Guide to getting started with Google Analytics 4
1. Rhagarweiniad – dechreuwch arni nawr!
Google Analytics 4 (GA4) yw’r fersiwn nesaf o’r feddalwedd olrhain gwefannau boblogaidd. Mae’n bwysig dechrau arni nawr am y bydd y fersiwn presennol, Universal Analytics (neu fersiwn 3), yn stopio recordio data ar 1 Gorffennaf 2023. Wedi hynny, byddwch chi’n gallu cyrchu eich data am chwe mis cyn iddo gael ei ddiffodd am byth ym mis Rhagfyr 2023. Nid oes modd mudo’ch data olrhain presennol i GA4 felly byddwch chi’n dechrau arni o’r dechrau. Mae’n hanfodol i chi ddechrau recordio data nawr. Os arhoswch chi tan fis Mehefin 2023, dim ond data o’r dyddiad hwnnw fydd gennych chi. Bydd dechrau nawr yn sicrhau bod gennych chi o leiaf flwyddyn o ddata pan ddaw’r fersiwn presennol i’w derfyn.

Mae hefyd o gymorth os ydych chi’n gwybod sut mae GA4 yn gweithio. Mae mor wahanol, fel y bydd yn gwneud i chi feddwl am nodau newydd a gwneud pethau mewn ffordd gwbl newydd. Mae GA4 yn cofnodi llawer mwy o ddata ac yn canolbwyntio ar daith y defnyddiwr. Ei nod yw integreiddio olrhain ar draws ein holl ddyfeisiau a gwneud rhagfynegiadau am yr hyn y bydd defnyddwyr yn ei wneud.
Bydd yr adnodd yma’n esbonio beth yw GA4, pam mae’n mynd i fod o ddefnydd i chi a sut gallwch chi ei osod. Bydd hefyd yn awgrymu llinell amser ar gyfer y terfynau amser y mae angen chi anelu atyn nhw. Mae’r adnodd yma’n mynd i fanylion am sut i osod eich cyfrif GA4 felly gallech chi fod am ddalen-nodi’r dudalen yma er mwyn cyfeirio nôl ati.
2. Beth yw GA4 a sut mae’n wahanol i’r fersiwn presennol?
Rydyn ni’n defnyddio Google Analytics i fesur beth sy’n digwydd ar ein gwefannau. Mae’n dweud wrthyn ni o ble mae ein hymwelwyr yn dod, beth maen nhw’n ei wneud ar ein safle a pha mor aml maen nhw’n dychwelyd. Mae digonedd o opsiynau amgen i Google Analytics i olrhain data eich gwefan, fodd bynnag dyma’r dewis cyntaf i lawer o sefydliad treftadaeth bach i ganolig eu maint am y rhesymau canlynol:
- Mae am ddim! Mae meddalwedd olrhain debyg yn ddrud dros ben
- Rydyn ni i gyd yn ei ddefnyddio ac wedi gwneud ers blynyddoedd lawer
- Mae’n integreiddio’n ddi-dor â Google a’i ddulliau hysbysebu
- Mae’n cynnig gweithreded aruthrol, a gallwn ni ei theilwra
Sut mae GA4 yn gweithio a pham mae’n wahanol
I ddeall sut mae GA4 yn gweithio a pham mae’n wahanol i’r fersiwn presennol, mae gwers hanes gyflym yn helpu. Yn hen ddyddiau’r rhyngrwyd, bydden ni’n defnyddio ffeiliau cofnodi i olrhain ymwelwyr â gwefannau ar y gweinydd lle câi’r tudalennau gwe eu storio. Dim ond yn ôl eu cyfeiriad IP y gallen ni olrhain pobl, a gellid rhannu hyn gyda channoedd o bobl eraill yn yr un bloc o swyddfeydd. Roedd gan y porwr ei hun weithreded a oedd yn golygu na allen ni olrhain defnyddwyr yn llawn. Y gelyn mawr oedd y botwm ‘nôl! Hefyd, roedd y porwr yn storio tudalennau fel nad oedd rhaid iddo fynd nôl i’r gweinydd. Roedd y rhain oll yn golygu nad oedd olrhain gan ddefnyddio ffeiliau cofnodi yn dda.
Ac yna dyma Urchin yn cyrraedd gyda’u holrheinydd gwefannau newydd. Roedd ganddyn nhw syniad gwych. Beth am roi’r feddalwedd olrhain ar bob tudalen a gofyn i borwr yr ymwelydd anfon yr wybodaeth ‘nôl. Dyma’r adeg y dyfeisiwyd dull ‘trawiad tudalen’ (‘page hit’) neu ‘edrych ar dudalen’ (‘page view). Bob tro byddai defnyddiwr yn edrych ar dudalen, byddai cofnod ‘page hit’ yn cael ei anfon at y feddalwedd olrhain. Datrysodd hynny fater y botwm ‘nôl a’r mater tudalennau a storiwyd ond beth am y cyfeiriad IP trafferthus hynny? Sut byddech chi’n cysylltu’r trawiadau tudalennau hynny gyda’i gilydd i greu un sesiwn defnyddiwr unigryw?
Roedd y dechnoleg eisoes yn bodoli. Y ‘cwci’. Cafodd Urchin ail syniad gwych — os byddech chi’n rhoi darn bach o god olrhain, y cwci, ar borwyr defnyddiwr pan fydden nhw’n ymweld â’r wefan, ac yna’n cysylltu hynny gyda’r trawiadau tudalennau — dyna ddyfeisio teclyn olrhain newydd.
Roedd Google o’r farn bod hyn yn wych, ac felly prynodd gwmni Urchin Software yn 2005. Ganwyd fersiwn cyntaf Google Analytics, ‘Urchin from Google’. Yn fuan ar ôl fersiwn dau, rhyddhawyd ‘Google Analytics Classic’. Chwe blynedd yn ddiweddarach, daeth y trydydd fersiwn, Universal Analytics. Pan ddyfeisiwyd Classic, roedd y rhan fwyaf ohonon ni’n defnyddio cyfrifiadur pen desg neu liniadur i bori’r rhyngrwyd. Erbyn 2012 roedden ni’n defnyddio llawer o wahanol ddyfeisiau a sylweddolodd Google fod yn rhaid i ni olrhain pobl ar draws dyfeisiau. Yna, ganwyd ‘Universal’ — sef ffordd o gofnodi dyfeisiau o bob math. Cyflawnwyd hyn drwy gynnig technoleg newydd i berchnogion gwefannau fel dull o olrhain digwyddiadau (‘event tracking’) (felly gallech chi anfon data o gliciadau e-bost er enghraifft), olrhain traws-parth (’cross-domain tracking’) ac olrhain e-fasnach (‘ecommerce tracking’) (i integreiddio meddalwedd archebu trydydd parti) a theilwra dimensiynau (‘custom dimensions’) (i greu dull o olrhain defnyddwyr ar draws dyfeisiau).

