English

Defnyddio asedau digidol i ddatblygu ffrydiau refeniw newydd

Mae defnyddio asedau digidol – pa un a gaiff yr asedau hyn eu creu’n ddigidol o’r cychwyn cyntaf (ffotograffiaeth, fideos, realiti rhithwir/realiti estynedig, System Gwybodaeth Ddaearyddol ac ati) neu trwy ddigideiddio asedau presennol – yn gallu esgor ar ffrydiau refeniw pwysig yn ogystal â chynnwys gwerthfawr ar gyfer marchnata ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd. Mae’r canllawiau hyn yn archwilio potensial asedau digidol a chyflwynir cyngor arbenigol.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
A bridge illuminated at night over a river
Image by James Newton ©

Using digital assets to develop new revenue streams

1. Cyflwyniad

Drwy gydol y pandemig Covid-19, bu’n rhaid i nifer o amgueddfeydd, orielau, a lleoliadau a safleoedd diwylliannol archwilio ffyrdd o barhau i ymgysylltu â’u cynulleidfaoedd ar-lein tra’r oedd eu drysau ynghau i ymwelwyr. Er bod hyn wedi creu cyfoeth o gyfryngau gweledol o bosibl, mae cynhyrchu incwm trwy gyfrwng dulliau ac eithrio ymweliadau, gwerthu tocynnau a refeniw siopau yn dal i fod yn anodd. Yr her yw dod o hyd i ffyrdd newydd o greu refeniw yn sgil asedau digidol. O’r herwydd, mae cynnwys ar-lein yn faes newydd pwysig y dylai amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth ei archwilio.

Yn y canllawiau hyn, mae ein harbenigwr, Dr Stephen Dobson o Brifysgol Leeds, yn archwilio rhai ffyrdd newydd posibl o ddefnyddio asedau digidol i gynhyrchu incwm, yn arbennig felly:

  • Mabwysiadu arteffactau
  • Mân roddion
  • Noddi fideos
  • Freemium
  • Atgynhyrchu delweddau.

 

2. Ffyrdd o ddefnyddio asedau digidol i gynhyrchu refeniw

Mabwysiadu arteffactau

Er bod sŵau, parciau bywyd gwyllt a gwarchodfeydd anifeiliaid wedi defnyddio’r model ‘mabwysiadu’ ers sawl blwyddyn, mae hyn yn dal i fod yn gymharol newydd i’r sector treftadaeth. Anogir ymwelwyr i ‘fabwysiadu’ anifail naill ai trwy dalu ffi untro, fel anrheg o bosibl, neu trwy gyfrannu rhodd fisol. Yn dâl am hyn, cânt ddiweddariadau rheolaidd ynglŷn â’r anifail. Efallai y bydd asedau digidol, megis ffotograffau neu fideos o’r anifail a fabwysiadwyd, yn cael eu cynnwys mewn pecyn cyfathrebu, fel rhan o’r gwasanaeth mabwysiadu.

Mae mabwysiadu arteffactau yn llawer llai cyffredin, ond fe allai weithio’n dda ar gyfer casgliadau o ddiddordeb arbennig mewn amgueddfeydd. Efallai y bydd casgliadau sy’n ymwneud â pheirianneg neu hanes milwrol angen llawer o amser a gwybodaeth arbenigol i’w hadfer, ac efallai y byddai model mabwysiadu yn ffordd boblogaidd o helpu i ariannu gwaith o’r fath.

Mân roddion

Mae nifer o wasanaethau nid-er-elw yn dibynnu ar roddion ewyllys da fel ffrwd ariannu bwysig. Hyd yn oed yn y sector technoleg, mae meddalwedd ffynhonnell agored yn ddibynnol ar roddion gan gwsmeriaid bodlon. Mae Wikipedia a Linux yn enghreifftiau da o hyn.

Yn y sector treftadaeth, mae’r blwch ‘talwch fel y mynnwch’ yn un o’r ffyrdd hynaf a ddefnyddir gan amgueddfeydd a safleoedd i gynhyrchu incwm i’w cynnal. Mae rhith- flwch ‘talwch fel y mynnwch’ ar wefan yn ffordd syml o atgynhyrchu’r model dibynadwy hwn.

Nawdd a moneteiddio cynnwys fideos

Yn 2021, roedd gan YouTube 2.5 biliwn o ddefnyddwyr y mis o gymharu â 69 miliwn yn 2012 (Ffynhonnell: AppMagic). Mae lletya cynnwys fideos ar y platfform nid yn unig yn ffordd dda o ennyn diddordeb cynulleidfaoedd mewn modd creadigol, ond gall hefyd gynnig cyfleoedd i sicrhau nawdd ac allbynnau moneteiddio.

