How a local museum used data and insight to develop a focused digital content plan
1. Cefndir
Trish: Fel mentor i’r Lab Treftadaeth Ddigidol, rwyf wedi mwynhau gweithio gydag Amgueddfa ac Oriel Gelf Nuneaton yn fawr iawn. Mae ganddyn nhw heriau cyffredin â llawer o sefydliadau treftadaeth bach eraill, felly mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydol eu gweld yn addasu ac adeiladu ar y cynnwys digidol maen nhw’n ei gynnig. Rwyf wrth fy modd bod Liz Taylor, Curadur yr Amgueddfa, yn mynd i rannu ei phrofiad gyda ni. Liz, allwch chi ddechrau drwy ddweud ychydig wrthym am Amgueddfa ac Oriel Gelf Nuneaton?
Liz: Amgueddfa eithaf bach ydyn ni, gyda nifer bach o staff cyflogedig, ond mae gennym lawer o wirfoddolwyr, hefyd. Amgueddfa hanes lleol ydyn ni, gydag oriel hanes lleol, oriel gelf a rhaglen ddeinamig o arddangosfeydd a digwyddiadau.
Trish: Dywedwch wrthym am eich rôl chi a rôl y rheiny sy’n gyfrifol am gynnwys.
Liz: Fi yw’r Curadur, sy’n golygu gofalu am y casgliad, gweithio ar fonitro amgylcheddol, gofalu am wirfoddolwyr a helpu gydag ymholiadau cyffredinol. Mae gennym staff blaen tŷ ond hefyd Rheolwr yr Amgueddfa, Rheolwr Allgymorth a Swyddog Arddangosfeydd. Mae gan yr holl staff cefn tŷ gyfrifoldeb am ein cynnwys digidol ar draws gwahanol sianeli.
2. Heriau
Trish: Beth yw’r prif heriau roedd eich tîm yn eu hwynebu?
Liz: Cyn y cyfnod clo, roedd gennym nifer o heriau. Gan nad oedd llawer o amser i gynllunio, roedd y cynnwys yn ddigyswllt iawn, gyda phobl yn postio pan oeddent yn teimlo’r awydd. Er enghraifft, efallai y byddai tri ohonon ni’n postio ar Facebook mewn un diwrnod ac yna dim byd arall am gyfnod.
Her fawr arall oedd diffyg sgiliau a hyder i roi cynnig ar bethau newydd. Roedd llawer ohonon ni’n yn teimlo’n gyfyngedig i bostio delwedd neu ychydig o destun yn unig, yn hytrach nag unrhyw beth deinamig.
Doedden ni ddim wedi edrych ar unrhyw ddulliau dadansoddi, ac felly doedden ni ddim yn adnabod ein cynulleidfa nac yn gwybod beth roedden nhw eisiau gennym ni.
Tra roedden ni ar gau oherwydd Covid, daeth ein hymwelwyr digidol yn hanfodol a sylweddolwyd bod angen mynd i’r afael â’r holl heriau hyn.
Trish: Sut dechreuoch chi edrych ar yr heriau hynny?
Liz: Gwnaethon ni feddwl yn ddwys am ein hamcanion digidol, megis hyrwyddo gwasanaethau’r amgueddfa i helpu pobl i ddeall yr hyn rydyn ni’n ei wneud a pham y dylen nhw ymweld, a chynyddu mynediad i gasgliadau’r amgueddfa. Mae gennym ni gynifer o wrthrychau yn y storfa, gan mai nifer cyfyngedig sy’n gallu cael eu harddangos, ond mae digidol yn rhoi’r cyfle i chi rannu mwy o wrthrychau ac amrywio’r ffordd rydych chi’n eu rhannu. Gallwch chi gynnwys llawer mwy o fanylion ar-lein, tra gall gwybodaeth mewn gofod ffisegol fod yn gyfyngedig.
Roedden ni’n awyddus i ymgysylltu’n fwy â’n cynulleidfaoedd, hefyd, addysgu pobl a difyrru pobl â phethau hwyliog sy’n gwneud iddyn nhw chwerthin.
Roedd hyrwyddo sgyrsiau rhyngom ni a chynulleidfaoedd, neu hyd yn oed rhwng aelodau cynulleidfaoedd eu hunain yn bwysig, hefyd.
Trish: Beth oeddech chi’n ei wybod o’r ystadegau a oedd gennych chi eisoes?
Liz: Cynhaliwyd ein harolwg cynulleidfa diweddaraf cyn i ni ddechrau’r broses hon yn ein horielau amgueddfeydd ffisegol yn gynnar yn 2020. Gwnaethon ni ganfod bod 59% o’n cynulleidfa’n lleol, bod 70% yn fenywaidd, a bod 87% dros 35 oed. Roedd 14% yn ymweld gyda phlant, sy’n golygu bod gennym rieni sy’n chwilio am rywbeth i’w plant ei wneud.
