How to assess the future digital skills of your heritage organisation
1. Effaith technolegau digidol
Mae technolegau digidol yn trawsnewid cymdeithas. Meddyliwch pa mor aml y defnyddiwch dechnolegau i fynd o le i le, i archebu bwyd tecawê neu i gyfathrebu gyda chyfeillion a theulu. Mae’r ffôn clyfar sydd yn eich poced fil gwaith yn fwy pwerus nag uwchgyfeiriadur CRAY1 y 1980au. Erbyn hyn, mae sgiliau digidol yn rhan hollbwysig o ddyfodol eich sefydliad treftadaeth wrth i ymgysylltu digidol ddod yn fwy arferol. Er gwaethaf y newid, her i nifer o sefydliadau yw sicrhau bod gan y staff a’r gwirfoddolwyr y sgiliau digidol angenrheidiol, ac o’r herwydd nid yw nifer o bobl yn meddu ar sgiliau digidol ar gyfer eu gwaith – gelwir hyn yn ‘agendor digidol’. Yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan FutureDotNow:
mae mwy nag 17 miliwn o bobl yn y DU yn brin o sgiliau digidol hanfodol ar gyfer eu gwaith, tra bod llai na chwarter y gweithwyr (23%) yn dweud eu bod wedi cael unrhyw hyfforddiant mewn sgiliau digidol gan eu cyflogwr.
Dyfyniad gan FutureDotNow
Golyga hyn y bydd angen i’ch sefydliad treftadaeth weithio i geisio lleihau’r gagendor digidol. Mae angen ichi wneud yn siŵr bod yr hyfforddiant a roddwch i’ch staff yn gynhwysol a’i fod yn ymdrin ag anghenion eich sefydliad, eich rhanddeiliaid a’ch cynulleidfaoedd.
Mae ein harbenigwr, Michael Turnpenny, Pennaeth Museums Development Yorkshire, yn dangos sut y gallwch bennu anghenion sgiliau digidol eich sefydliad, yn awr ac yn y dyfodol.
2. Y sgiliau digidol y mae eich sefydliad treftadaeth eu hangen yn awr
Cyn ichi feddwl am y sgiliau digidol y bydd eich sefydliad eu hangen yn y dyfodol, meddyliwch am y sgiliau sydd ganddo yn awr neu’r rhai y mae arno eu hangen yn awr. Er mwyn gwybod beth yw’r sgiliau hyn, yn gyntaf rhaid ichi asesu cymhwysedd digidol eich sefydliad. Bydd hyn yn eich helpu i bennu meysydd y gellir eu datblygu ymhellach. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch fapio cymwyseddau digidol eich sefydliad, yn cynnwys offeryn hunanasesu DigComp (The Digital Competence Framework for Citizens). Hefyd, mae gan y Digital Culture Compass offer ar gyfer asesu eich sefyllfa bresennol a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Rhaid ichi feddwl hefyd am y sgiliau digidol y mae eich sefydliad treftadaeth eu hangen. Beth mae eich sefydliad yn dymuno’i gyflawni? Pa sgiliau y mae eich sefydliad eu hangen er mwyn gwneud hyn?
Sgiliau y gall fod eu hangen:
- Rhaglennu, datblygu gwefannau a datblygu apiau – trwy feithrin y sgiliau hyn, bydd modd i’ch sefydliad greu a chynnal ei wefannau, ei apiau a’i brofiadau rhyngweithiol ei hun. Mae yna nifer o adnoddau ar gael ar gyfer dysgu’r sgiliau hyn ar-lein. Un enghraifft yw’r arweiniad hwn ar gyfer dechreuwyr gan CoderCoder, sy’n esbonio’r sgiliau sylfaenol y byddwch eu hangen i ddechrau datblygu gwefannau.
- Dylunio digidol a delweddu data
- Rheoli prosiectau digidol – os byddwch yn meddu ar sgiliau’n ymwneud â rheoli prosiectau digidol, bydd modd i’ch tîm weithio’n fwy effeithlon ac yn fwy hyblyg. Gan fod mwy a mwy o staff yn gweithio o bell neu mewn sefyllfaoedd hybrid, bydd y gallu i olrhain a rheoli cynnydd prosiectau digidol yn fwyfwy pwysig.
- Marchnata digidol – gall sgiliau mewn marchnata digidol helpu eich sefydliad i estyn llaw i gynulleidfaoedd newydd a rhannu eich gwaith neu eich casgliadau’n ehangach.
