How can we use digital to improve our fundraising
Rhagarweiniad i godi arian yn ddigidol
Mae codi arian yn ddigidol yn ymwneud â defnyddio technoleg i drosoli incwm newydd – neu drosoli incwm presennol yn well – ar gyfer elusen.
Mae’r diffiniad yma’n cwmpasu llawer o wahanol fecanweithiau a mathau o godi arian yn ddigidol, gan gynnwys:
- Tudalennau rhoi ar-lein
- Tudalennau codi arian cymunedol
- Systemau Rheoli Perthnasau Cwsmeriaid (CRM)
- Llwyfannau rhoi a chyfrifyddu integredig
Ni ddylai strategaeth codi arian yn ddigidol byth ddisodli strategaeth codi arian ‘draddodiadol’ – dylai’r ddwy ategu ei gilydd. Mewn byd delfrydol, bydd defnyddio teclynnau digidol yn hwyluso’r gwaith o gyflawni strategaeth codi arian sefydliadol yn well ac yn gyrru’r cynllun busnes yn ei flaen.
Canfu arolygon diweddar fod rhoi ar-lein wedi cynyddu 97% ers dechrau’r pandemig Covid-19, a bod bron i 80% o elusennau bellach yn defnyddio dulliau digidol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Erbyn hyn, mae hanner yr elusennau yn gweld codi arian yn ddigidol yn flaenoriaeth. Mae 90% o boblogaeth y DU yn defnyddio’r rhyngrwyd yn rheolaidd ac yn treulio 2 awr 51 munud y dydd ar gyfartaledd ar-lein
Gall teclynnau digidol alluogi sefydliadau treftadaeth i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, cynyddu incwm, a lleihau’r capasiti sydd ei angen o du staff neu wirfoddolwyr i wasanaethau perthnasau gyda chefnogwyr presennol.
Yn gyffredinol, dylai sefydliadau ganolbwyntio ar wneud un neu ddwy elfen o godi arian yn ddigidol yn dda iawn, yn hytrach na cheisio lansio ar bob llwyfan a theclyn sy’n bodoli. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer sefydliadau treftadaeth bach lle mae’r capasiti’n gyfyngedig ac mae’n rhaid ei gymhwyso’n dda.
Sut i ysgrifennu a rhoi strategaeth codi arian yn ddigidol ar waith
1. Diffinio amcanion
Yr hyn sy’n allweddol i unrhyw strategaeth yw deall yn glir yr hyn rydych chi’n ceisio’i gyflawni. Yn union fel nad yw’n bosib cynllunio taith heb gyrchfan, nid oes modd cynllunio’r camau nesaf mewn maes penodol heb wybod beth yw eich nod. Bydd gan wahanol sefydliadau wahanol amcanion o ran strategaeth Codi Arian yn Ddigidol. Dylai’r rhain fod yn uchelgeisiau darlun mawr, cyffredinol y gall y strategaeth a’r targedau penodol oddi mewn iddi helpu i’w gwireddu. Er enghraifft:
- Cynyddu incwm o du rhoddion unigol i 25% o incwm y sefydliad
- Lleihau’r amser mae gwirfoddolwyr yn ei dreulio’n gofyn am roddion neu’n eu prosesu
- Tyfu ymwybyddiaeth o effaith ein sefydliad yn y gymuned leol
- Casglu data am 40% o roddwyr er mwyn deall ein cynulleidfaoedd a’n cefnogwyr yn well
Ystyriwch y cwestiynau canlynol:
- Pam rydych chi’n lansio strategaeth codi arian yn ddigidol?
- Sut olwg fyddai ar lwyddiant yn eich barn chi?
Cytunwch ar un amcan craidd – sef y flaenoriaeth ganolog i’ch sefydliad. Peidiwch â chael eich temtio ar hyn o bryd i ddweud, ‘rydyn ni am gyflawni’r uchod i gyd’.
