
How do I create content with search engine optimisation (SEO) in mind?
1. Rhagymadrodd
Mae optimeiddio peiriannau chwilio (‘SEO’) yn disgrifio’r camau gallwch eu cymryd i wella sut a ble mae eich gwefannau’n ymddangos mewn canlyniadau chwilio organig.
Mae chwilio organig (h.y. canlyniadau chwilio peiriannau chwilio nad ydynt yn cynnwys hysbysebion y telir amdanynt) yn gyrru’r rhan fwyaf o draffig ar y we, tua 53 y cant ohono, sef mwy na hysbysebion y telir amdanynt, y cyfryngau cymdeithasol, a dulliau eraill. Nid yn unig mae defnyddwyr yn ymddiried mwy ynddo ac mae’n cael mwy o gliciau o ganlyniad, ond gall SEO clyfar helpu chwilio organig i gronni canlyniadau i chi dros amser, tra bod angen i hysbysebion y telir amdanynt gael gwariant parhaus i barhau i wneud eu gwaith.
Yn gryno, mae strategaeth SEO gref yn hanfodol i sicrhau ansawdd a nifer yr ymwelwyr â’ch tudalennau gwe.
2. Ymlusgo am gynnwys
Mae peiriannau chwilio’n defnyddio ‘ymlusgwyr’ i symud drwy wefannau yn chwilio am atebion i dermau chwilio pobl, ar ffurf allweddeiriau.
Mae allweddeiriau’n hanfodol i wella safle eich canlyniad chwilio, sy’n golygu pa mor uchel rydych chi’n cael eich rhoi ar dudalennau canlyniadau chwilio, a dylech chi ddefnyddio’r rhain ar draws eich gwefan. Gallwch ddefnyddio allweddeiriau yn nheitlau tudalennau, yng nghorff tudalen (e.e., brawddeg mewn blog), mewn URLs neu hyd yn oed fel testun amgen ar gyfer delweddau sydd wedi’u hymwreiddio.
Mae dolenni hefyd yn ganolog i SEO effeithiol, a gellir eu categoreiddio’n dri math: ‘i mewn’, ‘mewnol’ ac ‘allan’. Y pwysicaf o’r rhain yw ‘i mewn’, sef pan fydd gwefan trydydd parti yn cysylltu’n ôl â’ch un chi. Er enghraifft, mae eich safle treftadaeth yn cael ei restru ar adran ‘Lleoedd i Weld’ gwefan eich bwrdd twristiaeth lleol. Cysylltu i mewn sy’n cael yr effaith fwyaf, gan ei fod yn cael ei ystyried yn argymhelliad y gellir ymddiried ynddo i chi a’ch cynnwys.
Mae ystyr dolenni ‘mewnol’ yn amlwg, a dolenni ydynt sy’n mynd â defnyddwyr o un o’ch tudalennau gwe i’r nesaf. Mae tair prif ffordd y gallwch ddefnyddio cysylltu i mewn i gefnogi SEO: ar gyfer llywio cyffredinol rhwng tudalennau ar wefan, ar gyfer dolenni ‘cynnwys cysylltiedig’, neu fel map safle (h.y. un dudalen gyda’ch holl ddolenni mewnol arni neu lawer ohonynt).
Yn drydydd, cysylltu allan yw pan fyddwch yn cysylltu o’ch gwefan chi i un arall. Mae hyn hefyd yn helpu SEO, gan ei fod yn dangos cysylltiad rhwng eich gwefan chi a ffynonellau dibynadwy eraill. Er enghraifft, cysylltu ymwelwyr â’ch gwefan â lleoliad eich safle treftadaeth ar Google Maps.
3. Ond arhoswch – sicrhewch eich bod yn ei gadw’n naturiol ac yn ddilys!
Mae’n bwysig iawn bod yn bwrpasol gyda’ch SEO, a pheidio â defnyddio allweddeiriau nad ydynt yn berthnasol i’ch gwefan a’ch cynnwys eich hun, nac ymgymryd â ‘gwthio allweddeiriau’, pan fyddwch yn gorddefnyddio allweddeiriau allan o’u cyd-destun. Yn aml, mae algorithmau peiriannau chwilio yn gallu canfod hyn, ac mae’n gallu cael effaith negyddol ar eich safle weithiau.
At hynny, mae maint eich traffig gwe yn amherthnasol os nad yw o’r ansawdd cywir. Er enghraifft, mae’n well gyrru deg o bobl i’ch gwefan os ydyn nhw’n treulio amser arni, ac yn ymgysylltu â hi, nag anfon 100 o bobl sy’n mynd i adlamu cyn gynted ag y byddant yn sylweddoli nad dyna roeddent yn chwilio amdano.
Mae’r un peth yn wir am ddolenni: dylech ond bod yn awyddus i greu dolenni i wefannau ac o wefannau os ydynt yn berthnasol. Efallai y byddwch yn derbyn ceisiadau e-bost i ‘groesgysylltu’ gan asiantaethau sy’n gweithio ar ran busnesau, i gynyddu eich traffig ar y we. Eto, gall hyn gael effaith andwyol os yw’n amlwg yn annilys ac yn amherthnasol i’ch safle a’ch cynnwys eich hun.