- Dylunio profiad defnyddwyr ar amryfal blatfformau – mae dylunio profiad defnyddwyr yn ymwneud â’r modd y bydd defnyddwyr yn profi neu’n rhyngweithio â chynnyrch, system neu wasanaeth. Bydd angen i’ch sefydliad treftadaeth feddwl am y modd y dymunwch i’ch defnyddwyr gael profiad o’ch gwasanaethau digidol. Mae Careers Foundry yn cynnig cwrs o’r enw UX Design for Beginners Course.
- Gwyddor data a dadansoddeg data – bydd gwyddor data yn galluogi eich tîm i ddadansoddi a deall y data sydd ar gael yn eich sefydliad a rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer datblygiadau pellach.
- Diogelwch rhwydweithiau a gwybodaeth – mae’r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer cadw data a chyfrifon eich sefydliad yn ddiogel.
- Llythrennedd digidol hanfodol – o dro i dro, caiff sgiliau sylfaenol eu hanghofio yn y rhuthr i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, ond mae hi’n bwysig sicrhau bod pob un o’ch gweithwyr a’ch gwirfoddolwyr yn meddu ar lythrennedd digidol sylfaenol fan leiaf. Gall hyn fod mor syml â’u hyfforddi i ddefnyddio system e-bost a chwilio trwy’r rhyngrwyd.
- Offer cydweithredu digidol – mae sgiliau mewn offer cydweithredu, megis Microsoft Sharepoint/Teams neu Google Workplace, yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cydweithio’n effeithlon mewn tasgau gwaith beunyddiol, fel rhannu dogfennau a chynnal cyfarfodydd.
Gallwch sicrhau bod eich staff a’ch gwirfoddolwyr yn meddu ar sgiliau digidol heb ichi orfod gwario rhyw lawer, ac o dro i dro efallai y bydd modd gwneud hynny’n rhad ac am ddim. Canolbwyntiwch ar y sgiliau penodol y mae eich sefydliad eu hangen. Yn aml, gallwch ddod o hyd i adnoddau hyfforddi rhad ac am ddim ar-lein, a gall y rhain gynnig sylfaen gadarn ar gyfer meithrin sgiliau yn y dyfodol.
3. Y sgiliau digidol y bydd eich sefydliad treftadaeth eu hangen yn y dyfodol
Rhaid i’ch sefydliad feddwl hefyd am y sgiliau digidol y byddwch eu hangen yn y dyfodol. Mae yna wahanol ffyrdd o wneud hyn. Gallwch recriwtio staff newydd sy’n arbenigo mewn trawsnewid digidol er mwyn parhau i asesu a diweddaru dull eich sefydliad o ymdrin â thechnoleg ddigidol. Os na fydd hyn yn ymarferol, neilltuwch gyfran o amser eich staff i ymchwilio i dechnolegau newydd a phlatfformau digidol pan gânt eu rhyddhau neu eu diweddaru. Byddwch hefyd yn dymuno edrych yn eich blaen at brosiectau yn y dyfodol, gan fynd ati i gynnwys cwmpas cynllunio yn eich prosiect ar gyfer asesu pa sgiliau digidol y bydd y prosiectau hyn eu hangen.
Adnodd ar-lein yw’r Digital Competence Wheel. Mae’n cyflwyno trosolwg o sgiliau digidol ac yn cynnig offer ar gyfer eu gwella. Gallwch gofrestru ar gyfer treial 14 diwrnod.
4. Pwyntiau pwysig
- Mae sgiliau digidol yn hanfodol ar gyfer dyfodol sefydliadau treftadaeth.
- Bydd mapio cymwyseddau digidol eich sefydliad yn eich helpu i bennu meysydd y gellir eu datblygu a’u tyfu.
- Gallwch sicrhau bod eich sefydliad treftadaeth yn meddu ar y sgiliau digidol diweddaraf heb ichi orfod gwario rhyw lawer, neu efallai y bydd modd gwneud hynny’n rhad ac am ddim.
Adnoddau defnyddiol
- Mae gan y Digital Culture Compass offer ar gyfer asesu eich sefyllfa bresennol a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
- Mae Careers Foundry.com yn cynnig cwrs o’r enw UX Design for Beginners Course.
- Mae CoderCoder yn cynnig arweiniad i ddechreuwyr ar raglennu, datblygu gwefannau a datblygu apiau.
- Mae’r Digital Competence Wheel yn cyflwyno trosolwg o gymwyseddau digidol ac yn cynnig argymhellion ynglŷn â sut i’w dyrchafu a’u gwella.
Please attribute as: "How to assess the future digital skills of your heritage organisation (2022) by Michael Turnpenny supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0