
How do I develop a digital content strategy?
1. Rhagarweiniad
Mae strategaeth cynnwys digidol yn hanfodol er mwyn i’ch sefydliad treftadaeth ddod o hyd i gynnwys, ei greu a’i rannu ar gyfer eich llwyfannau digidol. Bydd yr adnodd yma’n eich tywys drwy’r camau sut i ddatblygu strategaeth gynnwys sy’n gweithio i’ch sefydliad, ac mae’n cynnwys ambell i dempled hylaw i’ch rhoi ar ben y ffordd.
Pan gaiff cynnwys digidol ei greu ar sail ‘ad hoc’, mae risg o gyfathrebu cynnwys nad yw’n gydnaws â’r brand neu’r targed o’i gymharu â’ch amcanion hirdymor. Mae cynnwys a gynlluniwyd yn hyrwyddo llif gwaith cyson, stori a phrofiad treftadaeth cydlynus, ac yn atgyfnerthu eich perthynas â’ch cynulleidfa. Y wobr am hyn fydd cynulleidfa sy’n weithredol ymgysylltiedig sydd eisoes yn cyffroi at weledigaeth eich sefydliad.
Mae’r cynllun strategaeth cynnwys digidol yma wedi’i amlinellu fel proses gam wrth gam, gyda phob cam yn adeiladu ar y diwethaf.
2. Beth yw eich amcan?
Beth rydych chi’n bwriadu ei gyflawni drwy eich cynnwys digidol? Mae’n bwysig cysylltu hyn nôl at amcanion cyffredinol eich sefydliad (fel cynyddu niferoedd ymwelwyr). Gallai enghreifftiau o amcanion ar gyfer eich cynnwys digidol gynnwys cynyddu’r nifer sy’n ymrwymo i dderbyn eich newyddlen drwy draffig eich gwefan.
Gallwch restru’r amcanion ar gyfer eich cynnwys digidol yma:
___________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
3. Nodi pwy yw eich cynulleidfa
Meddyliwch pwy yw eich cynulleidfaoedd targed, beth sydd ei angen arnyn nhw a beth sy’n denu eu sylw, oherwydd mai iddyn nhw rydych chi’n creu eich cynnwys digidol!
Er enghraifft, mae canolfan y Dundee Science Centre yn annog plant ysgol i ddysgu mwy am gadwraeth natur a bywyd gwyllt. Drwy rannu cynnwys sy’n arddangos y ffyrdd hawdd, hwyliog a rhyngweithiol maen nhw’n gwneud hyn, maen nhw’n annog eu cynulleidfa darged – ysgolion – i estyn allan a chymryd rhan yn eu mentrau dengar.

Sut ydw i’n ysgrifennu, gweithredu a monitro strategaeth cynnwys digidol?
Nodwch isod pwy yw eich cynulleidfaoedd (mae’n bosibl bod gennych fwy nag un math o gynulleidfa), beth yw eu nodweddion a’u hymddygiadau, beth sy’n eu cymell, pa heriau y gallen nhw fod yn eu hwynebu, ac o ble maen nhw’n chwilio am wybodaeth.
___________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
4. Disgrifiwch eich USPs (eich cynigion gwerthu unigryw)
Beth am eich sefydliad treftadaeth sy’n gwneud i bobl ddymuno ymweld ag ef? Sut rydych chi’n creu gwell profiad nag eraill? Pam dylai pobl eich dewis chi?
Ystyriwch gynlluniau ac amcanion sefydliadol perthnasol, a meddwl yn ofalus am eich USP a pham mae’r hyn rydych chi’n ei gynnig yn unigryw.
Un ffordd o weithio drwy hyn yw edrych ar yr hyn mae eich cynulleidfaoedd eisoes yn ei ddweud amdanoch chi ar-lein. Gallai hyn fod yn rhywbeth mor syml â brawddeg sy’n dweud mai eich amgueddfa chi yw’r unig un yn y rhanbarth sy’n arbenigo mewn maes diddordeb, neu fod eich lleoliad yn lle rhad a hwyliog i fynd â’ch plant am ddiwrnod hwyliog allan.
Gallwch chi amlinellu’ch USPs isod:
___________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
Unwaith mae hyn yn glir i chi, gallwch gwblhau’r adran nesaf yn hyderus; mae’n trafod PA gynnwys y byddwch chi’n ei greu er mwyn cyfathrebu’r USP hwnnw’n barhaus i’ch cynulleidfa.
5. Dethol eich pynciau / allweddeiriau
Yr allwedd i greu cynnwys digidol gwych yw darparu gwerth i’ch cynulleidfa. Er mwyn deall pa bynciau mae angen i chi siarad amdanyn nhw, defnyddiwch yr wybodaeth uchod am eich arbenigedd, ar y cyd â’r hyn mae eich cynulleidfa am ei weld, gwrando arno, ei wylio neu ei ddarllen.