Roedd yr arolwg hwnnw’n fan cychwyn da, ond dim ond demograffeg a wnaeth e ei dangos, yn hytrach na dweud wrthym pa gynnwys oedd â diddordeb i bobl.
3. Deall cymhelliant cynulleidfa
Trish: Felly, roeddech chi’n gwybod bod bylchau yn eich gwybodaeth o hyd. Sut aethoch chi ati i ddechrau deall cymhellion eich cynulleidfa?
Liz: Roedden ni’n meddwl bod angen i ni ddarganfod pwy yw ein cynulleidfa, a pha gynnwys maen nhw’n ei hoffi, felly gwnaethon ni weithio gyda chi, Trish, a’r cyngor i i roi arolwg cynnwys digidol at ei gilydd.
Gwnaethon ni anfon yr arolwg allan ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a dangosodd e fod pobl yn canolbwyntio ar y casgliad a ffotograffau yn enwedig. Dangosodd hefyd fod pobl yn cael eu hysgogi gan wahanol bethau. Bu pobl leol yn ymgysylltu fwyaf â hanes lleol, tra bod eraill am ddysgu pethau newydd neu gael yr wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau cyfredol.
Roedd pobl yn cael eu hysgogi gan bethau hwyliog neu wirion, felly mae’n gallu helpu i ddangos nad ydyn ni o ddifrif am wrthrychau drwy’r amser. Er enghraifft, roedd hashnod ychydig yn ôl am wrthrychau â’r penolau gorau, a oedd wir wedi ennyn diddordeb pobl!
Doedd hi ddim yn ymddangos bod pobl am fod yn weithgar a gwneud rhywbeth a’i rannu gyda ni, a dywedodd hyn wrthym fod cynnwys rhyngweithiol yr oedden ni o bosibl yn ei ystyried yn gyffrous, ond oherwydd bod gan bobl bethau eraill yn digwydd yn eu bywydau ar yr un pryd, dydyn nhw ddim yn cymryd rhan, mewn gwirionedd.
Hefyd, doedd pobl ddim am wneud sylwadau ar bethau, a oedd yn rhoi sicrwydd i fi y gall pobl barhau i fwynhau cynnwys hyd yn oed os nad ydyn nhw am ddechrau sgwrs am y peth.
4. Y tu ôl i’r llenni
Trish: Dywedwch wrtha i am eich blog, sy’n deillio o’r hyn rwy’n ei ddeall, o gyfyngiadau ar eich gwefan, sy’n cael ei lletya gan y cyngor.
Liz: Ydy, oherwydd bod ein gwefan yn cael ei lletya ar brif wefan y cyngor, mae wedi’i chyfyngu i nifer penodol o dudalennau gwe, y mae’n rhaid iddyn nhw fod yn ffeithiol iawn am yr amgueddfa ei hun ac felly mae’n gyfyngedig o ran creu cynnwys cyffrous a diddorol.
Gwnaethon ni greu ein blog, Behind the Scenes at the Museum, ychydig o flynyddoedd yn ôl, sy’n edrych ar bethau mae’r staff yn eu gweld, neu sy’n digwydd yn y storfeydd neu yn yr amgylchedd. Mae wir yn rhoi llais mwy personol a chyfeillgar i ni gyda’n cynulleidfa ac yn ein galluogi i dynnu sylw at wrthrychau mewn ffordd na allen ni ei defnyddio ar ein tudalennau gwe sy’n cael eu lletya gan y cyngor.
Trish: Sut rydych chi wedi optimeiddio’r blog i gynyddu’i draffig?
Liz: Un peth allweddol gwnaeth Trish ei ddysgu i ni yw meta ddisgrifiad. Mae peiriannau chwilio yn cynhyrchu rhestr gyfan o wahanol bethau ac o dan bob un, mae llinell neu ddwy sy’n dweud wrthych chi am y canlyniad hwnnw. Edrychon ni ar ein meta ddisgrifiad ein hunain ac roedd yn peri embaras mawr! Doedden ni ddim yn gwybod amdano fe o’r blaen, a rhywsut, roedd e wedi’i gysylltu â’n canllawiau Covid, nad oedd prin yn denu neb.
