
The leader’s guide to social media
1. Yr hyn y mae angen i arweinwyr ei wybod ynglŷn â’r cyfryngau cymdeithasol
Fel arweinydd, rhaid ichi ddeall sut i elwa ar y cyfryngau cymdeithasol heb fynd ar goll ym manylion pob platfform gwahanol. Mae’r arweiniad hwn yn crynhoi’r pethau hanfodol y bydd angen ichi eu gwybod. Pa un a ydych yn bwriadu defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn eich strategaeth farchnata gyffredinol, i greu rhwydwaith gyda chydarbenigwyr treftadaeth neu i wella’r modd yr ewch ati i ddiogelu a dehongli eich safle diwylliannol/treftadaeth, bydd yr arweiniad hwn o help. Erbyn y diwedd, bydd gennych syniad da pa blatfformau sy’n briodol i’ch nodau a sut i gymryd y cam cyntaf er mwyn sicrhau y bydd y cyfryngau cymdeithasol yn gweithio i chi.
2. Crynodeb o blatfformau cyfryngau cymdeithasol
Yma mae ein harbenigwr, Dr Patrick Glen o Brifysgol Leeds, yn crynhoi’r hyn rydych chi, fel arweinydd treftadaeth, angen ei wybod ynglŷn â’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae llu o blatfformau cyfryngau cymdeithasol ar gael, ac mae manteision ac anfanteision gwahanol yn perthyn i bob un. Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sy’n llwyddiannus ar y cyfryngau cymdeithasol yn targedu nifer o blatfformau gwahanol er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd gyda gwahanol fathau o gyfryngau. Efallai y bydd pobl oddi mewn i’ch sefydliad angen hyfforddiant mewnol neu allanol ar gyfer defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol, ac yn bwysicaf oll ar gyfer deall yr elfennau sensitif a’r peryglon a allai fod yn perthyn iddynt.
Mae gwahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn canolbwyntio ar wahanol fathau o ymgysylltu. Mae rhai’n canolbwyntio ar eich annog i rannu eich gwaith, eich barn a’ch gwybodaeth, tra mae eraill yn annog trafodaethau rhwng llunwyr cynnwys a chynulleidfaoedd. Ni waeth be fo pwyslais y platfform a ddefnyddiwch, mae’n bwysig ichi gofio y gall defnyddwyr y rhan fwyaf o blatfformau gysylltu â chi’n gyhoeddus, ac y gall y platfformau hyn droi’n fforymau ar gyfer cwynion cyhoeddus. Dyna pam mae hi’n bwysig ichi feddwl yn ofalus sut y bydd eich sefydliad yn ymgysylltu â’r cyhoedd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae deall pa blatfform(au) sy’n iawn i chi yn gam cyntaf pwysig.
Gwefan ar gyfer microblogio yw Twitter. Mae pobl a sefydliadau’n ysgrifennu postiadau byr – neu ‘drydariadau’ – yn ogystal ag ychwanegu sain a fideos wedi’u mewnblannu. Gall pobl heb gyfrif Twitter weld postiadau os bydd y postiadau hynny’n rhai cyhoeddus. Gall hyn eich helpu i gyrraedd cynulleidfa fyd-eang fawr a chyfathrebu eich ethos a’ch arferion.
Platfform ar gyfer rhannu ffotograffau a fideos yw Instagram. Mae ganddo gynulleidfa enfawr ymhlith defnyddwyr 25-34 oed. Os byddwch yn creu cyfrif trwy ddefnyddio’r gosodiad ‘cyfrif busnes’, cewch fynediad at offer rhad ac am ddim i olrhain unrhyw ymgysylltu â’r cynnwys yr ewch ati i’w greu. Gall Instagram fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer creu estheteg ar gyfer eich sefydliad, gan helpu i wahaniaethu rhwng eich sefydliad chi a sefydliadau eraill, a chryfhau ei frand. Ymhellach, mae’r nodweddion a elwir yn Stories a Reels yn ddefnyddiol ar gyfer creu fideos byr y gellir eu defnyddio i roi cipolwg i gynulleidfaoedd o’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn eich sefydliad a’i waith.