Rwy’n cofio gweithio gyda chleientiaid wrth iddyn nhw symud o Classic i Universal. Doedd hi ddim yn hawdd! Y cwestiwn mwyaf cyffredin oedd, pam mae’n rhaid i mi wneud hyn? Gallwn, gallwn i ddweud wrthyn nhw am holl fanteision newid, ond roedden nhw’n hapus ar yr hyn oedd ganddyn nhw ac nid oedden nhw am wynebu’r ffwdan o newid. Beth wnaeth hyn yn anoddach oedd na chafodd Classic ei ‘ddiffodd’. Cadwodd i fynd am flynyddoedd ac yn araf cafodd ei amsugno i Universal.
Mae Google Universal yn rhoi’r gorau i gofnodi data ar 1 Gorffennaf 2023
Mae’n wahanol y tro hwn. Mae dyddiad diffodd ac nid yw cyfrifon yn cael eu huno’n awtomatig. Mae hyn oherwydd:
- Brys y mater — mae Google am symud pawb mor gyflym â phosibl
- Mae’n gynnyrch hollol newydd — nid uwchraddiad yw GA4
Dyna’r ‘gwthio’ i symud i ffwrdd o Universal, fodd bynnag, nid oes llawer iawn o ‘dynnu’r abwyd’ ar hyn o bryd. Ydy, mae GA4 yn cynnig llawer, fodd bynnag mae llawer o bobl heb gael profiad o hynny eto — does dim digon o adnoddau, sesiynau tiwtora nac astudiaethau achos gwych yna eto i’n darbwyllo. Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos bod GA4 yn cynnig rhywbeth sylweddol lai na’r hyn rydyn ni’n gyfarwydd ag ef. Mae hyn oherwydd ei fod yn cofnodi cymaint mwy o ddata fel na all gynnig detholiad o adnoddau parod mwyach. Mater i chi yw creu’r adroddiadau sydd eu hangen arnoch chi. Ffactor arall yw nad yw GA4 yn gyflawn eto; mae nodweddion newydd yn cael eu hychwanegu o hyd. Rhoddais weminar a siaradais am ddisgyniad y gyfradd fownsio (‘bounce rate’) — bythefnos yn ddiweddarach roedd ‘nôl fel nodwedd yn GA4!
Felly pam mae Google Analytics yn newid cymaint? Gadewch i ni edrych ar rai o’r rhesymau tu ôl i hyn.
Dyfodol heb gwcis
Mae pryderon preifatrwydd yn cynyddu. Rydyn ni i gyd yn wyliadwrus ynghylch y posibilrwydd y caiff ein data personol ei ddwyn ac mae gennym ni gyfreithiau i atal hynny, fel GDPR a’r gyfarwyddeb e-breifatrwydd. Mae porwyr gwe bellach yn blocio ystod o gwcis yn weithredol i atal ein data rhag cael ei ddefnyddio. Mae’n rhaid i bob safle gynnig cyfle i optio allan o gwcis erbyn hyn — felly mae’n hawdd iawn i’ch ymwelwyr optio allan o unrhyw fath o ddull olrhain. Mae hyn yn creu problem fawr i feddalwedd olrhain. Os nad oes modd defnyddio cwci mwyach, ai dyma ddiwedd Google Analytics?
Dyma lle mae GA4 yn dod i’r fei. Mae wedi’i lunio ar gyfer y dyfodol ‘di-gwci’.

Sut bydd GA4 yn olrhain defnyddwyr
Mae 4 ffordd mae GA4 yn olrhain defnyddwyr:
- Dull adnabod defnyddwyr (‘User ID’)
- Signalau Google Signals
- Cwcis
- Dysgu peirianyddol (Deallusrwydd Artiffisial/’AI’)
![]()
1. Dull adnabod defnyddwyr (‘User ID’)
Yn gyntaf, yn nhrefn eu blaenoriaeth, mae’r dull adnabod defnyddwyr (‘User ID’). Dyma’r dewis gorau am ei fod yn galluogi olrhain ar draws gwahanol ddyfeisiau. Er enghraifft, os yw eich ymwelydd yn defnyddio ffôn, llechen a gliniadur i ymweld â’ch gwefan, yna bydd y dull hwn yn adnabod yr un person ar draws yr holl ddyfeisiau. Ar hyn o bryd, bydd eich dull olrhain fwy na thebyg yn nodi hyn fel tri defnyddiwr gwahanol.
Caiff y dull adnabod y defnyddiwr (‘User ID’) ei anfon at GA4 drwy fewngofnodiad i’ch safle neu safle trydydd parti fel darparwr archebu ar-lein. Mae’n rhywbeth mae angen i chi ei osod yn weithredol; ni fydd yn gweithio’n ddiofyn. Os oes dull mewngofnodi gennych ar eich safle, yna mae’n bwysig eich bod yn trafod hyn gyda’ch datblygwr gwe neu rywun sy’n gallu ymafael â chodio a Google Tag Manager.
Iawn, gallech chi ddweud, ‘dyw fy ymwelydd ddim yn mewngofnodi hyd nes iddyn nhw brynu rhywbeth ac erbyn hynny mae’n rhy hwyr i’w holrhain’. Fodd bynnag, bydd GA4 yn mynd ‘nôl a nodi popeth mae’r defnyddiwr hwnnw wedi’i wneud yn flaenorol o dan y dull adnabod y defnyddiwr. Felly, bydd fel petai eu bod wedi mewngofnodi cyn gynted ag yr ymwelon nhw â’ch gwefan am y tro cyntaf — stwff pwerus.
2. Signalau ‘Google Signals’
Os na allwch chi roi dull adnabod defnyddwyr ar waith, yr ail ffordd o adnabod rhywun mae GA4 yn chwilio amdani yw signalau ‘Google Signals’. Dyma pan fydd eich defnyddiwr yn mewngofnodi i gynnyrch/gwasanaeth Google fel YouTube, Gmail ac ati ar yr un porwr ac mae dewisiadau hysbysebion wedi’u sbarduno. Gall GA4 gymhwyso’i ddull adnabod defnyddwyr ei hun i’ch defnyddiwr. Mae angen i chi sbarduno Google Signals pan fyddwch chi’n gosod eich cyfrif GA4 (mwy am hyn yn nes ymlaen). Cofiwch fod goblygiadau preifatrwydd i hyn. Darllenwch: Nodiadau cymorth Google ar oblygiadau preifatrwydd
3. Cwcis dyfeisiau
Yn drydydd, os nad oes dull adnabod defnyddwyr na Google Signals, yna bydd GA4 yn troi nôl i’r dull cwci hen-ffasiwn. Os ydych chi’n dibynnu ar hyn ar gyfer eich gwaith olrhain, yna byddwch chi fwy na thebyg yn gweld gostyngiad yn yr ymweliadau dros amser wrth i fwy o bobl optio allan o’r dull olrhain.
Yn olaf, mae dysgu peirianyddol. Os nad oes gan GA4 ffordd o adnabod defnyddiwr a’u sesiwn ar y we, yna gall ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, ‘AI’. Bydd yn dadansoddi eich data GA4 yn y gorffennol, yn edrych ar y patrymau ac yn dyfalu pwy yw defnyddiwr unigol. Byddwn ni’n trafod hyn yn fanylach yn nes ymlaen am nad yw llawer o sefydliadau treftadaeth bach a chanolig eu maint o bosibl yn gymwys ar gyfer y math hwn o olrhain.
Dyma’r newid mawr cyntaf yn GA4 — ceisio osgoi cwcis. Yr ail yw sut mae’r dull olrhain yn gweithio.
4. Ffordd newydd o olrhain
Ydych chi’n cofio’r dull o olrhain ymwelwyr gwefannau drwy nifer y trawiadau tudalennau (‘page hits’) a drafodon ni’n gynharach? Dyma’r dull safonol ers rhyw bymtheg mlynedd. Mae GA4 yn trawsnewid y dull olrhain ac mae’n gwneud hyn mewn ffordd sylfaenol wahanol. I ddeall hyn, mae’n werth ystyried sut gall rhywun ymweld â gwefan.
Mae eich ymwelydd yn clicio ar ddolen mewn e-bost sy’n mynd yn uniongyrchol i adnodd ar eich gwefan (fel hon). Maen nhw’n treulio 30 munud yn darllen, o bosibl yn gwylio ambell i fideo a gwrando ar rywfaint o sain. Yn yr holl amser hwnnw, dydyn nhw ddim wedi gadael y dudalen.
Byddai’r fersiwn presennol o Google Analytics (heb unrhyw osodiad Google Tag Manager clyfar) yn dweud wrthych chi mai ‘bowns’ oedd hyn, trawiad unigryw! Ymweliad ‘gwael’, felly, y mae angen i chi ei osgoi. Mae hyn oherwydd bod y fersiwn presennol yn cyfrif yr achos o lanio ar un dudalen yn unig, ac nid unrhyw ddata arall.
Mae GA4 yn gweithio’n wahanol. Mae’n anfon data am bopeth mae eich ymwelydd yn ei wneud. Bydd yn cofnodi’n union pa mor hir maen nhw ar y dudalen, bydd yn gwybod pa mor bell i lawr y dudalen maen nhw wedi sgrolio, a ydyn nhw wedi chwarae fideos (a faint maen nhw wedi’i wylio) a llawer mwy. Mae GA4 yn gwneud hyn drwy symud i gofnodi popeth fel ‘digwyddiad’. Digwyddiad yw trawiad tudalen, felly sgroliad yw e, neu 10 eiliad ar dudalen, neu hyn yn oed hofran dros fotwm ‘archebu nawr’.Mae hon yn dechnoleg wych, ond i chi mae’n creu ychydig o broblem. Mae’n golygu bod GA4 mor wahanol i’r fersiwn presennol fel na allwch chi ‘mudo’ neu ‘uwchraddio’ yn syml. Yn y bôn, rydych chi’n dechrau eto. Nid yw eich hen ddata ar gael yn GA4. Byddwn ni’n edrych ar hyn ychydig yn nes ymlaen yn yr amserlen arfaethedig ar gyfer trosglwyddo.
Mae GA4 mor wahanol i’r fersiwn presennol fel na allwch chi ‘mudo’ neu ‘uwchraddio’ yn syml. Yn y bôn, rydych chi’n dechrau eto.