Er mwyn gwella pethau, edrychon ni ar ein pwyntiau gwerthu unigryw fel amgueddfa – rydyn ni’n weddol fach, rydyn ni’n canolbwyntio ar yr ardal leol, rydyn ni’n agored i sgyrsiau, ac rydyn ni’n lle diogel, neis i ymweld ag ef – a gwnaethon ni ddyfeisio meta ddisgrifiad llawer gwell: “cyfle i gael eich ysbrydoli gan straeon lleol, bywyd y nofelydd George Eliot a chelf hynod ddiddorol yn ein hamgueddfa rad ac am ddim, hwyliog a chyfeillgar sydd wedi’i lleoli mewn parcdir hardd”.
Dangosodd dulliau dadansoddi’r blog mai’r amser ymgysylltu mwyaf poblogaidd oedd amser cinio, a dydd Iau oedd y dydd mwyaf poblogaidd yn gyson, felly mae bellach yn gwneud synnwyr postio ar ddydd Iau, amser cinio.
Trish: Pa bostiadau blog oedd y rhai mwyaf poblogaidd, a sut wnaeth y wybodaeth honno eich helpu i roi ffocws i’r cynnwys?
Liz: Mae’n eithaf anodd dadansoddi oherwydd bod ffactorau amrywiol fel yr amser y cafodd ei bostio, neu hashnod arbennig o boblogaidd, ond gwelon ni rai patrymau’n dod i’r amlwg, megis diddordeb mewn pethau sy’n ymwneud â gwrthrychau penodol yn y casgliad neu flogiau ar bobl enwog, cymeriadau, ffatrïoedd neu weithleoedd lleol. Mae flogiau gwisgoedd sy’n edrych ar ddramâu teledu fel Victoria a Peaky Blinders wedi bod yn boblogaidd oherwydd bod gan y sioeau hynny lawer o gefnogwyr. Mae diddordeb dynol bob amser mewn trychinebau, felly mae’r blogiau hynny’n boblogaidd, hefyd.
Roedd blogiau a oedd yn edrych ar ddigwyddiadau/gweithgareddau’n llai poblogaidd, felly efallai bod lle gwell i’r rheiny.
Roedd y teitl wir yn dylanwadu a fyddai pobl yn edrych arno fe neu beidio. Fel gweithwyr proffesiynol amgueddfa, rydyn ni’n teimlo’n aml bod angen teitl clyfar neu gyffrous iawn arnon ni. Fodd bynnag, ymddangosai nad oedd neb yn edrych ar ein teitlau mwy annelwig megis “One Year On”, “Set in Stone” ac “A Lot of Hot Air”, gan nad oedd neb yn gwybod beth roedden nhw’n ei olygu! Dylai eich teitl fod yn rhywbeth y gall pobl ei ddeall.
5. Strategaeth cyfryngau cymdeithasol
Trish: Mae hynny hefyd yn allweddol i Google a thraffig chwilio arall hefyd. Gadewch i ni siarad ychydig am eich strategaeth cyfryngau cymdeithasol nesaf.
Liz: Roedd ein dulliau dadansoddi Facebook yn dangos demograffeg debyg i’r arolwg, ond hefyd bod y prif ymgysylltu’n digwydd yn y bore. Felly, nawr rydyn ni’n postio’n fwy yn y bore, ac rydyn ni hefyd yn clymu i mewn gyda hashnodau ar gyfer digwyddiadau poblogaidd, ac yn gwneud mwy o bostiadau “ar y dyddiad hwn”.
Rydyn ni wedi defnyddio’n gwybodaeth o ddulliau dadansoddi ac arolygon i greu calendr cynllunio cyfryngau cymdeithasol misol. Rydyn ni’n meddwl yn galed am ba fath o bostiadau rydyn ni am eu gwneud, pa mor aml i bostio a pa bethau hwyliog rydyn ni eu heisiau, fel jig-so neu her ‘gweld y gwahaniaeth’. Mewn cyfarfodydd tîm, mae gennym y calendr fel eitem sefydlog ar yr agenda, felly rydyn ni’n edrych arno ymlaen llaw. Yn hytrach na bod yn ‘ad hoc’, rydyn ni’n teimlo bellach bod ffocws da iawn gyda ni, a lledaeniad braf o bethau, sy’n ystyried pethau sy’n ysgogi’r gynulleidfa.
Rhywbeth pwysig iawn a ddywedodd Trish wrthym ni yw’r syniad o ddefnyddio dull “sgimio, nofio a phlymio”. “Sgimio” yw rhywbeth cryno, megis “Helo, mae’n ddiwrnod braf”, ac yna postio llun o heulwen hyfryd. Mae cynnwys “nofio” yn gofyn am dipyn o ymchwil neu gydlynu manylach, sef postiad y gallech chi wneud un o’i fath mewn wythnos. Mae’r dull “plymio” yn rhywbeth sy’n cymryd cryn dipyn o amser i’w gydlynu. Gallai hyn fod yn rhywbeth megis digwyddiad ar-lein rydych chi ond yn ei wneud ychydig o weithiau’r flwyddyn. Roedd y tri dull hynny wedi ein helpu i gynllunio ymlaen llaw, felly yn ystod y misoedd nesaf, rydyn ni’n gwybod beth rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni i gyd yn hapus gyda’r cynnwys ar gyfer pob un.
