
What do I need to know about creating an accessible website?
1. Beth yw ystyr gwefan hygyrch?
Mae hygyrchedd yn ymwneud â chydnabod y rhwystrau rydyn ni, fel cymdeithas, wedi’u creu; rhwystrau sy’n cyfyngu ar bwy sy’n gallu cyrchu’r byd a chymryd rhan ynddo.
Y rhwystrau a roddir ar unigolion – gan gynnwys pobl anabl, b/Byddar a phobl â nam ar eu clyw, pobl sydd wedi profi heriau i’w hiechyd meddyliol, pobl ag anhwylderau cronig – sy’n eu hatal rhag cyrchu cymdeithas yn llawn.
Er mai am rwystrau ffisegol rydym yn meddwl yn draddodiadol (er enghraifft, adeiladau y gellir eu cyrchu drwy risiau’n unig, yn hytrach na rampiau) mae cymaint o rwystrau anableddu yn y byd digidol.
2. Pam mae’n bwysig bod gan eich sefydliad wefan hygyrch?
Ar ben y ffaith mai dyma’r peth iawn i’w wneud, mae llawer o fanteision i greu gwefannau digidol cynhwysol a hygyrch yn y sector treftadaeth:
Sicrhau cydymffurfiaeth ac ymrwymo i arfer gorau
Yn y DU, mae gan bob sefydliad gyfrifoldeb cyfreithiol i beidio â gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail anabledd nac unrhyw nodwedd warchodedig arall (Deddf Cydraddoldeb 2010). At hynny, mae’n ofyniad cyfreithiol i gyrff y sector cyhoeddus wneud eu gwefan, ac unrhyw apiau symudol, yn hygyrch. (Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau ac Apiau Symudol) Cyrff y Sector Cyhoeddus (Rhif 2) 2018).
Y tu hwnt i’r gofyniad cyfreithiol, mae’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) yn rhoi fframwaith i ni i gyd ar gyfer gwneud cynnwys ar y we’n fwy hygyrch i bobl anabl. Mae’n darparu meini prawf a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan amlinellu safonau ar gyfer pob agwedd bosibl ar eich cyfryngau ar-lein. Mae dangos ymrwymiad i WCAG yn tynnu sylw pobl anabl (a phawb y mae tegwch a chyfiawnder o yn bwysig iddynt) at y ffaith eich bod chi’n ymroi i wneud y byd digidol yn fwy hygyrch a chynhwysol – ac yn wir, does dim esgus am beidio â gwneud hynny!
Rhoi hwb i lwyddiant eich gwefan
Mae gwefannau’n cael eu gwobrwyo am fodloni safonau WCAG. Po fwyaf hygyrch y mae eich safle, yr uchaf y bydd yn ymddangos yn y rhestr o ganlyniadau pan fydd pobl yn chwilio am dermau cysylltiedig ar eu peiriannau chwilio.
Hefyd, mae gwneud eich deunyddiau cyfathrebu’n hygyrch yn rhoi ffyrdd newydd i chi o rannu’ch cynnwys gyda phobl; er enghraifft, mae defnyddio testun amgen (alt text) ar gyfer delweddau a thrawsgrifiadau ar gyfer cynnwys sain yn golygu ychwanegu allweddeiriau gwych at eich gwefan. Mae hyn yn helpu gwella optimeiddio peiriannau chwilio, sy’n golygu y bydd eich gwefan yn ymddangos yn uwch mewn canlyniadau chwilio pan fydd pobl yn chwilio am dermau penodol ar-lein.
Cyrraedd cynulleidfa amrywiol
Os nad yw’ch gwefan yn hygyrch, rydych chi’n allgáu cynulleidfa fawr ac amrywiol iawn o’r hyn rydych chi’n ei gynnig. Gallai hynny gynnwys cleientiaid, gweithwyr, ac unrhyw un arall sy’n rhyngweithio â’ch safle. Mae ymchwil wedi dangos y bydd 71% o gwsmeriaid anabl yn clicio oddi ar wefan os nad yw’n hygyrch, ac ni fydd 90% yn cysylltu â pherchnogion busnes nad yw eu safleoedd yn hygyrch (Freeney Williams Ltd. a Click-Away Surveys Ltd., 2016).
3. Mynd i’r afael â WCAG
Cynlluniwyd Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We i ddarparu popeth y mae ei angen arnoch chi i wneud eich gwefan yn hygyrch. I weld manylion pob maen prawf, ewch i w3.org.
Ein prif awgrym yw eich bod yn cymryd mantais ar y Rhestr Gyfeirio Gyflym, sy’n eich tywys drwy bob safon, gan gynnwys enghreifftiau o sut beth fyddai bodloni’r safon – neu fethu â gwneud hynny.