Gan ddefnyddio’r enghraifft yma, os mai teithiau cerdded natur yw eich arbenigedd, does dim rhaid i chi gyfyngu eich cynnwys i sôn am deithiau cerdded natur; gallwch chi hefyd cyfathrebu am bynciau cysylltiedig sy’n ymwneud â’r hyn rydych chi’n ei gynnig. Er enghraifft, cynulleidfa allweddol ar gyfer Coed Cadw (y Woodland Trust) yw pobl sy’n ymddiddori mewn gweithgareddau awyr agored ac sy’n ystyried bod ym myd natur yn rhan hanfodol o’u llesiant cyffredinol. Drwy gydnabod hyn, gall Coed Cadw gynnwys y themâu a’r pynciau hyn yn eu cynnwys hwythau, hefyd.

I’ch helpu i daro syniadau sydyn am ambell i bwnc, gallwch chi fewnbynnu termau’n gysylltiedig â’ch arbenigedd i’r wefan Answer The Public. Mae hwn yn declyn hylaw sy’n rhoi mewnwelediad i chi i ymadroddion a chwestiynau defnyddiol mae pobl yn eu gofyn sy’n defnyddio’ch allweddeiriau.

6. Dewis eich tactegau
Nawr bod gennych eich meysydd pwnc, nodwch pa dactegau y byddwch yn eu defnyddio i greu eich cynnwys. Ystyriwch yr arbenigedd sydd ar gael i’ch sefydliad; er enghraifft, oes gennych ffotograffwyr neu dywyswyr sy’n gyfforddus yn cyflwyno ar gamera, neu awdur cadarn sy’n gallu creu blogiau?
I ddechrau, dewiswch hyd at bum tacteg a fyddai’n gweithio orau i gyfathrebu eich pynciau dethol (gallwch chi bob amser ychwanegu rhagor).
Gall y rhain fod yn gyfuniad o bethau fel:
-
- Adolygiadau ymwelwyr
- Lluniau o’r lleoliad
- Awgrymiadau fideo
- Ffeithiau ‘Wyddech chi’?
- Teithiau byrion (e.e. dangos ystafell, gofod digwyddiadau neu gynnyrch penodol)
- Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (ein lleoliad, oriau agor, faint mae’n ei gostio)
- Cyfarfod â’r tîm
- Tu ôl i’r llenni
- Podlediad (cyfweld â staff neu bobl ddylanwadol)
- 10 prif argymhelliad ynghylch (nodwch y pwnc)
- Cynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr (rhannu fideos, lluniau ac ati gan fynychwyr)
- Cwestiynau cwis.
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o syniadau yn llyfr James Berg, 104 Social Media Content Ideas to Increase Sales.
7. Creu cynllun postio
Nawr bod gennych eich pynciau a’ch tactegau, dylech greu cynllun postio sy’n rhoi manylion pryd rydych yn postio pob tacteg, pwy sy’n gyfrifol am greu a phostio, a sut a ble rydych chi’n postio.
Ar gyfer yr adran ble, bydd rhaid i chi feddwl pa ddarnau o gynnwys sy’n gweithio orau ar ba lwyfannau, a ble mae eich cynulleidfa. Er enghraifft, gall lluniau godidog o’ch lleoliad fynd ar Instagram ac mae fideos yn gwneud yn well ar TikTok. Fodd bynnag, os ydych chi’n gweld mai ar Instagram mae’r rhan fwyaf o’ch cynulleidfa’n ymgysylltu â chi, gallwch ystyried postio fideos yn amlach yna hefyd.
Enghraifft
PRYD | Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener | Dydd Sadwrn | Dydd Sul |
BETH | Fideo am un o’n harteffactau | Cwestiwn cwis, e.e. p’un sy’n gywir neu’n anghywir am y gwrthrych yma? | Adolygiad Ymwelydd | Cyfarfod â’r tîm | Cynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr – llun a dynnwyd yn ein lleoliad | ||
BLE | Facebook, LinkedIn, Twitter | Facebook, Twitter | Facebook, Twitter | Facebook, LinkedIn, Twitter | Facebook, Twitter | ||
PWY | Fiona – sy’n creu fideos ymlaen llaw
Mae John yn postio’r rhain ar y cyfryngau cymdeithasol |
Mae Kishan yn tynnu lluniau o wrthrychau
Mae John yn creu cwestiynau ‘cywir neu anghywir’ ac yn eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol |
Mae Alicia’n casglu’r holl adolygiadau ymwelwyr
Mae John yn creu’r rhain ac yn eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol |
Mae Kishan yn tynnu lluniau o bob aelod o’r tîm
Mae John yn cyfweld â phob aelod o’r tîm ac yn postio ar y cyfryngau cymdeithasol |
Mae John yn casglu’r holl gynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr ac yn postio ar y cyfryngau cymdeithasol | ||
