
Using templates to create your digital strategy
1. Creu strategaeth ddigidol ar gyfer eich sefydliad
Mae yna sawl ffordd o ysgrifennu strategaeth ddigidol ar gyfer eich sefydliad creadigol neu ddiwylliannol. Yn yr adnodd hwn, mae ein harbenigwr, Dr Amelia Knowlson o Brifysgol Leeds, yn nodi rhai o’r opsiynau sydd ar gael ichi.
Mae’r templedi sydd ar gael yn cynnwys Cynllun a Strategaeth Ddigidol Arts Council England (PDF file, 514kb) sydd â’r bwriad o gyflwyno newid gam wrth gam mewn dull a gallu. Hefyd, ceir adnoddau ategol gan Charity Digital a’r Digital Culture Network.
Mae’r templedi hyn yn anelu at ymdrin ag agweddau cyffredin sy’n perthyn i sefydliadau, o gwmpasu’r sefyllfa bresennol i bennu tasgau cyraeddadwy a mesuradwy i feithrin sgiliau a neilltuo cyfrifoldeb.
2. Defnyddio templed i greu eich strategaeth ddigidol
Nid yw’r union dempled a ddefnyddiwch ar gyfer eich strategaeth ddigidol yn bwysig. Diben y templed yw eich annog i fyfyrio a gofyn cwestiynau anodd i chi eich hun. Efallai y dewiswch dreulio peth amser yn archwilio nifer o dempledi gwahanol er mwyn eich helpu i weld eich sefydliad o wahanol safbwyntiau. Trwy wneud hyn, rydych yn debygol iawn o ddod o hyd i’r templed a fydd yn gweithio orau i chi a’ch sefydliad.
Ar ôl ichi ddewis pa dempled y dymunwch ei ddefnyddio, gwnewch yn siŵr fod gan eich strategaeth ddigidol amcanion a nodau y gallwch weithredu ar eu sail. Hefyd, rhaid ichi wneud yn siŵr bod unigolion neu dimau penodol yn cael eu neilltuo ar gyfer eich amcanion, eich gweithgareddau a’ch targedau i gyd – sef unigolion a thimau a fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb drostynt.
Chi piau’r dewis o ran sut i lunio eich strategaeth ddigidol, ond dylai adlewyrchu eich sefydliad a’r heriau sy’n ei wynebu. Adnodd cynllunio yw strategaeth ddigidol, ac o’r herwydd dylai fod yn rhywbeth defnyddiol i gyfeirio ato. Hefyd, dylai helpu i greu dogfen gonsensws – gan gynnig cyfeiriad ac eglurder i chi, eich bwrdd, eich staff a’ch gwirfoddolwyr. Dylai eich strategaeth ddigidol ymwneud â blaenoriaethau presennol eich sefydliad. Wrth greu eich strategaeth ddigidol, ceisiwch ei chysylltu â’r meysydd allweddol a nodir isod. Yn adran olaf yr adnodd hwn ceir gweithgaredd sydd â’r bwriad o’ch helpu i gynllunio eich strategaeth ddigidol. Dylech feddwl yn ofalus ynglŷn â pha mor aml y byddwch yn dychwelyd at yr ymarfer hwn.
3. Canllawiau Arts Council England ar gynlluniau a pholisïau digidol
Mae Arts Council England wedi llunio canllawiau defnyddiol yn ymwneud â chreu strategaeth ddigidol. Datblygwyd canllawiau Arts Council England ar Gynlluniau a Pholisïau Digidol er mwyn helpu sefydliadau treftadaeth o bob maint i wneud synnwyr o’r maes digidol. Bydd y cyngor hwn yn amhrisiadwy wrth ichi ddatblygu eich strategaeth ddigidol eich hun.
Darllenwch Gynllun a Strategaeth Ddigidol Arts Council England (PDF file, 514kb).
Ar dudalen 9, ceir enghraifft o gynllun digidol y gallwch ei ddefnyddio fel templed ar gyfer eich strategaeth ddigidol eich hun.
4. Canfod eich meysydd blaenoriaeth
Ar ôl ystyried eich amcanion digidol, yn awr rhaid ichi fyfyrio ar feysydd blaenoriaeth eich sefydliad. Yn aml, ystyrir mai’r deg pwynt isod yw’r pryderon mwyaf neu’r meysydd blaenoriaeth pwysicaf ar gyfer unrhyw fusnes neu sefydliad. Rhowch y rhain yn eu trefn, o’r rhai sy’n peri’r pryder mwyaf (10) i’r rhai sy’n peri’r pryder lleiaf (1). Mae 10 yn cynrychioli eich pryder mwyaf o blith y rhestr, er enghraifft, gwendid mwyaf eich sefydliad a rhywbeth y bydd yn rhaid ichi roi blaenoriaeth iddo. Bydd y pwynt a nodir ar waelod y rhestr yn cynrychioli maes nad oes angen ichi boeni cymaint amdano – mae naill ai’n amherthnasol neu efallai bod gennych gryfder yn y maes hwnnw yn barod.
