
How do I share content ethically and legally online?
Mae rhannu cynnwys ar-lein yn ffordd wych o ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd – a denu rhai newydd. Gall presenoldeb ar-lein da eich helpu i gyrraedd ymwelwyr ac ymchwilwyr na allent weld eich casgliadau fel arall – gan fynd i’r afael â rhai o gyfyngiadau oriau agor, pellter daearyddol a hygyrchedd.
Bydd y canllaw hwn yn esbonio rhai o’r materion cyfreithiol a moesegol a allai gael effaith wrth rannu eich casgliadau ar-lein, boed hynny ar eich gwefan eich hun, ar y cyfryngau cymdeithasol, neu mewn digwyddiadau byw ar-lein. Dyma rai o’r prif ystyriaethau cyfreithiol a moesegol i feddwl amdanynt wrth gynllunio mynediad ar-lein i eitemau yn eich casgliad – cofiwch edrych ar yr adnoddau ar waelod yr erthygl hon am fwy o fanylion.
1. Hawlfraint
Gall hawlfraint fod yn faes brawychus a dryslyd o’r gyfraith, yn enwedig os nad oes rhaid i chi feddwl amdano’n aml iawn. Mae hawlfraint yn bodoli mewn perthynas â’r rhan fwyaf o eitemau mewn casgliadau, er enghraifft, mewn celfweithiau, ffilmiau, llyfrau, llythyrau, ffotograffau ac ati. Mae hawlfraint hefyd yn bodoli mewn perfformiadau, er enghraifft, mewn recordiadau o ganeuon, gweithiau dramatig neu areithiau. Mae’r eitem ffisegol a’r hawlfraint yn wahanol, e.e. mae’n bosibl bod eich sefydliad yn berchen ar baentiad ffisegol, ond nid yr hawlfraint yn y paentiad ei hun.
Mae gan berchnogion hawlfraint hawliau economaidd a moesol yn y gweithiau maent yn eu creu. Mae hawliau economaidd yn caniatáu i bobl ennill arian o’u gweithiau ac atal pobl eraill rhag atgynhyrchu a rhannu eu gweithiau heb ganiatâd. Mae hawliau moesol yn diogelu uniondeb y gwaith ei hun, a chysylltiad y creawdwr â’u gwaith, gan gynnwys diogelu eu hawl i wrthwynebu defnydd dilornus o’u gwaith. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwahanol hawliau economaidd a moesol ar wefan yr IPO.
Pan fyddwch yn cyhoeddi gwaith rhywun arall, dylech chi gydnabod perchennog yr hawlfraint bob amser gyda llinell briodoli, er enghraifft, © Stephanie Ashcroft, Naomi Korn Ltd.
Gwirio pwy sy’n berchen ar yr hawlfraint
Fel arfer, mae hawlfraint yn perthyn i’r person sy’n creu’r gwaith, ond gall gael ei gwerthu, ei throsglwyddo neu ei phasio i lawr mewn ewyllys ar ôl i’r creawdwr farw. Gall rhai gweithiau, fel ffilmiau a recordiadau sain, fod â haenau o hawliau, a nifer o ddeiliaid hawliau. Er enghraifft, efallai bydd gan gân eiriau, cyfansoddiad cerddorol, perfformiadau gan y cantorion a’r cerddorion, a’r recordiad sain ei hun. Mae’r elfennau hyn i gyd yn cael eu diogelu gan hawlfraint, ac efallai bod ganddynt berchnogion gwahanol.
Weithiau mae’n rhwydd adnabod perchnogion hawlfraint – e.e. mae gan artistiaid neu awduron enwog asiantau neu ystadau y gellir cysylltu â nhw’n hawdd. Weithiau mae angen i chi wneud ychydig yn fwy o waith ymchwilio, yn enwedig wrth chwilio am aelodau’r cyhoedd. Mae gan Naomi Korn Associates restr wirio ar ein gwefan ar gyfer chwilio am ddeiliaid hawliau, a gellir gweld rhestr hirach ar wefan yr IPO.
Gwirio a oes angen caniatâd arnoch
Efallai bod eich sefydliad yn berchen ar yr hawlfraint ar gyfer y gwaith rydych am ei gyhoeddi, neu gallai fod â thrwydded neu ganiatâd i ddefnyddio’r gwaith yn barod.