Mae GA4 yn olrhain popeth fel digwyddiadau: gwylio fideo, lawrlwytho ffeil pdf, clicio botwm, prynu rhywbeth a chlicio ar ddolen allanol.
3. Gosod GA4
Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hyn, mae gwir angen i chi osod GA4 nawr. Peidiwch â phoeni am eich dull dadansoddi presennol; mae GA4 yn rhedeg ochr yn ochr ag ef. I wirio a yw GA4 wedi’i osod gennych chi, ewch i https://builtwith.com, nodwch eich gwefan a chlicio ‘look up’. Chwiliwch am Google Analytics 4 yn yr adran Google Analytics.

Os nad yw GA4 wedi’i osod gennych chi, ewch i’ch Google Analytics presennol, clicio ar ‘admin’ a chwilio am y ‘GA4 setup assistant’ yn y golofn nodwedd (property).

Cliciwch ar y ddolen yma. Peidiwch â phoeni am glicio hwn a’r botwm nesaf; ni wnaiff dim byd eto. Nesaf cliciwch ar y botwm ‘get started’ o dan ‘I want to create a new Google Analytics 4 property’.

Chwiliwch am yr ardal ‘Optional Setup’. Os yw mewn lliw llwyd ac ni allwch dicio’r blwch yna, mae hynny’n golygu bod eich dull dadansoddi presennol wedi’i osod gan ddefnyddio Google Tag Manager ac mae’n bosibl y bydd angen cymorth arnoch chi. Os gallwch chi dicio’r blwch yna, mae’n golygu eich bod yn defnyddio’r dull gosod tagiau safonol. Y newyddion da yw: os gallwch chi dicio’r blwch yna ac yna clicio ‘create property’, rydych chi’n barod i fynd. Ond peidiwch â chlicio ‘create property’ eto. Cyn i chi dicio’r blwch yna, mae angen i chi ofyn ambell i gwestiwn i chi’ch hun:
- Ydw i’n gwybod sut i ddefnyddio Gwneud Tag Manager?
- Allwn ni dalu datblygwr i wneud y symudiad droson ni?
- Ydy hyn yn rhywbeth hoffwn i ddysgu sut i’w wneud?
Mae Google Tag Manager yn gweithio’n gyfochrog â Google Analytics ac mae’n dod hyd yn oed yn fwy integredig a grymus gyda GA4. Os yw dulliau dadansoddi’r we yn bwysig i’ch rôl, yna mae defnyddio Google Tag Manager yn hanfodol. Byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn gosod GA4 gan ddefnyddio Tag Manager yn hytrach na dewis y blwch ticio yna.
Fodd bynnag, i lawer ohonon ni, does dim yr amser na’r awydd o bosibl gennym ni i ddefnyddio Google Tag Manager. Mae hynny’n iawn. Os nad oes gennych chi’r amser i’w osod a dysgu sut i’w ddefnyddio, yna ni fydd gennych chi’r amser fwy na thebyg i ddefnyddio’r hyn mae Tag Manager yn ei gynnig. Os oes gennych chi ddatblygwr gwe cyfeillgar neu os ydych chi’n defnyddio asiantaeth, gofynnwch iddyn nhw wneud y gwaith gosod drosoch chi. Fel arall, ewch amdani, clicio’r blwch yna a chlicio ‘create property’.
Ble galla i ddod o hyd i GA4?
Mae GA4 wedi’i restru gyda’ch nodweddion dadansoddi eraill o dan All accounts > Properties & Apps.

Camau nesaf wrth osod eich GA4 — gosod eich dulliau olrhain
Nawr bod nodwedd GA4 newydd gyda chi, mae angen i chi wirio’ch gosodiadau olrhain.
Os cliciwch chi ar ‘setup assistant’ o dan admin > property, cewch chi grynodeb o’ch gosodiadau.

