
Accessible Marketing Guide
1. Rhagarweiniad
Ystyr hygyrchedd yw i ba raddau mae cynnyrch, dyfais, gwasanaeth neu amgylchedd ar gael i gynifer o bobl â phosibl. Pan fyddwn ni’n sôn am hygyrchedd, rydyn ni’n sôn am ddileu’r rhwystrau sy’n atal rhywun rhag cael mynediad i rywbeth.
Mewn marchnata, mae hyn yn berthnasol i’n gwefannau, ein deunyddiau print neu farchnata a’n cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â’r copi ysgrifenedig, delweddau, fideos a chyfryngau eraill rydyn ni’n eu defnyddio ar draws yr holl lwyfannau hyn.
Pam ddylech wneud eich dulliau marchnata’n hygyrch?
Ein cyfrifoldeb ni yw dylunio a chynnal gweithgarwch marchnata mewn ffyrdd sy’n golygu bod modd i gynifer o bobl â phosibl ei ddefnyddio, ni waeth beth yw’r cyd-destun. Gallai rhai pobl fod o’r farn bod hygyrchedd yn ôl-ystyriaeth ond dylid ei gynnwys o’r dechrau am ei fod o fudd i grŵp mawr o bobl.
Mae hygyrchedd yn helpu pobl anabl a phobl hŷn yn fwyaf uniongyrchol ond mae dylunio cynhwysol yn fanteisiol i bob cynulleidfa. Ymhlith yr enghreifftiau posibl o hyn mae’r ffordd y gall sgriniau cyferbyniad uchel helpu pobl i weld mewn heulwen lachar, sut mae angen is-deitlau ar gyfer pobl sy’n gwylio fideos ar drenau swnllyd; mae defnydd syml o Saesneg yn helpu’r bobl hynny nad ydyn nhw’n defnyddio Saesneg fel iaith gyntaf ac mae dylunio glân yn cynorthwyo darllenadwyedd i bawb – mae dylunio gyda pherson anabl mewn cof hefyd yn gallu bod yn fanteisiol i bobl eraill.
Mae gan oddeutu biliwn o bobl o amgylch y byd (sef 15% o gyfanswm poblogaeth y byd) ryw fath o nam ac mae cynnwys anawsterau dros dro a sefyllfaol yn y niferoedd hyn yn cynyddu’r nifer yn sylweddol. Mae ffyrdd cyffrous a deniadol o wneud eich digwyddiadau, eich arddangosfeydd a’ch perfformiadau’n fwy hygyrch, ac yn y pen draw gwasanaethu cynulleidfa fwy amrywiol. Dylech gadw llygad ar eich gilydd a bod yn atebol; nid ôl-ystyriaeth yw hygyrchedd. Cyfrifoldeb tîm yw e; cyfrifoldeb cymdeithasol a gofyniad cyfreithiol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n gwarchod pobl rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac mewn cymdeithas ehangach.
2. Yr hanfodion sylfaenol
Ateb y galw o’r dechrau
Mae mynediad i bobl anabl yn ymwneud â’ch sefydliad chi’n gwneud ei brif ddeunyddiau marchnata’n hygyrch; nid yw’n ymwneud â fformatau amgen yn unig.
Peidiwch â chymryd dim yn ganiataol
Nid yw pob person anabl yn ystyried ei hun yn anabl. Yn aml, ni fyddai pobl hŷn sydd ag ystod o namau byth yn meddwl edrych ar dudalen wedi’i labelu ‘anabledd’ neu ‘hygyrchedd’; nid yw pob anabledd yn weladwy ac nid yw pob person anabl am esbonio’i anabledd, felly peidiwch â gwneud gwybodaeth hygyrchedd yn ymylol.
Mae iaith yn bwysig
Crëwch ganllaw iaith fel bod pawb yn eich sefydliad yn defnyddio’r un geiriau yn yr un cyd-destun – ac yn bwysicach na hynny, gwybod pam maen nhw’n gwneud hynny. Bydd Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd i’ch sefydliad yn helpu’r ymarfer hwn. Yn y DU, mae’r rhan fwyaf o’r sector celfyddydau’n ei chael yn fwy defnyddiol dweud ‘person anabl’ na ‘person ag anabledd’ yn ôl y model cymdeithasol o anabledd.
