
Using analytics to understand reach, engagement and conversion of your online audiences
1. Beth bydda i’n ei ddysgu?
- Sut i strwythuro’ch gwaith adrodd ar ystadegau o dan themâu cyffredin a fydd yn gweithio’n gyson ar draws eich gwefan, eich cynnwys a’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol
- Sut i feincnodi’r perfformiad presennol ar draws eich sianeli digidol
- Sut i osod targedau gan ddefnyddio Dangosyddion Perfformiad Allweddol CAMPUS
- Sut i chwilio am dueddiadau ac ychwanegu naratif at eich adroddiadau i’ch helpu i gyfleu pwyntiau allweddol i randdeiliaid
2. Pam adrodd?
Y peth gwych am sianeli digidol yw’r ffaith y gallwch chi greu strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn hawdd oherwydd bydd y data gyda chi bob amser i lywio’ch penderfyniadau. Ond mae’n bwysig creu rhywfaint o strwythur a chysondeb ynghylch sut rydych chi’n casglu ystadegau ac yn adrodd fel:
- Eich bod yn deall pa weithgarwch digidol sy’n perfformio’n dda, er mwyn i chi allu gwneud mwy o hyn a newid neu unioni unrhyw beth nad yw’n perfformio’n dda
- Y gallwch chi adrodd i gyllidwyr a rhanddeiliaid pan fydd angen
- Y gallwch chi osod targedau hirdymor ar gyfer eich gweithgarwch a mesur sut rydych chi’n perfformio yn erbyn y rhain
- Y gallwch chi wneud cymariaethau cyd-destunol dros amser ac adnabod tueddiadau.
Dylech chi ddewis metrigau cyson i’w cynnwys yn eich adroddiadau. Os mai ‘sesiynau gwefan’ yw un o’r metrigau rydych chi’n eu dewis er mwyn dangos cyrhaeddiad, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi bob amser yn adrodd ar ‘sesiynau’ fel eich bod yn sefydlu cysondeb.
Meincnodi
Mae’n bwysig ymrwymo i amlder adrodd rheolaidd; bydd hyn yn caniatáu i chi roi eich ystadegau mewn cyd-destun a gwneud cymariaethau defnyddiol, er enghraifft, o fis i fis, o flwyddyn i flwyddyn neu o ymgyrchu i ymgyrch.
Pwy yw’r gynulleidfa ar gyfer eich adroddiadau?
Pan fyddwch chi’n ystyried pa wybodaeth i’w chynnwys yn eich adroddiadau, mae’n hollbwysig eich bod chi’n meddwl am bwy fydd yn eu darllen – mewn geiriau eraill, pwy yw’ch cynulleidfa? Os mai ar gyfer eich cynhyrchwyr ar y we a’ch cynhyrchwyr cynnwys y mae’r adroddiadau, mae’n debyg y bydd ganddyn nhw ddealltwriaeth sydd eisoes yn bodoli o’ch sianeli a’ch cynnwys. Efallai eu bod yn defnyddio ystadegau i lywio’r penderfyniadau yn uniongyrchol yn eu swyddi o ddydd i ddydd – felly, gall manylion fod yn bwysig iawn iddyn nhw; am y rheswm yma, gall eu rhychwantau sylw fod yn hirach na rhai rhanddeiliaid eraill. Mewn cymhariaeth, os ydych chi’n adrodd i randdeiliaid nad ydynt yn y maes digidol, dyweder, eich Cyfarwyddwyr, Bwrdd, neu dimau eraill, efallai bod ychydig iawn, neu hyd yn oed ddim gwybodaeth a dealltwriaeth ganddyn nhw eisoes am eich cynnwys a’ch sianeli; am y rheswm yma, efallai y bydd ganddyn nhw hefyd rychwantau sylw byrrach, felly bydd adroddiadau lefel gryno yn fwy priodol na manylion ar gyfer y bobl hyn. Efallai y bydd angen i chi hefyd ychwanegu mwy o gyd-destun i’ch ystadegau gyda thestun naratif ategol – fel bod y rhifau yn eich adroddiadau yn golygu rhywbeth iddyn nhw mewn gwirionedd.
3. Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Dim ond targedau ystadegol yw Dangosyddion Perfformiad Allweddol (neu ‘KPIs’) y dylech chi eu gosod i’ch hun i weithio tuag atyn nhw. Y peth pwysig yw eu bod nhw’n rhai CAMPUS, sy’n golygu: cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol.