Gwiriwch fod GA4 yn rhedeg yn iawn. Bydd yn dweud ‘data flowing’ o dan ‘data collection’.
Mesur helaethach / enhanced measurement
Mae modd olrhain digwyddiadau fel sgrolio drwy dudalennau, cliciau allan, lawrlwythiadau, achosion o wylio fideo a lawrlwytho ffeiliau yn ddiofyn hefyd. Fodd bynnag, bydd angen i chi droi’r rhain ymlaen. Yn admin > property, ewch i ‘data streams’.

Fwy na thebyg, bydd gennych chi un ffrwd yn rhedeg sef yr un ar gyfer eich gwefan:

Gyda llaw: Gall GA4 gofnodi nifer o wefannau ac apiau yn yr un nodwedd.
Cliciwch ar ffrwd data eich gwefan i agor manylion y ffrwd we. O dan ‘Events’, gwelwch chi ‘enhanced measurement’. Cliciwch ar eicon y gogen ac agor y gosodiadau.

Caniatewch y digwyddiadau yr hoffech chi eu holrhain.
Olrhain chwiliadau safleoedd
Byddwn i’n argymell gosod eich dull o olrhain chwiliadau safleoedd nawr hefyd. Hyn yw, pan fo pobl yn defnyddio’r dull chwilio ar eich safle (yn hytrach na chwiliadau sy’n dod yn syth o beiriannau chwilio fel Google). Os oes gweithrededd chwilio gennych chi, gwnewch chwiliad ac edrychwch ar y bar cyfeiriad. Er enghraifft, ar safle CultureHive, mae chwiliad am ‘google analytics’ yn mynd i’r dudalen yma:
https://www.culturehive.co.uk/culturehive-search/?_sf_s=google+analytics
Chwiliwch am y marc cwestiwn yn y bar cyfeiriad a’r hyn sy’n ei ddilyn. Yma mae gennym ni: ?_sf_s=google+analytics
Tynnwch y marc cwestiwn allan, a’r hafal a’r term chwilio. _sf_s sydd ar ôl gennym ni. Mae’n bosibl bydd rhywbeth symlach gyda chi fel ‘s’.
Cliciwch ‘show advanced settings’ o dan ‘Site search’ yn yr olygfa weinyddol ‘Enhanced Measurement’. Yn ddiofyn, mae termau cyffredin fel ‘q’ ac ‘s’ yna:

Os mai term arall sydd gennych chi, rhowch hynny i mewn ar ôl coma, e.e.

Ac yn olaf, cliciwch ‘save’ ar gyfer eich holl ‘enhanced measurements’.
Casglu data
Cliciwch ar ‘Data Settings’ yn y golofn ‘Property’.
Ac yna clicio ‘Data Collection’

Signalau Google Signals
Trowch signalau Google Signals ymlaen os ydych chi am eu defnyddio. Bydd angen i chi gydnabod bod gennych chi bolisi preifatrwydd yn ei le i ymdrin â’r rhain. Os nad oes gennych chi bolisi, edrychwch ar yr arweiniad a’r templed a awgrymir ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu gynhyrchydd polisïau preifatrwydd Termly sy’n ddefnyddiol os ydych chi’n casglu data am ymwelwyr o’r UE, yr UD a Chanada.
Lleoli union fanwl a chasglu data dyfeisiau (‘Granular location and device data collection’)
Gadewch hwn ymlaen; mae hwn yn casglu data am leoliad y defnyddiwr a pha fath o ddyfais maen nhw’n ei defnyddio.
Uwch osodiadau ar gyfer Hysbysebion
Os ydych chi’n defnyddio Google Ads, gwiriwch fod ‘ads personalisation’ ymlaen. Yn ddiofyn, mae’r holl feysydd wedi’u galluogi eisoes. Mae hyn yn caniatáu i chi ddefnyddio cynulleidfaoedd o GA4 wrth dargedu eich hysbysebion.
Cydnabod Casglu Data Defnyddwyr (‘User Data Collection Acknowledgement’)
Dylech chi gydnabod hyn ar ôl i chi wirio’ch polisi preifatrwydd ac mae cydsyniad cwcis yn rhedeg ar eich gwefan.
Cadw data
Dyma’r amser mae GA4 yn cadw cwci’n weithredol fel y gall adnabod ail-ymweliadau. Dim ond dau gyfnod sydd i ddewis o’u plith: 2 fis neu 14 mis. Byddwn i’n argymell dethol 14 mis.
Adrodd dull adnabod
Trafodon ni ychydig yn gynharach sut caiff pobl eu holrhain, a soniwyd am yr opsiwn dysgu peirianyddol newydd. Cyn i chi gyffroi gormod am y posibilrwydd yma, mae newyddion drwg gen i. I’r rhan fwyaf o sefydliadau bach a chanolig eu maint, dydyn ni fwy na thebyg ddim yn pasio’r meini prawf gofynnol o o leiaf 1,000 o ddefnyddwyr dyddiol yn y 7 diwrnod diwethaf yn y 28 diwrnod diwethaf.
Os ydych chi’n cael tua 1,500 o ymweliadau y dydd, yna edrychwch ar y meini prawf eraill:
- Mae angen gosod ‘Consent mode’. Mae hyn yn clymu cydsyniad cwcis â GA4. Os ydych chi’n clicio’r opsiwn ‘no cookies’, yna ni chaiff unrhyw ddata olrhain ei anfon i GA4.
- Mae angen o leiaf 1,000 o ddigwyddiadau dyddiol arnoch chi gyda ‘tracking denied’ am o leiaf 7 diwrnod.

Os ydych chi’n gymwys, ewch i ‘Reporting identity’ yn y golofn ‘admin property’ a dethol ‘Blended’ neu fel arall dylech chi ei adael ar yr opsiwn diofyn, ‘Observed’.
Olrhain ar draws parthau (‘Cross-domain tracking’)
Mae hyn ychydig yn gymhleth ond yn sicr yn werth ei wneud wrth osod. Os oes gennych chi barth arall gyda’ch dull archebu ar-lein fel booking.yourdomain.co.uk neu yourdomain.ticketingsite.co.uk, yna mae’n syniad da gosod y dull o olrhain ar draws parthau, ‘cross-domain tracking’. Cyfarwyddiadau i osod dull olrhain ar draws parthau neu gofynnwch i’ch datblygwr gwe am gymorth.
Cynulleidfaoedd
Ar y pwynt yma, mae’n bosibl y byddwch chi am osod rhai cynulleidfaoedd. Gall cynulleidfaoedd eich helpu i segmentu eich defnyddwyr ac mae’n arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n defnyddio Google Ads. Gallwch chi osod yr amodau y mae angen eu diwallu i berson allu cofnodi cynulleidfa. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd gennych chi segment o ddefnyddwyr sydd wedi ymweld â thudalennau digwyddiadau yn y mis diwethaf ond sydd heb archebu eto. Neu efallai pobl sydd wedi ymweld â thudalen am ddigwyddiad arbennig yr hoffech chi allu eu targedu pan fyddwch chi’n cynnal y digwyddiad eto’r flwyddyn nesaf. Nid pethau gwrtholygol yw cynulleidfaoedd, felly caiff defnyddwyr eu hychwanegu wrth iddyn nhw fodloni’r amodau; allwch chi ddim mynd ‘nôl a rhoi’r bobl a oedd yn arfer bod yn gymwys i mewn i gynulleidfa newydd.
Mae cynulleidfaoedd wedi symud i’r adran ‘Configure’ yn GA4. Gwybodaeth Bellach am Gynulleidfaoedd yn GA4.
Digwyddiadau