Cymraeg Clir a Plain English
Cofiwch ddefnyddio iaith syml, glir, a phlaen fel bod modd ei deall yn hawdd. Gyda Saesneg, gwiriwch oedran darllen eich copi am ddim ym Microsoft Word i bennu Gradd Lefel Flesch-Kincaid (sef y flwyddyn ysgol mae’ch ysgrifennu’n briodol ar ei chyfer). Dylech anelu at sgorio 8 ar raddfa Flesch-Kincaid (sef oedran darllen cyfartalog 13 oed). Mae adnoddau ar gael yn hyn o beth drwy ganllawiau Cymraeg Clir a’r Plain English Campaign.
Arddull ysgrifennu
- Byddwch yn gryno a defnyddio brawddegau byr a syml.
- Ceisiwch beidio â defnyddio ymadroddion a allai fod yn ddryslyd, fel negyddion dwbl yn Saesneg.
- Ystyriwch ddefnyddio pwyntiau bwled a rhifau os oes rhestrau o fwy na thri pheth. Torrwch destun hirach i lawr a defnyddio penawdau adrannau yn aml, ac, ar gyfer dogfennau hirach (fel hon), rhowch dabl cynnwys i mewn.
Testun amgen ar gyfer delweddau a chyfryngau eraill
Mae opsiwn i ychwanegu ‘testun amgen (alt text‘) ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter ac Instagram ac ar y rhan fwyaf o lwyfannau golygu gwefannau/CMS. Mae testun amgen yn disgrifio’r ddelwedd ar gyfer pobl ddall neu â golwg rhannol a allai fod yn defnyddio sgrin-ddarllenwyr (math o dechnoleg gynorthwyol sy’n cael ei defnyddio’n aml gan bobl sydd â nam ar eu golwg, neu sydd â dyslecsia). Gweler yr adnoddau ar dudalen 7 am fwy o wybodaeth am sut i ysgrifennu testun amgen ac arfer gorau.
Nodiadau cynnwys
Mae nodiadau cynnwys, sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘rhybuddion sbardun’ neu ‘wybodaeth gynnwys’ yn nodiadau sy’n cael eu hysgrifennu ar frig cynnwys i dynnu sylw eich cynulleidfa at themâu yn y gwaith. Mae modd eu defnyddio i hysbysu’ch cynulleidfa bod materion a allai beri trallod o bosibl fel eu bod yn gwybod ymlaen llaw ac yn gallu osgoi’r mater os dyna’u dewis.
Llofnodion e-bost
Mae eich llofnod e-bost yn cael ei ddefnyddio’n gyson felly mae’n bwysig bod hyn yn glynu wrth safonau hygyrchedd. Mae hyn yn golygu defnyddio ffont 12 clir nad yw mewn print italig, priflythrennau nac yn defnyddio lliw golau nad yw mor weladwy. Efallai y byddwch chi’n dewis cynnwys eich oriau gwaith a’ch rhagenwau. Fel mae Stonewall yn ei nodi, rhagenwau yw “geiriau rydyn ni’n eu defnyddio i gyfeirio at rywedd pobl mewn sgwrs – er enghraifft, ‘ef’ neu ‘hi’. Gallai fod yn well gan rai pobl bob pobl eraill yn eu galw’n ‘nhw’ mewn iaith sy’n niwtral o ran rhywedd, a defnyddio rhagenwau fel ‘nhw/eu a ze/zir.” Os ydych chi’n gweithio y tu allan o oriau gwaith arferol y sectorau celfyddydau (dechrau 9-10am, gorffen 5-6pm), mae hon yn ffordd dda o osod ffiniau ynghylch pryd gallwch chi ymateb.
Gofyn
- Ymgynghorwch gyda phobl anabl. Mae hyn yn allweddol nid yn unig i wneud pethau’n iawn ond hefyd i greu cynulleidfaoedd.
- Gofynnwch am adborth, yna’i ddefnyddio i gymryd camau. Gwahoddwch bobl i ofyn am ffurfiau gwahanol a pheidiwch â gwneud i hyn swnio fel bwrn. Er enghraifft, dywedwch ‘gofynnwch i ni am yr wybodaeth hon mewn ffurfiau amgen’ yn hytrach na ‘mae’r wybodaeth hon ar gael mewn ffurfiau amgen ar gais’.