- Cyraeddadwy – sy’n golygu ei bod hi’n realistig i chi – gosodwch dargedau ar sail eich gallu eich hun. Gosodwch eich llinellau sylfaen eich hun, sy’n edrych yn ôl dros 12 mis diwethaf eich ystadegau, yn hytrach nag edrych ar feincnodau sianeli cenedlaethol neu fyd-eang
- Amserol – rhowch amseroedd realistig i chi’ch hun i gyflawni’r twf a osodwyd gennych yn eich targedau – dywedwch 12 mis, er enghraifft.
- Mesuradwy – mae hyn yn golygu, yn lle ‘gyrru mwy o draffig’ yn unig, y gallech chi ddweud ‘gyrru 10% yn fwy o sesiynau i’n gwefan’ – mae’r metrig bellach wedi’i nodi fel ‘sesiynau’, a nodir y swm targed i gynyddu hyn fel ‘10%’
- Penodol (ac uchelgeisiol a synhwyrol) – felly yn lle ‘cynyddu ymwybyddiaeth o’r brand’, gallech chi ddweud ‘gyrru mwy o draffig i’n gwefan’
Felly gellid nodi KPI da fel hyn: ‘Gyrru 10% yn fwy o sesiynau i’n gwefan erbyn mis Mawrth 2022’.
4. Sut i adrodd yn gyson ar draws sianeli digidol gwahanol
Mae gan bob sianel ddigidol fetrigau a ffyrdd o adrodd gwahanol, felly yr her, yn aml, yw dod o hyd i naratif cyson wrth adrodd eich ystadegau ar draws pob sianel. Ceisiwch roi eich ystadegau mewn grwpiau o dan y tair thema yma:
Cyrraedd –dyma’r nifer o weithiau y gwelwyd eich cynnwys neu’ch sianel – gallai’r metrigau i edrych arnyn nhw am hyn fod yn sesiynau gwefan neu’n argraffiadau sianeli cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft.
Ymgysylltiad – dyma gyfran y bobl a oedd yn gweld eich cynnwys a ryngweithiodd ag ef mewn rhyw ffordd – gallai’r metrigau i edrych arnyn nhw am hyn gynnwys tudalennau’r gwefan a welwyd fesul sesiwn neu achosion o hoffi, rhoi sylwadau a rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Trosi – er enghraifft, os mai sefydliad sy’n gwerthu tocynnau, cynhyrchion neu aelodaeth ydych chi – gallai refeniw fod yn fetrig trosi da. Os nad yw’ch sefydliad yn gwerthu dim, gallai fod tasgau eraill a gwblheir y gallech eu defnyddio fel metrigau trosi da, er enghraifft nifer y bobl sydd wedi cofrestru i dderbyn y newyddlen, neu roddion.
Bydd y tair thema yma’n gweithio i’ch gwefannau a’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol, a byddwch chi’n gallu ffitio metrigau perthynol o dan bob thema fesul sianel fel y dangosir yn yr enghraifft isod.

Sut i ffitio dulliau dadansoddi gwefannau yn y themâu hyn
Google Analytics yw’r llwyfan orau i’w defnyddio ar gyfer adrodd ystadegau gwefannau. Mae’n caniatáu i chi osod y dyddiadau ar gyfer eich cyfnod adrodd a hefyd gosod dyddiadau at ddibenion cymharu.
Mae cyrraedd yn dweud wrthych chi faint o ymwybyddiaeth sydd o’ch sefydliad. Y metrigau gwefan gorau i edrych arnyn nhw o ran cyrraedd yw:
- Sesiynau– dyma nifer yr ymweliadau â’ch gwefan mewn cyfnod penodol o amser (yn ddiofyn, mae sesiwn yn para tan fod 30 munud o segurdod)
- Defnyddwyr– a ddiffinnir fel unigolyn (neu gyfeiriad IP), sy’n ymweld â’ch gwefan – gall un defnyddiwr gael llawer o ‘sesiynau’ (h.y. ymweliadau â’ch gwefan) yn yr un mis
Cymharwch wahanol gyfnodau ac ychwanegu rhywfaint o naratif yn eich adroddiadau i esbonio’r hyn a allai fod wedi achosi’r cynnydd neu’r gostyngiadau rydych chi’n eu hadrodd.

