How to reach digitally excluded audiences
1. Diffiniadau
Eithrio digidol / Eithrio’n ddigidol yw pan fo gan bobl fynediad, sgiliau, cymhelliant a hyder anghyfartal yn barhaus o ran defnyddio technolegau digidol (fel ffonau clyfar, y rhyngrwyd a chyfrifiaduron) sy’n hanfodol i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas.
Tlodi digidol yw diffyg mynediad i’r rhyngrwyd a/neu dechnolegau digidol i gysylltu â hi.
Tlodi data yw diffyg data ffôn symudol neu fand eang i ateb anghenion hanfodol, fel arfer oherwydd cost.
Y rhaniad digidol yw’r bwlch rhwng pobl y mae ganddyn nhw fynediad i dechnolegau digidol yn ogystal â’r sgiliau, yr hyder a’r cymhelliant i’w defnyddio, a’r rhai hynny nad ydynt yn meddu arnyn nhw.
2. Sut a pham mae pobl yn cael eu heithrio’n ddigidol?
Er mai dim ond 5% o boblogaeth y DU sydd heb ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ystod y tri mis diwethaf, mae hynny’n dal yn cyfateb i 2.6 miliwn o bobl. [i] Ac ar ben hynny, mae llawer iawn mwy o bobl sy’n ddefnyddwyr prin o’r rhyngrwyd (diffiniwyd 32% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd mewn arolwg gan Ofcom yn 2021 fel defnyddwyr “cul” o’r rhyngrwyd [ii] – mae eithrio digidol yn sbectrwm.
Mae tri math o eithrio digidol, yn fras:
- Diffyg mynediad i ddyfeisiau a/neu ddata;
- Diffyg sgiliau digidol;
- Diffyg cymhelliant a hyder.
Gallan nhw effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol, ac mae iddyn nhw atebion gwahanol. Gall un person gael ei effeithio gydag un, dau neu’r tri pheth. Mae eithrio digidol yn gymhleth; nid yw’n beth statig na deuaidd. Mae p’un a yw rhywun yn cael profiad o eithrio digidol a sut mae hyn yn edrych yn gallu newid dros amser yn ystod eu hoes. Er enghraifft, oherwydd newidiadau o ran addysg, incwm, ble maen nhw’n byw, mynediad a hyfforddiant drwy’r gwaith, gyda phwy maen nhw’n byw, ac ati. Gall defnyddwyr y rhyngrwyd dal i gael eu heithrio’n ddigidol os nad oes ganddyn nhw’r sgiliau a’r hyder i we-lywio’r byd digidol yn ddiogel. Wrth i dechnoleg esblygu dros amser, bydd angen ychwanegu at y sgiliau digidol a’r hyder, hefyd.
Diffyg mynediad i ddyfeisiau a/neu ddata
Mae’n bosibl nad oes gan unigolion ac aelwydydd unrhyw ddyfeisiau y gallan nhw eu defnyddio i gael mynediad i’r rhyngrwyd, boed hynny’n ffôn clyfar, yn llechen, yn liniadur neu’n gyfrifiadur pen desg.
Gallai diffyg mynediad i ddata ffôn symudol neu fand eang i allu ymgymryd â gweithredoedd ar-lein hefyd fod yn broblem, er enghraifft, oherwydd rhwystrau costau neu sefyllfa ansefydlog o ran tai.
At ei gilydd, roedd gan 96% o aelwydydd fynediad i’r rhyngrwyd yn 2020, er bod y ffigur yn amrywio rhwng grwpiau demograffig gwahanol. [iii] Grwpiau sy’n fwy tebygol o fod heb fynediad i’r rhyngrwyd gartref yw pobl dros 65 oed, mewn aelwydydd o ddosbarthiad cymdeithas DE ac sy’n fwy agored i niwed yn ariannol. [iv]Er enghraifft, dim ond 80% o aelwydydd ag un oedolyn 65+ oed oedd â mynediad i’r rhyngrwyd.