Gwefan rhwydweithio cymdeithasol a chyfryngau cymdeithasol yw Facebook. Fel defnyddiwr unigol, gallwch wneud defnyddwyr eraill yn ‘ffrindiau’ (eu hychwanegu at eich rhwydwaith), gan rannu testun, fideos a sain, naill ai’n gyhoeddus neu’n breifat. Gallwch fynd ati i greu sefydliad neu ‘dudalen’ – i nifer o sefydliadau bach, mae’n bosibl y bydd hyn yn haws ac yn fwy effeithiol na chreu a chynnal gwefan ffurfiol. Mae Facebook yn rhad ac am ddim, ond wrth greu gwefan mae’n bosibl y byddai’n rhaid ichi logi cwmni neu weithiwr llawrydd, neu ddefnyddio arbenigedd mewnol i’w chreu a’i chynnal. Mae Facebook yn ddefnyddiol iawn ar gyfer hysbysebu eich digwyddiadau a gwahodd darpar fynychwyr. Cyfyngedig fydd cyrhaeddiad y postiadau a wnewch ar Facebook, oni bai eich bod yn talu i ‘hybu’ postiadau – rhywbeth a all fod yn ddrud.
Gwefan ar gyfer rhannu delweddau yw Pinterest. Gallwch ddefnyddio’r platfform i greu ffolderi yn ôl diddordebau neu ddilyn byrddau Pinterest defnyddwyr eraill. Mae cynulleidfa’r platfform yn cynnwys merched 25-54 oed yn bennaf. Fel sefydliad, gallwch lanlwytho delweddau er mwyn i’ch dilynwyr allu eu cadw ar eu proffiliau eu hunain. Mae’r platfform hwn yn ysgogi mwy o brynu a gwerthu nag unrhyw blatfform arall ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn 2021, dywedodd 98% o ddefnyddwyr Pinterest eu bod wedi rhoi cynnig ar rywbeth newydd ar sail yr hyn a welsant ar Pinterest.
YouTube |
YouTube yw platfform mwyaf y byd ar gyfer rhannu fideos. Fel sefydliad, gallwch greu eich sianel eich hun, a bydd modd i ddefnyddwyr y platfform ‘ddilyn’ y sianel honno. Mae hyn yn syml iawn, a’r cwbl sydd raid ichi ei wneud yw clicio ar ‘Create new channel’ yn yr adran ‘account’ ar YouTube. Nodwch y manylion er mwyn enwi eich sianel ac yna cliciwch ar ‘create’. Y fantais sy’n perthyn i greu sianel yw y bydd y tanysgrifwyr yn cael eu hysbysu ar ôl ichi ychwanegu cynnwys newydd. Dyma ffordd wych o ymgysylltu â’ch cynulleidfa yn ogystal ag annog pobl i ailymweld o bosibl. Gwaith hawdd yw ffilmio, golygu a lanlwytho eich fideos. Mae’n ffordd hynod effeithiol o arddangos eich gwaith a’i gyfleu i gynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol. Ymhellach, mae YouTue yn cynnwys nodwedd awtomatig ar gyfer creu capsiynau – rhywbeth a all wneud eich cynnwys yn fwy hygyrch. Ond mae’n bwysig nodi nad yw’r nodwedd hon wastad yn gywir ac y bydd angen ichi adolygu a golygu eich capsiynau. |
TikTok
Rhwydwaith cymdeithasol ar gyfer rhannu fideos yw TikTok. Gallwch greu a lanlwytho fideos sy’n para rhwng 15 eiliad a thri munud. Ar y cyfan, mae cynulleidfa’r platfform hwn yn ieuengach na chynulleidfaoedd platfformau eraill (16-24 oed), ond mae hyn yn newid yn gyflym. Gallwch fynd ati’n hawdd iawn i greu cyfrif busnes rhad ac am ddim ar TikTok trwy ddewis “Manage Account” ac yna “Switch to Business Account”. Mae TikTok yn ddefnyddiol ar gyfer creu cynnwys hynod a di-barch. Hefyd, mae yna fwy o siawns o ‘fynd yn feirol’ ar TikTok gan fod modd rhannu cynnwys mor rhwydd ar y platfform.