Er mwyn deall digwyddiadau yn GA4 mae angen i ni wybod am y pedwar math gwahanol:
- Digwyddiadau sy’n cael eu holrhain yn awtomatig (‘automatically tracked events’)– pethau fel trawiadau tudalennau, achosion o ddechrau sesiwn yw’r rhain
- Digwyddiadau mesur helaethach (‘enhanced measurement events’) – gobeithio y byddwch chi wedi gosod y rhain yn barod (os nad ydych chi, cyfeiriwch at yr adran uchod)
- Digwyddiadau a argymhellir(‘recommended events’) – digwyddiadau yw’r rhain sydd heb eu gosod ond mae GA4 yn eu hadnabod os ydych chi’n defnyddio enw penodol. Mae’r categori yma’n cynnwys achosion o brynu, mewngofnodi ac ymrwymo. Rhestr o ddigwyddiadau a argymhellir. Er enghraifft, os yw rhywun yn ymrwymo i newyddlen, gallwch chi ddefnyddio’r digwyddiad ‘sign_up’ sydd â rhestr sefydlog o baramedrau.
Sut byddech chi’n gwneud hyn? Ewch i ‘Configure > Events’. Cliciwch ‘Create Event’ ac yna clicio ‘Create’. Yn y maes ‘custom event name’ dechreuwch deipio enw a argymhellir i’r digwyddiad, er enghraifft ‘sign_up’.

Yna ychwanegwch yr amodau cyfateb (‘matching conditions’). Yn yr achos yma, rydyn ni am gofnodi’r digwyddiad pan fydd rhywun yn ymrwymo ac yn cyrraedd y cam cadarnhau’r newyddlen. Yr amod gyntaf yw’r digwyddiad ‘page_view’, yr ail, sef teitl y dudalen yna, yw cadarnhau’r newyddlen.

Pam defnyddio digwyddiadau a argymhellir yn lle creu eich digwyddiad eich hun?
Gallwn i ddweud bod cyfyngiad ar nifer y digwyddiadau y gallwch chi eu cael, felly defnyddiwch gynifer o’r rhai ‘am ddim’ ag y gallwch chi! Fodd bynnag, mae deall y rhesymau tu ôl i hyn yn darparu darlun gwell o GA4, felly dyma’r stori.
Gall pob digwyddiad fod â hyd at 25 paramedr. Darn o ddata yw paramedr am y digwyddiad yna, felly gallai digwyddiad clicio botwm fod â data ar y botwm a gliciwyd, y ddolen, y dudalen roedd arni, ac ati. Fodd bynnag, nid yw creu digwyddiad a pharamedr newydd ynddo’i hun yn golygu bod modd casglu data yn rhyngwyneb adrodd GA4. Byddai hynny’n rhy hawdd.
Yn hytrach, rydych chi wedyn yn trosi’ch paramedr yn ddimensiwn ‘custom dimension’. Edrychwch ar hyn drwy fynd i ‘Configure > Custom definitions’. Cliciwch ‘create custom dimensions’. Gallwn ni ychwanegu enw wedi’i deilwra, ond mae’n rhaid i ni ddewis paramedr sy’n bodoli eisoes fel y gwelir yn y sgrinlun.

Er mwyn sicrhau bod y paramedrau rydyn ni’n eu hanfon gyda digwyddiad yn cyrraedd adroddiadau GA4, mae angen i ni eu trosi’n ddimensiynau wedi’u teilwra, (‘custom dimensions’). Dyma ble mae’r terfyn mawr. Dim ond tua 50 o ddimensiynau digwyddiadau y gallwch chi eu cael ac felly byddwch chi’n defnyddio’r rheiny’n eithaf buan os na fyddwch chi’n meddwl yn ofalus am eich paramedrau digwyddiadau — a dyna byddwn ni’n ei ystyried nesaf.
4. Digwyddiadau wedi’u teilwra (‘custom events’) – rydych chi wedi gwirio nad yw’r digwyddiad rydych chi am ei gael yn ddigwyddiad ‘enhanced’ na ‘recommended’ felly mae’n bryd nawr i chi greu digwyddiad wedi’i deilwra (‘custom event’). Mae modd creu’r math yma o ddigwyddiad mewn dwy ffordd:
- Yn adran ‘Configure’ GA4
- Drwy ddefnyddio Google Tag Manager
Os ydych chi’n defnyddio GA4 ar gyfer digwyddiadau ‘custom events’, fe’ch cyfyngir i greu digwyddiad ar sail digwyddiad sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn iawn ar gyfer llawer o ddigwyddiadau, er enghraifft gallech chi fod am gael digwyddiad lle mae pobl yn ymweld â thudalen benodol (fel ymrwymo am ymweld â’r dudalen cadarnhau’r newyddlen). Mae’r digwyddiad yma wedi’i seilio ar olwg tudalen o’r dudalen yna. Ond beth os ydych chi am gael digwyddiad wedi’i seilio ar glicio botwm penodol? Dyma’r adeg mae angen i chi ddefnyddio Google Tag Manager am ei fod yn gadael i chi greu digwyddiad o’r newydd (felly rheswm arall dros roi GTM ar eich rhestr ddysgu).
Os ydych chi’n defnyddio Google Tag Manager: mae’n bosibl y byddwch chi eisoes wedi gosod ‘Events’ ar eich safle presennol, yn arbennig os ydych chi’n defnyddio Google Tag Manager. Pan fyddwch chi’n symud i GA4, gwiriwch ba ddigwyddiadau nad oes angen i chi eu symud gyda chi fel lawrlwythiadau ffeiliau, cliciau allan a sgrolio. Mae’n eithaf posibl y byddwch chi am symud olrhain sgrolio ar draws gan ddefnyddio Google Tag Manager a pheidio â defnyddio ‘enhanced scrolling event’ GA4 am ei fod ond yn sbarduno pan fydd 90% o’r dyfnder wedi’i gyrraedd; mae’n bosibl y byddwch chi am gael rheolaeth drylwyrach dros hyn, dyweder 25%, 50% a 75% o ddyfnder y dudalen.
Trosiadau
Yn GA4 mae nodau (‘Goals’) wedi mynd. Mae’r rhain yn cael eu galw’n drosiadau (‘Conversions’) erbyn hyn ac maen nhw’n llawer haws eu ffurfweddu. Mae trosiadau wedi’u seilio ar ddigwyddiadau (dyna pam y treuliais i gymaint o amser ar Ddigwyddiadau (‘Events’) yn yr adran flaenorol). Felly, crëwch eich digwyddiad yn gyntaf ac yna mynd i ‘Configure > Events’ a marcio’ch digwyddiad fel trosiad gan ddefnyddio’r botwm toglo ar y dde.
Mae mor hawdd creu trosiadau fel y gallech chi gael eich temtio i golli rheolaeth, ond peidiwch â gwneud hynny; rydych chi wedi eich cyfyngu i derfyn o 30.