Diffyg sgiliau digidol
Mae’r categori yma’n effeithio ar y nifer fwyaf o bobl yn y DU. Mae tua 11 miliwn o bobl nad oes ganddyn nhw’r sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd, tra bod oddeutu 10 miliwn o bobl (19% o boblogaeth oedolion y DU) nad ydyn nhw’n gallu cael mynediad i’r rhyngrwyd eu hunain nac ymgymryd â’r tasgau digidol mwyaf sylfaenol, fel pweru dyfais ac agor porwr ar y rhyngrwyd. Mae tua 11.8 miliwn o bobl nad oes ganddyn nhw’r sgiliau digidol hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gweithio, er bod hyn wedi gostwng o 52% yn 2020 i 36% o’r gweithlu yn 2021.[v]
Mae pobl nad oes ganddyn nhw’r sgiliau digidol sylfaenol yn fwyaf tebygol o fod yn 75+ oed (er bod addysg yn lliniaru hyn); yn byw gyda nam ar eu synhwyrau sy’n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd; heb gymwysterau ffurfiol; yn byw ar eu pen eu hunain; ddim yn gweithio; o ddosbarthiadau cymdeithasol DE [vi]
Diffyg cymhelliant a hyder
Mae’r categori olaf yma’n cyfeirio at ddiffyg diddordeb neu angen canfyddedig wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd. Y pum prif reswm a nodwyd gan bobl nad ydyn nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd am beidio â’i defnyddio yn ystod y tri mis diwethaf yw pryderon am breifatrwydd a diogelwch a chael eu hunaniaeth wedi’i dwyn; teimlo bod y rhyngrwyd yn rhy gymhleth; gwell ganddyn nhw wario’u harian ar bethau eraill; a bod ganddyn nhw ddim diddordeb yn y rhyngrwyd. Dywedodd 32% o’r rhai nad oedden nhw ar-lein na fyddai “dim” yn eu cymell i fynd ar-lein (i lawr o 48% cyn y pandemig).[vii]
3. Beth yw effaith eithrio digidol?
- Gallai effaith eithrio digidol fod yn wahanol o unigolyn i unigolyn. Fodd bynnag, ymhlith rhai o’r ffyrdd allweddol mae pobl yn cael eu heithrio mae:
- Ennill llai, am fod sgiliau digidol yn cyfateb i 3-10% mewn enillion uwch%;
- Cael eu heithrio o rai swyddi, a’i chael yn fwy anodd gwneud cais am swyddi;
- Talu mwy am siopa a chyfleustodau (mae ar-lein yn aml yn rhatach ac mae’n haws siopa o gwmpas);
- Wynebu risg uwch o niwed ar-lein fel dwyn hunaniaeth a chamwybodaeth;
- Mwy o unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol;
- Mwy anodd cael mynediad i gyngor iechyd ac apwyntiadau, gwasanaethau cymorth ar gyfer tai a gwasanaethau gofal [viii]
Gan feddwl am ddiwylliant a threftadaeth yn arbennig, gallai effaith eithrio digidol gynnwys bod rhai cynulleidfaoedd yn methu â chael gwybod am leoliadau, gweithgareddau a digwyddiadau; methu â chael mynediad i rywfaint o ddehongli; a methu â chymryd rhan mewn digwyddiadau ar-lein. Gallai hyn arwain at sefyllfa lle nad yw eich sefydliad yn gallu arallgyfeirio’i gynulleidfaoedd cymaint ag y mae’n dymuno.
Gallai eithrio digidol hefyd ddylanwadu ar eich sefydliad mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, ni all pobl ymgeisio am rai swyddi neu gyfleoedd gwirfoddoli, ac mae sefydliadau’n gwneud cynnydd arafach o ran integreiddio a mwyafu manteision technoleg ddigidol.
4. Sut mae’r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar eithrio digidol?
Mae effaith y pandemig ar eithrio digidol wedi bod yn gymysg. Ar y naill law, mae wedi gwaethygu’r rhaniad digidol ac mae llawer o bobl a oedd eisoes wedi’u hymylu ac yn agored i niwed wedi gweld hynny i raddau uwch. Er enghraifft, maen nhw wedi bod heb fynediad i ddefnydd am ddim o’r rhyngrwyd yn y gymuned drwy lyfrgelloedd yn ystod cyfnodau clo; mae bwlch cyrhaeddiad ehangach rhwng plant difreintiedig a’u cyfoedion oherwydd diffyg rhyngrwyd, dyfeisiau a/neu sgiliau i gefnogi dysgu o bell; a methu â gallu cysylltu ag anwyliaid a chael mynediad i weithgareddau cymdeithasol rhithwir. [ix]
Ar y llaw arall, gwnaeth y pandemig eithrio digidol yn fater mwy amlwg a hollbwysig, gan sbarduno ystod o ymatebion fel ysgolion ac elusennau’n darparu dyfeisiau i ddisgyblion ar gyfer dysgu o bell; creu cronfa ddata’r National Databank, cynllun rhoi data sy’n darparu cardiau sim am ddim, data ffonau symudol a munudau sgwrsio a negeseuon testun; a hyfforddiant sgiliau digidol am ddim ar gael.