‘Walk the walk’ – gosododd un o elusennau mwyaf y DU sy’n gweithio i ymladd canser y fron – yr amcan i roi’r rhoddwr wrth galon eu presenoldeb digidol, drwy adeiladu un llwyfan sy’n cefnogi gwirfoddoli, codi arian a rhoi. Mae hyn yn dangos nad oes un amcan unigol cywir – bydd yn unigryw i’ch gwaith a’ch cyd-destun chi.
2. Ystyried ble rydych chi
Cyn i chi ddechrau ystyried strategaeth ar gyfer codi arian yn ddigidol yn y dyfodol, mae’n bwysig i chi gymryd amser i ystyried ble rydych chi fel sefydliad ar hyn o bryd. Gyda dealltwriaeth glir o hyn, mae’n haws ac yn fwy effeithiol wedyn i roi cynlluniau ar waith at y dyfodol.
Cynhaliwch archwiliad mewnol, sy’n adolygu:
- Pa weithgarwch codi arian yn ddigidol sy’n digwydd ar hyn o bryd, neu sydd wedi digwydd yn y gorffennol?
- Pa sianeli rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer codi arian yn fwy cyffredinol, a pha lefel o lwyddiant maen nhw’n ei gweld? Edrychwch nôl dros y tair i bum mlynedd diwethaf.
- Faint o roddwyr sydd gennych chi? Faint o bobl ydych chi’n eu cyrraedd fel cynulleidfaoedd?
- Pa adnoddau sydd gennych eisoes yn eu lle? Gallai hyn fod yn staff neu’n wirfoddolwyr gydag arbenigedd penodol, neu’n adnoddau digidol fel cyfrifiaduron, meddalwedd neu lwyfannau ar-lein.
O’r archwiliad mewnol yma, nodwch unrhyw Gryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd neu Fygythiadau a allai effeithio ar lwyddiant strategaeth codi arian yn ddigidol.
Mae Atodiad yr adroddiad hwn gan Gymdeithas Amgueddfeydd New England yn dangos canlyniadau syniadau cyfrannu torfol ar gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau’r amgueddfeydd. Darllenwch drwodd a gweld a oes unrhyw rai sy’n taro tant i’ch sefydliad chi, neu ystyriwch wahodd myfyrdodau ac awgrymiadau gan eich bwrdd, eich tîm gwirfoddolwyr a’ch cefnogwyr ffyddlon.
3. Ystyried yr amgylchedd allanol
Yn ogystal ag adolygu eich cyd-destun mewnol, mae’n bwysig i strategaeth ymateb i ddata allanol. Ar gyfer strategaeth codi arian yn ddigidol, dylai hyn gynnwys:
- Meincnodi yn erbyn cyfoedion: pa sefydliadau ydych chi’n eu hedmygu? Pwy sydd â’r presenoldeb digidol yr hoffech ei gael? Pa declynnau a llwyfannau maen nhw’n eu defnyddio? Beth yw eu dadansoddiad incwm?
Bydd ymgymryd â gwaith meincnodi trylwyr o 8-10 o sefydliadau tebyg sydd wedi’u datblygu ymhellach o ran eu gweithgarwch digidol yn eich helpu i ddeall beth sydd eisoes yn gweithio i sefydliadau fel chi, a bydd hyn, yn ei dro, yn eich helpu i osod strategaeth at y dyfodol.
- Ymchwil gyd-destunol: beth sy’n digwydd yn eich sector a’ch ardal leol? Beth yw’r gwir angen rydych chi’n ymateb iddo? Beth yw lefel cymhwysedd digidol eich cynulleidfaoedd a’ch gwirfoddolwyr? Beth yw goblygiadau hyn ar gyfer strategaeth codi arian yn ddigidol?
Drwy ymchwil gallwch chi sicrhau bod cynhyrchion ac ymgyrchoedd digidol rydych chi’n eu rhoi ar waith yn berthnasol ac yn briodol i’ch cynulleidfa a’r cyd-destun rydych chi’n gweithredu ynddo.