4. Maglau GA4
Mae sawl terfyn a magl i GA4 ac mae’n werth gwybod amdanyn nhw o’r dechrau er mwyn eich helpu i gymryd y naid.

I ddechrau, byddwch chi fwy na thebyg ychydig yn rhwystredig gyda GA4. Mae llawer o’r adroddiadau rydych chi’n gyfarwydd â nhw wedi mynd ac mae’r rhyngwyneb yn wahanol. Wrth i chi ddechrau gweithio arno, byddwch chi’n sylweddoli mai rhywbeth sydd dal ar waith yw e, gyda gweithrededd newydd yn cael ei hychwanegu o hyd.
Mae’n eithaf posibl y bydd y materion yr eir i’r afael â nhw isod yn diflannu mewn fersiynau yn y dyfodol. Os oes gennych chi ddiddordeb, gallwch chi edrych ar nodweddion newydd ar Google Support.
Yn wreiddiol nid oedd adroddiadau tudalennau na chyfraddau bownsio yn GA4 ond yn ddiweddar maen nhw wedi cael eu cyflwyno yn yr adran ‘Explore’.
Newidiadau i gyfraddau Bownsio
Caiff cyfraddau bownsio eu cyfrifo’n hollol wahanol nawr felly os oeddech chi’n dibynnu arnyn nhw ar gyfer adrodd mae’n werth sicrhau eich bod yn gwybod bod y metrig wedi newid. Mae newidiadau pwysig wedi’u rhestru ar y dudalen Google Support yma.
Yn ‘Universal Analytics’ cafodd y gyfradd fownsio ei chyfrifo o nifer y sesiynau tudalennau sengl, ond yn GA4 canran y sesiynau nad oedden nhw’n sesiynau ymgysylltiedig (‘engaged sessions’) yw hyn. Sesiynau ymgysylltiedig (‘engaged sessions’) yw pan fydd defnyddiwr yn aros am fwy na deg eiliad neu’n cael o leiaf un digwyddiad trosi neu ddwy olwg neu fwy o dudalennau.
Mae pawb yn yr un cwch
Yn Universal Analytics mae gyda chi eich golwg eich hun, lle gallwch chi osod eich hidlau a’ch nodau eich hun yn breifat. Nid yw achosion o wylio ‘Views’ yn bodoli mwyach. Os oes sawl aelod yn eich tîm yn defnyddio GA4, bydd angen i’ch sefydliad fynd i’r afael â’r newidiadau hyn. Caiff y rhain eu trafod yn yr adran mudo graddol (‘phased migration’).

Mae hidlau wedi’u gostwng yn sylweddol yn GA4. Gallwch chi ddiffinio traffig mewnol ac atgyfeiriadau digroeso yn ‘Admin > Data Streams > Configure tag settings > a chlicio ‘show all’.
Yn wahanol i ‘Universal’, nid yw GA4 yn dileu’r data ar gyfer atgyfeiriadau digroeso; mae ond yn eu dileu fel atgyfeiriadau, felly bydd traffig sbam yn dal yn mynd drwodd o bosibl. Wedi dweud hynny, mae’n ymddangos bod gan GA4 hidlau awtomataidd llawer gwell ac mae’n dileu llawer mwy o sbam nag ‘Universal’. Gallai rhagor o hidlau gael eu cyflwyno yn y dyfodol.
Esbonio’r gostyngiad posibl mewn ymweliadau
Unwaith eto, mae’n werth dweud nad yw uwchraddiad yw GA4! Efallai ei fod yn edrych yn debyg ar yr wyneb ond o dan y clawr, mae cynnwys cwbl newydd. Gallai fod adeg (neu mi fydd yna adeg) pan fydd angen i chi esbonio pam mae niferoedd eich ymweliadau wedi gostwng a bydd angen tystiolaeth gadarn arnoch chi i’ch cefnogi.

Sut rydych chi’n mynd i esbonio gostyngiad mewn ymweliadau?
Os ydych chi’n rhedeg y fersiwn presennol a GA4 ar yr un pryd am y flwyddyn nesaf, gallwch fod yn sicr bod yr un data’n cyrraedd y ddau. Os ydych chi’n cymharu adroddiadau allweddol, yna byddwch chi’n gallu dangos bod yr un traffig yn cael ei drin mewn ffyrdd gwahanol rhwng yr hen fersiwn a’r fersiwn newydd. Rydyn ni’n disgwyl gostyngiad mewn traffig yn gyffredinol oherwydd:
- Olrhain ar draws parthau (‘Cross-device tracking’). Ar hyn o bryd, gallai un person ymddangos fel tri oherwydd eu bod yn defnyddio ffôn symudol, llechen a chyfrifiadur pen desg yn y gwaith. Nod GA4 yw adnabod un defnyddiwr yn unig.
- Ni fydd GA4 yn cofnodi ymwelwyr sydd wedi optio allan o gwcis os yw’r dull cydsyniad ar waith
- Bydd GA4 fwy na thebyg yn hidlo mwy o draffig sbam
Mae hwn yn un o’r trwch o bethau y bydd angen i chi baratoi ar eu cyfer dros y flwyddyn nesaf. Byddai mudo graddol (‘phased migration’) yn ddull da i’w fabwysiadu a byddwn ni’n trafod hyn nesaf.
5. Mudo graddol (‘Phased Migration’)
Bydd llawer gennych chi i’w wneud dros yr wyth i ddeuddeg mis nesaf ac mae’n werth torri hynny’n gamau cyflawnadwy gyda therfynau amser. Dim ond fy marn i yw hyn, ond byddwn ni’n awgrymu rhannu eich gwaith mudo yn bedwar cam.
- Cam cynnar (Medi 2022 – Tachwedd 2022)
- Cam canol (Tachwedd 2022 – Chwefror 2023)
- Cam hwyr (Chwefror 2023 – Mehefin 2023)
- Cam ar ôl mudo (Mehefin 2023 – Rhagfyr 2023)
Cam cynnar (Medi 2022 – Tachwedd 2022)
a) Archwilio eich cyfrif Google Analytics presennol

Mae’n bwysig cofio eich bod yn dechrau o’r newydd gyda GA4 felly bydd angen i chi ailosod eich gosodiadau presennol. Mewn dogfen neu daenlen, rhestrwch y rhain os ydyn nhw wrth law gennych chi:
- Nodau
- Digwyddiadau
- Hidlau
- Grwpiau cynnwys
- Segmentau
- Rhybuddion wedi’u teilwra
- Adroddiad wedi’u harbed
Gwiriwch y rhain ar gyfer eich holl ddefnyddwyr — mae’n bosibl bydd gan aelodau o’ch tîm eu rhestrau eu hunain o nodau, hidlau, grwpiau cynnwys, segmentau, rhybuddion ac adroddiadau.
b) Cynllunio strwythur eich cyfrif newydd
Bydd gan sefydliad bach i ganolig ei faint un nodwedd (‘property’) ac un ffrwd we (‘web stream’) fwy na thebyg. Fodd bynnag, os oes gennych chi apiau, mae’n bosibl bydd gennych chi fwy o ffrydiau ac os ydych chi am eu hintegreiddio, mae’n werth trafod hyn gyda’ch datblygwr.