Mae adroddiad y 2021 UK Consumer Digital Index, sy’n cael ei gynhyrchu gan Fanc Lloyds yn flynyddol, yn nodi’r canlynol: “o ran ymgysylltu digidol, mae’r DU wedi gwneud gwerth pum mlynedd o gynnydd mewn cwta flwyddyn.” Canfu fod 1.9m yn llai o bobl erbyn hyn sydd wedi’u heithrio’n ddigidol nag yr oedd cyn y pandemig; bod 29% o bobl yn credu eu bod wedi gwella’u sgiliau digidol yn ystod y cyfnodau clo; a bod 9 o bob 10 o bobl sydd wedi ymgysylltu ar-lein yn fwy neu mewn ffyrdd newydd yn ystod y pandemig yn bwriadu parhau â’r arferion hyn yn symud ymlaen.[x]
O ran ymgysylltu digidol, mae’r DU wedi gwneud gwerth pum mlynedd o gynnydd mewn cwta flwyddyn.
Creodd llawer o sefydliadau treftadaeth a diwylliannol weithgareddau a rhaglenni digidol yn ystod y pandemig Covid-19 er mwyn cysylltu â chynulleidfaoedd, yn arbennig yn ystod y cyfnodau clo. Doedd dim angen teithio i leoliad arbennig ac roedd y ddarpariaeth yn aml am ddim. Fodd bynnag, mae’r adroddiad Culture in Crisis yn nodi bod y symud hwn i ddigidol wedi methu serch hynny ag amrywio’r sylfaen gynulleidfaoedd – roedd hon tua’r un faint ac yn cynnwys tua’r un math o fynychwyr a oedd yn mynychu ar-lein ag yr oedd yn mynychu lleoliadau yn gorfforol o’r blaen. [xi]
5. Sut gallwch chi nodi a deall cynulleidfaoedd eich sefydliad sydd wedi’u heithrio’n ddigidol?
Er bod patrymau cenedlaethol, mae’n bosibl nad ydyn nhw i gyd yn berthnasol i’ch sefydliad chi, neu o bosibl eu bod o bwysigrwydd amrywiol.
Wrth feddwl am eich cynulleidfaoedd eich hun, at bwy rydych chi’n cyfeirio? Yn ogystal ag ymwelwyr a chyfranogwyr, mae’n bosibl yr hoffech hefyd ystyried staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr; rhoddwyr; cynrychiolwyr o du partneriaid a rhanddeiliaid; a’ch cymuned leol yn gyffredinol.
Gallech chi ymgymryd ag archwiliad i helpu i nodi a deall cynulleidfaoedd eich sefydliad sydd wedi’u heithrio’n ddigidol, fel yr un isod:
| Grŵp cynulleidfa | Mathau o eithrio digidol sy’n effeithio arnyn nhw | Beth yw’r goblygiadau ar gyfer ein marchnata a’n hymgysylltiad? | Beth nad ydyn ni’n ei wybod neu’n ei ddeall y mae angen i ni gael gwybod amdano? | ||
| Diffyg data/dyfeisiau? | Diffyg sgiliau? | Diffyg cymhelliant? | |||
| Grŵp 1 | |||||
| Grŵp 2 | |||||
| Grŵp 3 | |||||
Os oes bylchau a phethau nad ydych chi’n eu gwybod, gallech chi gynnal ymchwil neu ymgynghoriad, fel arolwg neu grŵp ffocws. Gallech chi hefyd weld a oes modd i ymchwil a data sy’n bodoli eisoes lenwi’r bylchau hyn. Ymhlith ymchwil ddefnyddiol o’r sector mae:
- Digital Inclusion and Exclusion in the Arts and Cultural Sectorgan sefydliad y Good Things Foundation a Chyngor Celfyddydau Lloegr;
- Adroddiad y Covid-19 Cultural Participation Monitor Digital Reportgan yr Audience Agency;
- Adroddiad Culture in Crisis gan ganolfan y Centre for Cultural Value.
