
Selecting a business model to support digital implementation
1. Cyflwyniad
Mae eich model busnes wedi’i ymgorffori mewn ffordd benodol o feddwl ynghylch y modd y mae eich sefydliad yn gweithredu – o’ch gweledigaeth yn y tymor hwy hyd at roi gweithgareddau ar waith o ddydd i ddydd. Yn ôl Osterwalder a Pigneur (2010), fframwaith neu resymeg a ddefnyddir i greu gwerth cymdeithasol ac economaidd yw’r model busnes. 1
Gallwch weld y gwahanol ffyrdd o feddwl ar ffurf pyramid. Ar frig y pyramid ceir cenhadaeth a gweledigaeth gyffredinol eich sefydliad. Go brin y bydd yr elfennau hyn yn newid rhyw lawer dros amser. Ni waeth be fo’r ffactorau amgylcheddol, y tirlun cyllido neu’r newidiadau technolegol, bydd eich cenhadaeth a’ch gweledigaeth yn aros yn gymharol sefydlog. Mae’r lefel nesaf i lawr yn cynnwys eich strategaeth. Efallai y bydd sawl elfen wahanol yn perthyn i’r lefel hon, megis marchnata, strategaethau digidol a strategaethau codi arian. Mae’r rhain i gyd yn cynrychioli’r prif ddulliau a roddwch ar waith i wireddu eich cenhadaeth a’ch gweledigaeth.
Ar waelod y pyramid ceir y cynlluniau gweithredu a’r gweithrediadau rydych yn ymhél â nhw o ddydd i ddydd. Dyma’r tasgau beunyddiol sy’n angenrheidiol er mwyn i’ch sefydliad allu gweithredu. Mae eich model busnes yn cysylltu eich strategaeth â’ch cynlluniau gweithredu – dyma’r modd y rhoddwch eich bwriadau strategol ar waith. [1]

[1] Osterwalder, Alexander & Pigneur, Yves. (2010). Business Model Generation: A Handbook for Visionaries, Game Changers, and Challengers.
2. Adolygu modelau busnes
Trwy ddefnyddio’r cynfas modelau busnes ‘(Defnyddio’r-cynfas-modelau-busnes-digidol), gallwn archwilio’r dewisiadau a wnaed gan wahanol fathau o sefydliadau treftadaeth. Mae’r diagram hwn o’r cynfas modelau busnes yn deillio o adroddiad Rhaglen Datblygu Amgueddfeydd y De Ddwyrain ar gyfer Cyngor Celfyddydau Lloegr: ‘An overview of cultural business models in the South East’ (PDF file, 2.12MB).

