What implications and opportunities should we consider when using 3D scanning or printing to create 3D digital models from our collections?
1. Cyfleoedd a heriau wrth ddefnyddio technoleg 3D
Mae creu modelau 3D o arteffactau diwylliannol yn gallu meithrin dysg a chynnig ffyrdd newydd o ymgysylltu â threftadaeth. Hefyd, gall y broses gynnig mynediad at adnoddau nad oedd modd i gynulleidfaoedd gael gafael arnynt yn y gorffennol, a gall helpu i ddiogelu eitemau bregus.
Yn y bôn, mae yna ddwy ffordd o greu asedau tri dimensiwn:
- Sganio 3D – dyma dechnoleg ddigyffwrdd, annistrywiol sy’n cofnodi siâp gwrthrychau mewn modd digidol gan eu delweddu mewn gofod 3D digidol. Mae yna sawl dull o fynd i’r afael â sganio 3D, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ffotogrametreg, sef y dull mwyaf hygyrch yn ddi-os, sganio gyda laser a sganio gyda golau strwythuredig.
- Argraffu 3D neu weithgynhyrchu haen-ar-haen – dyma broses lle caiff gwrthrychau solet tri dimensiwn eu creu ar sail ffeil ddigidol. Yn ystod proses haen-ar-haen, caiff gwrthrych ei greu trwy osod un haen ar ben y llall. Gellir gweld pob un o’r haenau hyn ar ffurf trawstoriad tenau o’r gwrthrych.
Mae defnyddio sganio ac argraffu 3D mewn sefydliadau treftadaeth yn esgor ar heriau a goblygiadau. Bydd yn eich galluogi i wneud y canlynol:
- Atgynhyrchu gwrthrychau’n gyflym.
- Lledaenu a rhannu arteffactau yn ddigidol ac yn ffisegol.
- Cynorthwyo i ddychwelyd eitemau i wlad eu tarddiad.
- Cyfoethogi rhaglenni cynulleidfaoedd a rhaglenni dysgu.
Eto i gyd, ar yr un pryd mae’r gwaith hwn yn herio cyfreithiau Eiddo Deallusol presennol, mae angen sgiliau digidol ychwanegol i’w wneud a gall arwain at gostau sylweddol.
Yn yr adnodd hwn bydd ein harbenigwr, Dr Amelia Knowlson o Brifysgol Leeds, yn archwilio’r goblygiadau sydd ynghlwm wrth sganio 3D mewn perthynas ag Eiddo Deallusol a’r hyn y bydd angen ichi ei ystyried wrth ddigidoleiddio eich casgliad.
2. Dod o hyd i’ch ffordd trwy gyfreithiau hawlfraint a Creative Commons
Yn ôl Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd (WIPO), bydd cyfreithiau hawlfraint yn amddiffyn gwreiddioldeb darnau o waith ynghyd â hawl y crëwr i’w hatgynhyrchu. Felly, os caiff copïau eu gwneud o wrthrych gwreiddiol trwy ddefnyddio peiriant argraffu 3D, a hynny heb ganiatâd, gall y crëwr hawlio iawn dan gyfraith hawlfraint.
Felly, os bydd gan sefydliad treftadaeth waith dan hawlfraint yn ei gasgliad, bydd angen i’r sefydliad gael caniatâd gan berchennog yr hawlfraint i atgynhyrchu’r gwaith hwnnw.
Hawlfraint a sganio 3D
Mae sganio 3D yn faes rhywfaint yn fwy annelwig. Mae nifer o bobl yn credu y byddai creu sgan 3D yn esgor ar ei ddiogelwch hawlfraint ei hun gan fod yn rhaid i awdur unrhyw sgan 3D wneud ymdrech bersonol, greadigol a deallusol i greu gwrthrych defnyddiol/ymarferol naill ai ar gyfer y byd digidol neu’r byd ffisegol. Fodd bynnag, ar yr adeg y caiff yr adnodd hwn ei lunio, ni cheir unrhyw brawf cyfreithiol i bennu a fyddai’r hawlfraint yn cael ei neilltuo i grëwr y sgan 3D os yw’r arteffact gwreiddiol yn dal i fod dan hawlfraint.
Hefyd, mae’n bwysig ystyried y goblygiadau moesol sydd ynghlwm wrth wneud sgan 3D o arteffactau â tharddiad dadleuol. Yn achos sefydliadau treftadaeth sy’n cadw arteffactau a gafodd eu dwyn o wlad eu tarddiad, neu os na wyddys pa ddull caffael a ddefnyddiwyd, dylent ofyn a yw gwneud sgan 3D o’r arteffactau hynny yn iawn yn foesol.
