
Selecting the right platforms and channels for your organisation
1. Dewis y sianeli a’r platfformau iawn
Man cychwyn da ar gyfer meddwl am y modd y mae eich sefydliad yn defnyddio sianeli a phlatfformau digidol yw dechrau gyda’ch nodau. A ydych chi’n gobeithio denu cynulleidfaoedd newydd, marchnata cyfres o ddigwyddiadau, neu godi arian? Trwy gael ymdeimlad o’r hyn yr hoffech ei gyflawni yn sgil eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, bydd modd ichi lywio trwy’r sianeli a’r platfformau sydd ar gael ichi.
Efallai y bydd hyn yn golygu gwella gwefan eich sefydliad, creu sianel YouTube neu sefydlu cyfrif Twitter. Wrth benderfynu pa blatfformau neu sianeli a fydd yn gweithio orau i’ch sefydliad chi, dylech ystyried y canlynol:
- Anghenion eich sefydliad.
- Yr hyn y gall y gwahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol ei gynnig.
- Efallai y bydd yr adnodd a grëwyd ar gyfer ateb y cwestiwn hwn yn ddefnyddiol yn y fan hon, sef ‘Canllaw’r arweinydd i gyfryngau cymdeithasol’.
- Y platfformau a ddefnyddir gan eich cynulleidfa.
2. Ffactorau i’w hystyried
Capasiti eich sefydliad i redeg platfformau digidol
Er mwyn defnyddio platfformau digidol yn effeithiol, rhaid mynd ati i ymchwilio, cynllunio a chreu cynnwys. Rhaid ichi feddwl am y math o gynnwys neu’r cyfrwng y dymunwch ei greu a faint o gyfrifon y bydd angen ichi eu hagor ar draws gwahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, bydd angen ichi feddwl am yr amser a’r adnoddau sydd gan eich sefydliad i greu a dadansoddi data. Efallai y bydd angen ichi recriwtio neu ailhyfforddi eich staff neu eich gwirfoddolwyr.
Ar ôl creu a lanlwytho postiadau, bydd angen ichi ddadansoddi a myfyrio ar lwyddiant eich postiadau a’ch cyfrif. Bydd llwyddiant yn hyn o beth yn dibynnu ar y nodau y ceisiwch eu cyflawni. Efallai y byddwch yn mesur llwyddiant ar sail faint o bobl sydd wedi ymgysylltu â’ch cynnwys, neu efallai y byddwch yn treiddio’n ddyfnach i’r mathau o ymgysylltu a ddigwyddodd, megis faint o bobl a wnaeth eich ‘hoffi’, yr eitemau a aildrydarwyd neu’r sylwadau a gyflwynwyd.
Hefyd, rhaid ichi feddwl sut y gallwch sicrhau bod eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn gyfamserol. Os na fydd eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys gwybodaeth gyfamserol a chynnwys newydd a chyffrous, fe allai hynny greu darlun anffafriol o’ch sefydliad.
Sgiliau cyfryngau cymdeithasol yn eich sefydliad
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn faes sy’n newid yn gyflym. Caiff platfformau a chymwysiadau newydd eu creu a bydd platfformau sy’n bodoli eisoes yn diweddaru eu nodweddion, eu rhyngwynebau a’u hoffer. Golyga hyn y bydd angen ichi sicrhau’n barhaus eich bod yn gwybod y diweddaraf am y cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwch yn eich sefydliad, er mwyn eich helpu i allu manteisio i’r eithaf ar y platfformau a ddewiswyd gennych.
Efallai hefyd y byddai’n fuddiol i’ch sefydliad ddatblygu ffyrdd newydd o greu cynnwys. Er enghraifft, gallai eich sefydliad greu fideos ar gyfer YouTube a TikTok, er mwyn cyrraedd cynulleidfa fawr yn gyflym. Mewn enghraifft ddiweddar, llwyddodd y Black Country Living Museum i ddenu cynulleidfa fyd-eang ar ôl rhyddhau fideos hwyliog ar TikTok. Roedd y fideos hyn yn cynnwys haneswyr yn cyflwyno pytiau o wybodaeth am fywyd yn y gorffennol. Gallwch weld rhai enghreifftiau o’r rhain yn yr adnodd ‘Integreiddio strategaethau: sut i sicrhau bod eich dulliau strategol o ymdrin â chynnwys digidol a marchnata digidol yn sail i’ch strategaeth ddigidol’.
Rhaid ichi hefyd ystyried beth all eich sefydliad ei greu ar hyn o bryd. Er bod ffonau clyfar wedi’i gwneud hi’n haws inni greu a golygu fideos a ffotograffau, efallai y bydd angen recriwtio neu hyfforddi staff a gwirfoddolwyr. Efallai y byddwch yn ei chael hi’n haws aildrydar dolen ar gyfer digwyddiad ar wefan wrth ichi feithrin eich sgiliau ar gyfer cyfryngau ‘anos eu creu’ ar draws amryfal blatfformau.
Y costau sydd ynghlwn wrth redeg platfformau digidol
Efallai y bydd rhedeg platfform digidol yn arwain at gostau – costau a fydd yn ymestyn y tu hwnt i gyflogau, hyfforddiant a chostau gwirfoddoli. Mae’r costau hyn yn cynnwys y gost o redeg cyfrif busnes a hyrwyddo postiadau. Mae cyfrifon busnes ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol gan eu bod yn cynnwys dadansoddeg uwch. Golyga hyn y gall y platfform gofnodi pwy sy’n ymgysylltu â’ch cynnwys a rhoi data i’ch sefydliad am y bobl hynny. Mae’n angenrheidiol talu i hyrwyddo postiadau ar rai platfformau er mwyn ichi allu cyrraedd cynulleidfa fwy neu gynulleidfa benodol – yn enwedig ar Facebook.