c) Gosod caniatadau defnyddwyr
Nid yw GA4 yn cyfrif achosion o edrych ar dudalennau sy’n golygu bod eich tîm cyfan yn defnyddio’r un set o ddigwyddiadau, trosiadau (nodau), hidlau a grwpiau cynnwys. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig cadw rheolaeth dros sut mae eich cyfrif yn cael ei ddefnyddio. Er enghraifft, dydych chi ddim am i bawb ychwanegu eu digwyddiadau a’u trosiadau eu hunain am fod terfyn penodol. Mae’n werth gosod eich caniatadau defnyddiwr nawr a bod yn glir wrth aelodau’r tîm ynghylch pwy sy’n cael mynediad i beth. Byddai’n dda o beth cael un neu ddau o bobl ar lefel gweinyddwyr / golygydd yn unig. Os oes unrhyw un arall ar eich tîm am ychwanegu trosiad, mae angen iddyn nhw drafod hyn gyda’r gweinyddydd penodedig.
Gallech chi ofyn, pam peidio cael mwy nag un nodwedd (‘property’)? Yna, gallwn ni gael un nodwedd ar gyfer pob person/tîm sy’n gallu gosod eu trosiadau eu hunain. Mae Google wedi awgrymu y byddan nhw’n cosbi sefydliadau sy’n gwneud hyn ac maen nhw’n mynnu mai dim ond os oes gan y nodwedd ychwanegol sail defnyddwyr gwbl wahanol y gallwch chi gael mwy nag un nodwedd. Os oes dwy ran benodol i’ch sefydliad gyda chynulleidfaoedd gwahanol, yna mae hynny’n iawn, ond os yw’r rhannau hynny’n rhannu defnyddwyr, dim ond un y dylech chi ei defnyddio.
d) Galluogi gosodiadau casglu a gwirio data
Dilynwch ran gyntaf yr adnodd yma a gosod GA4.
e) Cynllunio eich strategaeth GA4
Nawr bod gennych chi eich archwiliad, gallwch chi weld sut y gallech chi fudo draw i GA4. Mae teclyn mudo nodau <https://support.google.com/analytics/answer/10762548> ar gael sy’n gallu trosi eich nodau presennol yn ddigwyddiadau a throsiadau’n awtomatig. Mae’n gweithio ar gyfer nodau cyrchfannau (‘destination goals’) a nodau digwyddiadau (‘event goals’), ond nid ar gyfer nodau hyd (‘duration goals’) na nodau clyfar (‘smart goals’). Byddwn i’n awgrymu na ddylech chi ddefnyddio’r teclyn yma. Pam?
- Cofiwch y mathau gwahanol hynny o ddigwyddiadau — nid oes angen mapio ar draws digwyddiadau sy’n awtomatig neu’n rhai ‘enhanced’.
- Mae’n bosibl bod gennych chi ddigwyddiadau sy’n cyfateb i ddigwyddiadau a argymhellir
- Mae terfyn ar nifer y trosiadau, digwyddiadau, a pharamedrau
- Byddwch chi am ailystyried eich amcanion a’ch nodau yn GA4
Gwerthuswch eich nodau
Cyn cynllunio beth byddwch chi’n ei wneud yn GA4, byddwn i’n argymell cael gwybod beth mae’r rhyngwynebau adrodd ac archwilio’n gallu ei wneud.
Bydd gan AMAculturehive fwy o adnoddau cyn bo hir; yn y cyfamser, edrychwch ar y fideo Loves Data yma sy’n wych – neidiwch 15 munud i mewn i’r fideo am fod y rhan gyntaf yn trafod y camau gosod a drafodon ni’n gynharach.
Mae fideo byr hefyd ar y twmffat trosi newydd sef un o’r nodweddion newydd mwyaf pwerus yn GA4.
Nawr eich bod yn deall mwy am y ffordd mae GA4 yn gweithio, efallai yr hoffech chi nodi nodau/trosiadau cwbl newydd.
Mae GA4 yn llawer mwy union fanwl — gallwch chi olrhain llawer mwy o bethau, felly gallech chi fod am feddwl am nodau newydd ar y pwynt yma.
Gallech chi fod am osod nodau ymgysylltu newydd er enghraifft, fel eich bod yn gwybod pwy yw eich defnyddwyr mwyaf ymgysylltiedig.
Sut i fudo Nodau o Universal i GA4
Os oes nodau rydych chi am eu mudo o Universal i GA4, dyma ganllaw sut i wneud hyn eich hun fesul cam:
Edrychwch ar eich rhestr o nodau presennol — gwiriwch a yw unrhyw rai o’r rhain yn ddigwyddiadau awtomataidd, uwch (‘enhanced’) neu’n rhai a argymhellir. Er enghraifft, mae’n bosibl bod gennych chi nod ar gyfer ymrwymiadau i newyddlen neu lawrlwythiadau.
Cymerwch y nodau sy’n weddill. Os mai nodau cyrchfan ydyn nhw e.e. os oes rhywun yn cyrraedd tudalen benodol, gellid gosod y rhain fel digwyddiadau wedi’u teilwra (‘custom’) yn GA4 a’u marcio fel trosiadau.
Unrhyw nodau wedi’u seilio ar ddigwyddiadau? Byddwn i’n argymell cadw pethau’n syml drwy gadw’r pedwar paramedr sydd eisoes yn cael eu defnyddio yn Universal: categori, cam gweithredu, label a gwerth. Mewn gwirionedd, os ydych chi’n defnyddio darparwr e-bost swmpus fel MailChimp, yna bydd y rhain yn parhau i gael eu hanfon ar eich ymgyrchoedd.
Yn ymarferol, gallwch chi osod pa bynnag baramedrau ag y mynnwch, felly os ydych chi’n defnyddio Google Tag Manager ac am archwilio ymhellach, edrychwch ar y sesiwn diwtora fideo yma ar osod paramedrau.
Nodau wedi’u seilio ar hyd – edrychwch ar y metrigau ymgysylltu newydd fel amser ymgysylltu. Eto, defnyddiwch ddigwyddiadau wedi’u teilwra (‘custom’) i osod eich set newydd o ddigwyddiadau ymgysylltu.
f) Gwerthuso eich cynulleidfaoedd
Os ydych chi’n defnyddio cynulleidfaoedd ar hyn o bryd, bydd angen i chi ail-greu’r rhain yn GA4. Yn anffodus, nid oes teclyn mudo cyfleus (ar adeg llunio’r darn yma). Os oes gennych chi gynulleidfaoedd wedi’u seilio ar ddimensiynau ‘custom’, bydd angen ail-greu’r rhain hefyd.
g) Hyfforddiant
Byddwn i’n awgrymu mai dim ond rolau’r gweinyddydd a’r golygydd ddylai ymgymryd â hyfforddiant neu sesiynau tiwtora hunan-ddysgu ar y pwynt yma. Nid yw’n werth hyfforddi aelodau eraill o’r tîm hyd nes i chi wybod bod popeth yn gweithio ac mae gennych rai adroddiadau wedi’u gosod.
Ar y pwynt yma, nid oes digon o ddata yn GA4 i wneud unrhyw adrodd nac archwilio gwerth chweil felly byddwch chi’n canolbwyntio ar yr adrannau gweinyddol ‘Admin’ a ffurfweddu ‘Configure’ yn unig.

