
Managing change using an eight-step model
1. Rheoli newid
Ar ôl penderfynu bod angen ichi fabwysiadu strategaeth ddigidol neu fodel busnes digidol newydd, neu bod angen ichi ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd mewn ffyrdd gwahanol, fe fyddwch yn cychwyn ar broses yn llawn newid. Yn y cyd-destun hwn, mae hi’n bwysig ichi groesawu newid, a’i reoli. Fodd bynnag, nid rheoli pob elfen o’r newid yn llym yw’r nod, oherwydd mae elfennau ansicr a chanlyniadau annisgwyl yn perthyn i bob newid. Mae a wnelo ‘rheoli newid’ â chymryd rheolaeth o’r broses a dod i gytundeb gyda phartneriaid, staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau y bydd y siwrnai mor ddidrafferth â phosibl.
Mae mabwysiadu model busnes newydd, gyda’r nod o fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd digidol ar gyfer eich sefydliad treftadaeth, yn golygu y bydd yn rhaid ichi roi cynlluniau a strategaethau ar waith. Mae’r adnodd hwn yn archwilio wyth cam y broses drawsnewid a nodir yn Leading Change gan John Kotter – fframwaith gwerthfawr ar gyfer eich tywys trwy’r broses.
2. Proses wyth cam ar gyfer arwain newid
Mae ein harbenigwr, Dr Stephen Dobson o Brifysgol Leeds, yn dadansoddi wyth cam y broses drawsnewid, a gyflwynir gan John Kotter, gan dynnu sylw at y modd y gallwch gymhwyso’r fframwaith hwn at eich sefydliad chi.
Cam 1: Creu ymdeimlad o frys – o’r cychwyn cyntaf, mae hi’n bwysig ichi allu pennu’r angen dros newid, ac yna mynd ati i gyfathrebu’r angen hwnnw. Gallwch ddefnyddio data neu adroddiadau’n ymwneud â nifer yr ymwelwyr, maint y gynulleidfa neu ffigurau gwerthiant i ddangos bod angen gwneud rhywbeth. Weithiau, gall digwyddiad hollbwysig ar y safle, neu eitem ar y newyddion lleol neu genedlaethol, helpu eraill i weld bod angen ffordd newydd o weithio.
Cam 2: Creu cynghrair arweiniol – mewn sefydliad treftadaeth bach, nid yw hyn o angenrheidrwydd yn golygu bod yn rhaid ymgynnull grŵp i arwain y newid, oherwydd mae’n bosibl y bydd niferoedd y staff yn fach. Mae a wnelo hyn â chael pawb i weithio gyda’i gilydd fel tîm a chytuno ar yr angen dros newid. Os yw eich sefydliad yn fach, efallai y gallwch ofyn i randdeiliaid o’ch cymuned leol, cyllidwyr a phartneriaid allanol eich helpu i greu’r cynghrair hwn.
Cam 3: Creu gweledigaeth – gall cydweithio er mwyn llunio strategaeth ddigidol fod yn ffordd ddefnyddiol o greu gweledigaeth. Un ffordd o wneud hyn yw gweithio trwy’r cynfas digidol. Dyma eich cyfeiriad neu eich rhestr o flaenoriaethau.
Cam 4: Cyfleu’r weledigaeth – mae llunio dogfen strategaeth yn ffordd wych o gyfleu eich gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Os yn briodol, ystyriwch ryddhau’r strategaeth er mwyn i’ch partneriaid a’ch cynulleidfa allu gweld a deall y newidiadau sydd yn yr arfaeth.
Cam 5: Grymuso eraill i weithredu – y cam nesaf yw cael gwared â’r rhwystrau a allai atal y newid; dyma gam pwysig iawn. Ystyriwch fuddsoddi mewn offer a hyfforddiant i gefnogi siwrnai eich sefydliad.
Cam 6: Cynllunio ar gyfer creu enillion byrdymor – mae hi’n bwysig i bawb sy’n gysylltiedig â’r broses deimlo bod y newidiadau fesul cam yn esgor ar effaith gadarnhaol. Trwy ddathlu enillion byrdymor, ni waeth pa mor fach ydynt, bydd modd cryfhau’r syniad ei bod hi’n werth i’ch sefydliad weithio tuag at y weledigaeth hirdymor, a bod eich cydymdrechion yn werth chweil.
Cam 7: Cadarnhau’r gwelliannau – gallwch gadarnhau’r newid trwy gynyddu’r hyfforddiant a gynigiwch a thrwy recriwtio staff, gwirfoddolwyr neu ymddiriedolwyr newydd a chanddynt brofiad digidol er mwyn ategu’r newidiadau hyn a helpu i ymwreiddio ffyrdd newydd o weithio.
Cam 8: Sefydliadu dulliau newydd – er mwyn helpu i sefydliadu’r newid a gwneud iddo ‘bara’, mae hi’n hollbwysig ichi sefydlu’r cysylltiad rhwng y ffordd newydd o weithio ar y naill law a llwyddiant y sefydliad ar y llaw arall (e.e. mwy o ymwelwyr, ffyrdd mwy effeithlon o weithio).
Gallwch grwpio’r wyth cam hyn yn bedwar prif gam. Mae’r prif gam cyntaf yn cynnwys arsylwi a myfyrio. Yna, llunio a disgrifio sut allai pethau fod yn y dyfodol. Mae’r trydydd prif gam yn cynnwys grymuso pobl a chynllunio’r newid. Ac yn olaf, byddwch yn gwerthuso ac yn ymwreiddio unrhyw lwyddiannau.

Yn aml, ystyrir bod newid yn gylch parhaol, ac o’r herwydd gallwch ddychmygu bod y rhain yn rhan o broses barhaus:

3. Y camau nesaf
Gan eich bod bellach wedi archwilio wyth cam y broses drawsnewid, ystyriwch sut y gallwch eu rhoi ar waith yn eich sefydliad chi.
Browse related resources by smart tags:
Digital strategy Framework Leadership Managing change New thinking Planning

Please attribute as: "Managing change using an eight-step model (2022) by Dr Stephen Dobson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0