Os yw’r gwaith allan o hawlfraint, nid fydd angen caniatâd arnoch i gyhoeddi’r gwaith. Gwiriwch yr adnoddau uchod i weld a yw’r gweithiau rydych yn eu cyhoeddi allan o hawlfraint.
Mae cyfraith hawlfraint yn cynnwys rhai eithriadau sy’n caniatáu i sefydliadau treftadaeth diwylliannol ddefnyddio rhai gweithiau dan hawlfraint heb gael caniatâd; fodd bynnag, fel arfer, nid yw’r eithriadau hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o weithgareddau cyhoeddi ar-lein. Mae un eithriad yn caniatâu i chi gyhoeddi dyfyniadau neu glipiau o rai gweithiau er mwyn darparu beirniadaeth neu adolygiadau, a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer blogiau a rhai postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cysylltu â deiliad yr hawliau a gofyn am ganiatâd
Os yw’r gwaith dan hawlfraint, ni allwch ddefnyddio eithriad, ac os nad oes gennych ganiatâd i’w ddefnyddio’n barod, bydd angen i chi ofyn i berchennog yr hawlfraint am ganiatâd.
Efallai y bydd rhai deiliaid hawliau, yn enwedig creawdwyr masnachol a’u hystadau, yn gofyn am daliad neu ffi drwydded i gyhoeddi eu gwaith. Peidiwch â bod ofn ceisio trafod ffi is, neu hyd yn oed dim ffi o gwbl, yn enwedig os yw eich allbwn ar-lein yn anfasnachol.
Mae’n arfer da bod â dogfennau caniatâd safonol wedi’u llunio ymlaen llaw ar gyfer eich sefydliad. Mae gan Naomi Korn Associates dempled am ddim, sy’n cynnwys opsiynau trosglwyddo a thrwyddedu hawlfraint, y gellir ei deilwra at eich defnydd chi.
Meddwl am ‘weithiau amddifad’
Os ydych chi’n gwybod bod eitem dan hawlfraint ond nad ydych yn gallu adnabod perchennog yr hawlfraint, na dod o hyd i fanylion cyswllt ar eu cyfer, gelwir hyn yn ‘waith amddifad’. Mae gweithiau amddifad yn gyffredin iawn yn ein casgliadau treftadaeth, yn enwedig mewn archifau.
Er mwyn cyhoeddi gweithiau amddifad ar-lein, bydd angen rhywfaint o reoli risg. Gallwch ddysgu mwy am waith amddifad a rheoli risg yma.
2. Diogelu data
Mae diogelu data yn rhan o’r gyfraith sy’n gyfan gwbl ar wahân, ond gall achosi cyfyngiadau tebyg i hawlfraint. Er bod y rhan fwyaf o eitemau mewn casgliadau yn debygol o gynnwys hawlfraint rhywun, sy’n cael ei diogelu gan ddeddfau eiddo deallusol, gall rhai mathau o waith hefyd gynnwys gwybodaeth sy’n cael ei diogelu gan ddeddfau diogelu data.
Mae cyfraith diogelu data yn ymdrin â gwybodaeth bersonol am bobl fyw, gan gynnwys gwybodaeth adnabyddadwy a gwybodaeth sensitif am bethau fel eu credoau gwleidyddol neu grefyddol, eu rhywioldeb a’u hiechyd. Gallai hyn gynnwys cofnodion meddygol, dyddiaduron, llythyrau preifat a ffotograffau o bobl. Am fwy o wybodaeth am y ddeddf diogelu data presennol, edrychwch ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gwirio eich sail gyfreithiol
Mae’n rhaid bod gennych reswm da, neu ‘sail gyfreithiol’, i ddefnyddio data personol rhywun, a nodir hyn yn y gyfraith. Mae nifer o seiliau cyfreithiol sy’n caniatáu i sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol ddefnyddio a rhannu rhywfaint o ddata gwarchodedig mewn eitemau yn eu casgliadau heb gael caniatâd gan y person y mae data yn ymwneud ag ef. Gwiriwch gyda Swyddog Diogelu Data eich sefydliad i weld sut mae hyn yn berthnasol i chi.