Ond fel trosolwg byr, mae tair lefel o gydymffurfio â WCAG:
Lefel A
- Y lefel hawsaf!
- Dylai pob gwefan anelu at fodloni Lefel A fel isafswm.
Lefel AA
- Estyniad ar feini prawf Lefel A.
- Y lefel fwyaf poblogaidd i greawdwyr gwefannau anelu ati.
- Yn cynnwys ystod eang o agweddau ar hygyrchedd.
Fel enghraifft, mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at y ffaith eu bod nhw’n cydymffurfio’n rhannol â Safon Lefel AA yn eu datganiad hygyrchedd. Maen nhw’n nodi sut mae ymwelwydd â’u gwefan yn gallu addasu’r ffordd maen nhw’n ei gweld i deilwra’r dudalen yn well i’w hanghenion hygyrchedd. Mewn mannau nad ydyn nhw wedi llwyddo i wneud eu cynnwys yn hygyrch, maen nhw’n awgrymu ffyrdd o ddatrys hyn a manylion cyswllt os oes angen rhagor o gymorth ar rywun.
Maen nhw’n cyfeirio’n gyson at Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, a lle maen nhw wedi bodloni’r safonau hyn neu’n gobeithio eu bodloni. Ewch i ddatganiad Hygyrchedd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Lefel AAA
- Estyniad ar feini prawf Lefel A ac AA.
- Safon lem iawn ar gyfer hygyrchedd; ni ddisgwylir y bydd gwefannau’n bodoli holl feini prawf Lefel AAA.
- Am mai hon yw’r safon fwyaf poblogaidd, bydd y canllaw yma’n canolbwyntio’n bennaf ar Lefel AA. Fodd bynnag, ewch ati i archwilio’r canllawiau’n llawn, a cheisio anelu at AAA lle bynnag mae modd i chi gyflawni hynny!
4. Sut olwg ddylai fod ar wefan hygyrch?
Yn ddefnyddiol, mae WCAG yn trafod pedair agwedd wahanol ar hygyrchedd gwefannau, gan dynnu sylw at y meini prawf gwahanol y mae rhaid eu bodloni. Er mwyn i wefan gael ei hystyried yn un hygyrch, mae rhaid iddi fod yn:
1) Ganfyddadwy
Oes modd cyrchu eich cynnwys mewn ffyrdd lluosog, er enghraifft, ddim yn weledol yn unig?
2) Gweithredadwy
Oes modd i bawb we-lywio o gwmpas eich gwefan a rhyngweithio â’r cynnwys?
3) Dealladwy
Oes modd i bawb ddeall sut i ryngweithio â’ch safle, a’r iaith rydych chi’n ei defnyddio?
4) Cadarn
Oes modd i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol gyrchu’ch gwefan?
5. Bodloni safonau WCAG: canfyddadwy
I ddechrau’r broses o sicrhau bod eich gwefan yn ganfyddadwy, gofynnwch y cwestiynau canlynol i’ch hun:
- Oes gan unrhyw gynnwys nad yw’n gynnwys testun (er enghraifft, ffotograffau neu eiconau) destun amgen?
- Oes gan gynnwys sain gapsiynau cywir (ar gyfer fideos) neu drawsgrifiad (ar gyfer cyfryngau sain yn unig fel podlediadau)?
- Oes cyferbyniad uchel rhwng lliw’r testun a’r cefndir?
- Oes gan yr holl destun faint ffont o 12pt neu fwy?
Defnyddiwch Otter.ai i gael trawsgrifiadau (cyfyngedig) yn rhad ac am ddim a gwasanaeth capsiynau YouTube, ond sicrhewch eich bod chi’n cywiro’r testun i sicrhau ei fod yn gywir.
Defnyddiwch wirwyr cyferbyniad ar-lein fel contrastchecker.com neu webaim.com/resources/contrastchecker.
6. Bodloni safonau WCAG: gweithredadwy
I ddechrau’r broses o sicrhau bod eich gwefan yn weithredadwy, gofynnwch y cwestiynau canlynol i’ch hun:
- Ydych chi wedi osgoi defnyddio cynnwys sy’n fflachio neu’n strobio?
- Oes gan eich tudalennau gwe deitl a threfn glir, gyda phenawdau a labeli i wahanu cynnwys a’i amlygu?