Er gwaethaf hyn, mae cysylltu â phartneriaid dilys yn gallu bod yn hynod werthfawr, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â phartneriaid perthnasol ac yn sicrhau eich bod yn cynnwys dolenni eich gilydd ar eich tudalennau gwe. Mae adran ‘adnoddau’ yn ffordd effeithiol o gyflawni hyn.
Ystyriwch eich cynulleidfaoedd terfynol, eich nodau terfynol (e.e. rhoddion, lawrlwythiadau, neu gofrestriadau), ac yna beth gallwch ei wneud i ddod â’r ddau beth at ei gilydd. Er enghraifft, os mai twristiaid yw eich cynulleidfa, a’ch nod terfynol yw rhoddion, pa dermau chwilio allai eu denu i’ch tudalen, gyda’r gobaith y byddan nhw wedyn yn rhoi i gefnogi eich achos?
4. Defnyddio a monitro’ch SEO yn effeithiol
Fel y soniwyd uchod, mae llwyth o fannau lle gallwch ddefnyddio allweddeiriau ar draws eich gwefan. Yn gyffredinol, po fwyaf gweladwy yw’r cynnwys, y mwyaf yr effaith a gaiff ar SEO. Am y rheswm hwn, gallai URLs fod yn wych ar gyfer SEO, a gall adeiladu map clir o strwythur y wefan eich helpu i wneud y gorau o hyn. Mae gan QuickSprout rai awgrymiadau defnyddiol ar rai camau ymarferol y gallwch eu cymryd i gyflawni hyn.
Fodd bynnag, gall testun amgen a thagiau ARIA (a ddefnyddir i wneud tudalennau gwe’n fwy hygyrch) fod yn effeithiol hefyd, yn yr un modd â chynnwys allweddeiriau mewn fideos â chapsiynau caeedig.
Gall allweddeiriau ar gyfer SEO gael eu rhannu’n ddau gategori: ‘prif allweddeiriau’ ac ‘allweddeiriau cynffon hir’. Mae’r term ‘prif allweddair’ yn cyfeirio at dermau cyffredinol a phoblogaidd, ac mae ‘cynffon hir’ yn disgrifio termau chwilio sy’n ymwneud â geiriau a phynciau sy’n fwy penodol, a’r rhai y mae pobl yn chwilio amdanynt yn llai aml. Mae llai o gystadleuaeth am y rhain, a gallant roi syniad miniocach o fwriad y defnyddiwr, ac felly gellir dadlau eu bod yn fwy gwerthfawr i chi a’ch tactegau SEO!
Mae sawl teclyn gwych gallwch chi eu defnyddio i weld y math o allweddeiriau mae pobl yn eu defnyddio i drafod pynciau sy’n berthnasol i’ch gwaith, fel Moz Keyword Explorer neu GetKeywords.
Yn ogystal â hyn, gall Google Analytics eich helpu i ddysgu mwy am bwy, pryd a sut mae pobl yn rhyngweithio â’ch gwefan eich hun, tra gall Google Search Console roi cipolwg i chi ar sut i gael safle gwell mewn canlyniadau chwilio organig.
5. Crynodeb

Gall allweddeiriau a dolenni, a lle rydych yn eu gosod, chwarae rhan fawr wrth yrru pobl i’ch gwefan.
Fodd bynnag, cyn dechrau archwilio SEO, gwnewch yn siŵr eich bod wedi nodi cynulleidfa darged glir a’r amcan/amcanion ar gyfer pan fydd pobl yn glanio ar eich tudalen.
Dylech ddefnyddio cynnwys dilys a pherthnasol a dolennu trydydd partïon i sicrhau eich bod yn cyflawni hyn, ac yn anad dim, sicrhewch fod eich cynnwys yn denu sylw am y rhesymau iawn. Mae Webmaster Guidelines Google yn adnodd defnyddiol ar gyfer rhagor o wybodaeth am hyn.
Byddwch yn feiddgar, yn glir, yn ddifyr ac yn ddefnyddiol, ac rydych yn fwy tebygol o gadw pobl ar eich tudalennau yn hirach.
Yn olaf, sicrhewch eich bod yn dadansoddi llwyddiant eich SEO ar hyd y ffordd, p’un a yw hynny’n edrych ar y cliciau (o chwiliadau), cyfraddau adlamu (sef nifer yr ymwelwyr a adawodd eich gwefan ar ôl glanio ar y dudalen gyntaf), neu’r amser mae ymwelwyr yn ei dreulio ar dudalennau.
Efallai bod SEO yn swnio braidd yn haniaethol neu’n frawychus i’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd ag ef, ond yn syml, mae’n ymwneud â defnyddio’r teclynnau sydd ar gael i ni er mwyn gwneud y ffordd rydym yn disgrifio ein cynnwys a’i gyflwyno mor glir a manwl â phosibl.
Pob lwc!
6. Dolenni defnyddiol
- Five Easy Steps to Creating a Sitemap For a Website
- Moz Keyword Explorer
- Get Key Words
- Google Webmaster Guidelines
- Google Search Console
- Festrail
- South Wales Miners Museum
Browse related resources by smart tags:
Content Content creation Digital content Digital marketing Google Analytics Google Webmaster Tools Heritage SEO

Please attribute as: "How do I create content with search engine optimisation (SEO) in mind? (2022) by Matt Horwood supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0