Awgrymiadau ardderchog
Ni waeth pa blatfformau y dewiswch eu defnyddio, dyma rai pethau hollbwysig i’w hystyried:
- Pennwch y gynulleidfa y dymunwch ei chyrraedd – rhowch flaenoriaeth i greu cynnwys ar gyfer platfformau a ddefnyddir gan eich cynulleidfa darged. Trwy wneud hyn, gallwch sicrhau eich bod yn defnyddio eich adnoddau mewn modd effeithiol.
- Cadwch olwg am dueddiadau – efallai y gallwch gysylltu gweithgareddau eich sefydliad â materion a sgyrsiau ehangach.
- Mae safon yn drech na nifer – ceisiwch ganolbwyntio ar greu negeseuon cyfathrebu o ansawdd, sy’n rhyngweithio’n effeithiol â’r defnyddwyr.
- Ceisiwch danio sgyrsiau – trwy annog pobl i gyfrannu at sgwrs yn hytrach na chyflwyno newyddion a gwybodaeth yn unig, bydd modd ichi ymestyn eich ymgysylltiad a’ch cyrhaeddiad.
- Dangoswch werthfawrogiad – mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfle ichi ymgysylltu’n uniongyrchol ag aelodau o’ch cynulleidfa; diolchwch iddynt am ymweld, rhannwch luniau neu adborth cadarnhaol.
- Cofiwch bersonoli, ond peidiwch â gwneud pethau’n bersonol – mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd gwych i ymgysylltu ar lefel fwy uniongyrchol, ond dylai’r sawl sy’n postio gofio ei fod yn cynrychioli safbwyntiau’r sefydliad. Ceisiwch osgoi sylwadau (neu achosion o ‘hoffi’ a ‘rhannu’, hyd yn oed) a allai ymrannu eich cynulleidfa.
Annog yr arfer o gyfranogi, diogelu a dehongli
Gallwch ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ysgogi pobl i gyfranogi yn eich gwaith. Os defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol, bydd modd ichi ddenu dilynwyr newydd. Gallwch dargedu grwpiau newydd nad ydynt wedi ymgysylltu â chi o’r blaen, ond yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen ichi ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ochr yn ochr â dull ymgysylltu arall. Gan fod modd rhyngweithio mor rhwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, gall y dull hwn eich helpu i ddiogelu treftadaeth a meithrin cymuned ddehongli. Mae’r astudiaeth achos sy’n sôn am y Museum of Youth Culture yn adran 3 yr erthygl hon yn dangos sut y gall hyn weithio’n dda.
Marchnata a chodi arian
Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn werthfawr wrth gynnal ymgyrchoedd codi arian, a hefyd wrth gynyddu nifer eich aelodau neu eich ymwelwyr. Mae platfformau cyfryngau cymdeithasol yn cynnig mannau lle gallwch hysbysebu digwyddiadau, arddangosfeydd, gwaith o fath arall neu gyfleoedd gwirfoddoli, a hynny’n rhad ac am ddim. Hefyd, mae platfformau cyfryngau cymdeithasol yn eich galluogi i rannu stori eich sefydliad yn uniongyrchol gyda darpar gyfranwyr, gan eu gwahodd i ddod y tu ôl i’r llenni a’u cysylltu â’ch gwaith mewn ffyrdd dilys. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o siarad yn uniongyrchol â’ch demograffeg allweddol. Gallwch lunio cynnwys wedi’i deilwra ar gyfer pobl y dymunwch eu denu a’u hannog i gyfrannu rhoddion neu ymgysylltu â’ch sefydliad. Yn olaf, gallwch godi arian yn uniongyrchol trwy ddefnyddio’r rhan fwyaf o blatfformau cyfryngau cymdeithasol, gan gael gwared â’r angen i gyfranwyr glicio trwy amryfal ddolenni er mwyn cefnogi eich sefydliad.