- Oes cyd-destun i’r dolenni ar eich tudalen (er enghraifft, dylech osgoi dweud ‘cliciwch yma’)
7. Bodloni safonau WCAG: dealladwy
I ddechrau’r broses o sicrhau bod eich gwefan yn ddealladwy, gofynnwch y cwestiynau canlynol i’ch hun:
- Os oes botymau, neu gydrannau rhyngweithiol eraill gennych, ydych chi’n esbonio beth fydd yn digwydd pan fydd y defnyddiwr yn rhyngweithio â nhw?
- Ewch y tu hwnt i hygyrchedd i gynhwysiant gwirioneddol
- Yn ogystal â gwneud ein gwefannau’n hygyrch, dylen ni hefyd sicrhau eu bod nhw’n gynhwysol.
Dyma ddau argymhelliad a fydd yn helpu i wneud eich gwefan yn fwy croesawgar a chynhwysol i bawb – er nad ydynt yn ofynnol o ran bodloni Lefel AA WCAG.
- Sicrhau bod eich iaith yn gynhwysol. Dilynwch y model cymdeithasol o anabledd a sicrhau eich bod chi’n siarad am ‘bobl anabl’, yn hytrach na ‘phobl ag anableddau’.
- Sicrhau bod eich iaith yn hygyrch.Ysgrifennwch yn syml ac yn glir, gyda chynnwys y gallai’r plentyn 13 oed cyffredin ei gyrchu.
Yn aml, y prawf Flesch-Kincaid sy’n dadansoddi darllenadwyedd. Defnyddiwch declynnau fel Hemingway App neu ystadegau dogfennau parod Microsoft Word i ddadansoddi’ch ysgrifennu.
8. Bodloni safonau WCAG: cadarn
Mae’r adran hon o WCAG yn ymwneud yn bennaf â’r cod sy’n eistedd y tu ôl i’ch gwefan.
Os ydych chi’n defnyddio meddalwedd adeiladu gwefannau (er enghraifft, mae eich gwefan yn cael ei gwe-letya gan WordPress, Squarepsace neu lwyfan tebyg arall), bydd llawer o’r gofynion hygyrchedd wedi’u cynnwys yn eich gwefan yn barod.
Ond dyma’r cwestiynau y dylech chi fod yn eu gofyn i’ch hun o hyd:
- Ydych chi’n talu sylw i’r opsiynau adeiladu gwefan ac yn sicrhau eich bod chi’n eu defnyddio nhw’n gywir (er enghraifft, defnyddio penawdau yn y drefn gywir)?
- Os ydych chi’n gwneud unrhyw waith codio neu’n adeiladu gwefan, ydych chi’n sicrhau eich bod chi’n tagio’ch cynnwys a’i briodoli’n gywir?
- Os ydych chi’n creu cydrannau o ryngwyneb defnyddiwr (sef agweddau fel ffurflenni, dolenni a botymau), ydych chi’n tynnu sylw atynt ac yn eu cyd-destunoli’n glir yn eich cod?
- Ydych chi’n defnyddio testun amgen (alt text) ar gyfer unrhyw elfennau o’ch gwefan nad ydynt yn destun?
9. Beth yw testun amgen?
Mae testun amgen yn dweud wrth bobl beth sydd mewn delwedd. Mae’n bwysig i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin, er enghraifft pobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall.
Os nad ydych chi wedi ysgrifennu testun amgen o’r blaen, mae’n gallu bod yn anodd gwybod ble i ddechrau, felly dyma rai awgrymiadau:
- Rhannu’r wybodaeth sylfaenol, hanfodol am y ddelwedd
- Ysgrifennu mewn brawddegau llawn (yn hytrach na rhestru allweddeiriau’n unig)
- Anelu at 125 nod neu lai
- Cofiwch, os bydd delwedd yn methu llwytho, bydd y testun amgen yn ymddangos yn ei le
- Defnyddio’r fformiwla gwrthrych-gweithred-cyd-destun i ddechrau gyda’r wybodaeth bwysicaf yn y ddelwedd
Dyma enghraifft ar safle’r Ymddiriedaeth Genedlaethol:

10. Datganiadau hygyrchedd
Mae bod â datganiad hygyrchedd yn golygu dangos:
- Eich bod wedi ymrwymo i fynediad a chynhwysiant
- Bod gennych arferion hygyrch ar eich gwefan
- Eich bod yn cydnabod bod rhannau o’ch gwefan a allai gael eu gwella neu eu huwchraddio yn glynu at ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus ddangos datganiad hygyrchedd
Awgrymiadau gwych ar gyfer creu datganiad hygyrchedd:
- Cyhoeddwch eich datganiad hygyrchedd cyn gynted â phosibl. Mae’n well ei rannu’n gyhoeddus, ond cydnabod eich bod wrthi’n archwilio hygyrchedd eich gwefan ac yn ei huwchraddio, yn hytrach nag oedi’r gwaith o’i lanlwytho nes y bydd eich gwefan yn bodloni’r holl safonau.