- Byddwch yn ymwybodol pa ffurfiau amgen y gallwch eu darparu, pa mor hir y bydd yn ei gymryd i chi eu cynhyrchu ac efallai y bydd angen rhywfaint o gyllideb ychwanegol arnoch chi i’w creu. Byddwch yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i chi wneud hyn yn ôl y gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010).
3. Gwefannau
Rhai pethau sylfaenol i’w hystyried wrth wirio a yw eich gwefan yn hygyrch yw:
- Sicrhewch fod gennych destun amgen ar gyfer delweddau a chapsiynau ar gyfer fideos.
- Nid yw llawer o sgrin-ddarllenwyr yn darllen fformat italig felly osgowch hyn.
- A allwch chi lywio ar draws eich gwefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig?
- A allwch chi weld ble ydych chi ar y sgrin drwy lywio’ch bysellfwrdd yn unig?
- A yw maint y ffont yn fwy na 12 fel y ffont safonol ac a yw pobl yn gallu ei wneud yn fwy yn hawdd? Ystyriwch gynnwys y gallu i wneud y ffont yn fwy. A oes dal modd darllen y testun gan ddefnyddio meintiau ffont mwy?
- Os ydych chi’n newid lliw’r dangosydd i raddlwyd, ydych chi’n dal i allu gweld popeth?
- Dewiswch dudalen a gwirio a yw’n dal i edrych yr un peth gan ddefnyddio ystod o borwyr gwe.
- Ceisiwch ddefnyddio porwr llais neu borwr testun (mae opsiynau am ddim ar gael ar-lein)
Sut gallwn ni fynd ati i wneud ein gwefannau’n hygyrch?
- Os ydych chi’n creu gwefan newydd neu’n datblygu un sydd gennych yn barod, dylech gynnwys mynediad ym mriff dylunio’ch gwefan o’r cychwyn. Edrychwch ar fenter Web Accessibility Initiative y Worldwide Web Consortium (WC3) (WAI a’u graddfa A, AA neu AAA) i weld pa mor dda neu wael mae eich gwefan bresennol yn ôl eu teclynnau gwerthuso.
- Cynnal ymchwil: Cyfwelwch â phobl i ddeall yn well beth yw eu galluoedd, sut maen nhw’n defnyddio’r rhyngwyneb a sut gallai rhywbeth eu heithrio neu eu cynnwys a chael ymdeimlad o’u rhwystrau wrth iddynt ryngweithio gyda thechnoleg.
- Sicrhewch eich bod yn adolygu eich dyluniad gydag arbenigwyr yn ogystal ag adolygu dyluniadau ymysg cymheiriaid a chyda phobl y tu allan i’r prosiect er mwyn cael barn ddiduedd.
- Unwaith i chi gasglu ymchwil, gallwch ddefnyddio hyn i greu syniad o’r defnyddwyr posibl, gan gynnwys yr anghenion hygyrchedd hyn.
- Yna gallwch ddechrau ychwanegu atebion gyda datblygwyr gwe pan fyddwch chi’n gwybod i bwy rydych chi’n dylunio.
- Ystyriwch sut orau i gynnwys egwyddorion dylunio o ran cyffyrddiad, gwelediad a symudiad, cynnwys, strwythur, lliw, teipograffeg a dylunio llywio.
Uwchddolenni
- Dylech osgoi defnyddio ‘cliciwch yma’. Yn hytrach, disgrifiwch i ble mae’r ddolen yn mynd â rhywun, e.e. rhowch uwchddolen i’r ymadrodd ‘rhagor o fanylion am ein sioe nesaf.’
- Sicrhewch fod bwlch rhwng teitlau dewislenni a dolenni eraill.
Uwchlwytho dogfennau i’ch gwefan
- Dylech gynnwys dogfennau Word a PDF fel lawrlwythiadau am nad yw rhai sgrin-ddarllenwyr yn gallu sganio ffeiliau PDF.
- Rhowch enwau call, mae modd eu darllen, i’r ffeiliau, fel ‘Cwestiynau a Ofynnir yn Aml wrth ymgeisio’ yn lle ‘Appl1122 _b’ am fod hyn yn helpu pobl ddall neu bobl â nam ar eu golwg sy’n defnyddio sgrin-ddarllenydd.