Diogelu eich testunau data
Yn aml, gall sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol sicrhau bod data personol ar gael i’r cyhoedd, er enghraifft er mwyn darparu cofnodion catalog cywir, a thrwy ganiatáu i’r cyhoedd gael mynediad i gopïau gwreiddiol neu ddigidol o’r eitemau. Fodd bynnag, gallwch chi wneud hyn dim ond os ydych chi wedi cymryd camau priodol i sicrhau, trwy gyhoeddi’r data hwn, na fyddwch yn achosi niwed neu ofid sylweddol.
Nid oes unrhyw ffordd benodol o roi’r mesurau diogelu hyn ar waith, a bydd yn dibynnu ar y math o ddata sensitif rydych chi’n gweithio gydag ef. Gallai hyn gynnwys adolygu pob eitem yn y casgliad, neu rai ohonynt, yr hoffech eu cyhoeddi ar-lein, a golygu adrannau a allai achosi gofid. Gellir cael mwy o wybodaeth am ddiogelu data a chasgliadau treftadaeth ddiwylliannol ym Mhecyn Cymorth Diogelu Data am ddim yr Archif Genedlaethol.
3. Materion cyfreithiol eraill
Mae’n bosibl y bydd materion cyfreithiol eraill i gadw llygad allan amdanynt cyn rhannu eich casgliadau ar-lein; er enghraifft, cyhoeddi sylwadau yn anfwriadol y gellid eu hystyried yn enllibus neu’n ddifenwol. Mae’r mathau hyn o faterion yn fwy tebygol o ymddangos mewn casgliadau megis cyfweliadau hanes llafar, neu ddyddiaduron a gohebiaeth preifat.
Efallai y bydd angen i chi ystyried deddfau anlladrwydd hefyd, er enghraifft os hoffech gyhoeddi celfweithiau a allai gael eu hystyried yn anaddas i gynulleidfaoedd iau, neu nad ydynt o bosibl yn glynu wrth delerau ac amodau’r cyfryngau cymdeithasol.
Efallai y bydd rhai achosion lle gallai eitemau mewn casgliad gynnwys tystiolaeth o gamweddau neu droseddau y gall fod angen i chi eu hadrodd yn fewnol neu’n allanol, er enghraifft, cofnodion meddygol archifol sy’n awgrymu camymddwyn.
Fe’ch cynghorir i gytuno ar lefel sefydliadol sut i edrych allan am y materion cyfreithiol hyn a delio â nhw, a’u cynnwys mewn prosesau sydd eisoes yn bodoli ynghylch gwirio am faterion hawlfraint a diogelu data.
4. Moeseg
Weithiau, gall fod ystyriaethau ychwanegol i feddwl amdanynt cyn cyhoeddi eich casgliadau ar-lein, sy’n cael eu harwain gan gyfrifoldebau moesegol yn hytrach nag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol. O bryd i’w gilydd, gall materion cyfreithiol a moesegol orgyffwrdd; er enghraifft, efallai y bydd gennych ganiatâd i ailddefnyddio paentiad sy’n cynnwys delweddau hiliol sarhaus. Er y gallech gyhoeddi’r gwaith ar eich gwefan yn gyfreithlon, byddai ystyriaethau a goblygiadau moesegol i’w hystyried. Mae gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd dudalen ddefnyddiol o astudiaethau achos a senarios o sut mae moeseg a materion cyfreithiol weithiau’n croestorri.
Gwirio telerau defnyddio moesegol eich sefydliad
Efallai bod gennych bolisi moeseg eisoes y gallwch gyfeirio ato. Mae llawer o sefydliadau’n cyhoeddi eu polisïau moesegol, yn ogystal â datganiadau cenhadaeth sy’n rhoi cyd-destun ynghylch eu defnydd o eitemau o’u casgliadau, ar eu gwefannau.
Gwirio safonau moesegol sy’n benodol i’r sector
Yn ogystal â’ch polisïau eich hun ynghylch moeseg, mae’n syniad da gwirio safonau moesegol sy’n benodol i’r sector. Mae Cod Moeseg Cymdeithas yr Amgueddfeydd ar gyfer Amgueddfeydd a Chod Moeseg y Gymdeithas Archifau a Chofnodion yn amlinellu egwyddorion arfer gorau yn y sectorau hyn.