Mae Big Dog Ranch yn elusen achub a gofal cŵn yn yr Unol Daleithiau. Ar gyfer ei hymgyrch yn 2017, defnyddiodd yr elusen gyfnod darganfod a dadansoddi manwl er mwyn gweld llwyddiant mewn strategaeth codi arian aml-sianel. Roedd yr ymchwil yn cynnwys:
- Cyfansoddiad y gynulleidfa – gan gynnwys ei demograffeg a’i maint
- Lefelau ymgysylltu dros y blynyddoedd diwethaf
- Ymddygiadau cynulleidfaoedd – gan gynnwys dewisiadau ar gyfer negeseuon
- Sianeli codi arian yn ddigidol a ddefnyddir
Drwy’r ymchwil yma, trechodd yr elusen ei tharged codi arian o fwy na thair gwaith.
4. Adnabod eich cynulleidfa
Dylai strategaeth codi arian yn ddigidol ganolbwyntio ar y gynulleidfa: mae gan wahanol bobl lefelau amrywiol iawn o hyder ac arbenigedd gyda llwyfannau digidol, ac am hynny, dylai strategaeth ystyried pwy fydd yn ymgysylltu â’ch cynhyrchion ac felly sut y dylid eu dylunio.
Pwy yw’ch cefnogwyr chi? Rhowch eich hun yn eu hesgidiau nhw. Meddyliwch am eu hymddygiad ar-lein ac oddi ar-lein. Pa lwyfannau maen nhw’n eu defnyddio? Beth maen nhw eisiau’i gael o’ch presenoldeb digidol? Beth yw eu taith drwy eich cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan? Ble mae eu hanghenion yn cael eu diwallu, a ble nad ydyn nhw’n cael eu diwallu? Sut gall y maes digidol ddiwallu eu hanghenion yn well?
5. Adnabod a blaenoriaethu teclynnau
Unwaith y byddwch chi’n gwybod beth rydych chi am ei gyflawni a phwy rydych chi’n ceisio ymgysylltu â nhw, mae’n bryd ystyried y teclynnau y byddwch chi’n eu defnyddio i gyflawni hynny
- Cyfryngau cymdeithasol fel Twitter, Facebook, Instagram a LinkedIn, lle mae gan eich elusen broffil sefydliadol a lle mae’n ymgysylltu â’i gynulleidfaoedd yn uniongyrchol. Mae rhai o’r llwyfannau hyn bellach yn caniatáu codi arian.
- E-bost, boed yn uniongyrchol neu drwy newyddlenni a phost-dafliadau
- Gwefan, gan gynnwys dylunio cynnwys cyffredinol, Optimeiddio Peiriannau Chwilio, a thudalennau codi arian
- Llwyfannau trydydd parti fel JustGiving, sy’n caniatáu i unigolyn godi arian ar eich rhan, neu le efallai na fydd gennych reolaeth uniongyrchol dros y ffordd caiff eich elusen ei phortreadu.
- Teclynnau cynhyrchu cynnwys fel Canva sy’n eich galluogi i gynhyrchu testun, fideo a delweddau i’w defnyddio mewn ymgyrchoedd digidol
- Meddalwedd tu cefn sy’n eich cefnogi i symleiddio codi arian yn eich tîm staff neu’ch cronfa wirfoddolwyr
Efallai mai dim ond unwaith y bydd angen rhai teclynnau – neu gamau un tro i’w rhoi ar waith – a bydd eraill yn dod yn rhannau rheolaidd o’ch gwaith wrth gyflawni’r strategaeth.
Defnyddiodd llawer o sefydliadau treftadaeth declynnau digidol newydd yn ystod Covid-19, fel ymgyrch Twitter #MetTwinning yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan, ymgyrch “See Everything” ArtFund, a ddefnyddiodd asedau fideo o ansawdd uchel, ac Amgueddfa’r Black Country Living Museum, a ddefnyddiodd TikTok i sefydlu ei hun fel yr amgueddfa gyda’r nifer fwyaf o ddilynwyr yn y byd ar y llwyfan.