Caffael
Metrig gwefan defnyddiol arall i’w adrodd o dan bennill cyrraedd yw o ble mae’r traffig i’ch gwefan yn dod. I weld hyn ewch i’r ddewislen ‘Acquisition’ yn Google Analytics a sgrolio i lawr i ‘Channels’. Mynegir cyfran yr holl draffig sy’n dod o bob sianel fel canran.

Mae chwiliad organig yn fetrig defnyddiol i’w adrodd – dyma bobl sy’n chwilio am allweddeiriau ac ymadroddion allweddol ar Google a pheiriannau chwilio eraill ac yn dod i’ch safle chi yn y diwedd. Dylai’r rhan fwyaf o’ch traffig fod yn cael ei gyfeirio o chwiliad organig, ac os nad felly y mae, mae angen i chi optimeiddio eich gwefan yn well.
Gair am optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)
Mae’n bwysig iawn sicrhau bod eich gwefan wedi’i hoptimeiddio’n dda ar gyfer peiriannau chwilio a bod yr ymholiadau chwilio mwyaf poblogaidd sy’n ymwneud â’ch busnes yn cael eu hadlewyrchu yn y copi rydych chi’n ei ddefnyddio ar eich safle. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich gwefan yn ymddangos yn uchel mewn tudalennau canlyniadau peiriannau chwilio.
Dyma ychydig o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich SEO:
- Gwneud yn siŵr bod eich gwefan yn llwytho ei thudalennau mor gyflym â phosibl
- Sicrhau bod eich safle wedi’i optimeiddio’n dda ar gyfer defnyddwyr dyfeisiau symudol – bydd Google yn ffafrio safleoedd sydd wedi gwneud hynny
- Defnyddio teitlau tudalennau ystyrlon sy’n disgrifio cynnwys tudalennau
- Defnyddio iaith naturiol a geiriau allweddol perthnasol yng nghorff eich testun a’ch a’ch penawdau
- Gwneud yn siŵr bod gan bob tudalen ddisgrifiad meta da
- Gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio testun amgen ar eich delweddau
- Creu cynnwys gwych – gall erthyglau o safon sy’n llawn allweddeiriau eich helpu i dynnu cynulleidfaoedd newydd i’ch safle o ymholiadau peiriannau chwilio.
Gosod meincnodau
Os edrychwch chi yn ôl ar eich canran o atgyfeiriadau yn sgil chwilio organig, e-bost a chyfryngau cymdeithasol dros y 12 mis diwethaf, gallwch chi osod meincnodau ar gyfer cyfartaledd blwyddyn ac yna adrodd yn fisol ar sut rydych chi’n perfformio yn erbyn cyfartaledd y flwyddyn. Byddai cynyddu canran y traffig sy’n cael ei gyfeirio at eich gwefan o chwilio organig yn gwneud KPI da iawn.
Defnyddio teclyn tracio URL Google
Pan fyddwch chi’n gyrru traffig i’ch gwefan o ganlyniad i gyfryngau cymdeithasol taledig neu organig, marchnata drwy e-bost neu hysbysebion taledig, mae’n bwysig iawn defnyddio URL tracio, er mwyn i chi allu monitro’n effeithiol y ffynonellau sy’n anfon eich traffig.
Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio Google Campaign URL Builder. Mae’r teclyn yma’n rhad ac am ddim ac yn hawdd iawn i’w ddefnyddio ac mae’r data yn plygio’n syth i mewn i’ch adroddiadau Google Analytics. Rydych chi’n defnyddio’r meysydd i fewnbynnu labeli i’ch helpu i adnabod y ffynonellau penodol sy’n gyrru traffig, er enghraifft, hysbyseb Facebook neu e-newyddlen benodol. Mae’r ffurflen yn cynhyrchu URL unigryw y gallwch chi wedyn ei ddefnyddio fel y ddolen yn eich hysbyseb neu’ch e-newyddlen.

Trwy safoni’r labeli rydych chi’n eu defnyddio ym mhob un o’r meysydd dynodedig, gallwch chi hyd yn oed olrhain pa mor effeithiol oedd gwahanol gynnwys hysbysebu ar draws yr un ymgyrch. Mae’r holl feysydd sydd wedi’u marcio â seren yn orfodol i’r data wneud synnwyr, ond gallwch chi ddewis pa rai eraill y gallech fod eisiau eu defnyddio yn ychwanegol at y rhain, yn seiliedig ar eich anghenion eich hun.