Hawlfraint neu Creative Commons?
Ar ôl creu sgan 3D, y peth nesaf i’w ystyried yw sut fath o hawlfraint neu drwydded Creative Commons sydd ei angen ar gyfer y sgan 3D. Gellir dod o hyd i gyngor ynghylch Creative Commons ar Creative Commons. Ceir enghreifftiau o sut y gellir cymhwyso Creative Commons at wrthrychau hanesyddol ar SketchFab – Heritage. Mae Sketchfab yn galluogi cynulleidfaoedd byd-eang i gael mynediad at, a defnyddio, modelau 3D sy’n cynrychioli treftadaeth ddiwylliannol o bob rhan o’r byd trwy gyfrwng rhith-ymweliadau, gan archwilio sganiau 3D o wrthrychau ac ychwanegu nodiadau at y modelau. Mae amgueddfeydd megis y British Museum yn defnyddio ‘CC Attribution-Non-Commercial-Share-Alike’ (CC BY-NC-SA) gyda nodwedd y gellir ei lawrlwytho ar y safle. Mae’r drwydded hon yn caniatáu i’r defnyddwyr gael mynediad at y model, a’i ddefnyddio, cyn belled â’u bod yn priodoli’r model i’r British Museum ac yn ei ddefnyddio at ddibenion anfasnachol. Hefyd, pe bai unrhyw fersiynau gwahanol yn cael eu gwneud, rhaid eu dosbarthu dan yr un drwydded.
3. Pethau i’w hystyried wrth ddigidoleiddio eich casgliad
Gan eich bod bellach wedi archwilio rhai syniadau’n ymwneud â modelu 3D a hawlfraint, efallai y byddai’n ddefnyddiol ichi archwilio enghraifft a all eich helpu i feddwl sut i ymdrin â hyn yn eich sefydliad eich hun.
Darllenwch trwy achos SketchFab yn ymwneud â sganio 3D a’r posibilrwydd o dorri rheolau hawlfraint.
Os ydych yn ystyried defnyddio sganio ac argraffu 3D i ddigidoleiddio eich casgliad, gallwch ddefnyddio’r cwestiynau hyn i’ch helpu i ddod o hyd i arteffactau priodol:
- Ai’r sefydliad sy’n berchen ar yr hawlfraint ar hyn o bryd?
- Pa resymau sydd gennych dros ddefnyddio sganio 3D (meddyliwch am ymchwil/addysg/allgymorth/dychwelyd eitemau i wlad eu tardiad)?
- A gaiff y modd y caffaelwyd y gwrthrych ei herio?
- A yw’r gwrthrych yn ddiwylliannol ansensitif?
- A yw hi’n briodol digidoleiddio’r arteffact hwn (meddyliwch am bolisïau’n ymwneud ag arddangos gweddillion dynol)?
- Sut y caiff y gwrthrych digidol ei arddangos a pha fesurau Creative Commons neu hawlfraint a ddefnyddir?
4. Pwyntiau allweddol ac adnoddau ychwanegol
Dyma’r pwyntiau hollbwysig i’w cadw mewn cof:
- Mae sganio ac argraffu 3D yn gallu bod yn fenter ddrud a llafurus, felly mae’n bwysig ichi ymgorffori unrhyw brosiect o’r fath yn strategaeth yr amgueddfa.
- Cymerwch amser i archwilio a yw eich sefydliad yn berchen ar hawlfraint yr arteffact y dymunwch ei ddigidoleiddio, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn caniatâd deiliad yr hawlfraint cyn mynd ati i wneud sgan 3D ohono.
- Mae sganio 3D yn esgor ar gyfleoedd newydd i rannu casgliadau, felly wrth ddelweddu sganiau 3D meddyliwch yn ofalus am hygyrchedd. Trwy ganiatáu i gynulleidfaoedd lawrlwytho, rhannu, a hyd yn oed wneud argraffiad 3D o arteffactau, bydd modd annog dulliau newydd o ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Rhagor o adnoddau
- Erthygl yn sôn am ddigidoleiddio treftadaeth ddiwylliannol ar ffurf 3D (PDF 210kb)
- Canllawiau ar ddigidoleiddio 3D a hawliau eiddo deallusol,
- Cyngor gan y llywodraeth ynghylch argraffu 3D ac eiddo deallusol (PDF 1.82mb)
Browse related resources by smart tags:
3D Collections Content creation Creative commons Digital tools IP
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "What implications and opportunities should we consider when using 3D scanning or printing to create 3D digital models from our collections? (2022) by Dr Amelia Knowlson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