Gallai fod ymchwil a data perthnasol hefyd am eithrio digidol yn eich cymuned leol, gan awdurdodau lleol, tasglu neu brosiect eithrio digidol lleol neu ranbarthol, neu randdeiliaid eraill sy’n gweithio yn y maes yma, gan gynnwys elusennau a sefydliadau busnes (er enghraifft, Rhanbarthau Gwella Busnes neu Bartneriaethau Economaidd Lleol). Mae Ofcom a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn rhannu ymchwil ar eithrio digidol a’r defnydd o’r cyfryngau digidol.
Os hoffech chi ddysgu mwy am agweddau a sgiliau digidol eich staff, eich gwirfoddolwyr a’ch ymddiriedolwyr, gallwch chi ddefnyddio cwestiynau arolwg y DASH (Digital Attitudes and Skills for Heritage), a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chynghrair yr Heritage Alliance. Gallwch chi gymharu’ch canlyniadau hefyd â’u canfyddiadau o’r sector yn 2020 a 2021, yn ogystal â phori drwy argymhellion yr adroddiadau.
6. Pa gwestiynau dylech chi eu hystyried wrth gynllunio’ch marchnata a’ch ymgysylltiad i gynnwys cynulleidfaoedd sydd wedi’u heithrio’n ddigidol?
Marchnata
- Pa sianeli cyfathrebu ydych chi’n eu defnyddio? Pa gynulleidfaoedd na allwch eu cyrraedd gan ddefnyddio sianeli digidol, a sut gallwch chi ffocysu a thargedu eich adnoddau er mwyn eu cyrraedd? Gallai hyn fod yn wahanol ar gyfer gwahanol arddangosfeydd a digwyddiadau. Gall cyfryngau lleol a chymunedol; stondinau mewn ffeiriau a marchnadoedd cymunedol; posteri mewn lleoliadau perthnasol; post uniongyrchol wedi’i dargedu neu bost-dafliadau blwch post; a lledu’r gair drwy sefydliadau rhanddeiliaid a phorthgeidwaid fod yn effeithiol.
- Ydy cynulleidfaoedd nad ydyn nhw ar-lein yn cael cyfle cyfartal o’u cymharu â rhai sydd ar-lein (er enghraifft, mynediad i wybodaeth, gostyngiadau a chynigion, blaenoriaeth wrth archebu ac ati)?
- Ydy eich gwefan yn hygyrch ac yn hawdd i ddefnyddwyr, gyda gwe-lywio syml?
- Ydy’ch prisiau’n fforddiadwy ac a oes gennych chi ystod o gyfraddau gostyngol a chyfleoedd am ddim i ymgysylltu?
Ymgysylltu
- Pa opsiynau amgen ydych chi’n eu darparu neu y gallwch chi eu darparu ar gyfer dehongli sy’n dibynnu ar feddiant cynulleidfaoedd o ryw fath o ffôn clyfar (fel gwybodaeth a gyrchir drwy god QR)?
- Ydy’r gweithgareddau a’r profiadau digidol rydych chi’n eu creu’n gweithio ar gyfer cynulleidfaoedd ni waeth pa fath o ddyfais a chyflymder rhyngrwyd sydd ganddyn nhw?
- Oes angen cymorth i helpu cynulleidfaoedd i weld sut mae ymgysylltiad digidol o werth iddyn nhw, a’u hannog i gyfranogi?
- Ydy’r gweithgaredd digidol neu’r dehongli’n hawdd i ddefnyddwyr ac yn reddfol i’w ddefnyddio?
- Ydych chi’n darparu opsiynau amgen i arolygon ar-lein a chwestiynau adborth ar gyfer llechi?
Ac ar gyfer y ddau
- Ydy staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr yn meddu ar y sgiliau, yr adnoddau, y capasiti a’r ewyllys sydd eu hangen i ddarparu gweithgareddau a phrofiadau sy’n gynhwysol yn ddigidol?
- Oes gan eich sefydliad yr adnoddau a’r seilwaith digidol sydd eu hangen?
Gallech chi ddefnyddio’r grid yma i blotio’ch cynulleidfaoedd yn erbyn eu cyfradd ymgymryd ag ymgysylltu digidol a’u tebygolrwydd o ymweld yn bersonol neu amlder hynny. Gallai hyn nodi grwpiau cynulleidfa y gallech fod am ddatblygu allgymorth ac ymgysylltiad oddi ar y safle, wyneb yn wyneb iddynt, fel yr enghreifftiau hyn. Gallai canlyniadau o arolwg Digital Audiences Survey yr Audience Agency fod o gymorth ar gyfer yr ymarfer yma.
|
Lefel ymgymryd ag ymgysylltu digidol |
Uchel |
||
| Isel
|
|||
| Isel | Uchel | ||
|
Tebygolrwydd neu amlder ymweliadau wyneb yn wyneb |
|||
7. Sut gallwch chi fod yn gynhwysol yn ddigidol?
Mae cynhwysiant digidol yn golygu gweithio gyda chymunedau i sicrhau bod pob unigolyn a chymuned yn cael y mynediad, ac yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio a manteisio ar y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol.
Bydd bod yn gynhwysol yn ddigidol nid yn unig yn eich helpu i gyrraedd a chysylltu â mwy o gynulleidfaoedd, ond bydd hefyd yn eich galluogi i fod yn rhan o’r ateb ehangach i fynd i’r afael ag eithrio digidol. Isod, mae rhai enghreifftiau o gamau gweithredu y gallech chi eu cymryd.
Mynd i’r afael â diffyg mynediad i ddata a/neu ddyfeisiau
- Buddsoddi mewn seilwaith digidol i alluogi darparu a gweithio digidol effeithiol.
- Cynnig Wi-Fi am ddim yn eich lleoliad.
- Rhoi benthyg llechi i gynulleidfaoedd y gellir eu defnyddio ar y safle gan bobl nad oes ganddyn nhw ffonau clyfar gyda data.
- Darparu mynediad cyhoeddus i gyfrifiaduron.
- Creu lle mae modd ei ddefnyddio fel hwb gwaith cartref neu astudio.
Mynd i’r afael â diffyg sgiliau
- Sicrhau bod eich gwefan yn hygyrch ac yn hawdd i ddefnyddwyr, gyda system we-lywio ac archebu syml.
- Defnyddiwch yr arolwg DASHi ymgymryd ag archwiliad o sgiliau digidol ac agweddau yn fewnol yn eich sefydliad.
- Darparwch a/neu cyfeiriwch at hyfforddiant digidol ar gyfer staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr. Mae adnoddau defnyddiol am ddim wedi’u cynnwys yma ar yr Hwb Treftadaeth Ddigidol, yn ogystal â CultureHive a Digital Culture Networkcymdeithas yr Arts Marketing Association, a gynhelir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
- Crëwch a recriwtio ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli digidol penodol.
- Sefydlwch gynlluniau cyfnewid sgiliau neu fentora yn eich timau (dangosodd arolygon DASH hoffter cadarn o blaid dysgu gan bobl eraill, wyneb yn wyneb).
Mynd i’r afael â diffyg hyder neu gymhelliant
- Darparwch gymorth agos atoch a chyfeillgar yn rhan o’ch timau blaen tŷ, ar y ffôn ac ymholiadau ar-lein.
- Byddwch yn onest ac yn agored am y ffordd rydych chi’n ymdrin â data personol.
- Cysylltwch hyfforddiant digidol a chymorth â deilliannau clir – mae ymchwil gan DASH [xii] a Lloyds [xiii] wedi dangos bod pobl yn cael eu hysgogi’n fwy i ddysgu sgiliau digidol pan fyddan nhw’n gweld deilliant clir o ganlyniad. Er enghraifft, gallu cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu, neu allu ymgymryd â thasg benodol yn y gwaith.
Syniadau eraill sy’n trafod pob un o’r tri maes
- Defnyddiwch Digital Culture Compass and Charter Cyngor Celfyddydau Lloegr i asesu defnydd presennol eich sefydliad o’r maes digidol, gosod targedau a datblygu strategaeth ar gyfer gwneud gwelliannau.
- Gwnewch eich cynnwys digidol mor hygyrch â phosibl. Mae’r canllaw yma gan fenter y Digital Skills for Heritage yn lle da i ddechrau.
- Ymgynghorwch â grwpiau defnyddwyr perthnasol, sefydliadau sy’n gweithio yn y maes yma a/neu arbenigwyr.
- Crëwch gyfres o bersonâu defnyddwyr (cymeriadau ffug sy’n cael profiad o wahanol fathau o eithrio digidol), ac ystyried pob un ohonyn nhw wrth ddatblygu prosiectau , arddangosfeydd, digwyddiadau ac ymgyrchoedd marchnata newydd.
- Cysylltwch â sefydliadau cymorth cymunedol perthnasol a gweithio gyda nhw, fel llyfrgelloedd, elusennau, awdurdodau lleol, gwasanaethau gofal ac iechyd ac asiantaethau digidol.