Mae’r diagram yn cynnwys y mathau o gwestiynau ac atebion posibl a allai fod yn briodol yn nhyb sefydliadau treftadaeth nodweddiadol ar gyfer pob un o’r naw segment. Mae’r holl elfennau uwchlaw’r segment ‘Costau’ yn ymwneud â meysydd posibl y gellir eu gwella er mwyn dod yn fwy effeithlon. Mae’r holl elfennau uwchlaw’r segment ‘Refeniw’ yn ymwneud â’ch ‘Datganiad Gwerth’ h.y. y gwerth a gynigiwch i’ch cynulleidfaoedd.
Enghreifftiau o gynfasau modelau busnes
Isod ceir enghreifftiau o’r modd y defnyddiwyd y dechneg i ddadansoddi busnes sefydliadau treftadaeth ar draws y byd. Er nad ydynt o bosibl yn uniongyrchol berthnasol i’ch sefydliad chi, efallai y byddant yn ddefnyddiol o ran esgor ar syniadau ynglŷn â’ch model busnes.
Amgueddfa Gorllewin Awstralia
Datblygodd yr amgueddfa fodel a anelai at adlewyrchu calon y dalaith ac ysbryd ei phobl gyda’r bwriad o gynnig i bob ymwelydd a defnyddiwr – pa un a oeddynt yn ymwelwyr/defnyddwyr ffisegol neu rithwir – ffordd ddilys (pe dewisent) o gyfannu at yr Amgueddfa a’i chynnwys a’i heffaith, rhannu syniadau a gwybodaeth, cysylltu â phobl eraill, a theimlo fel pe baent yn gyfranogwyr cyfrannog ac uchel eu parch.
Mae’r model newydd yn adlewyrchu penderfyniad a wnaed yn 2009 i symud oddi wrth ddatganiad confensiynol gan amgueddfa – sef diogelu a rheoli ei asedau, ei wrthrychau a’i wybodaeth – tuag at fodel lle canolbwyntir ar estyn llaw i’r cyhoedd ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
Adroddiad Model Busnes Amgueddfa Gorllewin Awstralia: ‘Futureproof museums’.
PARTNERIAID ALLWEDDOL | GWEITHGAREDDAU ALLWEDDOL | DATGANIAD GWERTH | CYSYLLTIADAU Â CHWSMERIAID | SEGMENTAU CWSMERIAID | |||
Taleithiol / Rhanbarthol
Llywodraeth y dalaith a llywodraeth leol Addysg (ar bob lefel) Cyrff datblygu Sector y celfyddydau creadigol
Cymunedau brodorol
Cenedlaethol / Rhyngwladol Llywodraethau Sefydliadau ymchwil
Taleithiol / Cenedlaethol / Rhyngwladol Amgueddfeydd a sefydliadau casglu Grwpiau cymunedol nid-er-elw Cyrff cyllido Asiantaethau diwylliannol a gwyddonol Y diwydiant amgueddfeydd Y diwydiant twristiaeth Diwydiannau |
Cyd-greu ac ymgysylltu â’r cyhoedd
Cynllunio a datblygu rhaglenni Addysg a dysgu Arddangosfeydd a digwyddiadau Allgymorth rhanbarthol Eiriolaeth gymunedol Gweithgarwch casglu Ymchwil Hyrwyddo twristiaeth Rheoli asedau Gwasanaethau manwerthu, lletygarwch a masnachol Datblygu staff Datblygu diwydiannau Gwaith rheoleiddio |
‘Adlewyrchu calon y dalaith ac ysbryd y bobl’
Creu cyfleoedd i gysylltu pobl, diwylliannau, hanes, gwybodaeth a chasgliadau er mwyn i bobl allu archwilio, deall, mynegi a rhannu eu hunaniaeth, eu diwylliant a’u hymdeimlad o le Herio’r disgwyliadau er mwyn archwilio ffyrdd newydd o weld y byd a datgelu’r grym sy’n perthyn i rannu syniadau a phrofiadau |
Ychwanegu gwerth
Hwyluso partneriaid Adeiladu cyfalaf cymdeithasol Cynhwysol a hygyrch Dysgu Cymdeithasol Ymgysylltu â’r gymuned Cyd-greu cynnwys Seiliedig ar ymchwil Wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau a sioeau ac ati |
Holl drigolion Gorllewin Awstralia
Pobl frodorol Twristiaid mewndaleithiol, rhyngdaleithiol a thramor Teuluoedd Plant a phobl ifanc Llywodraeth leol, llywodraeth y dalaith a llywodraeth genedlaethol Sefydliadau Ymchwil Diwydiannau
|
|||
ADNODDAU ALLWEDDOL
Brand Amgueddfa Newydd 7 amgueddfa / safle Casgliadau Staff Eiddo deallusol |
SIANELI
Hysbysebion print, radio a theledu Casgliadau ar-lein Y cyfryngau cymdeithasol Rhwydweithiau arbenigol Allgymorth rhanbarthol Allgymorth trwy gyfrwng rhwydweithiau cymunedol |
||||||
STRWYTHUR CRAIDD
Staff Adeiladau Swyddfeydd Dibrisiant |
Cyflenwadau / gwasanaethau rhaglenni |
FFRYDIAU REFENIW
Llywodraeth y dalaith Mynediad Ffioedd am wasanaethau Llogi’r lleoliad |
Manwerthu Grantiau Sefydliad WAM |
Archifau Cenedlaethol yr Iseldiroedd
Wrth newid y ffordd yr oedd y sefydliad yn gweithredu, nododd yr amgueddfa beth oedd ei sefyllfa ‘ar y pryd’. Roedd y prif weithgareddau’n cynnwys storio’r deunyddiau archif a sicrhau eu bod ar gael i ysgolheigion a fyddai’n ymweld â’r amgueddfa.
Adroddiad Archifau Cenedlaethol yr Iseldiroedd: ‘Business model innovation: Cultural heritage’.
PARTNERIAID ALLWEDDOL | GWEITHGAREDDAU ALLWEDDOL | DATGANIAD GWERTH | CYSYLLTIADAU Â CHWSMERIAID | SEGMENTAU CWSMERIAID | |||
Rheoli | Treftadaeth ddiwylliannol
Deunyddiau unigryw |
Personol | Ysgolheigion
Y Llywodraeth |
||||
ADNODDAU
Deunyddiau archif |
SIANELI
Adeilad |
||||||
COSTAU
Rheoli Staffio Adeiladau |
|
REFENIW
Cymorthdaliadau Ffioedd mynediad |
|
Yn 2008, penderfynodd yr Archifau Gwladol y byddai’n darparu deunyddiau i’r cyhoedd ar Flickr, gyda’r nod o gael mwy o ddefnyddwyr i gyfranogi. Bu’r arbrawf yn llwyddiant ysgubol ac arweiniodd at newid y model busnes yn llwyr – o fodel analog i fodel digidol:
PARTNERIAID ALLWEDDOL | GWEITHGAREDDAU ALLWEDDOL | DATGANIAD GWERTH | CYSYLLTIADAU Â CHWSMERIAID | SEGMENTAU CWSMERIAID | |||
Flickr
Y cyhoedd |
Darparu mynediad agored | Gwasanaethau
Creative Commons Deunyddiau agored |
Y rhyngrwyd – o bellter | Addysgwyr
Y cyhoedd Ysgolheigion Y Llywodraeth |
|||
ADNODDAU
Arbenigedd technegol |
SIANELI
Platfform |
||||||
COSTAU
Digideiddio Flickr Arbenigedd technegol |
|
REFENIW
Cymorthdaliadau Refeniw’r farchnad Mynediad am ddim
|
|
Deunyddiau darllen pellach
Nod yr arweiniad byr hwn, sef ‘Digital for life’ (PDF file, 4.05MB) gan Fenter Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop, yw cynnig canllawiau ar ddefnyddio’r cynfas ar gyfer prosiectau digidol yn y sector treftadaeth.

Please attribute as: "Selecting a business model to support digital implementation (2022) by Dr Stephen Dobson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0