Mae gan y Gymdeithas Hanes Llafar arweiniad cyfreithiol a moesegol trylwyr ar gyfer gwneud a chyhoeddi cyfweliadau hanes llafar, gan gynnwys sut mae deddfau hawlfraint a diogelu data yn berthnasol.
Ymgynghori â chymunedau a sefydliadau perthnasol os yw’n berthnasol
Gall hefyd fod yn briodol cysylltu â chymunedau neu ymchwilwyr perthnasol cyn cyhoeddi rhai deunyddiau. Gallai’r rhain fod yn grwpiau diddordeb lleol, grwpiau crefyddol, arweinwyr cymunedol, academyddion neu arbenigwyr yn y maes, yn ogystal â chydweithwyr o sefydliadau eraill.
Gall y math hwn o ymgynghori helpu i dynnu sylw at unrhyw faterion moesegol, neu sensitifrwydd diwylliannol, nad ydych yn ymwybodol amdanynt eich hun o bosibl. Gall y dull hwn hefyd helpu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a grwpiau sydd â diddordeb, a helpu eich sefydliad i feithrin cysylltiadau â rhai o’r cynulleidfaoedd yr hoffech gysylltu â nhw.
5. Pa lwyfan ar-lein sy’n addas?
Ar ôl i chi ystyried y materion cyfreithiol a moesegol, gallwch ddechrau gweithio allan pa lwyfannau sy’n addas ar gyfer y math o eitemau mewn casgliadau yr hoffech eu cyhoeddi.
Mae safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o rannu ffotograffau a fideos o eitemau o’ch casgliad. Fodd bynnag, mae gan y safleoedd hyn delerau ac amodau, sydd yn aml yn cynnwys caniatáu i’r cwmni cyfryngau cymdeithasol ailddefnyddio unrhyw gynnwys rydych yn ei bostio. Efallai na fydd hyn yn addas am resymau hawlfraint, a gallai hefyd fod pryderon o ran diogelu data a moeseg.
Gall digwyddiadau ar-lein, a gynhelir drwy wasanaethau fel Zoom, wynebu’r un heriau. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio’r digwyddiadau hyn i ddarparu gwybodaeth fwy cyd-destunol ynghylch casgliadau sensitif, a gallwch gyfyngu pwy sy’n cyrchu’r digwyddiad drwy ddefnyddio tocynnau os oes angen.
Gall trefnu bod eich casgliadau ar gael drwy eich gwefan eich hun roi mwy o reolaeth dros sut maent yn cael eu cyflwyno, ac mae’n golygu eich bod yn gallu newid neu dynnu’ch adnoddau oddi ar eich gwefan yn haws os oes angen. Gallwch chi bob amser ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau ar-lein i ddarparu dolenni ac ailgyfeirio pobl at eich gwefan.
Gyda’r holl ffactorau hyn mewn golwg, gallwch feddu ar syniad gwell o’r ffordd orau o rannu eich casgliadau ar-lein, yn gyfreithlon ac yn foesegol.
6. Dolenni defnyddiol
- Intellectual Property Office, The rights granted by copyright (2015)
- Naomi Korn Ltd, Copyright Rights Clearance Checklists (2021)
- Intellectual Property Office, Orphan works diligent search guidance (updated 2021)
- Heritage Digital, Heritage Organisations and Exceptions to Copyright (2021)
- Bosher, Hayley, ‘Quotation, criticism and review’
- Naomi Korn Ltd, Template Copyright Agreement (2021)
- Naomi Korn Ltd, ‘Orphan Works and UK GLAMs: the case for a risk managed approach’ (2021)
- Intellectual Property Office, Guide to Data Protection
- The National Archive’s Data Protection Toolkit for Archives
- Museums Association, Everyday ethics: case studies
- Museums Association, Code of Ethics for Museums
- Archives and Records Association, Code of Ethics (2020)
- Oral History Society
- Naomi Korn Ltd, Copyright and Social Media (2021)
Browse related resources by smart tags:
Copyright Data protection Digital content Ethical Legal Legal compliance Sharing content

Please attribute as: "How do I share content ethically and legally online? (2022) by Stephanie Ashcroft, Naomi Korn Associates supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0