I weld yr ystadegau hyn yn Google Analytics, tyrchwch i lawr i Campaigns yn y ddewislen Acquisition:

Gallwch chi doglo hefyd i dyrchu i lawr ymhellach:

Ymgysylltiad
Mae metrigau ymgysylltiad yn helpu i gadarnhau eich bod yn rhoi cynnwys i’ch defnyddwyr sy’n ddefnyddiol ac yn ddiddorol iddyn nhw. Mae pedwar metrig gwefan defnyddiol iawn i edrych arnyn nhw i’ch helpu i adrodd am ymgysylltiad yn gyson:
- Y tudalennau a welir amlaf
- Y gyfradd adlamu
- Tudalennau fesul sesiwn
- Hyd sesiynau
Cymharwch eich 10 tudalen fwyaf poblogaidd o fis i fis neu o flwyddyn i flwyddyn. Os oes gennych chi ymgyrch yn rhedeg i hyrwyddo tudalennau penodol, ydy hynny’n gweithio? Ychwanegwch rywfaint o naratif sy’n amlygu unrhyw ganfyddiadau allweddol. Er enghraifft:
- Oes tudalen newydd sy’n ymddangos yn eich tair tudalen fwyaf poblogaidd yn sydyn? Beth sy’n achosi hyn?
- Ydy tudalen boblogaidd wedi disgyn o’r 10 uchaf eleni o’i gymharu â’r llynedd? Pam gallai hyn fod?
Cyfradd adlamu
Os ydych chi’n cael llawer o draffig i’ch safle ond mae’r defnyddwyr yn gadael yn syth ar ôl gweld un dudalen (sef adlamu), yna mae rhywbeth yn bod. Dylech chi fod yn anelu at gyfeirio pobl at deithiau pellach ar eich safle, felly yn ddelfrydol, rydych chi am geisio cadw eich cyfradd adlamu mor isel â phosibl. Edrychwch yn ôl dros y 12 mis diwethaf a chyfrifo’ch cyfradd adlamu ar gyfartaledd, yna cymharwch eich ystadegau misol yn erbyn y waelodlin yma. Gallai ceisio lleihau eich cyfradd adlamu’n fod yn KPI da i weithio tuag ato.
Hyd sesiynau a thudalennau fesul sesiwn
Hyd cyfartalog sesiwn yw pa mor hir mae defnyddiwr yn ei dreulio ar eich safle yn ystod un sesiwn mewn un diwrnod. Tudalennau fesul sesiwn yw faint o dudalennau yr edrychodd defnyddiwr arnyn nhw yn ystod eu hymweliad. Po hiraf y mae pobl yn aros ar eich safle, y mwyaf ymroddedig maen nhw – a po fwyaf yw nifer y tudalennau maen nhw’n edrych arnyn nhw yn ystod eu sesiwn, y mwyaf ymroddedig maen nhw.
*Cofiwch y cafeat bod edrych ar nifer uchel o dudalennau mewn un sesiwn hefyd yn gallu bod oherwydd nad yw defnyddwyr yn gallu dod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano, ac ystyriwch hyn yn eich dadansoddiad. Gallech ddatrys y broblem yma drwy ddefnyddio teitlau tudalennau cliriach neu gyfeirio defnyddwyr yn well, er enghraifft.
5. Sut i ffitio metrigau cyfryngau cymdeithasol o dan y themâu cyrraedd, ymgysylltiad a lefelau throsi
Cyrraedd – Gellir cymharu metrigau cyfryngau cymdeithasol fel ‘cyfanswm y dilynwyr’ a ‘chyfanswm yr argraffiadau’ â metrigau cyrraedd gwefannau fel ‘sesiynau’ a ‘defnyddwyr’ yn Google Analytics.
Ymgysylltiad – Mae cynnwys sy’n cael ei rannu, sylwadau ac achosion o hoffi’n cyd-fynd ag ystadegau ymgysylltu â gwefannau fel tudalennau yr ymwelwyd â nhw, amser ar y safle a’r gyfradd adlamu. Nodwch eich postiadau sy’n perfformio orau – dyma fydd y rhai sydd â’r cyrraedd a’r ymgysylltiad gorau. Os ydych chi’n cynhyrchu cynnwys fideo, yna gallech chi hefyd gynnwys metrigau ymgysylltiad fel y nifer o weithiau y gwelwyd fideos, hefyd.
Lefelau trosi – gallai hyn eto gyfateb i refeniw neu gwblhau tasgau eraill rydych chi am i ddefnyddwyr eu cyflawni.