Isod mae rhestr o feysydd y dylech eu hystyried:
1. Eich ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol – a ydych chi’n poeni am fethu dilyn y diweddaraf mewn rhyw faes? Er enghraifft tueddiadau’r farchnad, newidiadau yn ymddygiad eich cynulleidfa, y tirlun cyllido, fframweithiau polisi neu newidiadau technolegol.
2. Rheolaeth ariannol – i ba raddau ydych chi’n poeni am reolaeth ariannol yn eich sefydliad? A ydych chi’n meddu ar y sgiliau, yr adnoddau a’r offer digidol i reoli materion yn ymwneud â llif arian, maint yr elw, lleihau costau, cyllido a sicrhau grantiau (os yn briodol)?
3. Monitro perfformiad – a yw gwella perfformiad yn flaenoriaeth i’ch sefydliad? Er enghraifft, efallai eich bod eisoes yn mesur dangosyddion llwyddiant ar gyfer eich busnes, eich cynulleidfa a niferoedd eich ymwelwyr, eich refeniw, neu’r effaith ar fuddiolwyr eraill? Neu efallai y byddech chi (ac unrhyw ymddiriedolwyr) yn elwa ar wybod rhagor am berfformiad eich sefydliad?
4. Rheoleiddio a chydymffurfio – mae yna lu o bolisïau, cyfreithiau a rheoliadau sy’n effeithio mewn modd gwahanol ar sefydliadau ar draws diwydiannau. A ydych chi’n gwybod y diweddaraf am reoleiddio a chydymffurfio yn eich sefydliad? A ydych chi’n ymdopi â phopeth, ynteu a yw’n faes sy’n peri pryder ichi?
5. Sgiliau a gwybodaeth – a oes gennych chi’r bobl iawn yn eich sefydliad – pa un a ydynt yn staff, yn aelodau bwrdd neu’n wirfoddolwyr? A oes gennych chi fwlch sgiliau?
6. Technoleg – mae technoleg yn newid yn gyflym; a yw lefel eich technoleg yn briodol ar gyfer eich math chi o sefydliad? A ydych chi’n teimlo bod y dechnoleg sydd ar gael ichi yn cyfyngu arnoch?
7. Defnyddio data – mae mwy a mwy o ddata yn cael ei gynhyrchu yn ein bywydau bob dydd. A ydych chi’n teimlo y gallech elwa mwy ar ddefnyddio data i ategu eich penderfyniadau? Er enghraifft, efallai eich bod yn teimlo bod angen ichi gasglu rhagor o ddata ynglŷn â’ch cynulleidfaoedd a’ch ymwelwyr, neu efallai eich bod yn teimlo y gallech wneud mwy o ddefnydd o setiau data eich awdurdod lleol neu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
8. Gwasanaethau i gwsmeriaid – sut y mae eich cwsmeriaid, eich cynulleidfa a/neu eich ymwelwyr yn ymgysylltu â chi? A yw hynny’n digwydd yn bennaf ar-lein ynteu yn y cnawd? Sut brofiad a gânt? A ydych chi’n cael cwynion ynglŷn â’r ffordd y mae eich sefydliad yn ymgysylltu â nhw? Neu efallai nad oes gennych ddulliau ar gyfer casglu adborth.
9. Cynnal eich enw da – beth yw barn sefydliadau eraill a’r cyhoedd yn gyffredinol ynglŷn â’r sefydliad? A ydych chi’n weledol yn allanol? Efallai nad yw hyn yn bwysig ichi, neu efallai bod gennych gryfder eisoes yn y maes. Neu efallai eich bod yn dymuno gwneud mwy i dynnu sylw at eich sefydliad neu wella ei enw da?
10. Gwybod pryd i groesawu newid – pryd mae newid yn angenrheidiol, boed y newid hwnnw yn golygu trawsnewid llwyr neu addasiadau bach, ond arwyddocaol? Nid gwell yw popeth newydd, ond mae gwrthwynebu newid yn rhy hir yn gallu arwain at broblemau. A yw gwybod pryd i fynd amdani yn un o’ch blaenoriaethau pwysicaf?
Pa dri maes blaenoriaeth sydd ar frig eich rhestr? Sut y gall eich strategaeth ddigidol eich helpu i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn? A ydych chi o’r farn y gallai offer a sgiliau digidol eich helpu?
Gallwch hefyd lawrlwytho templed o’r matrics blaenoriaethu hwn (PDF file, 348kb).
5. Adnoddau Pellach
Dyma rai adnoddau y gallwch eu defnyddio wrth greu strategaeth ddigidol eich sefydliad:
Arts Council England Digital Culture Network
Jisc – How to shape your digital strategy
Gov.uk Culture is Digital Policy paper
Browse related resources by smart tags:
Arts Council England Data Digital strategy Objectives Performance

Please attribute as: "Using templates to create your digital strategy (2022) by Dr Amelia Knowlson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0