- Mae dogfennau testun plaen yn syml, ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddelweddau, fformadu testun cyfoethog na dolenni wedi’u gwreiddio. Yn dibynnu sut rydych chi’n dylunio’ch dogfennau, mae’n bosibl na fydd angen hyn. Er nad yw’r dogfennau hyn yn cynnwys unrhyw elfennau dylunio ffansi, mae’n well gan bobl sy’n defnyddio sgrin-ddarllenwyr eu derbyn. Mae’n beth da o hyd i roi’r holl benawdau mewn un maint a’r holl destun mewn maint arall. Os caiff y rhain eu llunio’n iawn, mae’n helpu sgrin-ddarllenwyr a defnyddwyr testun i leferydd i ddadelfennu’r cynnwys, felly mae’n haws gwrando arno am fod llawer ohonynt yn gallu adnabod beth yw teitl, pennawd adran a/neu destun corff dogfen.
4. Deunyddiau printiedig
Gall cyfathrebiadau marchnata printiedig fod yn ddeniadol ac yn hygyrch. Cadwch eich dyluniadau’n glir, yn syml ac yn ddi-lol.
Delweddau
- Dangoswch eich ymrwymiad i gydraddoldeb gyda delweddau sy’n cynnwys pobl anabl a dangos eich darpariaethau hygyrchedd.
- Peidiwch â rhoi testun dros ddelweddau am fod hyn yn ei gwneud yn anodd ei ddarllen; ac ni all sgrin-ddarllenwyr ei ddarllen.
Maint a fformadu testun
- Ffont pwynt 12 yw’r safon ofynnol, a chynghorir defnyddio 14 – mae hyn yn cynnwys capsiynau’r delweddau a chredydau logo. Nid dim ond pobl â nam ar eu golwg sy’n manteisio drwy hyn; mae llawer o bobl yn cael trafferth gyda theip eithriadol o fach.
- Dylech osgoi ffont italig a defnyddio print trwm yn lle. Nid yw ffont italig yn hygyrch i bobl â nam ar eu golwg na dyslecsia: mae bron 2 filiwn o bobl yn y DU yn byw gyda cholled golwg; mae dyslecsia ar 10% o’r boblogaeth.
- Ceisiwch beidio â defnyddio ffontiau seriff na ‘llawysgrifen’ na phriflythrennau ar gyfer blociau hir a pharhaus o destun; maent yn anodd eu darllen.
- Dylech osgoi defnyddio priflythrennau bloc na defnyddio llythrennau bach mewn blociau parhaus o destun/rhyddiaith am yr un rheswm.
- Aliniwch y testun i’r chwaith, heb ei sythu ac osgowch ddefnyddio llawer o golofnau.
Cyferbynnu lliwiau
- Dylai’r cyferbyniad rhwng cefndiroedd lliw a thestun wedi’i osod drosto fod o leiaf 25%. Mae hyn yn golygu peidio â defnyddio unrhyw liwiau golau ar gefndir golau.
- Gall fod o gymorth defnyddio cefndir un lliw yn hytrach na chefndir amryliw neu batrymog.
- Ystyriwch olwg â nam lliwiau (pobl liwddall) a’r lliwiau sy’n cael eu drysu amlaf, e.e. coch/pinc a gwyrdd (gweler yr adnoddau ar dudalen 7 am ragor o wybodaeth yn hyn o beth). Mae gan feddalwedd Adobe nodweddion cynhenid, sy’n gallu efelychu lliwddallineb fel bod dylunwyr yn gallu prawfddarllen gwaith celf o safbwynt gwahanol fathau o liwddallineb a gwirio hygyrchedd palet lliwiau.
Papur
- Defnyddiwch bapur matte am fod gorffeniad sgleiniog yn aml yn rhy adlewyrchol. Mae pwysau papur isel yn dangos testun o’r cefn ac mae’n gallu bod yn dila i’w ddal.
- Mae plygiadau cymhleth mewn taflenni yn gallu cuddio testun a delweddau, ond hefyd, mae plygiadau cymhleth mewn taflenni’n gallu ei gwneud yn anodd eu hagor/dadblygu ac yn drafferthus i’w hailosod (h.y. fel plygiad consertina map printiedig).
- Mae maint yn bwysig – os yw’r print yn rhy fawr mae’n anodd ei ddatod; os yw’n rhy fach, ni fyddwch yn gallu gosod ffont o faint digon mawr.
5. Fformatau hygyrch
Print bras
- Yn ddiofyn, print mawr yw pwynt 18, a 16 yw’r maint gofynnol.