Yn aml, mae hyn yn ddibynnol ar ffigurau gwylio, felly mae hi’n bwysig cynhyrchu cynnwys y mae gan wylwyr ddiddordeb ynddo. Mae moneteiddio eich sianel hefyd yn golygu y bydd angen bodloni meini prawf penodol ar gyfer Rhaglen Partneriaid YouTube (TPP). Er enghraifft, mae English Heritage wedi datblygu sawl cyfres ar YouTube, ac mae gan rai o’r rhain, megis ‘History Inspired Makeup Tutorials’, dros filiwn o wylwyr.

‘Freemium’

System ar-lein ddwy haen yw ‘Freemium’ lle mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys, neu’r mynediad at y gwasanaeth, yn rhad ac am ddim – ond bydd yn rhaid talu am elfennau ychwanegol neu fersiwn ‘bremiwm’ o’r gwasanaeth. Fe’i defnyddir yn gyffredin mewn meddalwedd pan fo’r swyddogaeth sylfaenol yn rhad ac am ddim, ond pan fo nodweddion ychwanegol ar gael trwy dalu tanysgrifiad. Mae nifer o amgueddfeydd ac orielau celf yn cynnwys mynediad â thocyn at gasgliadau arbennig neu ddigwyddiadau ar gyfer eu haelodau. Yn y bôn, dyma fodel busnes ‘freemium’.

Yn y byd ar-lein, gall hyn gynnwys mynediad arbennig i staff amgueddfeydd, neu fynediad ar-lein at archifau neu arteffactau sydd wedi’u storio. Yn 2020, daethpwyd â churaduron, cerddorion a dylunwyr ynghyd gan yr Amgueddfa Ddylunio i ddatblygu sioe ar-lein yn ymwneud â hanes cerddoriaeth electronig – roedd angen tocynnau i fynd i’r sioe hon, ond roedd yn rhad ac am ddim i’r aelodau.

Atgynhyrchu delweddau

Ffordd fwyfwy poblogaidd o wneud arian ar sail cynnwys digidol yw gwerthu at ddibenion atgynhyrchu, fel arfer ar blatfformau trydydd parti. Mae’r platfformau hyn yn hyrwyddo delweddau gerbron cynulleidfa ryngwladol ac yn delio â hawlfraint ar ran y sefydliadau cyfrannol. Mae nifer o wasanaethau masnachol poblogaidd i’w cael; ond un gwasanaeth nid-er-elw llwyddiannus yw ArtUK.org.

Elusen yw ArtUK, ac mae ganddi ddelweddau gan fwy na 3,400 o sefydliadau Prydeinig. Mae hyn yn galluogi’r sefydliadau cyfrannol i gynhyrchu refeniw trwy werthu cynnwys digidol. Mae’r siop ar-lein yn galluogi’r cwsmer i atgynhyrchu delwedd ar boster neu ar brint mewn ffrâm, a gall fod yn ffynhonnell refeniw werthfawr i sefydliadau treftadaeth sy’n fodlon digideiddio’u casgliadau.

 

3. Y camau nesaf

Gan eich bod bellach wedi archwilio rhai awgrymiadau ar gyfer sut y gellir defnyddio asedau digidol i gynhyrchu incwm, ystyriwch a allai unrhyw un o’r dulliau uchod weithio i’ch sefydliad chi.

Dechreuwch trwy ystyried y canlynol:

  • Pa asedau digidol sy’n eiddo i’ch sefydliad eisoes? A ellir cymhwyso unrhyw rai o’r awgrymiadau at yr asedau hyn?
  • A oes yna asedau y byddai gennych ddiddordeb yn eu datblygu? Os felly, pa rai? Pa adnoddau a sgiliau y byddai eu hangen er mwyn creu?
  • Beth fydd eich camau nesaf o ran bwrw ymlaen â’r syniadau hyn? Â phwy o fewn eich sefydliad rydych angen siarad, a sut y byddwch yn bwrw ymlaen?

 



More help here


A small cliff face with a building above and next to it

Opportunities for digital fundraising in the heritage sector

This resource provides a practical tool for how to use digital to support your fundraising activities. Looking at best practice in the sector, it explores the different options for digital fundraising and how they can be embedded into your business strategy.

 
several small tins on a table

How can I create additional revenue streams from my collection online?

With international tourism to Britain not expected to return to pre-pandemic levels until 2025, on top of the cuts of the austerity era, in this article Chris Sutherns from Naomi Korn Associates outlines how organisations can use digital content to generate income.

 
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "Using digital assets to develop new revenue streams (2022) by Dr Stephen Dobson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo