
How can we measure our current environmental impact?
1. Eich sefydliad chi ac asesu effeithiau amgylcheddol
Mae hi’n hanfodol i sefydliadau fynd ati i fesur, cynllunio a lleihau gweithgareddau a allai gael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
Mae gweithgareddau economaidd-gymdeithasol eisoes wedi creu anghydbwysedd amgylcheddol enfawr ac mae’r twf yn y boblogaeth yn parhau i gyfrannu at ddihysbyddu adnoddau naturiol. Mae hyn wedi arwain at y canlynol:
- Cynhesu byd-eang.
- Newid hinsawdd.
- Colli bioamrywiaeth.
- Asideiddio cefnforoedd.
- Pobl wedi’u dadleoli am resymau amgylcheddol.
Wrth gyflwyno’r ‘Emissions Gap Report, 2021: The Heat Is On’, mae Inger Anderson, cyfarwyddwr gweithredol Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP), yn pwysleisio bod angen rhoi polisïau ar waith yn ddi-oed i ymdrin â newid hinsawdd byd-eang:
Nid problem ar gyfer y dyfodol yw newid hinsawdd mwyach. Mae’n broblem ar gyfer ‘nawr’. Fel y gwelwyd eleni, mae effeithiau dinistriol yn lledaenu dros y byd, ac maent yn cryfhau. […] Rhaid inni gymryd camau cadarn. Rhaid inni gymryd camau cyflym. A rhaid inni ddechrau nawr.
Dyfyniad gan: Inger Andersen
Rhaid i sefydliadau treftadaeth cyfrifol a moesegol ymateb i argyfyngau cyflym eu hesblygiad trwy fesur eu heffaith bresennol a rhoi polisïau ar waith i leihau mwy fyth ar eu heffaith amgylcheddol.
Trwy fynd ati i asesu’r effeithiau amgylcheddol, bydd modd i’ch sefydliad wneud y canlynol:
- Pennu ffyrdd o osgoi neu leihau niwed amgylcheddol.
- Atal effeithiau amgylcheddol niweidiol trwy fynnu y dylid rhoi dewisiadau amgen ymarferol neu fesurau lliniaru ar waith.
- Meithrin tryloywder a chydweithredu a chydgysylltu â phartneriaid allanol.
- Gwella cyfranogiad y cyhoedd.
2. Sut y gallaf ddechrau arni?
Mae ein harbenigwr, Dr Ruth Daly o Brifysgol Leeds, yn eich tywys trwy nifer o gamau y gall eich sefydliad eu cymryd i asesu eich effaith amgylcheddol a dechrau cyflwyno newidiadau.
Dadansoddi data amgylcheddol
Defnyddiwch fetrigau, adroddiadau, cyfrifiadau ôl troed carbon, sgoriau effeithlonrwydd ynni a rhestrau gwirio i’ch helpu i gasglu a dadansoddi data amgylcheddol. Bydd dadansoddi data amgylcheddol yn eich helpu i bennu cyfleoedd i gyflwyno gwelliannau ac ysgogi cynaliadwyedd amgylcheddol.
Cyfrifo eich ôl troed carbon
Carbon footprint calculation is a standard method of measuring and reporting the environmental impact of your organisation. You can use the following three reliable tools to calculate your organisation’s carbon footprint:
Dull safonol o fesur a chofnodi effaith amgylcheddol eich sefydliad – dyna yw cyfrifiad ôl troed carbon. Gallwch ddefnyddio’r offer dibynadwy a ganlyn i gyfrifo ôl troed carbon eich sefydliad:
1. Mae Carboniadur MacKay yn cyflwyno model o system ynni’r DU sy’n eich galluogi i archwilio ffyrdd o ddatgarboneiddio, yn cynnwys cyrraedd targedau sero net erbyn 2050.
2. Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi creu’r Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon i gynorthwyo busnesau a sefydliadau bach-canolig yn y DU i fesur eu hôl troed carbon corfforaethol trwy ddilyn Canllawiau Greenhouse Gas Protocol (GHG Protocol). Sefydliad sy’n pennu offer a fframweithiau ar gyfer mesur a rheoli allyriadau nwyon tŷ gwydr yw GHG Protocol.
3. Mae MyCarbon yn eich galluogi i gyfrifo eich ôl troed carbon, ynghyd â lleihau eich effaith amgylcheddol a gwrthbwyso’r allyriadau sy’n weddill. Os ymunwch â’r gwasanaeth, byddwch yn cael cyngor personol a thrwy gyfrwng tanysgrifiad misol gallwch wrthbwyso eich allyriadau trwy gyfnewid credydau carbon. Trwyddedau sy’n caniatáu i’r perchennog ryddhau hyn a hyn o nwyon tŷ gwydr yw credydau carbon.
Rhestrau gwirio cynaliadwyedd
Bydd rhestrau gwirio cynaliadwyedd yn helpu eich sefydliad i ddatblygu a gwella’i gadernid yn yr hirdymor a chyfrannu at y nod o gael dyfodol sero net. Mae rhestrau gwirio yn eich galluogi i werthuso eich effaith amgylcheddol bresennol, pennu pa welliannau y mae angen eu cyflwyno, a monitro effaith gwelliannau arfaethedig neu welliannau a gwblhawyd.
Bydd rhestr wirio dda yn cynnwys categorïau sy’n grwpio eitemau a sgoriau. Efallai y bydd y categorïau’n cyfeirio at ddefnyddio dŵr, bioamrywiaeth, teithio, defnyddio ynni neu ddulliau o ymdrin â gwaith adeiladu. Gall rhestrau gwirio ac eitemau rhestrau gwirio gynnwys prosiectau a thasgau penodol y dylid eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau sgôr ar gyfer yr eitem dan sylw.
Mae Cyngor Dosbarth Gorllewin Swydd Rydychen wedi llunio rhestr wirio ddefnyddiol ar gyfer sefydliadau treftadaeth ac adeiladau traddodiadol.
Mae Canllawiau Cynaliadwyedd Amgylcheddol Harlow & Gilston Garden Town yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y modd y gellir rhoi rhestr wirio cynaliadwyedd effeithiol ar waith.
3. Pethau i’w cadw mewn cof
Mae hi’n bwysig i sefydliadau treftadaeth fynd ati i fesur, cynllunio a lleihau gweithgareddau a allai gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Fel y gwelwyd, mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud i roi’r broses hon ar waith.
Defnyddiwch yr adnoddau y cyfeirir atynt uchod i wneud y canlynol:
- Cynnal dadansoddiad o ddata amgylcheddol; bydd hyn yn helpu eich sefydliad treftadaeth i bennu cyfleoedd i gyflwyno gwelliannau ac ysgogi cynaliadwyedd amgylcheddol.
- Defnyddio cyfrifiannell ôl troed carbon i asesu eich effaith amgylcheddol.
- Defnyddio rhestr wirio cynaliadwyedd i ddatblygu cadernid eich sefydliad yn yr hirdymor a chyfrannu at y nod o gael dyfodol sero net.
Trwy fesur effaith amgylcheddol eich sefydliad, bydd modd ichi roi polisïau amgylcheddol ar waith.
Rhagor o adnoddau:
- ‘Environmentally Displaced People’, Astudiaeth gan Brifysgol Rhydychen yn sôn am y modd y mae’r dirywiad mewn adnoddau amgylcheddol yn effeithio ar bobl
- Canllawiau ar gynaliadwyedd amgylcheddol gan y Gronfa Dreftadaeth
- Canllawiau gan y Gronfa Dreftadaeth ynglŷn â sut y dylid ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol yn eich prosiect treftadaeth
- Rhestr Wirio Safonau Cynaliadwyedd Cyngor Gorllewin Swydd Rydychen
- Canllawiau cynaliadwyedd a rhestr wirio Harlow & Gilston Garden Town
- Holiadur y WWF (World Wildlife Fund): ‘How big is your environmental footprint?’
Browse related resources by smart tags:
Data collection Digital tools Environment GreenThinking Impact Sustainability

Please attribute as: "How can we measure our current environmental impact? (2022) by Dr Ruth Daly supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0