- Weithiau, gelwir pwynt 24 yn ‘brint anferth’.
- Dylech osgoi ffontiau ffansi, ffont italig a blociau mawr wedi’u hamlygu neu mewn priflythrennau.
Recordiadau sain
- Gallwch greu fersiynau sain o’ch deunyddiau marchnata, y mae modd eu lawrlwytho wedyn o’ch gwefan neu eu gwreiddio ynddi.
- Sicrhewch fod pob recordiad yn dechrau gyda disgrifiad clir o’r hyn y byddwch yn ei drafod yn y recordiad hwnnw.
- Torrwch ddogfennau mawr yn ffeiliau ar wahân ar gyfer pob pennod neu adran.
- Darparwch drawsgrifiad gyda’ch sain-ddisgrifiad (ddim ar ffurf PDF yn ddelfrydol ond mewn ffeil destun neu Word y gellir ei lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio meddalwedd ar-lein i gynhyrchu trawsgrifiadau o ffeiliau sain Saesneg yn awtomatig, er y bydd angen eu golygu rhywfaint wedyn i wirio am wallau teipio).
Braille
Mae llawer o bobl ddall ac â nam ar eu golwg yn defnyddio fformatau sain erbyn hyn yn lle Braille; mae llai nag 1% o’r ddwy filiwn o bobl â nam ar eu golwg yn y DU yn defnyddio Braille. Dylai sefydliadau weithio gyda’u poblogaethau pobl ddall ac â nam ar eu golwg yn lleol er mwyn pennu pa fformatau sy’n gweddu orau i’w hanghenion.
Nod Braille yw cael ei ddarllen drwy’r bysedd yn hytrach na’r llygaid. Cod yw e, ar sail chwe dot, wedi’u trefnu mewn dwy golofn o dri dot. Mae dwy radd o Braille:
- Anghywasgedig (Gradd 1 gynt): trosiad llythyr am lythyr o’r print, ac mae’n cynnwys yr wyddor, rhifau ac atalnodau;
- Cywasgedig (Gradd 2 gynt): fersiwn cywasgedig sy’n lleihau maint dogfennau Braille tua 25 y cant, ac ar y cyfan yn cynyddu cyflymder darllen. Gallwch brynu’r cit a chynhyrchu Braille yn fewnol neu gallwch ddefnyddio asiantaeth i’ch helpu – chwiliwch am ‘trosi testun i Braille.’
Canllawiau Hawdd eu Deall
- Am ddarnau mwy parhaol o brint (fel map o’ch lleoliad neu ganllaw i gasgliad parhaol), gallech greu Canllaw Hawdd ei Ddeall.
- Mae gwybodaeth Hawdd ei Deall wedi’i dylunio ar gyfer pobl ag anabledd dysgu sy’n hoffi geiriau sydd wedi’u hysgrifennu’n glir, gyda lluniau er mwyn eu helpu i ddeall. Gallwch ddefnyddio asiantaeth arbenigol i greu Canllaw Hawdd ei Ddeall neu gallwch greu un eich hun gan ddefnyddio templedi ac arweiniad sydd ar gael ar-lein.
- Mae Canllawiau Hawdd eu Deall yn tybio bod rhyw lefel o ddarllen gan y defnyddiwr felly gallech hefyd ddarparu fformatau hygyrch eraill fel sain neu fideo.
6. Cyfryngau cymdeithasol
Ni allwn reoli ymrwymiad gwefannau allanol at hygyrchedd ond gallwn dynnu sylw os nad yw gwefan yn hygyrch a gall yr adborth yma gyfrannu at gamau gan lwyfannau i wella hygyrchedd.
- Mae Facebook yn cynhyrchu testun amgen yn awtomatig ar gyfer delweddau ond mae’n bosibl y byddwch am olygu hyn i ddarparu gwell disgrifiad o’r ddelwedd. Sut i olygu testun amgen (drwy Facebook).
- Os ydych yn uwchlwytho fideos drwy lwyfan fideos Facebook, gallwch ddarparu capsiynau. Mae hyn yn bwysig ar gyfer hygyrchedd ond hefyd, mae llawer o bobl yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol heb y sain ymlaen felly mae capsiynau’n gwneud cynnwys yn hygyrch i gynulleidfa ehangach. Sut i ychwanegu capsiynau i fideo (drwy Facebook).