h) Gosod eich digwyddiadau a’ch trosiadau
Nawr eich bod wedi cael rhywfaint o hyfforddiant, gallwch chi fwrw ymlaen a gosod eich digwyddiadau/trosiadau a’ch cynulleidfaoedd. Talwch sylw i’r digwyddiadau ‘enhanced’ a’r digwyddiadau a argymhellir hynny ac i’r terfynau ar drosiadau a pharamedrau.
i) Gosod eich cynulleidfaoedd
Mae GA4 yn cynnig cynulleidfaoedd a awgrymir fodd bynnag byddwch chi fwy na thebyg am ddechrau o’r newydd a chreu cynulleidfa wedi’i theilwra gan ddefnyddio set o amodau.
j) E-fasnach a dull adnabod defnyddwyr (‘User ID’)
Dyma’r adeg i siarad â’ch asiantaeth, datblygwr a/neu gyflenwr meddalwedd docynnau trydydd parti. Gofynnwch sut gallan nhw osod metrigau e-fasnach i chi a chytunwch ar gynllun gweithredu. Gallai hyn gymryd amser hir i’w roi ar waith felly mae’n werth dechrau mor gynnar â phosibl. Mae rhai cyflenwyr tocynnau ymhell ar y blaen ac wedi darparu haenen ddata ar gyfer olrhain e-fasnach. Siaradwch â’ch datblygwr am wneud defnydd o hyn yn GA4.
Cam canol (Tachwedd 2022 – Chwefror 2023)
a) Hyfforddiant
Nawr bod gennych ddigon o ddata yn dod i mewn, mae’n bryd cynnal y sesiwn hyfforddiant nesaf. Y tro yma, mae angen i chi ganolbwyntio ar adroddiadau a’r adran archwilio ‘Explore’.
b) Gwerthuso eich gwaith gosod
Ar ôl cael hyfforddiant, byddwch chi’n gallu gwerthuso’ch gwaith gosod cychwynnol. Ydych chi’n cael y data rydych chi am ei gael? Sut mae’r trosiadau a’r cynulleidfaoedd yn dod yn eu blaen?
c) Diweddaru digwyddiadau, Trosiadau a chynulleidfaoedd
Os oes angen, gwnewch rai newidiadau i’ch ffurfweddiad.
d) Mynd ar drywydd materion gosod
Os ydych chi’n defnyddio adrodd e-fasnach, a yw’n gweithio? Ydy dulliau mewngofnodi a dulliau adnabod defnyddwyr yn gweithio?
e) Cymharu cyfrifon Universal a GA4

Oes gostyngiad yn y defnyddwyr wedi bod yn GA4? Allwch chi weld unrhyw wahaniaethau eraill? Sicrhewch eich bod yn cofnodi’r rhain, fel bod gennych chi dystiolaeth gadarn cyn i Universal gael ei ddiffodd.
f) Cynllun archifo
Bydd angen i chi alldynnu eich holl ddata presennol cyn i Universal gael ei gau i lawr ym mis Rhagfyr 2023. Nid oes modd mudo’r data yma, a bydd angen i chi ei lawrlwytho, un adroddiad ar y tro gan ddefnyddio Google Sheets, Excel neu CSV.
Gallai hyn fod yn dipyn o her, yn arbennig os oes gennych chi ddata sy’n mynd nôl dros lawer o flynyddoedd a nawr yw’r amser i holi faint rydych chi am ei gadw. Mae’n bosibl bydd angen i chi gynllunio amser rhwng Mehefin – Tachwedd 2023 i alldynnu’ch data (neu efallai dod o hyd i wirfoddolwr parod).

Cam hwyr (Chwefror 2023 – Mehefin 2023)
Byddwn i’n awgrymu’r gweithgareddau hyn yn eich cam olaf cyn symud draw i GA4:
- Terfynwch a chreu adroddiadau wedi’u teilwra (‘custom’)
- Crëwch gasgliad newydd os hoffech chi wneud hynny
- Crëwch adroddiadau ‘Explore’ a’u rhannu gyda’ch tîm
- Crëwch adroddiadau ‘Data Studio’
- Hyfforddiant i bawb
- Diweddarwch Ddigwyddiadau, Trosiadau, Cynulleidfaoedd a Hidlau
Cam ar ôl mudo (Mehefin 2023 – Rhagfyr 2023)
Gweithgareddau ar ôl i chi symud:
- Lawrlwythwch ac archifo’ch data hanesyddol
- Gwerthuswch eich gwaith gosod GA4 a’ch adroddiadau
- Gwiriwch a oes angen unrhyw hyfforddiant pellach

6. Prif gynghorion
Mae GA4 yn peri ambell i her, fodd bynnag y peth gorau yw mynd ati gyda’r newid gyda dealltwriaeth o sut mae’n gweithio a’r wybodaeth eich bod yn dechrau o’r newydd.
Y pethau allweddol i’w gwneud yw:
- Gosod GA4 a’i gael ar waith cyn gynted â phosibl
- Archwilio eich cyfrif dadansoddi presennol
- Cael hyfforddiant ar yr elfennau gweinyddu a ffurfweddu yn gyntaf (os mai chi sy’n ei osod; fel arall talwch rywun i’ch helpu)
- Defnyddio cyfrif enghreifftiol i gael synnwyr o’r hyn mae GA4 yn gallu ei wneud
- Cynllunio sut byddwch chi’n mudo o Universal i GA4. Penderfynwch ba nodau a chynulleidfaoedd mae angen eu cadw a pha rai newydd mae angen i chi eu hychwanegu ar sail sut mae GA4 yn gweithio.
- Gosod eich Digwyddiadau, Trosiadau a Chynulleidfaoedd mor fuan ag y gallwch chi (ond cynlluniwch yn gyntaf; peidiwch â rhuthro i osod y rhain os nad ydych chi’n sicr)
- Cael hyfforddiant ar weddill GA4 ar ôl iddo fod ar waith gyda chi am rai misoedd (canolbwyntiwch ar adrodd ac archwiliadau)
- Cymharu eich adroddiadau Universal a GA4 tra bod yr un traffig yn mynd i mewn i’r ddau gyda chi
- Rhoi cynllun at ei gilydd ar gyfer archifo’ch data hanesyddol (ni allwch chi gadw hyn ar GA4)

Cydnabyddiaeth am y delweddau: Manfred Steger
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "Guide to getting started with Google Analytics 4 (2022) by Paul Blundell supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