SUT* | Arbed fideos yma | Arbed lluniau yma | Adolygiadau ymwelwyr i’w lanlwytho yma | Lanlwytho lluniau yma
Lanlwytho testun cyfweliadau aelodau o’r tîm yma |
Arbed holl gynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr yma | ||
John i gymryd y cynnwys uchod a chreu capsiynau yn y calendr cynnwys** ar Excel. Unwaith i’r tîm gymeradwyo hyn, caiff ei amserlennu drwy declyn amserlennu’r cyfryngau cymdeithasol.*** |
*Lle mae ‘arbed’ wrth ymyl y rhain, mater i’r tîm eu mewnbynnu i’ch system ffolderi mewnol yw hyn (e.e. Google Drive, Dropbox neu weinydd cyffredin)
** Gallwch ddod o hyd i dempled calendr enghreifftiol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yma o dan Calendr cynnwys.
*** I arbed amser a rheoli eich cynnwys digidol yn well, argymhellir eich bod yn defnyddio teclyn amserlennu’r cyfryngau cymdeithasol fel Hootsuite, Buffer neu’ch bod yn edrych ar drefnydd Facebook Scheduler (sydd ar gyfer Facebook ac Instagram yn unig). Mae fersiynau am ddim a rhai y telir amdanyn nhw gan y rhain.
Dyma fersiwn gwag i chi fewnbynnu eich cynllun postio:
PRYD | Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener | Dydd Sadwrn | Dydd Sul |
BETH | |||||||
BLE
|
|||||||
PWY |
|
||||||
SUT* |
8. Mesur eich llwyddiant
Y cam olaf wrth greu strategaeth cynnwys digidol yw sicrhau bod cynllun mesur clir yn ei le. Boed yn fisol, yn chwarterol neu’n flynyddol, mae’n bwysig eich bod yn dadansoddi ac yn gwerthuso sut mae eich cynnwys yn perfformio.
Nid oes angen i chi fesur yr uchod i gyd, ond dylech ddethol y rhai a fydd yn eich helpu i olrhain a yw’r amcanion trosfwaol a osodwyd gennych yn gynharach yn cael eu bodloni.
Drwy ddefnyddio’r adran fesur yma, gallwch gael gwybod dros amser pa dactegau cynnwys yw’r mwyaf effeithiol neu’r lleiaf effeithiol wrth gyflawni eich amcanion presennol a rhai’r dyfodol.
Ymwybyddiaeth | Ymgysylltu | Trosi |
Faint o bobl a welodd y cynnwys | Faint o ryngweithiadau a gafodd eich cynnwys (e.e., clicio ar ddolen, gwylio ar fideo, nodi sylwadau, rhannu, ac ati. | Y camau sy’n cael eu cymryd o ganlyniad i’ch cynnwys (e.e. prynu tocynnau, mynychu eich lleoliad) |
|
|
All-lein
Ar-lein
|
Mae’r adran ar drosi uchod yn arbennig o bwysig oherwydd mai diben creu strategaeth cynnwys digidol yw eich helpu i gyflawni amcanion eich sefydliad, nid cynyddu achosion o hoffi, dilynwyr, traffig i’r wefan ac ati, yn unig.
Mae gan y rhan fwyaf o lwyfannau rydych chi’n eu defnyddio i rannu cynnwys yn cynnwys tudalennau dadansoddi, i ddangos i chi sut mae eich cynnwys yn cael ei wylio a’i dderbyn. Dyma rai enghreifftiau o’r teclynnau mesur yma:
Teclynnau mesur sy’n gallu eich helpu i gael y data uchod:
-
- Bydd gan declynnau amserlennu fetrigau lle gallan nhw ddangos llwyddiant eich cynnwys i chi
- Dulliau dadansoddi proffil / tudalennau ymgyrchoedd ar LinkedIn
- Mewnwelediadau i’r tudalennau / ymgyrchoedd ar Facebook
- Mewnwelediadau i’r tudalennau / ymgyrchoedd ar Instagram
- Mewnwelediadau i’r proffil / ymgyrchoedd ar Twitter
- Google Analytics (olrhain trosiadau)
- Teclynnau gwrando cymdeithasol
- Meddalwedd CRM (os oes gennych chi rai yn eu lle)
- Ffurflenni adborth cwsmeriaid (wrth y pwynt gwerthu)
- Adrodd busnes (e.e. niferoedd ymwelwyr, gwerthiannau tocynnau, ac ati)
Drwy ddilyn y camau uchod ac ystyried yr holl ffyrdd y gallwch chi barhau i roi anghenion a dymuniadau eich cynulleidfa wrth wraidd eich cynnwys, byddwch chi nid yn unig yn cynyddu nifer eich dilynwyr ar-lein, ond byddwch chi hefyd yn cyfrannu at gyflawni amcanion trosfwaol eich sefydliad.

Please attribute as: "How do I develop a digital content strategy? (2022) by James Berg, Picaroons supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0