- Defnyddiwch yr opsiwn testun amgen i ddisgrifio’ch delwedd yn fras.
- Dylech osgoi ysgrifennu negeseuon trydar neu frawddegau cyfan mewn priflythrennau.
- Sicrhewch fod delweddau’n cael eu defnyddio fel ategion ac nid yn rhan o’ch trydariadau e.e. Mae llun o berfformiad blaenorol wrth hyrwyddo un newydd yn iawn, ond nid e-daflen sy’n cynnwys yr wybodaeth destun.
- Mae rhai ’emojis’ yn iawn hefyd, ond nid yw gormod ohonynt yn dda ar gyfer sgrin-ddarllenwyr.
- Dylid rhoi priflythyren ar gyfer llythyren gyntaf pob gair mewn hashnod, fel y gall sgrin-ddarllenydd wahaniaethu’r geiriau a’i gwneud yn haws eu darllen. Er enghraifft: #CanllawMarchnataHygyrch.
- Defnyddiwch yr opsiwn testun amgen i ddisgrifio’ch delwedd yn fras.
- Peidiwch â rhoi capsiwn mewn priflythrennau i bopeth; mae hyn yn anoddach ei ddarllen yn gyffredinol, ac mae hefyd yn anoddach i sgrin-ddarllenydd ei ddarllen.
- Sicrhewch fod gennych gapsiynau ar gyfer eich cynnwys fideo. Dylid cyllidebu ar gyfer hyn wrth ddechrau comisiynu cynnwys ffilm ac mae’n llawer haws gwneud hyn adeg y golygu yn hytrach nag yn ddiweddarach. Mae rhai apiau sy’n trawsgrifio’n awtomatig yr hyn rydych chi’n ei ddweud, fel Cliptomatic (ar gyfer iPhone) ac Autocap (ar gyfer Android). Gallwch wneud hyn drwy roi testun fel haenen ar storïau Instagram, gan deipio’r hyn rydych chi’n ei ddweud, neu drwy ysgrifennu yn nisgrifiad postiad prif ffrwd.
- Ar gyfer Storïau Instagram, dylech osgoi ffontiau rhedol (arddull llawysgrifen) ac ysgrifennu mewn priflythrennau i gyd. Arddull brawddegau sydd orau.
- Dylech osgoi defnyddio arddull negeseuon testun mewn Storïau Instagram ar gyfer sgrin-ddarllenwyr.
- Os ydych yn postio ffeil ffilm sy’n bodoli nad oes capsiynau ynddi, yna dylech ysgrifennu’r trawsgrifiad yn y disgrifiad o’r fideo.
- Mae rhai ’emojis’ yn iawn ond nid yw gormod ohonynt yn dda ar gyfer sgrin-ddarllenwyr.
- Dylid rhoi priflythyren ar gyfer llythyren gyntaf pob gair mewn hashnod, fel y gall sgrin-ddarllenydd wahaniaethu’r geiriau a’i gwneud yn haws eu darllen. Er enghraifft: #CardiauCynhwysiant
YouTube
- Dylech greu fersiwn â chapsiynau a fersiwn gyda sain-ddisgrifiad ar gyfer cynnwys eich ffilm, os gallwch chi. Bydd angen i chi gyllidebu mwy ar gyfer hyn a dylech ddefnyddio sain-ddisgrifiwr profiadol. Mae enghreifftiau o ffilmiau gyda sain-ddisgrifiad ar sianel YouTube Unlimited.
- Hefyd, gallwch greu fersiwn ag Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i ddefnyddwyr BSL drwy anfon eich fideos at wasanaeth dehongli BSL. Dyma enghraifft o ffilmiau gyda BSL ar sianel YouTube Unlimited.
- Os y cyllidebau’n eithriadol o dynn, mae YouTube yn darparu ei opsiwn is-deitlo ei hun. Trowch hyn ymlaen a gwirio’u bod yn gwneud synnwyr (maent yn anghywir yn aml) a golygwch nhw. Mae YouTube hefyd yn rhoi’r opsiwn i chi drawsgrifio’ch capsiynau eich hun.
- Yr opsiwn symlaf yw darparu trawsgrifiad o’ch fideo fel opsiwn arall. Mae modd cynhyrchu hyn yn awtomatig gan ddefnyddio meddalwedd ar-lein neu ei deipio wrth wrando arno.