3. Astudiaeth achos: Museum of Youth Culture
Dyma sut y mae amgueddfa ar-lein y Museum of Youth Culture yn annog pobl i gyfranogi yn ei gwaith trwy gyfrwng Instagram a Facebook.
Dechreuodd y Museum of Youth Culture fel amgueddfa ar-lein yn unig, gan fynd ati i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i annog y cyhoedd i rannu delweddau ac effemera a oedd yn perthyn i’w plentyndod. Trwy wneud hyn, mae’r cyhoedd yn gweithio gyda’r amgueddfa i ddiogelu delweddau ar gyfer y dyfodol ynghyd â darlunio agweddau ar hanes a threftadaeth Prydain na chawsant, o bosibl, eu harchwilio o’r blaen.
Mae’r Museum of Youth Culture yn rhannu delweddau’n ymwneud â diwylliant ieuenctid ar y cyfryngau cymdeithasol, megis Instagram a Facebook. Mae hyn yn annog y dilynwyr i ychwanegu eu delweddau eu hunain a hel atgofion am eu profiadau. Maent yn dechrau dehongli delweddau, gan greu cymuned ddehongli frwd.
Yn aml, mae hyn yn arwain at drafodaeth frwd ynglŷn ag arwyddocâd y delweddau hyn a’r diwylliannau a ddarlunnir ganddynt mewn perthynas â hanes, cymdeithas a diwylliant Prydain. Mae proffil a daliadau’r amgueddfa wedi cynyddu’n sylweddol yn sgil yr holl weithgarwch hwn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Tudalen broffil Facebook a Instagram y Museum of Youth Culture.


4. Llunio eich strategaeth eich hun ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
Gan eich bod bellach yn gwybod mwy am y cyfryngau cymdeithasol a’r gwahanol gynulleidfaoedd, gallwch fynd ati i gynllunio’r hyn y dymunwch ei gyflawni. Fel arweinydd sefydliad treftadaeth, byddai’n ddefnyddiol ichi lunio strategaeth gydlynol ar gyfer cyflawni eich nodau a mesur eich cynnydd ar hyd y ffordd.
Er mwyn eich helpu i wneud hyn, ystyriwch y canlynol:
- Beth yw’r prif bethau y mae eich sefydliad yn ceisio’u cyfleu i’w gynulleidfa?
- Pwy yw eich cynulleidfa ar hyn o bryd a phwy yw eich darpar gynulleidfa?
- Sut y mae sefydliadau tebyg yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?
- Pa gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd gennych ar hyn o bryd? Pa blatfformau y gallech eu defnyddio?
Ar ôl ichi archwilio’r modd y mae eich sefydliad yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a chymharu’r defnydd hwnnw â’r defnydd a wneir gan sefydliadau eraill, gallwch wneud y canlynol:
- Trefnu i bostio pethau’n rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, ar adegau pan fydd eich cynulleidfa ar-lein.
- Creu cynnwys a’i rannu gyda chynulleidfaoedd.
- Olrhain y modd yr ymgysylltir â’ch postiadau, yn ogystal ag olrhain dilynwyr newydd. A yw hyn wedi arwain at gynyddu nifer yr ymwelwyr neu’r gwirfoddolwyr, a yw wedi bod o fudd wrth godi arian a/neu a yw wedi gwella ymwybyddiaeth o’ch sefydliad?
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Digital marketing Facebook Instagram Leadership Social media Social media strategy TikTok Twitter YouTube

Please attribute as: "The leader’s guide to social media (2022) by Dr Patrick Glen supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0