- Datblygwch gyfleoedd ar gyfer hyrwyddwyr neu selogion digidol yn eich sefydliad.
- Mewnblannwch gynhwysiant digidol mewn prosiectau a cheisiadau am gyllid (gallai fod cronfeydd cynhwysiant digidol hefyd y tu allan i’r sectorau treftadaeth a diwylliannol y gallwch wneud cais iddyn nhw).
- Ymunwch â’r Online Centres Network, sy’n tynnu ynghyd filoedd o sefydliadau lawr gwlad sy’n gweithio i fynd i’r afael ag eithrio digidol a chymdeithasol.
Mae’n werth nodi y bydd yr agweddau hyn o fantais i ystod o grwpiau eraill hefyd, er enghraifft, mae darparu Wi-Fi o fudd i ymwelwyr rhyngwladol sydd o bosibl yn wynebu taliadau trawsrwydweithio costus i gyrchu data eu ffonau symudol yn eich lleoliad; a gall defnyddio sianeli cyfathrebu eraill hefyd gyrraedd pobl sy’n dewis gadael llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft ar gyfer detocs cyfryngau cymdeithasol).
8. Sut gallwch chi fesur effaith yr hyn rydych chi’n ei wneud?
Os ydych chi’n rhoi cynnig ar rywbeth newydd a/neu’n buddsoddi adnoddau, mae’n syniad da adolygu a gwerthuso llwyddiant hyn i fwydo i waith cynllunio a mentrau at y dyfodol. Dyma rai awgrymiadau:
- Dechreuwch drwy fod yn glir am eich amcanion a’r hyn rydych chi am ei gyflawni. Sut gallwch chi wneud gwahaniaeth?
- Sefydlwch waelodlin os yw’n briodol, fel y gallwch chi olrhain a chymharu cynnydd.
- Byddwch yn glir am y mecanwaith ar gyfer casglu adborth a gwerthuso o’r cychwyn cyntaf.
- Er bod canlyniadau meintioliadwy yn gallu bod yn ddeniadol, peidiwch â thanfesur y gwahaniaeth anferth y gallwch chi ei wneud ar gyfer pob person unigol –gall gwerthuso ansoddol hefyd fod yn bwysig iawn.
- Unwaith i chi adolygu eich menter, rhannwch eich canlyniadau’n fewnol ac ystyriwch eu rhannu gyda rhanddeiliaid a’r sector yn eu cyfanrwydd fel y gallwn ni barhau i ddysgu wrth ein gilydd.
Cyfeirnodau
[i] https://www.lloydsbank.com/assets/media/pdfs/banking_with_us/whats-happening/210513-lloyds-consumer-digital-index-2021-report.pdf
[ii] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0025/217834/adults-media-use-and-attitudes-report-2020-21.pdf
[iii] https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/householdcharacteristics/homeinternetandsocialmediausage/bulletins/internetaccesshouseholdsandindividuals/2020#internet-access-households-and-individuals-data%C2%A0
[iv] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0025/217834/adults-media-use-and-attitudes-report-2020-21.pdf
[v] https://www.lloydsbank.com/assets/media/pdfs/banking_with_us/whats-happening/210923-lb-essential-digital-skills-2021-report.pdf
[vi] https://www.lloydsbank.com/assets/media/pdfs/banking_with_us/whats-happening/210923-lb-essential-digital-skills-2021-report.pdf
[vii] https://www.lloydsbank.com/assets/media/pdfs/banking_with_us/whats-happening/210513-lloyds-consumer-digital-index-2021-report.pdf
[viii] https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/householdcharacteristics/homeinternetandsocialmediausage/articles/exploringtheuksdigitaldivide/2019-03-04#why-does-digital-exclusion-matter
[ix] https://post.parliament.uk/covid-19-and-the-digital-divide/
[x] https://www.lloydsbank.com/assets/media/pdfs/banking_with_us/whats-happening/210513-lloyds-consumer-digital-index-2021-report.pdf
[xi] https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/01/Culture_in_Crisis.pdf
[xii] https://www.heritagefund.org.uk/about/insight/research/dash-report-2021-pandemic-future-planning
[xiii] https://www.lloydsbank.com/assets/media/pdfs/banking_with_us/whats-happening/210923-lb-essential-digital-skills-2021-report.pdf
Browse related resources by smart tags:
Access Accessibility Digital engagement Digital exclusion Digital marketing Social exclusion
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How to reach digitally excluded audiences (2022) by Christina Lister supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