Cysylltwch drwy info@unlimited.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu ychwanegiadau i’r canllaw hwn. Mae hon yn ddogfen fyw ac rydyn ni am ei chadw mor gyfoes â phosibl.
7. Cyfeirnodau ac adnoddau
Yr Hanfodion Sylfaenol
1. Mae gan Unlimited adnoddau defnyddio ar hygyrchedd:
https://weareunlimited.org.uk/resources/
2. Mae gan bartner darparu Unlimited, Shape Arts, restr o adnoddau ar hygyrchedd:
https://www.shapearts.org.uk/Pages/News/Category/resources
3. Darllenwch am iaith anabledd a’r model cymdeithasol:
http://www.disabilityartsonline.org.uk/why-we-are-disabled-people-notpeople-with-disabilities
4. Gwyliwch animeiddiad â chapsiynau a sain-ddisgrifiad am y model cymdeithasol:
https://weareunlimited.org.uk/social-model-disability-animation/
5. Gwneud gwybodaeth ysgrifenedig yn haws ei deall i bobl ag anabledd dysgu:
https://www.inspiredservices.org.uk/wp-content/uploads/Government-EasyRead-Guidance.pdf
6. Canllaw dyslecsia-gyfeillgar gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain:
https://www.bdadyslexia.org.uk/advice/employers/creating-a-dyslexia-friendly-workplace/dyslexia-friendly-style-guide
7. Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd gan Shape Arts:
https://www.shapearts.org.uk/news/training
8. Ysgrifennu testun amgen, enghreifftiau ac arfer gorau:
https://moz.com/learn/seo/alt-text
https://www.rnib.org.uk/rnibconnect/web-accessibility-people-disabilities
9. Canllaw ar ddylunio ar gyfer lliwddallineb:
https://www.abetterimageprinting.com/resources/the-ideas-collection/designing-for-color-blind-viewers/
10. Mae gan yr Ymgyrch Plain English adnoddau a gwasanaethau defnyddiol ar ddarparu gwybodaeth mewn modd clir a chryno:
http://www.plainenglish.co.uk/
Fformatau hygyrch
11. Mae gan yr UKAAF, Cymdeithas y DU ar gyfer Fformatau Hygyrch, ganllaw ar greu dogfennau print clir a phrint mawr:
https://www.ukaaf.org/wp-content/uploads/2020/03/G003-UKAAF-Creating-clear-print-and-large-print-documents-v2.doc
12. Arweiniad ar Braille gan Sefydliad Cenedlaethol Pobl Ddall Prydain, yr RNIB:
https://www.rnib.org.uk/braille-and-other-tactile-codes-portal-writing-and-producing-braille/transcribing-text-braille
https://www.rnib.org.uk/services-for-businesses
13. Am ddisgrifiadau pellach o fformatau sain:
http://www.rnib.org.uk/information-everyday-living-reading/audio
14. I drawsgrifio cynnwys sain a fideo a’i droi’n destun, capsiynau a chapsiynau tramor, ewch i’r wefan hon:
https://www.rev.com/
https://otter.ai/
Hygyrchedd Gwefannau
15. Safbwyntiau Ar-lein ar Hygyrchedd ar y We ac i wirio hygyrchedd eich gwefan:
https://www.w3.org/WAI/
16. I wirio’ch gwefan o ran ei hygyrchedd:
https://inviqa.com/blog/implementing-accessibility-10-mistakes-avoid
Cyfryngau Cymdeithasol
17. Gwneud fideos Byw Facebook (Live) yn hygyrch gyda chapsiynau amser real:
https://twitter.com/Adam_Zed/status/1243117457306521601
18. Am y diweddaraf am hygyrchedd Facebook:
https://www.facebook.com/accessibility/videos/1082033931840331/
Mwy am hygyrchedd
19. Canllaw ymarferol ar gyfer dylunio arddangosfeydd cynhwysol gan National Museums Scotland:
https://www.rnib.org.uk/sites/default/files/EXhibitions_for_all_NMScotland.pdf
20. Gwyliwch ffilmiau Unlimited ar gynnal digwyddiadau hygyrch, a gomisiynwyd gan Spirit of 2012:
https://www.youtube.com/watch?v=3_i5EjJsmE0
Browse related resources by smart tags:
Access Accessibility Digital Digital engagement Digital marketing Social media

Please attribute as: "Accessible Marketing Guide (2022) by Unlimited and Artsadmin supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0