Y platfform a ddefnyddir gan eich cynulleidfa
Fel y dengys y graff isod, defnyddiodd 50% o ddefnyddwyr rhyngrwyd yn y DU gyfryngau cymdeithasol yn 2020. Mae pobl iau yn fwy tebygol o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol; mae dwy ran o dair o bobl ifanc 16-24 oed yn gwneud hynny, ond mae nifer sylweddol o bobl hŷn hefyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Mae platfformau gwahanol yn tueddu i ddenu gwahanol fathau o ddefnyddwyr. Dylid ystyried y gwahaniaethau hyn wrth bwyso a mesur pa gynulleidfaoedd y dymunwch eu denu ac wrth ddewis platfform neu blatfformau. Mae’r tabl isod yn esbonio prif ddemograffeg y platfformau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd. Mae hyn yn cynnwys y nifer o ddefnyddwyr ledled y byd, y nifer o ddefnyddwyr yn y DU, eu hoedran a’u proffil rhywedd yn y DU.
|
|
Instagram
|
|
Facebook
|
|
YouTube
|
|
TikTok
|
|
Pinterest
|
|
Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol at ddibenion marchnata a threiddgarwch
Gall platfformau cyfryngau cymdeithasol gynnig offer marchnata defnyddiol i’ch sefydliad. Mae gan bob platfform ddull rhywfaint yn wahanol o ymdrin â marchnata a threiddgarwch. Mae cyfrifon busnes neu gyfrifon proffesiynol fel arfer yn darparu data dadansoddol. Yna, gallwch ddefnyddio’r data hwn i weld pwy a ymgysylltodd â’ch postiadau, o ble y dônt a phryd y gwnaethant ymgysylltu â’r postiadau hynny. Gall hyn esgor ar wybodaeth yn ymwneud ag oedran, lleoliad a rhywedd eich prif farchnad, ynghyd â datgelu pryd oedd y bobl dan sylw ar-lein. Efallai hefyd y gwelwch fod grwpiau oddi allan i’r gynulleidfa darged ragdybiedig yn ymgysylltu â’ch cynnwys. Gallwch ddefnyddio’r data hwn i fesur pa mor llwyddiannus fu eich ymdrechion i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Hefyd, gallwch ddefnyddio’r data hwn i fireinio eich strategaeth cyfryngau cymdeithasol trwy ddysgu pryd i bostio pethau er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd penodol.

3. Y camau nesaf
Dechreuwch trwy bennu nodau eich sefydliad mewn perthynas â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol eraill. Ar ôl ichi nodi cyfres o nodau, defnyddiwch y pum maen prawf isod i’ch helpu i lunio eich camau nesaf:
- Capasiti eich sefydliad i redeg platfformau digidol – Dechreuwch trwy ystyried capasiti eich sefydliad. Faint o amser ac adnoddau sydd gennych i’w neilltuo mewn gwirionedd i redeg platfformau digidol? Trwy ddeall hyn, bydd modd ichi dargedu eich ymdrechion a sicrhau na chewch eich llethu.
- Sgiliau cyfryngau cymdeithasol yn eich sefydliad – Yn nesaf, ewch ati i archwilio sgiliau’r bobl yn eich sefydliad a fydd yn debygol o oruchwylio sianeli a phlatfformau digidol. Myfyriwch ar y sgiliau y gellir eu meithrin a pha rai sydd i’w cael eisoes yn y tîm.
- Y costau sydd ynghlwm wrth redeg platfformau digidol – Edrychwch ar eich cyllideb er mwyn gweld faint o adnoddau y bydd yn rhaid i’ch sefydliad eu neilltuo i redeg platfformau digidol. Efallai y penderfynwch eich bod yn dymuno canolbwyntio ar blatfformau rhad ac am ddim a hepgor y cam hwn.
- Y platfform a ddefnyddir gan eich cynulleidfa – Mae hyn yn unionyrchol gysylltiedig â’r nodau a oedd yn fan cychwyn i’r holl broses. Os ydych eisiau denu cynulleidfaoedd newydd, bydd angen ichi dargedu eich ymdrechion at blatfformau y bydd y cynulleidfaoedd hynny yn fwyaf tebygol o’u defnyddio. Cyfyngwch gwmpas eich platfformau i’r rhai sydd fwyaf perthnasol i’ch nodau.
- Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol at ddibenion marchnata a threiddgarwch – Ar ôl ichi benderfynu’n fras pa blatfformau a sianeli y bwriadwch eu defnyddio, ymchwiliwch i’r math o ddata a threiddgarwch y gallwch eu defnyddio er mwyn eich helpu i fyfyrio ar eich llwyddiant. Cofiwch gynnwys y treiddgarwch hwn wrth greu cynnwys yn y dyfodol, er mwyn i’ch sefydliad allu parhau i ymestyn ei gyrhaeddiad.
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Facebook Instagram New audiences Online audience engagement Social media Twitter YouTube

Please attribute as: "Selecting the right platforms and channels for your organisation (2022) by Dr Patrick Glen supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0