Mae amserlennu’n wych, hefyd. Mae trefnu i bostiadau ymddangos ar adegau nad ydych chi’n gweithio sy’n dal i glymu i mewn gyda’r hyn y mae pobl yn ei wneud yn ddefnyddiol iawn.
Trish: Beth am Instagram?
Liz: Roedd dulliau dadansoddi Instagram yn debyg i’r lleill o ran y ddemograffeg, ac felly rydyn ni’n gweithio ar greu digwyddiadau mwy amrywiol ac ehangu’n cynulleidfa.
Mewn gwirionedd, mae gennym gynulleidfa eitha’ hen am Instagram, gyda 67% yn hŷn na 35 oed. Mae’n ddiddorol sylwi bod ein defnydd brig ar Instagram yn digwydd gyda’r nos, ond ar gyfer Facebook mae’n digwydd yn y bore.
Dangosodd ein harolwg digidol fod pobl wir yn mwynhau gweld gwrthrychau hardd ar Instagram, a wnaeth i ni feddwl am estheteg. Rydyn ni wedi dod â ffotograffwyr proffesiynol i mewn i greu delweddau hyfryd o rai o’r gwrthrychau mwy poblogaidd, sydd hefyd yn tynnu sylw at fanylion penodol ac yn defnyddio onglau mwy diddorol.
Mae ein cynulleidfa Instagram yn dal i fod eisiau gwybodaeth am y gwrthrychau ac felly rydyn ni’n sicrhau ein bod yn darparu disgrifiadau manwl gyda’r ddelwedd.
6. Tecawê
Trish: Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i sefydliadau eraill sydd â thimau bach neu unigolion sy’n ceisio darparu cynnwys i gynulleidfaoedd?
Liz: Mae pob sefydliad yn wahanol felly peth allweddol yw gwneud yr hyn y gallwch chi.
Mae hyd yn oed gwelliannau bach, fel edrych ar ddulliau dadansoddi fwy neu newid amseroedd postiadau, yn gamau cadarnhaol.
Rhowch fwy o flaenoriaeth i’ch cynulleidfa ddigidol oherwydd er ein bod ni am gael ymwelwyr corfforol, gall pobl ymgysylltu mewn ffyrdd unigryw ar-lein. Rwy’n credu bod y ddau yn mynd law yn llaw a dydy un o reidrwydd ddim yn well na’r llall.
Edrychwch ar ddulliau dadansoddi cyfryngau cymdeithasol a chynnal arolwg digidol i weld demograffeg eich cynulleidfa, ond hefyd i weld pa gynnwys y mae pobl ei eisiau.
Dydy cynllun cynnwys digidol ddim yn ddogfen 50 tudalen ― i ni, mae wedi golygu deall pa fath o gynnwys rydyn ni am ganolbwyntio arno, ei roi yn y cynllun calendr a sicrhau bod y cydbwysedd a’r lledaeniad yn iawn.
Ceisiwch ddefnyddio cynifer o’ch tîm ag y gallwch chi. Yn benodol, mae staff blaen tŷ yn clywed o lygad y ffynnon gan y gynulleidfa beth y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddo, felly manteisiwch ar hynny.
Rhowch gynnig ar bethau newydd! Os byddwch chi’n rhoi cynnig ar rywbeth a does neb yn ymgysylltu â fe, byddwch chi’n dal i ddysgu wrtho, yn enwedig gyda’r cyfryngau cymdeithasol, mae postiad yno, ac yna mae wedi mynd. Rhowch ganiatâd i chi’ch hun i arbrofi ― bydd rhai’n wych, efallai na fydd rhai’n gweithio; mae’n rhaid i chi roi ychydig o amser iddo. Pan fydd hi’n mynd yn iawn, mwynhewch y gwobrau, hefyd!
I fi, mae wedi bod yn brofiad hynod werthfawr. Rwy’n gwybod bod gan bob un ohonon ni 101 o bwysau arnon ni, ond meddyliwch amdano fe o ran cerrig camu, hyd yn oed os bydd hi’n cymryd amser i gyrraedd yno.
Diolch i Amgueddfa ac Oriel Gelf Nuneaton am y ddelweddau
Browse related resources by smart tags:
Analytics Audience development Digital content Digital Heritage
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How a local museum used data and insight to develop a focused digital content plan (2022) by Trish Thomas and Liz Taylor supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0