- Defnyddiwch dempled. Mae datganiad hygyrchedd enghreifftiol gan Gov.uk, ac mae gan W3.org ganllaw i greu un
- Dysgwch gan eich cydweithwyr. Mae gan lawer o sefydliadau treftadaeth ddatganiadau hygyrchedd ar eu gwefannau. Er enghraifft, Visit Churches, Friends of the SD&Ra Historic Royal Palaces.
- Datganiad hygyrchedd ar gyfer eich gwefan yw hwn, sy’n wahanol i’r wybodaeth am hygyrchedd eich lleoedd ffisegol (ond yr un mor bwysig!)
- Dylai fod modd cyrchu’ch datganiad hygyrchedd o hafan eich gwefan, ar waelod y dudalen, wrth ymyl eich polisi preifatrwydd, map o’r safle, ac elfennau hanfodol eraill o’r wefan.
11. Teclynnau ac adnoddau defnyddiol
Yr unig ffordd gadarn o sicrhau bod eich gwefan yn hygyrch yw drwy ofyn i bobl ei phrofi. Fodd bynnag, mae rhai teclynnau ac adnoddau sy’n gallu eich helpu i gymryd y camau cyntaf tuag adeiladu gwefan hygyrch. Rydym wedi rhannu ychydig yn yr awgrymiadau gwych drwy gydol y canllaw hwn, ond yn ychwanegol, efallai y byddwch am ystyried:
Lighthouse
Mae Google Lighthouse yn declyn ffynhonnell agored i ddatblygwyr y we. Os ydych chi’n defnyddio Google Chrome, de-gliciwch ar unrhyw dudalen we, dewiswch ‘Inspect’, ac yna ewch i’r tab ‘Lighthouse’; byddwch chi’n gallu dysgu mwy am hygyrchedd y dudalen.
I’r rhai ohonoch nad ydynt yn ddatblygwyr y we llawn amser, gall fod yn anodd deall beth i’w wneud i drwsio’r gwallau mae Lighthouse yn tynnu sylw atynt. Ond mae’n gallu bod yn ddefnyddiol o ran rhoi trosolwg o’r meysydd gwahanol mae angen i chi weithio arnynt!
WAVE
Mae Teclyn Gwerthuso WAVE yn estyniad Google Chrome am ddim y gallwch chi ei lawrlwytho a’i ddefnyddio ar dudalen we. Bydd yn ymchwilio i’r dudalen ac yn dangos unrhyw wallau, rhybuddion a phwyntiau gweithredu mewn amser go iawn.
Mae’n archwiliad lefel sylfaenol gwych o’ch cynnydd tuag at fodloni’r canllawiau a’r meini prawf hygyrchedd
Technoleg gynorthwyol am ddim, ffynhonell agored a thechnoleg i’w threialu
Os nad ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol, mae’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn ymchwilio i wahanol declynnau a meddalwedd technoleg gynorthwyol eich hun i gael profiad uniongyrchol o sut beth yw gwe-lywio’ch safle gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Hefyd, efallai y byddwch yn darganfod mathau newydd o dechnoleg a all wella’ch gwaith!
12. Beth nesaf?
Unwaith y byddwch chi wedi archwilio’r teclynnau am ddim uchod, byddwch yn dod i wybod yn well faint o waith mae angen i chi ei wneud eto i wneud eich gwefan yn hygyrch. Mae llawer o sefydliadau yn darparu Archwiliadau Hygyrchedd ar gyfer Gwefannau a Chyfathrebiadau, gan sicrhau bod eich gwefan a’i chynnwys yn hygyrch, cynhwysol a galluogol.
I ddeall mwy am hygyrchedd digidol, pam mae’n bwysig, a beth yw ei wir ystyr, daeth fideo Diversity and Ability am sicrhau hygyrchedd digidol i bawb ag arbenigwyr ynghyd i drafod arfer gorau a thu hwnt.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ychwanegol am hygyrchedd digidol, amrywiaeth a gallu, neu gyfathrebu cynhwysol, mae croeso i chi gysylltu â Diversity and Ability drwy e-bostio workplace@diversityandability.com.

Lawrlwytho’r canllaw
Lawrlwythiad: Beth mae angen i mi ei wybod am greu gwefan hygyrch – Diversity and Ability [pdf 4mb]

Please attribute as: "What do I need to know about creating an accessible website? (2022) by Diversity & Ability supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0