Targedau a meincnodau
Ar gyfer pob sianel cyfryngau cymdeithasol, yn seiliedig ar eich ystadegau yn y gorffennol, gallwch sefydlu gwaelodlin ar gyfer yr hyn sy’n gyfystyr â lefelau ‘da’ o ran cyrraedd ac ymgysylltiad ac yn seiliedig ar hyn, gosod targedau ar gyfer sut mae eich postiadau yn y dyfodol yn perfformio gan ddefnyddio metrigau fel:
- cyrraedd/argraffiadau cyfartalog
- nifer cyfartalog yr achosion o hoffi
- nifer cyfartalog y sylwadau
Cymharwch eich ystadegau fis ar ôl mis a chwilio am dueddiadau; ydych chi’n gweld:
- Tueddiadau cadarnhaol fel – dilynwyr a rhyngweithiadau â phostiadau’n cynyddu o fis i fis?
- Neu dueddiadau negyddol fel ymgysylltiad a nifer eich dilynwyr yn lleihau fis ar ôl mis?
Edrychwch ar y cynnwys a bostiwyd gennych yn ystod y cyfnod yma a’ch rhythm postio a defnyddio hyn i esbonio yn eich naratif beth gallai’r achosion ar gyfer y tueddiadau hyn fod. A wnaeth eich amlder postio ostwng, neu a wnaethoch chi bostio llai o gynnwys gyda delweddau, er enghraifft?
Ar ôl i chi wneud hyn, ar gyfer pob adroddiad newydd, gallwch chi weld yn hawdd pa bostiadau sy’n perfformio’n uwch neu’n is na’r cyfartaledd a chyfeirio at hyn yn eich naratif.
Cynlluniau adrodd
Rhowch gynnig ar roi eich adroddiadau am eich gwefan a’ch cyfryngau cymdeithasol mewn tablau fel hyn, fel y gall eich rhanddeiliaid weld y cysondeb ar draws eich adroddiadau.
Adroddiad ar y wefan: Chwef 2022 | Adroddiad ar Facebook: Chwef 2022 |
Cyrraedd Sessions up 20% year-on-year due to ‘x’ campaign announcement |
Cyrraedd Argraffiadau i fyny 30% flwyddyn ar ôl blwyddyn oherwydd cyhoeddi ymgyrch ‘x’ |
Ymgysylltiad Nifer y weithiau y gwelwyd tudalennau i/blogiau i fyny 5% o flwyddyn i flwyddyn oherwydd poblogrwydd cynnwys yn ymwneud ag arddangosfa ‘x’ |
Ymgysylltiad Nifer yr ymatebion wedi gostwng 10% yn flynyddol oherwydd llai o adnoddau staff. Cynhyrchon ni 10% yn llai o bostiadau o’i gymharu â Mai 2020 |
Lefelau trosi Refeniw wedi gostwng 50% flwyddyn ar ôl blwyddyn oherwydd cau lleoliadau yn sgil Covid |
Lefelau trosi Refeniw gwerthiant tocynnau wedi’i gyfeirio o Facebook i fyny 5% flwyddyn ar ôl blwyddyn oherwydd ymgyrch hysbysebion wedi’u targedu |
6. I grynhoi
- Defnyddiwch y themâu Cyrraedd, Ymgysylltiad a Lefelau trosi i grwpio metrigau ar draws eich gwefan a’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn rhoi ffordd gyson i chi strwythuro eich adroddiadau ystadegau.
- Wrth lunio’ch adroddiadau dylech chi bob amser ystyried anghenion y gynulleidfa a fydd yn eu darllen
- Adroddwch yn rheolaidd– bob mis, yn ddelfrydol
- Peidiwch â chyhoeddi rhifau ar eu pennau eu hunain yn unig – rhowch eich ystadegau yn eu cyd-destun bob amser, gan ddefnyddio cymariaethau cyfatebol ac ychwanegu esboniad naratif i esbonio beth sy’n digwydd a pham
- Ac yn olaf… peidiwch ag anghofio gweithredu ar eich canfyddiadau fel y gallwch chi wneud mwy o’r hyn sy’n gweithio’n dda a llai o’r hyn sydd ddim!
Browse related resources by smart tags:
Analytics Data Digital engagement Google Analytics Online audience engagement

Please attribute as: "Using analytics to understand reach, engagement and conversion of your online audiences (2022) by Trish Thomas supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0