnyddio cynnwys digidol?
8. Cyflenwyr, partneriaethau a chymorth – Dylai’r adran hon nodi eich cysylltiadau, eich partneriaid a’ch cyflenwyr allweddol mewn perthynas â’ch arlwy digidol.
9. Costau – Dylai’r holl elfennau ar ochr chwith y cynfas gael eu cyllido a’u hariannu mewn rhyw ffordd. Mae’r adran gostau’n cyfateb i gyfanswm cost yr adnoddau rydych eu hangen, y gweithgareddau rydych yn ymhél â nhw a’r partneriaethau a’r adnoddau allanol a ddefnyddiwch.
Os ewch ati i gwblhau’r gweithgaredd hwn fel tîm, gallwch benderfynu a yw’r naill ran yn ategu’r llall. A yw hyn oll yn gwneud synnwyr ynteu a oes angen addasu rhai rhannau o’r cynfas er mwyn i’ch model busnes digidol weithio’n well? Dyma fydd y sail ar gyfer unrhyw fentrau newid ac unrhyw strategaeth.
3. Y camau nesaf
Gan eich bod bellach yn deall sut y mae’r cynfas yn gweithio a pha ddulliau y gallwch eu defnyddio i ddatblygu hyn ar y cyd, beth am lawrlwytho’r cynfas rhyngweithiol (PDF, 10.4kb). Treuliwch beth amser gyda’ch staff a’ch gwirfoddolwyr yn trafod sut y mae eich sefydliad yn cyd-fynd â’r cynfas a ble y dymunwch dyfu a newid.
Browse related resources by smart tags:
Business model Digital content Digital engagement Social media User experience
Please attribute as: "Using the digital business model canvas to prioritise what to change (2022) by Dr Stephen Dobson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0