6. Gosod targedau CAMPUS
Unwaith y byddwch chi’n hyderus yn eich cynulleidfaoedd a’r teclynnau y byddwch chi’n eu defnyddio, nodwch 3 i 5 o dargedau CAMPUS a fydd yn eich helpu i hyrwyddo eich un amcan craidd. CAMPUS (SMART yn Saesneg) yw:
-
- Cyraeddadwy
- Amserol
- Mesuradwy
- Penodol
- Uchelgeisiol
- Synhwyrol
Os mai eich amcan cyffredinol yw cynyddu incwm o roddion ar-lein, gall targedau CAMPUS gynnwys:
- Sefydlu statws elusennol ar Facebook a sicrhau tri pherson i godi arian ar eu pen-blwydd ar Facebook erbyn mis Ebrill 2023
- Cynyddu cliciau o’r cyfryngau cymdeithasol i’r wefan 10% erbyn mis Rhagfyr 2022
- Tyfu maint rhoddion cyfartalog 10% drwy awgrymu symiau i’w rhoi a negeseuon gwell erbyn mis Rhagfyr 2023
Mae mwy o enghreifftiau ar gael o’r blog yma gan yr arbenigwyr codi arian yn ddigidol, Lightful, sydd hefyd yn helpu i egluro sut i wneud yn siŵr bod eich targedau’n taro pob elfen o’r safon “CAMPUS”.
7. Gwerthuso, Adolygu ac Addasu
Unwaith y bydd gennych chi strategaeth codi arian yn ddigidol ar waith gyda thargedau CAMPUS clir, sicrhewch eich bod yn sefydlu proses glir ar gyfer adolygu’r targedau hyn. Os oes gennych chi dîm staff, gallai hyn gael ei gynnal ganddyn nhw, neu gall fod yn eitem agenda newydd i’r bwrdd ei hystyried.
Yn ogystal ag asesu cynnydd yn erbyn targedau CAMPUS, ystyriwch a oes angen i chi addasu eich teclynnau neu’ch targedau wrth i’r strategaeth ddechrau. Wrth i chi symud ar hyd strategaeth codi arian yn ddigidol, mae’n anochel y byddwch chi’n dysgu mwy am eich cynulleidfaoedd a’r prosesau sy’n gweithio orau i’ch sefydliad, felly byddwch yn agored i addasu’r strategaeth yn unol â gwybodaeth newydd.
Ystyriwch y cwestiynau canlynol:
- Sut byddwch chi’n cadw golwg ar yr hyn sy’n gweithio?
- Pa mor aml byddwch chi’n adolygu perfformiad?
- Sut bydd canfyddiadau’n dylanwadu ar strategaeth y dyfodol?
- A oes capasiti mewn timau staff neu gyfarfodydd bwrdd i ystyried hyn, neu a oes angen capasiti newydd?
Yn ogystal â gwerthuso perfformiad targedau CAMPUS, mae’n bwysig i bwy bynnag sy’n ymwneud â rhoi eich strategaeth ddigidol ar waith fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar “brofi a dysgu”. Un o gryfderau allweddol y maes digidol yw’r gallu i roi cynnig ar wahanol bethau yn hawdd a gweld beth sy’n gweithio: er enghraifft, efallai y byddwch chi’n segmentu eich cynulleidfa ac yn rhoi cynnig ar ddwy set wahanol o negeseuon e-bost i weld p’un sy’n arwain at y canlyniadau gorau.
Mae’r blog yma gan FatBeeHive yn dangos rhai o fanteision rhoi gwahanol ddulliau ar brawf, gyda Cancer Research UK yn cynyddu achosion o glicio drwodd 294%, Movember yn derbyn 75% yn fwy o achosion o rannu drwy e-bost, a charity:water yn cynyddu maint rhoddion ar-lein ar gyfartaledd 30% drwy ddefnyddio’r mecanwaith yma.
Casgliad
Pob lwc gydag ysgrifennu a rhoi eich strategaeth codi arian yn ddigidol a’i hesblygu. Mae pawb yn dechrau yn rhywle, ac mae’r maes digidol yn gallu bod yn werthfawr i bob sefydliad. Bydd gofyn myfyrio a dysgu i optimeiddio, ond gallwch chi ei wneud yn werth chweil i’ch sefydliad.
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How can we use digital to improve our fundraising (2022) by David Johnson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






